Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr
Aled Wyn Jones a Simon Glyn |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Amlygwyd bod
cwestiynau wedi eu derbyn gan aelodau o’r cyhoedd, oedd yn bresennol yn y
cyfarfod, nad oedd yn cyrraedd trothwy materion brys y Pwyllgor ond y byddai
agweddau buddsoddi cyfrifol yn cael eu trafod yng nghyfarfod nesaf o’r Pwyllgor
ar y 17eg o Fawrth 2022. |
|
Cofnod: Bu
i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2021 fel
rhai cywir. |
|
STAFFIO UNED GWEINYDDU PENSIYNAU PDF 257 KB I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo cynnydd mewn gwariant ar
staff yr Uned Pensiynau erbyn 2022/23. Penderfyniad:
Ø Creu 4 swydd newydd Swyddog Pensiynau (i gefnogi gwaith AVSs) a 3 Cymhorthydd
Pensiynau (Cytundeb 2 flynedd ar gyfer prosiect McCloud – gyda phosibilrwydd o
estyniad os bydd y gwaith yn parhau heibio 2 flynedd) (cyfanswm costau blynyddol £121,135) Ø Cynyddu cyflog 6 Cymhorthydd Pensiynau o GS3 i GS4 (cyfanswm
costau blynyddol £16,794) Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor Pensiynau am
adnoddau ychwanegol fyddai’n galluogi'r Uned Weinyddu Pensiynau i ymateb i
bwysau gwaith cynyddol ac ymdopi'n effeithlon â lefel y gwaith sydd angen ei
gwblhau. Er mwyn gwella effeithlonrwydd yr Uned Gweinyddu Pensiynau, cynigiwyd
addasiadau i’r strwythur presennol ac amlygwyd mai cyfrifoldeb y Pwyllgor
Pensiynau oedd pennu cyllideb i sicrhau adnoddau digonol ar gyfer gweithredu
hyn. Eglurwyd bu cynnydd yn yr angen am ddealltwriaeth
ddwys o reoliadau cymhleth y gronfa bensiwn, a bu arfarniad o swyddi’r Cymhorthyddion Pensiynau o raddfa GS3 (amrediad cyflog
£19,312 - £19,698) i raddfa GS4 (£20,092 - £21,748). Gydag ychwanegiad costau
cyflogwr yn gynnydd o £2,799 ar gyfer 6 swydd (ar uchafbwynt y raddfa) byddai’r
gost o ariannu’r cynnydd yn £16,794 y flwyddyn. Nodwyd bod Cyngor Gwynedd a Chyngor Bwrdeistrefol
Sirol Conwy wedi cyflwyno opsiwn deniadol ar gyfer Cyfraniadau Gwirfoddol
Aberthu Cyflog (AVCs) ac o ganlyniad rhagwelwyd cynnydd mawr mewn defnydd o’r
cynllun yma wedi i’r Cynghorau ei hyrwyddo’n llawn. I gyfarch y cynnydd yn y
gwaith o weinyddu’r cyllun, cynigiwyd cyflogi un
Swyddog Pensiynau newydd ar raddfa S2 (£24,982 - £27,041). Gydag ychwanegiad costau’r cyflogwr, ar
uchafbwynt y raddfa, byddai’r gost o ariannu’r swydd newydd yn £35,704. Ategwyd bod prif gyflogwyr y Gronfa yn
gwireddu arbedion sylweddol wrth leihau cyfraniadau yswiriant cenedlaethol
gyda’r Cynllun AVCs - arbedion llawer mwy na chost
ariannu’r swydd Swyddog Pensiynau.
Felly, mewn egwyddor, o ystyried cyllidebau’r cyflogwyr ynghyd â
chyllideb y Gronfa Bensiwn, ni fyddai cynnydd yn y gyllideb net. Yn ychwanegol, mewn ymateb i ddyfarniad y Llys Apêl yn
achos ‘McCloud’ yn erbyn Llywodraeth y DU, adroddwyd
bod y Llywodraeth bellach wedi cadarnhau y bydd newidiadau i bob prif gynllun
sector cyhoeddus, gan gynnwys y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, i ddiddymu
gwahaniaethu ar sail oedran. Mewn ymateb
i weithredu’r newidiadau (a elwi’r yn Prosiect McCloud),
bydd angen casglu gwybodaeth am yr oriau a weithiwyd, ynghyd â manylion
toriadau mewn gwasanaeth ar gyfer yr holl weithwyr cymwys sy'n cwmpasu'r cyfnod
1 Ebrill 2014 i 31 Mawrth 2022. Yn ogystal â diweddaru’r cofnodion, bydd angen
ail-gyfrifo’r buddion marwolaeth, y buddion ymddeoliad, a’r buddion gohiriedig
o’r aelodau sydd wedi gadael yn ystod yr 8 mlynedd ddiwethaf. Bydd hyn yn golygu ail-edrych ar ffeithiau ac
ail gyfrifo miloedd o gofnodion aelodau. Er bydd gweithredu Prosiect McCloud yn waith sylweddol i’r Uned, mae’n debyg mai nifer
fechan iawn o aelodau fydd yn gweld cynnydd yng ngwerth eu buddion ar ddiwedd y
prosiect. Adroddwyd bod nifer o gronfeydd pensiwn tebyg o ran
maint wedi comisiynu staff o asiantaethau allanol i ymgymryd â’r gwaith, ond
byddai hynny yn opsiwn ddrud o’i gymharu â chadw’r gwaith yn fewnol. Cytunodd
sawl aelod byddai’r Gronfa yn isafu’r gost drwy gyflogi 3 Cymhorthydd Pensiynau
ychwanegol dros dro am gyfnod o 2 flynedd (gyda phosibilrwydd o estyniad os
bydd y gwaith yn parhau heibio 2 flynedd) er mwyn ymgymryd â gwaith Prosiect McCloud. Ategodd Cyfarwyddwr y Gronfa bod yr argymhellion wedi eu ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYMERADWYO CYLLIDEB 2022/23 PDF 212 KB I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo cyllideb yr Uned Gweinyddu
Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022/23 Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ceisio cymeradwyaeth
y Pwyllgor i gyllideb ar gyfer
yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned
Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2021–2022, Adroddwyd bod y
gyllideb bellach yn cael ei chymeradwyo yn flynyddol gan y Pwyllgor Pensiynau
ac eglurwyd bod cyllideb 2022/23 yn cynnwys yr addasiadau i strwythur staff yr
Uned Gweinyddu Pensiynau a gymeradwywyd yn eitem 5 uchod. Nodwyd nad oedd y
gyllideb yn cynnwys ffioedd Rheolwyr Buddsoddi nac Ymgynghorwyr, gan ei fod yn
wariant newidiol. Er hynny, nodwyd y byddai’r gwariant yn cael ei adrodd yn
llawn o fewn y cyfrifon terfynol ac Adroddiad Blynyddol y Gronfa. Ategwyd bod y
swyddogion yn adolygu’r gyllideb yn fisol gyda chefnogaeth Hymans,
ynghyd â monitro gwariant Partneriaeth Pensiwn Cymru yn barhaus i sicrhau
gwerth am arian. Diolchwyd am yr adroddiad hunanesboniadwy
a chryno. PENDERFYNWYD ·
Derbyn a nodi’r wybodaeth. ·
Cymeradwyo cyllideb ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2022/23 ar gyfer yr Uned Gweinyddu
Pensiynau a’r Uned Buddsoddi. |
|
PRISIAD 2022: RHAGDYBIAETHAU ACTIWARAIDD PDF 102 KB I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo'r rhagdybiaethau actiwaraidd a awgrymwyd gan Hymans Robertson, Actiwari y Gronfa, i'w defnyddio ym Mhrisiad 2022 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
(Yn amodol ar adolygiad posib ym
mis Hydref 2022, bydd y rhain yn cael eu ffurfioli mewn fersiwn wedi'i
diweddaru o'r Datganiad Strategaeth Ariannu yn 2023) Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gronfa yn gofyn i’r
Pwyllgor gymeradwyo rhagdybiaethau actiwaraidd a awgrymwyd gan
Hymans, Actiwari’r Gronfa, i’w defnyddio ym
mhrisiad 2022. Eglurwyd bod
y rhagdybiaethau actiwaraidd
sylfaenol yn elfen allweddol o’r strategaeth ariannu ac y dylent geisio adlewyrchu disgwyliadau‘r Gronfa
i’r dyfodol ynghyd â lefel dymuniad risg. Gyda gwybodaeth gyfredol ac amgylchedd y Gronfa yn esblygu,
a’r cydbwysedd rhwng darbodusrwydd a fforddiadwyedd yn amrywio oherwydd dylanwad ffactorau allanol, mae adolygu’r
rhagdybiaethau actiwaraidd
a fabwysiadwyd gan y Gronfa fel rhan
o bob prisiad teirblynyddol
yn angenrheidiol ac yn ymarfer da. Adroddwyd mai pwrpas y prisiad yw adolygu'r
strategaeth ariannu gyfredol yng ngoleuni
newidiadau i'r amgylchedd economaidd, rheoliadol a chymdeithasol ynghyd a gosod cyfradd cyfrannu ar gyfer pob
cyflogwr a delir (yn yr achos hwn)
rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2026, pryd bydd cyfraddau'n cael eu hail-asesu
ar brisiad 2025; a gwirio'r sefyllfa ariannu gyfredol. Er mwyn pennu'r lefel
ofynnol o gyfraniadau cyflogwyr yn y dyfodol, rhaid cynnal rhagamcaniad buddion a rhagamcaniad asedau. Wedi hyn,
bydd y cyfraddau cyfrannu yn cael
eu gosod, fel bod ar ddiwedd
cyfnod y cytunwyd arno bod digon o asedau i gwrdd
â'r taliadau buddion yn y dyfodol. Trafodwyd yr holl ragdybiaethau ariannol a’r rhai
demograffeg yn unigol, gan egluro
rhesymeg dros yr hyn a gynigiwyd ar gyfer 2022, ynghyd a’r rhesymau
dros unrhyw newid. Ategwyd bod y cyfarfod a gynhaliwyd bore 17 o Ionawr 2022 gyda’r Aelodau, y swyddogion a’r Actiwari yn manylu
ar y rhagdybiaethau wedi bod yn fuddiol
iawn. Diolchwyd am yr adroddiad. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod yr addasiadau prin i’r rhagdybiaethau ers prisiad 2019 i gyd yn
rhesymol. ·
Bod y maes yn un technegol
ac arbenigol iawn ac felly angen rhoi ffydd
yng ngwaith a chyngor yr arbenigwyr. ·
Angen bod yn bwyllog a doeth. PENDERFYNWYD ·
Derbyn a nodi’r wybodaeth. ·
Cymeradwyo rhagdybiaethau actiwaraidd a awgrymwyd gan
Hymans Robertson, Actiwari y Gronfa i’w defnyddio ym Mhrisiad 2022 (Yn
amodol ar adolygiad posib ym mis Hydref 2022, bydd y rhain yn cael eu ffurfioli
mewn fersiwn wedi'i diweddaru o'r Datganiad Strategaeth Ariannu yn 2023) |