Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan
John Brynmor Hughes, R Medwyn Hughes a Geraint Parry Dymunwyd gwellhad buan i’r Cyng. John Brynmor Hughes |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
Cofnod: Bu i’r Cadeirydd dderbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd 2025 fel rhai cywir. |
|
|
DATGANIAD STRATEGAETH CYLLIDO Cyn ymgynghori ar y Datganiad Strategaeth Cyllido, gofynnir i'r Pwyllgor gadarnhau'r Datganiad Strategaeth Cyllido a’r polisïau cysylltiedig. Yn dilyn y broses ymgynghori bydd y Pwyllgor yn cael fersiwn derfynol o’r Datganiad Strategaeth Cyllido i’w fabwysiadu erbyn 31 Mawrth 2026. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Datganiad Strategaeth
Cyllido a’r polisïau cysylltiedig Cofnod: Wrth gyflwyno’r adroddiad, nododd y Rheolwr Buddsoddi ei bod hi’n ofyn
statudol i adolygu'r Datganiad Strategaeth Cyllido pob tair
blynedd, a hynny fel arfer ar
ôl y prisiad teirblynyddol (oni bai bod newid sylweddol wedi bod yn amodau’r farchnad).
Eglurwyd mai pwrpas y ddogfen yw adlewyrchu ffactorau'r
prisiad, gan gydbwyso fforddiadwyedd y cyflogwyr gydag amcanion hylifedd hir dymor y gronfa. Adroddwyd mai sail y ddogfen yw’r prisiad
actiwaraidd ac fe baratowyd y prisiad actiwaraidd gan ddefnyddio rhagdybiaethau y cytunwyd arnynt gyda'r actiwari. Cyflwynwyd y rhagdybiaethau hyn i'r Pwyllgor
Pensiynau i’w cymeradwyo yn Medi 2025, gyda’r cyflogwyr wedi derbyn cyflwyniad
gan yr actiwari ym mis Hydref 2025. Amlygwyd bod
y canlyniadau yn bositif iawn gyda
lefel cyllido’r Gronfa gyfan yn
166%, gyda’r cyflogwyr yn cael gostyngiad
yn eu cyfraniadau
o fis Ebrill 2026 ymlaen. Mynegwyd bod y ddogfen drafft yn cael
ei rhannu gyda holl gyflogwr
y Gronfa am ymgynghoriad cyn cael ei
mabwysiadu’n ffurfiol ym Mhwyllgor Mawrth 2026. Er yn derbyn bod y datganiad yn faith, cafodd ei baratoi
mewn ymgynghoriad manwl gyda Hymans gyda mewnbwn gan
swyddogion y Gronfa. Cyfeiriwyd at y polisïau unigol sy’n bwydo
i mewn i’r
ddogfen, sy’n golygu petai angen
addasu un o’r polisïau yn y dyfodol,
mai dim ond newid y polisi unigol fydd ei
angen ac nid y Strategaeth yn ei chyfanrwydd. Ategwyd bod y Strategaeth yn gyson gyda’r
Strategaethau blaenorol, ond bod un newid yn 'Polisi Ar Adael y Gronfa'. Yn
hanesyddol, pe byddai’r cyflogwr yn dewis
gadael y Gronfa, byddai angen cyfrifo
credyd gadael, sef y swm sy’n
ddyledus unai i’r Gronfa, neu allan o’r Gronfa, gyda’r
cyfrifiad yma yn seiliedig ar
ddychweliadau ‘gilts’ ac felly yn
agored i symudiadau'r farchnad - y ffigwr yn gallu
amrywio’n sylweddol yn ddibynnol ar
amodau’r farchnad ar y pryd. Gyda’r cyfrifiad hefyd yn seiliedig ar
un ffigwr ar bwynt mewn amser,
golygai hyn bod y canlyniadau’n gallu bod yn gyfnewidiol (volatile), ac nid yw sail y giltiau
yn adlewyrchu’r gwir gan fod
Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi
buddsoddi mewn amryw o asedau. O ganlyniad, awgrymodd yr actiwari y dylid newid i sail risg
sef defnyddio cyfradd disgownt sy’n seiliedig ar ddyraniad asedau'r
Gronfa, ond sydd hefyd yn
cynnwys ‘coridor’ er mwyn sicrhau nad
oes ffactorau marchnad sylweddol ar un diwrnod yn
effeithio’r prisiad. Ystyriwyd y byddai hyn yn rhoi
gwell syniad i’r cyflogwyr o beth fydd cost gadael y Gronfa, a hefyd yn rhoi
sicrwydd i’r Gronfa na fydd
cyflogwyr yn gadael ar adeg
anfanteisiol - yr addasiad
felly yn decach i bawb. Diolchwyd am yr adroddiad ac
am y gwaith adolygu. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth |
|
|
CYMERADWYO CYLLIDEB 2026/27 I gymeradwyo cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026/27. Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ceisio cymeradwyaeth y
Pwyllgor i gyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer
blwyddyn ariannol 2026–2027. Adroddwyd bod y gyllideb bellach yn cael ei chymeradwyo yn flynyddol gan
y Pwyllgor Pensiynau. Cyfeiriwyd at
gyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau sydd â 25 aelod o staff cyflogedig ynghyd
â chostau systemau, argraffu, ac ad-daliadau canolog. Tynnwyd sylw at y
cyflenwadau a’r gwasanaethau gan amlygu bod gofyn cynyddu’r gyllideb i
£185,500, a hynny yn bennaf oherwydd cynnydd yn y costau postio, a’r costau
meddalwedd - costau na ellid eu hosgoi yn anffodus. Yng nghyd-destun cyllideb yr Uned Buddsoddi,
nodwyd bod mwyafrif o’u dyletswyddau yn waith Cronfa Bensiwn ond eu bod hefyd
yn gyfrifol am Reolaeth Trysorlys Cyngor Gwynedd. Yn ychwanegol, bydd costau
Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC), rheolwyr buddsoddi ac ymgynghorwyr o dan
gyfrifoldeb y Rheolwr Buddsoddi; bydd y costau hyn yn amrywio ac yn ddibynnol
ar berfformiad buddsoddiadau a’r gwaith sydd angen ei gyflawni gan yr
ymgynghorwyr ar Bartneriaeth. Wrth drosglwyddo a buddsoddi gyda PPC IM Co bydd
angen cadw llygaid barcud ar y costau dros y cyfnod nesaf, ac felly ystyriwyd
nad oedd diben gosod cyllideb eleni, ond yn rhywbeth fydd angen sylw yn y
flwyddyn ariannol nesaf. Elfen
arall na ellid ei chynnwys yn y gyllideb oedd newidiadau fydd angen eu
gweithredu fel rhan o reoliadau ‘Addas i’r Dyfodol’ lle bydd gofyn statudol i
benodi Prif Swyddog y Gronfa, unigolyn annibynnol i’r Pwyllgor, ynghyd a
chostau gofynion llywodraethu a hyfforddiant ychwanegol. Nodwyd, fel y bydd
gofynion yn codi a mwy o wybodaeth am yr elfennau hyn yn dod i law, yna yn
debygol, bydd angen cyflwyno cyllideb ategol. Bydd angen sefydlu strwythur
newydd a phenderfynu ar swydd ddisgrifiadau erbyn y 1af o Hydref 2026, er nad
oedd canllawiau terfynol wedi eu rhyddhau. Ategwyd, yng Ngwynedd, bod y
Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr Buddsoddi eisoes yn cyfarfod gyda’r Pennaeth
Cyfreithiol a Phennaeth Gwasanaethau Corfforaethol i drafod y trefniadau
cyfansoddiadol. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwdau yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Bod yr addasiadau yn anorfod ·
Bod angen dechrau trafodaethau mor fuan â phosib, am strwythur a
swyddogaethau’r ddwy uned mewn ymateb i reoliadau ‘Addas i’r Dyfodol’ ·
Gan ragdybio na fydd amserlen Addas i’r Dyfodol yn llithro Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rôl yr
unigolyn annibynnol ar y Pwyllgor, nodwyd y bydd yr unigolyn yma gyda
chymwysterau penodol, fydd yn unol â gofynion y Ddeddf, yn rhoi cyngor, rhannu
arbenigedd a rhoi arweiniad a throsolwg ar yr elfennau buddsoddi a gweinyddol.
Ategwyd na fyddai rôl Aelodau’r Pwyllgor yn newid na rôl yr Aelodau
Cyfetholedig. PENDERFYNWYD ·
Derbyn
y wybodaeth a chymeradwyo cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned
Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2026/27 ·
Argymell dechrau trafodaethau mor
fuan â phosib, am strwythur a swyddogaethau’r ddwy uned mewn ymateb i reoliadau
‘Addas i’r Dyfodol’ |
|
|
ADOLYGU AMCANION STRATEGOL AR GYFER YMGYNGHORWYR BUDDSODDI'R GRONFA I nodi’r adroddiad cynnydd ac amcanion yr Ymgynghorwyr Buddsoddi am y cyfnod nesaf. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Nodyn: Amcan 7
(2025) ‘Darparu cyngor perthnasol ac amserol ...’ , mewn ymateb i sylw nad yw
amseroedd cyflwyno bob amser yn unol â disgwyliadau swyddogion, dylid
ail eirio amcan 7 ar gyfer y
cyfnod nesaf, i gynnwys neu amlygu dyddiadau cau ar gyfer derbyn adroddiadau
gan yr ymgynghorwyr Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi
yn adrodd ar y cynnydd yn
erbyn amcanion ymgynghorwyr y Gronfa, Hymans
Robertson a hynny i wneud yn siŵr
bod y gwaith sydd yn cael ei
gyflawni ganddynt yn cyfateb ag amcanion
strategol y Gronfa. Ategwyd bod yr ymarfer yn cael ei
ystyried fel llywodraethu da. Adroddwyd bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn flwyddyn brysur
gyda’r ymgynghorwyr yn darparu arweiniad
ar adolygu’r dyraniad asedau strategol yn sgil
y prisiad teirblynyddol, darparu gwybodaeth ar gyfalaf naturiol
a chyngor ar fuddsoddiadau newydd Black Rock a
marchnadoedd preifat oedd ar gael
drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru. Ategwyd bod Hymans
hefyd wedi cyd weithio gyda’r
swyddogion wrth adolygu polisïau mewnol a sicrhau cydymffurfiaeth gydag unrhyw reoliadau pensiwn perthnasol. Er
bod Hymans yn darparu gwybodaeth a phapurau o safon uchel, nid
ydynt bob amser yn cyrraedd y swyddogion
mewn modd amserol ar gyfer
cyfarfodydd a Phwyllgorau,
ac felly yr adborth yma wedi ei gyfleu
iddynt yn ddiweddar. Cyfeiriwyd at yr amcanion ar gyfer 2026 gan
nodi eu bod yn parhau yn debyg
i’r amcanion cyfredol, ond bod elfennau o’r gwaith
ychwanegol, o gydweithio gyda chwmni buddsoddi
newydd PPC yn 2026, wedi ei gynnwys. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNIAD ·
Derbyn a
nodi cynnydd ar amcanion 2025 |
|
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I dderbyn a nodi'r wybodaeth. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cofnod: Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod yr adroddiad bellach
yn un rheolaidd sy’n cael ei gyflwyno i’r Aelodau yn nodi’r wybodaeth
ddiweddaraf ar waith PPC ynghyd a phenderfyniadau cyfarfod mis Rhagfyr o’r
Cydbwyllgor Llywodraethu (CBLl - corff sy’n gwneud penderfyniadau dros y
Bartneriaeth gyda Chadeirydd pob cronfa yn eistedd arno). Cyflwynwyd
diweddariad ar y materion arferol o adolygu’r Cynllun Busnes ar gyfer 2025/26,
adolygiad o rai o’r risgiau o fewn yr adran Buddsoddi a diweddaru’r
polisïau canlynol: Gwrthdaro buddiannau a'r weithdrefn Polisi, a Polisi
Hyfforddi. Cyfeiriwyd at fanylder gwaith y gweithredwr
dros y cyfnod ac at amodau’r farchnad oedd wedi cael eu monitro ganddynt.
Tynnwyd sylw at ddadansoddiad a pherfformiad y cronfeydd gan amlygu bod
perfformiad wedi bod yn gryf gydag ecwiti byd-eang a marchnadoedd incwm
sefydlog yn codi yn y cyfnod. Adroddwyd bod Partneriaeth Pensiwn Cymru
wedi derbyn nifer o rybuddion o gynnig gan Gynghorau Lleol yng Nghymru, gan
gynnwys Cyngor Gwynedd (Cyngor Llawn, Hydref 2025) ar faterion buddsoddi cyfrifol, moesegol a chynaliadwy. Nodwyd bod y
cynigion wedi derbyn ystyriaeth, ac yng ngoleuni'r gwaith sy'n cael ei wneud ar
hyn o bryd mewn perthynas â pholisi gwaharddiadau PPC, cytunwyd y byddai ymateb
yn cael ei gyhoeddi i bob un o'r wyth Awdurdod Cyfansoddol ynghyd a rhannu polisi
diwygiedig pan fydd wedi ei gymeradwyo gan y CBLl ym mis Mawrth 2026. Amlygwyd bod Prosiect yr Wyddfa yn
datblygu’n gyflym er mwyn sefydlu’r cwmni buddsoddi (PPC IM Co) gyda chais
Cofrestr Gwasanaethau Ariannol (Financial Conduct Authority - FCA), wedi’i
gyflwyno a recriwtio ac ymgysylltu rheolaidd yn digwydd. Ategwyd bod swyddogion
ac aelodau’r CBLl wedi bod yn trafod sefydlu cytundebau rhwng y cwmni buddsoddi
â’r wyth Awdurdod Cyfansoddol fel cleientiaid a
chyfranddalwyr. Nodwyd y bydd cyfarfod yn cael ei drefnu i rannu
gwybodaeth benodol ar y datblygiadau a’r cytundebau perthnasol gyda’r Pwyllgor
a’r Bwrdd Pensiwn cyn i’r Pwyllgor Pensiynau eu cymeradwyo’n ffurfiol. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth ddilynol ·
Bod y Polisi Gwaharddiadau gan PPC
yn gam positif ymlaen ·
Y Polisi yn fodd o sicrhau
eglurder ac i’r cyhoedd ddeall bwriad y Bartneriaeth ·
Bod y Cadeirydd wedi ceisio barn
gyfreithiol annibynnol ar yr adroddiadau / cytundebau er mwyn rhoi gwarchodaeth
i’r Pwyllgor eu bod yn gwneud penderfyniad ar safbwynt Cronfa Pensiwn Gwynedd
yn ogystal â PPC Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r rhybuddion o gynnig, cadarnhawyd bod ymateb yn cael ei baratoi
gan PPC i’w gyhoeddi gan bob Cyngor. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr
adroddiad a nodi’r wybodaeth ·
Croesawu
datblygiad Polisi Gwaharddiadau PPC |
|
|
DIWEDDARIAD BUDDSODDI CYFRIFOL PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried a derbyn y wybodaeth Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Amlygodd y Rheolwr Buddosddi bod yr adroddiad yn cynnwys diweddariad
ar feysydd buddsoddi cyfrifol o fewn Partneriaeth Pensiwn Cymru. Eglurwyd bod swyddog o Hymans Robertson yn gweithio yn barhaus
yn y maes yma, gyda swyddogion
o’r 8 cronfa leol yn mynychu
gweithgor buddsoddi cyfrifol yn rheolaidd
i drafod y gwaith. Tynnwyd sylw at y gwaith oedd wedi
ei weithredu yn ddiweddar, oedd
yn cynnwys: ·
Esblygu mandadau Black Rock i
greu cronfa buddsoddi unigryw i ofynion cronfeydd
Cymru gyda threfn pleidleisio pwrpasol i Gymru. ·
Cod Stiwardiaeth: Partneriaeth Pensiwn Cymru unwaith eto wedi
ei gadarnhau fel llofnodwr cod stiwardiaeth y Cyngor Adrodd Ariannol (Financial Recording
Council – FRC), sydd yn newyddion da. ·
Bod adroddiadau effaith hinsawdd ar lefel cronfa
a lefel cenedlaethol yn cael eu
cynhyrchu fydd yn ddefnyddiol i ddangos ystadegau
cymharol y gronfa. ·
adolygiadau o’r is-gronfeydd sy’n amlygu bod llawer iawn o waith
wedi'i wneud o fewn yr is-gronfeydd i adrodd ar
gryfderau ESG ac adroddiadau
stiwardiaeth. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
ddilynol: ·
Bod y perfformiad yn well na’r meincnod ·
Bod y wybodaeth yn ddefnyddiol ·
Bod angen diffiniadau cliriach i weithgaredd Cronfa Twf Byd-eang, yn
enwedig o dan y testun ‘metrigau hinsawdd’
Mewn ymateb i
sylw bod angen buddsoddi’n gyfrifol ac osgoi buddsoddiad mewn materion sydd
yn creu problemau
mewn gwledydd eraill o’r byd
(e.e., mwyngloddio ar gyfer batris
AI - amodau rhai gwledydd sy’n mwyngloddio
efallai ddim yn gynaliadwy), nodwyd bod goblygiadau buddsoddi yn cael
eu monitro yn rheolaidd, ond
y bydd y sylw yn cael ei
gyfeirio at Hymans. Mewn ymateb i sylw bod angen trafodaethau agored gydag Aelodau’r Pwyllgor i sicrhau eu bod yn deall y gofynion ac yn ymwybodol o’r sefyllfa, nododd y Pennaeth Cyllid bod y newidiadau yn rhan o ymateb i ofynion y Llywodraeth ac y bydd popeth yn cael ei wneud i geisio'r gorau i’r Pwyllgor. Ategodd ers i Gronfa Pensiwn Gwynedd ymuno â Phartneriaeth Pensiwn Cymru bod y berthynas gyda Rheolwyr Buddsoddi wedi newid ac nad oedd y Pwyllgor bellach yn cwrdd â hwy yn uniongyrchol. Er hynny, nododd, o’i ddealltwriaeth ef, ac o dan y drefn newydd, bydd Swyddog Buddsoddi Cyfrifol yn mynychu’r Pwyllgorau Pensiwn ac y bydd cyfle i’r Aelodau ei herio a’i holi. Bydd cyfarfod ychwanegol o’r Pwyllgor Pensiynau yn cael ei gynnal ar y 26ain o Chwefror i drafod a sicrhau bod y cytundebau yn gadarn ar gyfer Cronfa Gwynedd yn ei ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
|
CYNHADLEDD LLYWODRAETHU CYMDEITHAS LLYWODRAETH LEOL 2026 I ystyried
yr adborth a nodi’r wybodaeth Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cafwyd adborth ar ffurf adroddiad
gan y Cynghorydd Elin Hywel
oedd wedi mynychu’r gynhadledd ym mis Ionawr 2026 ar ran y Pwyllgor. Eglurodd bod y gynhadledd wedi bod yn werthfawr,
a bod y wybodaeth a gyflwynwyd
yn y sesiynau wedi bod yn dda
ac wedi ei gyfathrebu yn effeithiol. Diolchwyd am y wybodaeth PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad a nodi’r adborth |
|
|
CYNHADLEDD LAPFF 2025 I dderbyn adborth a gwybodaeth berthnasol o'r gynhadledd Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cafwyd adborth ar ffurf adroddiad gan y Cynghorydd Stephen
Churchman oedd wedi mynychu’r gynhadledd gyda ‘r Cynghorydd Goronwy
Edwards ym mis Rhagfyr 2025
ar ran y Pwyllgor. Eglurodd bod y gynhadledd yn rhoi cyfle
i fynychwyr rwydweithio, ehangu gwybodaeth a chadw i fyny â gwaith
y sector. Cyfeiriwyd at gyflwyniad a gafwyd
gan Brif Weithredwr Scottish Power lle roedd pwyslais ar fuddsoddi yn gyfrifol
gan osgoi buddsoddi mewn materion sy’n creu
problemau mewn gwledydd eraill o’r byd (e.e.,
mwyngloddio ar gyfer batris AI – nad oedd amodau
rhai gwledydd sy’n mwyngloddio yn gynaliadwy). Nodwyd, mewn byd
ansicr, bod angen ystyried effaith gweithredoedd gwleidyddol a rhyfelgar ar fuddsoddiadau
gan geisio cadw cydbwysedd rhwng buddsoddi'n foesegol a chael y buddion gorau i
bensiynwyr. Diolchwyd am y wybodaeth PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad a nodi’r adborth |
|
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
cau’r wasg a’r cyhoedd allan
o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitemau canlynol gan ei
fod yn debygol
y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym
mharagraff Paragraff 14
o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn
cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth
hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod
adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod
gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi.
Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol
o ran buddiannau cydnabyddedig
trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio
hyder i ddod
a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r
Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes
i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn
cyfansawdd gorau ac felly
am y rhesymau yma mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Cofnod: Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn
agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol
cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau
ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r
adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael arfaethedig. Byddai
cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i
fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth. Byddai hyn yn
groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Am y
rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus. |
|
|
GWASANAETH YMGYSYLLTU ROBECO - ADRODDIAD YMGYSYLLTU 01.07.2025 -30.09.2025 I ystryied yr
adroddiad a nodi’r wybodaeth (copi i’r Aelodau yn unig) Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad chwarterol
yn crynhoi'r gwaith mae Robeco (Darparwr Pleidleisio ac Ymgysylltu PPC) yn gyflawni ar ran y Gronfa Bensiwn ar faterion buddsoddi
cyfrifol. Cyfeiriwyd at y meysydd oedd wedi
cael sylw Robeco yn ystod y chwarter
dan sylw a’r wybodaeth oedd yn cynnwys manylion
am y nifer gweithgareddau a’r ymgysylltu a gwblhawyd gyda rhai cwmnïau mawr gyda phwysigrwydd rhyngwladol. Nodwyd hefyd mai thema
ymgysylltu'r chwarter dan sylw oedd Mwynau Trosiannol (Transition Minerals). Trafodwyd
y wybodaeth Diolchwyd
am yr adroddiad PENDERFYNWYD
·
Derbyn yr
adroddiad a nodi’r wybodaeth ·
Er derbyn ar y
cyfan bod y cynnydd yn galonogol yn y gweithgareddau ymgysylltu, mai siomedig
oedd gweld cynifer o weithgareddau yn cael eu nodi fel ‘aneffeithiol’ |
|
|
PERFFORMIAD BUDDSODDI CRONFA BENSIWN GWYNEDD HYD AT 30 MEDI 2025 I ystyried yr adroddiad a nodi’r wybodaeth (copi i’r
Aelodau yn unig) Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y
Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar berfformiad y Gronfa dros y chwarter dan sylw.
Trafodwyd perfformiad y Rheolwyr Buddsoddi mewn manylder a'r gwaith sydd yn
mynd yn ei flaen i symud tuag at y dyraniad asedau newydd. Diolchwyd
am yr adroddiad Trafodwyd y wybodaeth Sylwdau yn codi o’r
drafodaeth ddilynol ·
Bod y dychweliadau yn dda ·
Yng nghyd-destun Cronfa Bensiwn
Gwynedd, bod lle i barhau i gyfarfod gyda Rheolwyr Buddsoddi ·
Yng nghyd-destun Dyraniad Asedau
Strategol, er yn amlygu’r meincnod bod angen gweld safle'r man cychwyn
(starting point) a’r targed. PENDERFYNIAD: · Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth |