Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2025 / 2026 Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Ail Ethol y
Cynghorydd Elin Hywel yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2025/26 Cofnod: Penderfynwyd ail
ethol y Cynghorydd Elin Hywel yn Gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2025/26 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025 / 2026 Penderfyniad: PENDERFYNIAD Ethol y
Cynghorydd John Pughe Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer
2025/26 Cofnod: Penderfynwyd ethol y
Cynghorydd John Pughe Roberts yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn ar gyfer 2025/26 |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cyng Stephen Churchman, Cyng John Brynmor Hughes a’r Cyng
Elin Hywel |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Bu i’r
Cadeirydd dderbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2025 fel rhai
cywir. |
|
CYNLLUN BUSNES PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried
a chymeradwyo’r Cynllun Busnes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn gofyn i’r Pwyllgor
gymeradwyo Cynllun Busnes diwygiedig Partneriaeth Pensiwn Cymru. Adroddwyd bod
y Cynllun Busnes wedi cael ei gymeradwyo gan y Cydbwyllgor Llywodraethu ym mis
Mawrth 2025, ond bellach wedi ei addasu i amlygu costau dylunio a galluogi
Prosiect Wyddfa, ble derbyniwyd cymeradwyaeth yn ei gyfarfod 4ydd o Fehefin
2025. Ategwyd y bydd y Cynllun angen derbyn cymeradwyaeth gan y Pwyllgorau
unigol o fewn y Bartneriaeth. Nodwyd bod y Bartneriaeth yn creu Cynllun Busnes yn flynyddol am gyfnod o
dair blynedd a’r prif bwrpas yw: • Esbonio cefndir a
strwythur llywodraethu • Amlinellu’r
blaenoriaethu ac amcanion dros y tair blynedd nesaf • Cyflwyno polisïau a
chynlluniau’r Bartneriaeth • Amlinellu’r gyllideb
ariannol • Crynhoi buddsoddiad ac
amcanion perfformiad PPC Diolchwyd am yr adroddiad Cynigiwyd ac eiliwyd cymeradwyo'r Cynllun Busnes PENDERFYNWYD Cymeradwyo
Cynllun Busnes Diwygiedig Partneriaeth Pensiwn Cymru 2025 – 2028 |
|
CPLlL: ADDAS I'R DYFODOL - CYFLWYNIAD PPC I'R LLYWODRAETH I ystyried yr adroddiad ac argymell i'r Cyngor Llawn (yn ei gyfarfod
ar 3 Gorffennaf 2025):
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad. Argymell i'r Cyngor Llawn (yn ei
gyfarfod ar 3ydd Gorffennaf 2025):
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr Buddsoddi Atgoffwyd yr Aelodau, yn unol â gofynion ‘Ymgynghoriad Addas i'r
Dyfodol’ a lansiwyd ym mis Tachwedd 2024, bod gwahoddiad
i’r wyth pwl CPLlL a sefydlwyd yn genedlaethol gyflwyno achos busnes yn
amlinellu sut y buasent yn cwrdd â meini prawf angenrheidiol y Llywodraeth.
Nodwyd bod y Llywodraeth wedi amlinellu ystod o gynigion i gryfhau’r gwaith o
reoli buddsoddiadau CPLlL mewn tri maes allweddol oedd yn cynnwys diwygio
cronfeydd asedau'r CPLlL, hybu buddsoddiad y CPLlL mewn ardaloedd lleol a
rhanbarthau yn y DU, a chryfhau llywodraethiant Awdurdodau Gweinyddu y CPLlL a
chronfeydd y CPLlL. Yn ystod yr ymgynghoriad codwyd y cwestiwn sylfaenol, a fyddai PPC yntau
yn ystyried sefydlu cwmni annibynnol ynteu yn uno â CPLlL arall yn Lloegr.
Adroddwyd bod PPC wedi dod i’r casgliad mai’r hyn fyddai orau i’r holl
randdeiliaid uniongyrchol ac ehangach yng Nghymru oedd mynd ymlaen i adeiladu ei
IMCo. ei hun a chadw ei annibyniaeth fel pŵl gyda phob un o'r 8 CPLlL yng
Nghymru fel yr unig randdeiliaid a chleientiaid. Cyflwynwyd achos busnes PCC i’r Llywodraeth yn Chwefror 2025 ac ym mis
Ebrill 2025, derbyniwyd y newyddion calonogol bod y Llywodraeth wedi cymeradwyo
achos busnes PPC, gyda swyddogion y
Llywodraeth yn gofyn i'r PPC barhau i weithredu ei gynlluniau a pharhau i
hysbysu'r llywodraeth o'r cynnydd. Nodwyd nad oedd 2 bŵl yn Lloegr, Brunel
ac ACCESS, yn llwyddiannus wrth gyflwyno eu hachos busnes a'r AG sylfaenol
bellach wedi'u gwahodd i geisio ymuno â phŵl arall. Ategwyd er mwyn bodloni dyddiadau cau heriol y Llywodraeth, bydd angen
cyflwyno cais yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) i sefydlu IM Co PPC yn fuan.
Nodwyd bod gofynion yr FCA yn nodi bod yr endid sy'n gwneud cais am awdurdod
(h.y. IMCo. PPC) yn gorfod cael ei ymgorffori cyn cyflwyno'r cais FCA a bod yn
rhaid i ddeiliaid rhai swyddi Uwch Reoli (SMF), gan gynnwys y Prif Swyddog
Gweithredol, gael eu hadnabod a'u cynnwys yn y cais. Cyfeiriwyd at gamau nesaf y broses oedd yn cynnwys sefydlu Bwrdd gyda
chynrychiolaeth o gyfranddalwyr (fydd yn cymryd lle'r Cydbwyllgor) ac yn ystod
Haf 2025 bydd angen cofrestru'r cwmni gan sicrhau cydymffurfiaeth a gofynion yr
FCA. Ystyriwyd y byddai ffurfio IM Co. PPC yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i
greu Cwmni Buddsoddi CPLlL annibynnol er budd holl randdeiliaid y 22 awdurdod
lleol yng Nghymru, fydd yn parhau i fuddsoddi ar gyfer ei aelodau a diogelu
pensiynau CPLlL, a chael y cyfle hefyd i barhau â'i rôl yn buddsoddi'n lleol
ledled Cymru a gweddill y DU, gan weithio gyda Chynghorau, Cydbwyllgorau
Corfforaethol, Banc Datblygu Cymru, Banc Busnes Prydain a Llywodraeth Cymru,
gan hyrwyddo twf economaidd, darparu cyflogaeth, diogelu ynni glân a gwella
seilwaith ehangach y wlad, er budd pobl Cymru. Diolchwyd am yr adroddiad Mewn ymateb i’r ymgynghoriad ac i drafodaethau ynglŷn â phenodi ‘aelod annibynnol sydd wedi ei gymhwyso’ ac os oedd hynny yn cyfeirio at aelod wedi ei gymhwyso mewn cyllid, nodwyd nad oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
SYMPOSIWM PWLIO CPLlL I ystyried a derbyn y wybodaeth. Penderfyniad: PENDERFYNIAD; Derbyn a nodi’r
wybodaeth Cofnod: Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Cynghorydd Iwan Huws oedd wedi
mynychu’r gynhadledd ym mis Mai 2025 Adroddwyd mai prif faes trafod y gynhadledd oedd pwlio gan ganolbwyntio
ar sut mae pwlio cronfeydd awdurdodau lleol yn parhau i esblygu a beth fydd hyn
yn golygu i’r dyfodol. Nodwyd bod yr amseriad yn ddiddorol o ystyried ymateb
i’r Ymgynghoriad Addas i'r Dyfodol. Amlygwyd bod canmoliaeth gref i achos
Busnes Cymru a llongyfarchwyd pawb oedd ynghlwm â’r gwaith gan fanylu ar y
cydweithio da. Nodwyd bod y gynhadledd
wedi bod yn gyfle da i fynychwyr rwydweithio a rhannu arferion gorau ynghyd a
chyfle addysgol da i aelodau. PENDERFYNWYD Derbyn a
nodi’r wybodaeth |
|
CYNHADLEDD BUDDSODDI YNG NGHYMRU I ystyried
a derbyn y wybodaeth Penderfyniad: PENDERFYNIAD Derbyn a nodi’r
wybodaeth Cofnod: Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Cynghorydd Goronwy Edwards oedd wedi
mynychu’r gynhadledd ym mis Ebrill 2025 ynghyd a’r Cyng Elin Hywel a’r Pennaeth
Cyllid. Nodwyd, er bod llawer o siarad am fuddsoddi yng Nghymru, ymddengys mai
effaith gymdeithasol (social impact) oedd yn cael ei hyrwyddo yn hytrach na
derbyn gwybodaeth lawn am gyfleoedd buddsoddi ariannol yng Nghymru. Cyfeiriwyd
at gyfleoedd adfywio canol trefi ac adeiladu tai, ond yn bennaf cafwyd yr
ymdeimlad bod Cymru yn wlad o fusnesau bach ac felly angen annog cefnogaeth i’r
busnesau hyn i ddatblygu. PENDERFYNWYD Derbyn a
nodi’r wybodaeth |