Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

COFNODION:

Dim i’w nodi

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

COFNODION:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

COFNODION:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 122 KB

COFNODION:

Bu i’r Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2025 fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSWIN CYMRU pdf eicon PDF 78 KB

I ystyried yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

COFNODION:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach yn un rheolaidd sy’n cael ei gyflwyno i’r Aelodau yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ar waith PPC ynghyd a’r hyn a benderfynwyd ynn nghyfarfod mis Mawrth o’r Cydbwyllgor Llywodraethu (corff sydd yn gwneud penderfyniadau dros y Bartneriaeth ble mae Cadeirydd pob cronfa yn eistedd arno). Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Bartneriaeth wedi ail benodi Hymans Robertson fel cynghorydd goruchwylio (oversight advisor) a Robeco fel darparwr pleidleisio ac ymgysylltu.

 

Cyflwynwyd hefyd ddiweddariad ar y cynllun hyfforddi, y cynllun busnes a’r gofrestr risg ynghyd a diweddariad y gweithredwr oedd yn amlygu’r holl gronfeydd sydd gan y Bartneriaeth wedi’i sefydlu. Cyfeiriwyd at fanylder gwaith y gweithredwr dros y cyfnod ac at unrhyw amodau’r farchnad sydd wedi cael eu monitro ganddynt. Tynnwyd sylw at ddadansoddiad fesul is-gronfeydd o’r perfformiad gan nodi bod perfformiad y cronfeydd ecwiti byd-eang wedi bod yn gryf ar marchnadoedd incwm sefydlog wedi llusgo.

 

 

Cyfeiriwyd at y gwaith ‘Addas i’r Dyfodollle atgoffwyd yr Aelodau iddynt gymeradwyo gofyniad i greu cwmni buddsoddiad IMCo a symud y prosiect ymlaen. Ategwyd bod y Cyngor Llawn hefyd wedi ei gymeradwyo ar y 3ydd o Orffennaf 2025, gyda disgwyliad y bydd wyth Cyngor y Bartneriaeth wedi cymeradwyo’r gofyn erbyn diwedd y mis. Bydd y gwaith o sefydlu’r cwmni yn digwydd dros yr Haf er mwyn cyrraedd y dyddiad targed o 31 Mawrth 2026.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth fydd yn digwydd i bortffolio eiddo Gwynedd wedi i’r cwmni buddsoddi IMCo gael ei sefydlu, nodwyd bod proses tendr wedi digwydd ac y byddai’r buddsoddiadau eiddo yn rhan o gronfeydd newydd eiddo Partneriaeth Pensiwn Cymru, gyda cronfa eiddo’r Deyrnas Unedig, a cronfa eiddo ‘impact’.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chais i’r sesiynau hyfforddiant gael eu recordio fel bod modd cyfeirio’n ôl atynt os byddai problem mynychu, nodwyd y byddai’r sylw yn cael ei gyfeirio at yr Awdurdod Lletyol i sicrhau bod dolennau i’r recordiadau ar gael i’r Aelodau.

 

Mewn ymateb i sylw am swyddogaethau a chyfrifoldebau'r Pwyllgor yn newid o ganlyniad i sefydlu cwmni buddsoddi IMCo erbyn Mawrth 2026, awgrymwyd cynnal sesiwn penodol i rannu gwybodaeth am y sefyllfa erbyn cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

6.

CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2025 pdf eicon PDF 52 KB

Cyflwyno a nodi –

·       Datganiad o’r Cyfrifon Drafft

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2024/25

 

COFNODION:

 

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2025. Amlygwyd bod y cyfrifon (drafft) yn destun archwiliad sy’n cael ei weithredu gan Archwilio Cymru

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sy’n cael ei gyflwyno yn y cyfrifon ac nad oedd dim newid yn y canllawiau o’r flwyddyn ddiwethaf.

 

Mynegwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un prysur i’r Gronfa a gwaith yn parhau mewn buddsoddi yn ehangach gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru. Cyfeiriwyd at grynodeb o gyfrif y Gronfa gan dynnu sylw at ychydig o amrywiadau wrth i’r cyfraniadau a’r buddion gynyddu wedi i weithwyr dderbyn codiadau cyflog ac wrth i’r pensiwn gynyddu gyda CPI. Adroddwyd bod cynnydd yn y costau rheoli wrth i werth yr asedau gynyddu ac o gyflwyno mathau gwahanol o fuddsoddiadau i’r portffolio e.e. credyd preifat. Ategwyd bod cynnydd o oddeutu £160 miliwn yng ngwerth marchnad y gronfa sy’n unol a’r cynnydd graddol blynyddol.

 

Eglurwyd bod incwm buddsoddi'r gronfa wedi codi yn sylweddol a buddsoddiadau ecwiti wedi perfformio yn gryf ac o ganlyniad wedi cynhyrchu incwm sylweddol. Ategwyd fel rhan o’r dyraniad asedau strategol, buddsoddwyd mwy yn y cronfeydd incwm sefydlog ac isadeiledd.

 

Tynnwyd sylw at y nodiadau statudol oedd yn rhoi manylion pellach tu ôl i’r ffigyrau, gweithgareddau'r Gronfa, a Phartneriaeth Pensiwn Cymru, gan fod y Bartneriaeth yn rhan flaenllaw bellach o waith y Gronfa.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid ei fod, fel Swyddog Adran 151 wedi arwyddo'r cyfrifon drafft gan dderbyn eu bod yn adlewyrchiad cywir a theg o’r sefyllfa.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Bod yr adroddiad a'r cyfrifon yn fanwl ac yn hawdd eu deall

·        Bod y fformat yn un da

·        Bod y cynnydd (growth) yn galonogol

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn a nodi Datganiad Cyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2024/25

 

7.

CYNLLUN ARCHWILIO CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2025 pdf eicon PDF 48 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

COFNODION:

Croesawyd Osian Roberts (Archwilio Cymru) i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd Cynllun Archwilio Manwl ar gyfer 2025 oedd yn cyflwyno’r tîm archwilio, y ffioedd a llinell amser y gwaith fydd yn cael ei gwblhau yn ystod y flwyddyn, yn unol â’r cyfrifoldeb statudol sydd ganddynt fel archwilwyr allanol. Amlygwyd y byddai gwaith archwilio’r datganiadau ariannol yn cael ei gwblhau yn ystod mis Medi gyda bwriad o gyflwyno adroddiad ar y datganiadau yn ystod Tachwedd 2025. Cyfeiriwyd at y risgiau gan nodi bod y risg o wrthwneud gan reolwyr yn risg gorfodol sydd wed ei gynnwys ymhob cynllun yng Nghymru fel rhan o weithdrefn Archwilio Cymru.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i Osian Roberts am fynychu’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

8.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff  Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau ac felly am y rhesymau yma mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

COFNODION:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

9.

GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU 01.10.2024-31.12.2024

I ystyried yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

            (copi i Aelodau’r Pwyllgor yn unig)

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad chwarterol yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC) yn cyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn, gan gynnwys y gwaith ymgysylltu.

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Bod angen gwybodaeth am amserlen datblygu polisi cynnydd (escalation). Byddai’r amserlen yn ddefnyddiol ar gyfer ateb cwestiynau sydd yn codi yn aml

·        Rhaid sicrhau bod y polisi yn effeithiol - bod angen diffiniad eglur o pryd fydd ymyrraeth yn amserol

·        Bod yr adroddiad yn un positif ac wedi ei gyflwyno yn dda

·        Awgrym i ystyried defnyddio symbolau (emoji) fel modd o ddenu sylw at uchafbwyntiau o fewn yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth