Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2024 /25 Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Ethol y Cynghorydd Elin
Hywel yn Gaderiydd ar gyfer 2024/25 Cofnod: Gyda phenodiad y Cynghorydd Medwyn Hughes i’r Cabinet, nodwyd yr angen i
ethol Cadeirydd ar gyfer diwedd 2024/25. Cymerwyd y cyfle i ddiolch i’r
Cynghorydd Medwyn Hughes am ei waith a’i gefnogaeth i’r Pwyllgor a dymunwyd y
gorau iddo fel Aelod Cabinet Economi a Chymuned. Cynigiwyd ac
eiliwyd y Cynghorydd Elin Hywel Penderfynwyd ethol
y Cynghorydd Elin Hywel yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer diwedd 2024/25 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25 Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Ethol y Cynghorydd Ioan
Thomas yn Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25 Cofnod: Cynigwyd ac eiliwyd y Cynghorydd Ioan Thomas Cynigiwyd ac eiliwyd y Cynghorydd Iwan Huws Pleidleisiwyd ar
yr enwebiadau Penderfynwyd ethol y Cynghorydd Ioan Thomas
yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer diwedd 2024 / 2025 |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd 25 Dachwedd
2024 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I dderbyn a nodi diweddariad
chwarterol gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Amlygodd y Rheolwr
Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith
PPC. Tynnwyd sylw at drafodaethau cyfarfod Rhagfyr 2024 o’r Cydbwyllgor gan
amlygu bod y Bartneriaeth wedi ennill gwobr ‘ESG Innovation’
yn ddiweddar a hynny oherwydd yr Is-gronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy. Cyfeiriwyd at
ddiweddariad y Gweithredwr dros y cyfnod ac amodau’r farchnad maent yn monitro.
Adroddwyd bod perfformiad y cronfeydd wedi bod yn gryf gydag ecwiti byd-eang a
marchnadoedd incwm sefydlog yn codi yn y cyfnod. Eglurwyd bod dau ymarfer
caffael wedi digwydd yn ddiweddar ar gyfer Ymgynghorydd Goruchwylio a Darparwr
Gwasanaeth Pleidleisio ac Ymgysylltu gydag argymhellion y broses wedi eu
cymeradwyo gan y Pwyllgor ym mis Rhagfyr. Cyhoeddwyd mai Hymans
Robertson oedd wedi eu hail benodi fel Ymgynghorydd Goruchwylio a Robeco wedi ail ennill cytundeb Darparwr Gwasanaeth
Pleidleisio ac Ymgysylltu. Tynnwyd sylw at
ymgynghoriad diweddaraf Llywodraeth San Steffan - ‘Addas I’r Dyfodol’ oedd yn
galw am dystiolaeth sy’n awgrymu’n fras y trywydd mae Llywodraeth San Steffan
yn disgwyl i’r LGPS ei ddilyn. Adroddwyd bod yr ymgynghoriad yn edrych ar
feysydd megis pwlio asedau, buddsoddi yn lleol ac yn
y Deyrnas Unedig, a llywodraethu gyda 30 cwestiwn i ymateb iddynt erbyn 16eg o
Ionawr 2025. Cyfeiriwyd at ymateb Cronfa Bensiwn Gwynedd i’r ymgynghoriad
(gydag ymateb PPC eisoes wedi ei rannu gyda’r Aelodau drwy e-bost), gan nodi
bod ffrydiau gwaith parod i weithredu unwaith bydd canlyniadau’r ymgynghoriad
yn cael eu rhannu. Diolchwyd am yr
adroddiad Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â newidiadau disgwyliedig i’r pwls, a'r gofyn iddynt fod
wedi cofrestru gyda’r FCA (Financial Conduct Authority), nodwyd mai tri pwl yn unig oedd heb gofrestru.
Mewn ymateb i gwestiwn ategol os oedd gan yr FCA gapasiti
i gofrestru cwmnïau, derbyniwyd y sylw bod hwn yn waith ychwanegol iddynt, ond
bod angen sicrhau'r gwasanaeth gorau i’r dyfodol gan yr FCA. Ategwyd bod
cyswllt parhaus gyda’r FCA a
chyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal rhwng aelodau PPC a’r FCA. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau; ·
Derbyn bod angen Strategaeth Buddsoddi, ond a fydd
gan Wynedd fewnbwn i’r strategaeth? ·
Bod PPC yn gwneud gwaith da iawn ac er yn deall
ystyriaethau ymgynghoriad Llywodraeth San Steffan, bod rhai o’r syniadau yn
achosi pryder ·
Bod yr Iaith Gymraeg yn elfen bositif a chryf i PPC ·
Pryderon i’w cyflwyno i gyfarfod nesaf Fforwm
Cadeiryddion PPC – ymateb o’r Fforwm i’w rhannu gyda’r Pwyllgor PENDERFYNWYD ·
Derbyn a nodi’r
wybodaeth ·
Cadeirydd y
Pwyllgor Pensiynau i amlygu pryderon y Pwyllgor i’r PPC
o’r awgrym y gall yr holl weithgarwch gweithredu ei ddirprwyo i'r Bartneriaeth.
Nodwyd pryder, pe byddai’r Bartneriaeth am gymryd mwy o gyfrifoldeb am
weithredu strategaeth fuddsoddi, rhaid sicrhau mewnbwn gan gronfeydd unigol y
Bartneriaeth. · Croesawu bod defnydd o’r Iaith Gymraeg wedi ei nodi yn angenrheidiol mewn ymateb i Ymgynghoriad gan yr MHCLG - ‘Fit for the Future’ - bydd angen i Gronfa Bensiwn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CYMERADWYO CYLLIDEB 2025/26 I gymeradwyo cyllideb ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2025/26 ar gyfer yr Uned Gweinyddu
Pensiynau a’r Uned Buddsoddi.. Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyfeiriwyd ar
gostau'r Uned Buddsoddi sydd yn cael eu rhannu rhwng y Gronfa a Chyngor Gwynedd
gan fod yr Uned hefyd yn gyfrifol am Reolaeth Trysorlys. Nododd y Rheolwr
Buddsoddi bod costau Partneriaeth Pensiwn Cymru, costau ymgynghorwyr a chostau rheolwyr
buddsoddi yn rhan o gyfrifoldeb yr Uned Buddsoddi, ond bod y costau yn amrywio
yn ddibynnol ar berfformiad y buddsoddiadau a’r gwaith sydd angen ei gyflawni
gan yr ymgynghorwyr a’r Bartneriaeth. Ystyriwyd bod bwriad edrych yn fanylach
ar waith a chostau'r ymgynghorwyr, gydag asiantaethau megis PIRC yn edrych ar
werth am arian y Rheolwyr Buddsoddi ar draws y Cronfeydd. O ganlyniad, ni
ystyriwyd budd o osod cyllideb fanwl i’r costau hyn. Diolchwyd am yr
adroddiad. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â’r eitemau heb gyllideb nodwyd bod y sefyllfa yn cael ei
monitro yn barhaus. PENDERFYNWYD: ·
Derbyn
a nodi’r wybodaeth ·
Cymeradwyo Cyllideb Uned Gweinyddu
Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 205/26 |
|
ADOLYGU AMCANION STRATEGOL AR GYFER YMGYNGHORWYR BUDDSODDI'R GRONFA I nodi cynnydd ac amcanion y dyfodol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y
Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn amcanion ymgynghorwyr y
Gronfa, Hymans Robertson a hynny i wneud yn
siŵr bod y gwaith sydd yn cael ei gyflawni ganddynt yn cyfateb ag amcanion
strategol y Gronfa. Ategwyd bod yr ymarfer yn cael ei ystyried fel llywodraethu
da. Adroddwyd bod y
flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn flwyddyn brysur gyda’r ymgynghorwyr yn darparu
cyngor ar y strategaeth buddsoddi, opsiynau marchnadoedd preifat, ecwiti
goddefol a sicrhau bod llif arian digonol gan y Gronfa i dalu’r pensiynwyr yn
fisol. Ategwyd bod Hymans hefyd wedi cyd weithio
gyda’r swyddogion wrth adolygu polisïau mewnol a sicrhau cydymffurfiaeth gydag
unrhyw reoliadau pensiwn perthnasol. Er nad yw Hymans yn darparu hyfforddiant
drwy gytundeb uniongyrchol gyda Chronfa Gwynedd, bod hyfforddiant
amserol ar gael drwy PPC, gyda chyfraniadau sylweddol gan Hymans. Cyfeiriwyd at yr amcanion
ar gyfer 2025 gan nodi eu bod yn parhau i fod yn debyg i’r amcanion cyfredol,
ond bod elfennau o’r gwaith ychwanegol fydd yn cymryd lle yn 2025 wedi ei
gynnwys (megis y prisiad tair blynedd, sefydlu targed sero net a datblygiadau
Ymgynghoriad gan y Llywodraeth). Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD: ·
Derbyn a nodi’r
adroddiad cynnydd ·
Derbyn amcanion yr
Ymgynghorwyr Buddsoddi am y cyfnod nesaf |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2024-25 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN Y ystyried a derbyn yr adroddiad er gwybodaeth Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd er
gwybodaeth, adroddiad yn amlygu gwir weithgarwch Rheolaeth Trysorlys y Cyngor
yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Yn unol â Chod Ymarfer y Sefydliad
Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth ar gyfer Rheoli Trysorlys (Cod TM
CIPFA) mae’n ei gwneud yn ofynnol i gynghorau adrodd ar berfformiad y
swyddogaeth rheoli trysorlys o leiaf ddwywaith y flwyddyn (canol y flwyddyn a
diwedd y flwyddyn). Adroddwyd bod y cyfnod (6 mis hyd at 30 Medi
2024) wedi bod yn un prysur a llewyrchus iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys
y Cyngor. Eglurwyd bod y gweithgaredd buddsoddi wedi aros o fewn y cyfyngiadau
a osodwyd ac ni wnaeth unrhyw sefydliad wnaeth y Cyngor fuddsoddi arian gyda
hwy fethu â thalu’n ôl. Ategwyd bod yr incwm llog wedi bod yn is na’r gyllideb
wrth i’r radd sylfaen (base rate) ddechrau gostwng. Tynnwyd sylw at y
cefndir economaidd, y marchnadoedd arian a’r adolygiadau credyd ar gyfer y
cyfnod. Yn nhermau gweithgareddau buddsoddi, cyfeiriwyd at y mathau o
fuddsoddiadau y buddsoddir ynddynt sydd, yn unol ar arfer, yn cynnwys banciau a
chymdeithasau adeiladu, awdurdodau lleol, cronfeydd marchnad arian, cronfeydd
cyfun a’r swyddfa rheoli dyledion sydd yn gyson gyda’r math o fuddsoddiadau
sydd wedi eu gweithredu ers nifer o flynyddoedd bellach. Cadarnhawyd bod
gweithgareddau rheoli trysorlys a gynhaliwyd yn ystod y cyfnod wedi
cydymffurfio’n llawn gyda chyfyngiadau buddsoddi Cod Ymarfer CIPFA. Diolchwyd am yr
adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ystyr
‘Datguddiad Bail In’ nodwyd
mai ‘bail in’ yw pe byddai
sefydliad yn methu gweithredu, yn unol â’r hierarchaeth credydwyr, byddai
gwahanol lefelau o warchodaeth ar gael i fuddsoddwyr. Mae’r datguddiad yn
dangos pa mor uchel fuasai arian y Cyngor yn yr hierarchaeth, pe byddai’r
sefydliad yn methu. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
Benthyciadau Awdurdodau Lleol, eglurodd y Pennaeth Cyllid, yn unol â chyngor Arlingclose, bod cyfleodd da i Awdurdodau Lleol roi benthyg
arian i Awdurdodau eraill oherwydd bod y gyfradd llog tymor byr yn uwch na
chyfraddau llog y banc a hyd yn oed os yw’r Awdurdod wedi cyhoeddi hysbysiad
adran 114, bod rhaid i’r arian, yn unol â gofyn statudol, gael ei dalu yn ôl.
Ategwyd bod y Cyngor yn monitro'r sefyllfa yn ddyddiol a bod Arlingclose hefyd yn cadw golwg ar y sefyllfa gan rannu
rhybuddion ymlaen llaw gyda’r Cyngor o’r Awdurdodau hynny i’w hosgoi. Nodwyd hefyd bod risg i enw da (reputation risk) fel unrhyw risg buddsoddi arall, yn cynnwys camau
gweithredu ac amgylchiadau fyddai’n gallu achosi i sefydliad golli hygrededd
gyda rhanddeiliaid, cwsmeriaid, partneriaid, neu’r cyhoedd. PENDERFYNWYD:
Derbyn
a nodi’r wybodaeth |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau ac felly am y rhesymau yma mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cofnod: PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r
cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y
datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff Paragraff 14 o
Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion
ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus
fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn
benodol ynglŷn â phroses gaffael arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth
fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor
a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd
cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r
materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus. |
|
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO- ADRODDIAD 01.07.2024 - 30.09.2024 I ystyried yr adroddiad (copi i’r Aelodau yn unig). Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r wybodaeth Nodyn:
Diffyg cysondeb o wybodaeth yn adroddiad ysgrifenedig Robeco o gymharu â’r
wybodaeth yn nhabl cynnydd Robeco - angen sicrhau bod y wybodaeth yn gywir Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad chwarterol yn crynhoi'r gwaith mae Robeco
(Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC) yn cyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn,
gan gynnwys y gwaith ymgysylltu. Nodwyd bod y wybodaeth yn rhoi ffocws i’r
Pwyllgor ar faterion buddsoddi cyfrifol sydd bellach yn chwarae rhan flaenllaw.
Cyfeiriwyd at yr
ystadegau manwl o’r meysydd buddsoddi, enwau’r cwmnïau, nifer y gweithgareddau
a manylion pellach am yr ymgysylltu mae Robeco wedi
ei wneud yn y chwarter. Nodwyd hefyd bod Robeco yn
dewis thema ymgysylltu pob chwarter ac mai Arferion Llafur mewn byd - ôl Covid 19 oedd thema'r cyfnod yma. Trafodwyd cynnwys
yr adroddiad a mynegwyd pryder unwaith eto gan yr Aelodau am safon gwaith
ymgysylltu ac ymgynghori'r cwmni. Nodwyd, er bod nifer o elfennau positif yn eu
gwaith, bod elfennau negyddol i’w gweld hefyd ac felly angen sicrhau i’r
dyfodol bod mwy o wybodaeth am ddatblygiadau yn cael eu cynnwys a sut mae’r
datblygiadau hynny yn cael eu mesur. Diolchwyd am yr
adroddiad. Mewn ymateb i’r
sylwadau, nodwyd bod bwriad, yn dilyn cytundeb newydd gyda Robeco
bod PPC am sicrhau bod elfen ragweithiol yn rhan o’r cyfrifoldebau ymgysylltu,
ynghyd a gofynion cyflwyno gwybodaeth glir a dealladwy. Nodwyd bod PPC yn
adolygu trefniadau ymateb i’r wybodaeth sydd yn cael ei gyflwyno ac yn llunio
Polisi Uwch-gyfeirio / Cynnydd (Escalation Policy) Mewn ymateb i
gwestiwn os bydd fformat newydd i’r wybodaeth a gyflwynir i’r dyfodol o
ystyried bod cytundeb newydd gyda Robeco, nodwyd y
bydd pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau mwy o wybodaeth i’r dyfodol Sylwadau pellach
yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Bod y tablau yn yr adroddiad yn amlygu nad oedd y
perfformiad yn dda, ond bod y wybodaeth yn yr adroddiadau ysgrifenedig yn
edrych yn dda iawn gyda nifer o bwyntiau positif. A yw’r cwmni felly yn rhannu
perfformiad / newyddion da yn unig? Awgrym i gynnwys cymariaethau rhwng ‘da’ a
‘phethau sydd ddim mor dda’, mewn adroddiadau i'r dyfodol. PENDERFYNWYD Derbyn a nodi’r wybodaeth Nodyn: Diffyg
cysondeb o wybodaeth yn adroddiad ysgrifenedig Robeco o gymharu â’r wybodaeth
yn nhabl cynnydd Robeco - angen sicrhau bod y wybodaeth yn gywir |