Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones E-bost: NatalieLloydJones@Gwynedd.Llyw.Cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I
dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorydd Anwen
Hughes. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I
dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS I
nodi unrhyw eitemau sydd yn fater o frys yn nhyb y cadeirydd er mwyn eu
hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig fod cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 29 Mehefin, 2021 yn cael eu harwyddo fel rhai cywir. Cofnod: Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod blaenorol,
a gynhaliwyd ar y 29 Mehefin 2021, yn gywir. |
|
FFRAMWAITH CYFARFODYDD PDF 572 KB Cyflwyno Fframwaith
Gweithredu Pwyllgorau
drafft er mwyn ei argymell i’r Cyngor llawn ei fabwysiadu Penderfyniad: Cymeradwyo’r Fframwaith
Pwyllgorau i’w gyflwyno gerbron y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr. Cofnod: PENDERFYNIAD Cymeradwyo’r
Fframwaith Pwyllgorau i’w gyflwyno gerbron y Cyngor Llawn ym mis Rhagfyr. Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Bennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol a nododd bod sawl
trafodaeth wedi bod ar y fframwaith cyfarfodydd ar gyfer y dyfodol. Eglurodd
bod y Cyngor Llawn wedi cytuno ar drefniadau interim a bod bwriad i gyflwyno’r
adroddiad hwn i’r Cyngor Llawn ar yr 2il o Ragfyr 2021. Trosglwyddwyd i’r
Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith a nododd bod yr adroddiad yn sail
ar gyfer y dyfodol i sicrhau fframwaith cynaliadwy ar gyfer y pwyllgorau.
Atgoffodd y pwyllgor o’r cyfnod pan benderfynwyd pa bwyllgorau i we ddarlledu
ble penderfynwyd gwe ddarlledu’r cyfarfodydd sydd o fwy o ddiddordeb i’r
cyhoedd. Eglurwyd mai drwy’r un egwyddor a dull y penderfynwyd dewis y
pwyllgorau hybrid a’r pwyllgorau rhithiol yn unig. Nododd mai’r
Cyngor Llawn, Cabinet, Pwyllgor Cynllunio a Chyfarfodydd Craffu fydd yn cael eu
cynnal yn hybrid. Eglurodd y byddai’r holl bwyllgorau a chyfarfodydd eraill yn
rhai rhithiol yn unig. Ychwanegodd y
Pennaeth Cyfreithiol bod dau ddewis yn unig yn statudol, sef y dewis i gynnal
pwyllgorau yn rhithiol llwyr, yn hybrid neu gyfuniad o’r ddau. Ychwanegodd mai
mater o benderfynu’r drefn gorau ydyw er mwyn sicrhau mynediad i’r cyhoedd a
hyrwyddo democratiaeth. Yn ystod y
drafodaeth cododd y sylwadau isod: ·
Cytunodd
aelodau gyda’r adroddiad gan nodi eu bod yn deall y rhesymeg a’r egwyddorion.
Fodd bynnag, nodwyd, o brofiad, bod y drefn hybrid yn gallu bod yn un
rhwystredig - er enghraifft gall fod yn anodd i’w gadeirio. ·
Holwyd
a fydd adnoddau ar gael i gynghorwyr fynychu’n rhithiol o swyddfeydd y cyngor
os ydynt yno yn dilyn cyfarfod arall. ·
Cytunwyd
efallai bod safon y caledwedd yn uchel, fodd bynnag, nodwyd nad oes safon uchel
o gyswllt we ar draws Gwynedd gyfan. Ategodd aelod y gall problemau technegol
effeithio ar amseru cyfarfodydd. ·
Ychwanegwyd
sylw bod y trefniadau yn caniatáu i gynghorwyr o ardaloedd sy’n bell o
Gaernarfon dreulio mwy o amser ar faterion yn eu ward a llai o amser yn teithio
i bwyllgorau. ·
Mynegwyd
pryder o ran trefniant cyfarfodydd hybrid o safbwynt cadeirio a thegwch i
aelodau. ·
Cytunwyd
a’r arfer dda o gychwyn cyfarfodydd yn gynt fel bod pob aelod yn medru sicrhau
cyswllt technegol. ·
Awgrymwyd
y dylid cychwyn y cyfarfodydd yn gynt fel bod modd datrys problemau technegol. ·
Derbyniwyd
bod dulliau hybrid yn caniatáu cynrychiolaeth ehangach ymysg cynghorwyr. ·
Holwyd
am y drefn ynghylch pwyllgorau sy’n gaeedig e.e. trwyddedu. Ymatebodd y
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol fel a ganlyn: ·
Sicrhawyd
bydd darpariaeth i aelodau gael mynediad at swyddfa i fod yn rhan o gyfarfod
rhithiol. ·
Ychwanegodd
y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith bod y gwasanaeth yn edrych ar y
ddarpariaeth ar gyfer aelodau newydd o 2022. ·
Ategodd
bod y profiad hybrid yn dra gwahanol i’r hen arfer o fideo cynadleddau. ·
Nodwyd
bod profion peilota cychwynnol wedi bod yn rhai llwyddiannus gyda chadeirydd yn
rhithiol ac yn y siambr. ·
Mewn
ymateb i’r cwestiwn ynghylch pwyllgorau caeedig, nodwyd nad yw’r Pwyllgor
Trwyddedu wedi ei adnabod fel un a fydd yn hybrid. · Ychwanegodd y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ETHOLIADAU MAI 2022 PDF 252 KB Cyflwyno diweddariad ar y gwaith paratoi ar gyfer Etholiad Llywodraeth Leol, Mai 2022 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a)
Derbyn
yr adroddiad. b) Sefydlu Is-grŵp Etholiadau gyda 5
aelod o’r Pwyllgor. Cofnod: PENDERFYNIAD a)
Derbyn yr adroddiad. b)
Sefydlu is-grŵp etholiadau gyda 5 aelod o’r pwyllgor. Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Arweinydd Tîm Democratiaeth ac Iaith yn diweddaru’r aelodau ar
waith y Tîm Democratiaeth ar gyfer paratoi at etholiadau 2022. Rhoddwyd
trosolwg o’r wythnos democratiaeth a fu i godi ymwybyddiaeth ar wefannau
cymdeithasol ac ategodd bod y Cyngor yn parhau i rannu negeseuon dros yr
wythnosau a’r misoedd nesaf. Ategodd bod sesiwn
cwestiwn ac ateb wedi digwydd ac y bydd un arall ym mis Ionawr gyda chymorth y
Tîm Etholiadau. Gofynnwyd a oes
modd creu is-grŵp etholiad i fod yn rhoi barn ar faterion megis y fewnrwyd,
llyfryn gwybodaeth i gynghorwyr a’r rhaglen hyfforddiant. Tynnwyd sylw’r
aelodau at y fewnrwyd aelodau gan fod dipyn o ddiweddariadau i’w gweld yno. Yn ystod y
drafodaeth, cododd y sylwadau isod: ·
Codwyd
y sylw bod angen manylion wrth law o ba swyddogion i gysylltu ag ar gyfer
materion amrywiol. ·
Cytunwyd
y byddai’r aelodau canlynol yn rhan o’r is-grŵp aelodau: y Cynghorwyr Dewi
Roberts, Gwynfor Owen, Anne Lloyd Jones, Mair Rowlands a Dewi Owen. |
|
DATGANIAD AMRYWIAETH CYNGOR GWYNEDD PDF 464 KB Cyflwyno Rhaglen waith ddrafft yn amlinellu’r camau er mwyn gwireddu Datganiad Amrywiaeth Cyngor Gwynedd, a’i argymell i’w fabwysiadu gan y Cyngor Llawn Penderfyniad: To accept the report and support the Diversity
Statement and recommend it to the Full Council meeting on 2 December, 2021. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad a chefnogi’r Datganiad
Amrywiaeth a’i argymell i gyfarfod y Cyngor Llawn ar yr 2il o Ragfyr 2021. Cyflwynwyd yr adroddiad er gwybodaeth gan y
Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith. Atgoffwyd bod y pwyllgor eisoes
wedi mabwysiadu’r datganiad yn y Cyngor Llawn. Ni chafwyd sylwadau pellach gan aelodau. |
|
ADRODDIAD DDRAFFT PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL PDF 630 KB I dderbyn
sylwadau Aelodau ar yr adroddiad ddrafft. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith er mwyn cynorthwyo
cynllunio ymateb i’r ymgynghoriad drafft. Nodwyd bod y prif benderfyniadau wedi
eu hamlinellu o fewn yr adroddiad. Ategodd bod
penderfyniad wedi ei wneud eleni i argymell dod a lefel cyflog Aelodau Etholedig
yn fwy cytbwys i’r lefel y dylen nhw fod. O ganlyniad, nododd felly bod y
cyflog arfaethedig yn cynyddu i £16,800 o 2022 ymlaen ar gyfer Aelodau
Etholedig. Rhoddwyd sylwadau
pellach gan Arweinydd y Cyngor yn amlinellu profiadau aelodau dros y cyfnod
Covid-19 sydd wedi dangos bod gwaith cynghorau lleol yn greiddiol bwysig i
gymunedau. Ategodd y dylid ystyried llywodraeth leol fel yr un mor bwysig, o
ran rôl i gymdeithas, ag ydyw unrhyw haen arall o lywodraeth, boed hynny’n
llywodraeth ganolog neu leol. Mewn perthynas â’r codiad cyflog i aelodau,
nododd bod y tâl yno i ganiatáu i bobl sydd heb incwm arall i sefyll fel
cynghorydd. Yn ystod y
drafodaeth, cododd y sylwadau isod: ·
Cytunwyd
efo’r sylwadau’r Arweinydd, cyfeiriwyd at bwynt yn yr adroddiad sy’n ymwneud â
Chynghorau Cymuned sef nad oedd yn deg i neb orfod bleidleisio ynglŷn â’u
cyflog eu hunain. ·
Codwyd
y pwynt bod cadeiryddion yn gweithio’n galed iawn a bod ganddynt waith
ychwanegol, fodd bynnag efallai nad yw hyn yn wybodaeth gyhoeddus ac y dylid
tynnu sylw’r cyhoedd at y gwaith hwn. ·
Datganwyd
pryder y bydd pobl yn meddwl mai codi cyflog eu hunain mae cynghorwyr er mai
panel annibynnol sy’n penderfynu. ·
Nodwyd
er bod nifer o gynghorwyr wedi ymddeol a ddim yn ddibynnol ar yr arian, mae
cynnig cyflog cyfartal yn sicrhau bod cyfle i fwy sefyll mewn etholiad. ·
Mewn
perthynas â’r drafodaeth ar amrywiaeth mewn democratiaeth, nodwyd ei fod yn
anodd gwneud swydd cynghorydd yn iawn os yw unigolyn yn gweithio hefyd. Ategwyd
bod pobl ifanc methu fforddio bod yn gynghorydd llawn amser heb swydd arall ar
yr ochr. ·
Tynnwyd
sylw'r pwyllgor at y dyraniad costau gofal gan mai ychydig sy’n hawlio er ei
fod yn anhysbys. ·
Holwyd
beth yw’r drefn os yw cynghorydd yn dymuno gwrthod y codiad cyflog. Mewn ymateb,
nododd y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith bod angen i aelod unigol ysgrifennu at
y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth er mwyn peidio derbyn y codiad cyflog os
mai dyna yw’r dymuniad. |
|
HOLIADUR BODLONRWYDD AELODAU PDF 240 KB Rhannu ymatebion a dderbyniwyd i'r Holiadur am Fodlonrwydd Aelodau i’r Tîm Gwasanaethau Democratiaeth. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: PENDERFYNIAD Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Arweinydd Tîm Democratiaeth ac Iaith a rhannwyd ymatebion yn
dilyn yr holiadur. Nododd bod y tîm
yn awyddus i wella’r gwasanaeth a ddarperir ac felly wedi holi aelodau am eu
barn. Rhannwyd y data a gasglwyd a’r sylwadau a gafwyd. Yn ystod y
drafodaeth, cododd y sylwadau isod: ·
Nododd
aelod os nad oes ymateb gan gynghorydd y bod hynny’n dangos bodlonrwydd gyda’r
gwasanaeth a dderbyniwyd. ·
Ategodd
aelod ei fod yn falch bod y swyddogion wedi cysylltu i drafod y sylwadau er
mwyn eu datrys yn sydyn. |