Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen J.Davies, Gwynfor Owen a John Pughe. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Eglurwyd nad oedd
angen datgan buddiant yn eitem 9 - Adroddiad Panel Cymru ar Gydnabyddiaeth
Ariannol, gan nad oes hawl awtomatig i barhau fel Cadeirydd, a chan fod y
Pwyllgor yn ethol am flwyddyn ar y tro. Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o
fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys
ym marn y Cadeirydd. COFNODION: Ni chodwyd
unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd 2022 fel rhai cywir. COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 15 Tachwedd,
2022 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH Cyflwyno
adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth. Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r wybodaeth. COFNODION: Cyflwynwyd –
drafft o adroddiad blynyddol y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ar ran y
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth yng nghyswllt cefnogaeth i aelodau. Gwahoddwyd sylwadau’r pwyllgor ar yr
adroddiad drafft sy’n amlinellu’r gefnogaeth sydd ar gael i gynghorwyr a’r hyn
fydd yn cael ei ddatblygu i’r dyfodol. Wrth gyflwyno ei
adroddiad, diolchodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth i’w ragflaenydd,
Geraint Owen, am yr holl waith a gyflawnodd yn ystod ei gyfnod yn y rôl. Diolchodd hefyd i staff y Gwasanaeth
Democratiaeth a’r Swyddog Monitro am eu cefnogaeth. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Mewn
ymateb i sylw, nodwyd y gellid trefnu bod map a chyfarwyddiadau ynglŷn â
sut i gyrraedd ystafelloedd cyfarfod y Cyngor ar gael ar y Fewnrwyd Aelodau. ·
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r Holiadur Aelodau, nodwyd y byddai yna
ddiweddariadau cyson am faterion sy’n cael eu codi gan aelodau. Awgrymwyd y byddai’n fuddiol anfon holiadur
allan i’r aelodau eto eleni. ·
Holwyd
a oedd yna ffordd i aelodau wybod os oedd swyddog yn gweithio yn y swyddfa neu
o gartref ar ddiwrnod penodol, heb yrru e-bost i’r unigolyn yn gyntaf. Mewn ymateb, nodwyd bod dyletswydd ar y
Cyngor i sicrhau parhad gwasanaeth, ac er bod y gwasanaeth a’r rheolwyr yn
gwybod pwy sydd i mewn yn y swyddfa ar unrhyw adeg, ni chredid bod y wybodaeth
honno ar gael ar lefel Cyngor cyfan.
Gellid gwneud ymholiadau ynglŷn â hynny, ond yn ymarferol roedd
angen i aelodau wneud eu trefniadau eu hunain ar y funud. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad gan nodi’r wybodaeth. |
|
CEFNOGAETH I GYNGHORWYR A DIOGELWCH CYNGHORWYR Cyflwyno
adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith, y Pennaeth Cynorthwyol
Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Swyddog Hyfforddiant Aelodau. Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad er gwybodaeth. COFNODION: Cyflwynwyd –
adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith, y Pennaeth Cynorthwyol
Cefnogaeth Gorfforaethol a’r Swyddog Hyfforddiant Aelodau yn manylu ar y
gefnogaeth sydd ar gael i gynghorwyr, ynghyd â diogelwch cynghorwyr. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Nodwyd
bod yr aflonyddu o’r oriel gyhoeddus yn ystod y Cyngor Arbennig ym mis Awst y
llynedd, a’r sylwadau a gafodd eu gwneud ar y cyfryngau cymdeithasol yn dilyn
hynny, wedi gwneud i aelodau deimlo dan fygythiad, a’i bod yn gysur bod y
Cyngor yn cymryd y materion diogelwch hyn o ddifri’. ·
Nodwyd
ei bod yn dda iawn gweld bod mwy o gyhoeddusrwydd yn cael ei roi i iechyd
meddwl aelodau a staff, a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt. ·
Holwyd
pwy sy’n cynnal yr asesiadau risg ar gyfer cyfarfodydd aml-leoliad, a beth
ydi’r canllawiau ar gyfer hynny. Mewn
ymateb, eglurwyd bod y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith yn cychwyn
yr asesiad, ac yn rhannu’r wybodaeth gyda thîm o bobl, gan ystyried pa
amgylchiadau posib’ sy’n hysbys, neu beth allai ddatblygu. Nodwyd ymhellach bod y Gwasanaeth Iechyd a
Diogelwch wedi bod yn edrych ar y trefniadau sylfaenol ddylai fod mewn
llaw. Roedd rhai materion yn bethau mwy
strwythurol yn ymwneud â’r ystafell gyfarfod, ac eraill yn faterion rheolaethol. Gofynnid i aelodau’r cyhoedd adael eu bagiau
yn y loceri y tu allan i Siambr Dafydd Orwig, a
nodwyd bod mwy o waith i’w wneud ar ddyluniad yr oriel gyhoeddus yn y
Siambr. Y tu hwnt i hynny, byddai’n
fater o uchafu’r sefyllfa wrth i ni ddod yn ymwybodol o fygythiadau penodol,
neu fod yna faterion cynhennus yn codi, er, wrth gwrs, nad oedd bob amser yn
amlwg ymlaen llaw bod mater am fod yn un cynhennus. ·
Nodwyd
bod cyfrifoldeb ar aelodau i drafod materion sensitif mewn ffordd gall a
chymedrol, gan ddefnyddio iaith weddus, ac i gadw o fewn gofynion y Cod
Ymddygiad. ·
Croesawyd
y loceri y tu allan i Siambr Dafydd Orwig, ond nodwyd
bod yr aelodau hynny sy’n eistedd yn rhes gefn y Siambr yn teimlo’n
ddiamddiffyn, a bod angen rhwystr mwy sylweddol na rhaff rhwng yr aelodau a’r
cyhoedd yn yr oriel gyhoeddus. ·
Pwysleisiwyd
pwysigrwydd diogelwch personol aelodau allan yn eu wardiau, a chadarnhawyd bod
hynny’n rhan o’r hyfforddiant Arwain yn Ddiogel erbyn hyn, sydd hefyd yn
cyfarch materion diogelwch yn ystod cyfnod etholiad ac mewn syrjeris,
ynghyd â chyngor ymarferol ynglŷn ag ymweld â chartrefi etholwyr. Nodwyd hefyd bod gan Gymdeithas Llywodraeth
Leol Cymru ganllawiau da iawn ar ddiogelwch personol, a’u bod ar gael ar y
deilsen ‘Edrych ar ôl eich hun’ ar y Fewnrwyd Aelodau. ·
Gan
gyfeirio at y sylw ym mharagraff 15 o’r adroddiad y dylai aelodau holi’r Cymorthyddion Grwpiau Gwleidyddol, ymysg eraill, am
wybodaeth am gynnwys y Fewnrwyd Aelodau, nodwyd bod yna grwpiau llai ar y
Cyngor, sydd heb gefnogaeth wleidyddol, a’u bod hwythau angen y neges yn
ogystal. · Gan gyfeirio at y Cyngor Arbennig a gynhaliwyd fis Awst diwethaf, awgrymwyd nad oedd yn ddemocrataidd bod cyn lleied â ... view the full COFNODION text for item 6. |
|
DARPARIAETH DYSGU A DATBLYGU I AELODAU Cyflwyno
adroddiad y Rheolwr Dysgu a Datblygu’r Sefydliad. Penderfyniad: Cymeradwyo’r
trefniadau hyfforddiant a chamau a gynigir. COFNODION: Cyflwynwyd
- adroddiad y Rheolwr Dysgu a Datblygu’r Sefydliad yn rhoi diweddariad o’r
ddarpariaeth Dysgu a Datblygu i aelodau, gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a
datblygiadau. Gwahoddwyd y pwyllgor i
ystyried y trefniadau hyfforddiant a’r camau a gynigir a’u cymeradwyo. Yn ystod y
drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Nodwyd
ei bod yn anodd cael pobl i fynychu sesiynau hyfforddiant yn ystod y dydd, yn
enwedig sesiynau byr sy’n para awr yn unig, gan fod pobl yn methu cymryd awr i
ffwrdd o’u gwaith, a holwyd oni fyddai’n well cyfuno mwy nag un sesiwn i lenwi
bore neu bnawn cyfan. Mewn ymateb,
nodwyd bod y Gwasanaeth wedi arbrofi gyda chynnal rhai sesiynau hyfforddiant
gyda’r nos, ond na fu’n llwyddiant o ran y nifer a fynychodd. Nodwyd ymhellach bod y Gwasanaeth yn agored
i’r syniad o gyfuno hyfforddiant, neu unrhyw awgrymiadau eraill oedd gan yr
aelodau i’w cynnig. ·
Mynegwyd
pryder mai ond 5 aelod oedd yn bresennol mewn sesiwn hyfforddiant Cydraddoldeb
yn ddiweddar, a phwysleisiwyd pwysigrwydd materion fel cydraddoldeb a
rhagfarn. Nodwyd, fodd bynnag, bod
llawer o’r aelodau oedd ar y Cyngor cyn Mai 2022 wedi mynychu’r hyfforddiant yn
y gorffennol. ·
Nodwyd
bod rhai sesiynau hyfforddiant yn boblogaidd, ac eraill ddim, ac awgrymwyd bod
angen rhoi mwy o bwyslais ar y dull o hysbysebu rhai cyfleoedd. ·
Holwyd
a fyddai’n bosib’ rhoi recordiad o bob sesiwn hyfforddiant ar lein fel bod modd
i aelodau ei wylio ar adeg sy’n gyfleus iddynt.
Mewn ymateb, eglurwyd bob sesiynau yn cael eu recordio ble bo’n bosib’,
ac ar gael ar dudalen Dysgu a Datblygu’r Sefydliad yn dilyn y
digwyddiadau. Fodd bynnag, pe na fyddai
yna aelodau di-gymraeg yn mynychu’r sesiynau, ni fyddai yna recordiad Saesneg
ar gael. Pe derbynnid cais am recordiad
Saesneg, byddai’n rhaid pwyso a mesur capasiti’r Tim
Cyfieithu i gyfieithu sesiwn a’i osod ar y Fewnrwyd. Nodwyd hefyd nad oedd gwylio recordiad yn
brawf dilys bod yr aelod wedi cwblhau’r hyfforddiant, yn enwedig teitlau
craidd, ac felly anogir aelodau i wneud pob ymdrech i fynychu’r teitlau craidd. ·
Awgrymwyd,
er y derbynnid yr angen i gofnodi presenoldeb mewn cyrsiau mandadol, efallai
nad oedd hynny mor bwysig gyda theitlau dewisol. Nododd y Rheolwr
Democratiaeth ac Iaith, yn dilyn llwyddiant y cwrs Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
a gynhaliwyd ym mis Ionawr, y derbyniwyd ceisiadau i gynnal cwrs deuddydd
pellach, a gofynnwyd am gefnogaeth yr aelodau i edrych a fyddai’n ymarferol
cynnal y cwrs yn ystod deuddydd olaf gwyliau hanner tymor yr haf (1-2 Mehefin)
gan na chynhelir unrhyw bwyllgorau'r wythnos honno. Cytunwyd i edrych
i mewn i’r opsiwn hwn. PENDERFYNWYD cymeradwyo’r
trefniadau hyfforddiant a chamau a gynigir. |
|
CEFNOGAETH I GYNGHORWYR - PERFFORMIAD Y TIM GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH Cyflwyno adroddiad
y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith a’r Arweinydd Tim Democratiaeth. Penderfyniad: Nodi’r
sylwadau a derbyn yr adroddiad. COFNODION: Cyflwynwyd -
adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Gwasanaethau Democratiaeth ac Iaith a’r
Arweinydd Tîm Democratiaeth Dros Dro yn amlinellu rhai o’r themâu a’r materion
a amlygwyd yn ystod cyfres o sgyrsiau gyda chynghorwyr unigol i ganfod eu barn
ynglŷn â’r gefnogaeth a gynigir i aelodau a beth ellir ei wneud i
gynorthwyo cynghorwyr yn eu rôl. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:- ·
Holwyd
a fyddai’n bosib’ darparu swyddfa fel man gwaith tawel ar gyfer aelodau, fel
oedd yn arferol rai blynyddoedd yn ôl cyn cyfarfodydd y Cyngor. Mewn ymateb, nodwyd mai ychydig o gyfarfodydd
oedd yn cael eu cynnal yn y swyddfeydd bellach, a bod yr arferiad o gynnig
ystafelloedd i’r grwpiau gwleidyddol ar fore’r Cyngor yn parhau. Cytunwyd i edrych i mewn i hyn, ond
pwysleisiwyd na ellid rhoi unrhyw addewid ynglŷn â hynny. ·
Nodwyd
bod y Tim Gwasanaethau Democratiaeth yn darparu gwasanaeth rhagorol, gyda phawb
yn barod iawn i gynnig cymorth a chefnogaeth. ·
Cyfeiriwyd
at anawsterau cysylltu dros ffôn â rhai o swyddogion y Cyngor. Mewn ymateb, nodwyd bod cyfrifoldeb ar bob
swyddog i sicrhau bod eu rhif ffôn yn gywir ar y cyfeiriadur mewnol, a bod
gwaith yn mynd rhagddo drwy’r Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth i sicrhau bod y
rhifau’n dal yn gyfredol. Nodwyd hefyd
ei bod yn bwysig bod timau yn defnyddio system lle mae galwad yn mynd drwodd i
rywun arall, os nad yw swyddog ar gael.
Gofynnwyd i’r aelod gysylltu â’r Gwasanaeth os oedd ganddo unrhyw
enghreifftiau penodol o’r broblem. PENDERFYNWYD
nodi’r sylwadau a derbyn yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD PANEL ANNIBYNNOL CYMRU AR GYDNABYDDIAETH ARIANNOL Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac
Iaith. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
COFNODION: Cyflwynwyd – adroddiad y Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith yn
gwahodd y pwyllgor i lunio argymhelliad ar gyfer uwch gyflogau 2023/24 i’w
gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 4 Mai, 2023. Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad, nododd y Rheolwr Gwasanaeth Democratiaeth ac Iaith y
byddai taflen wybodaeth yn nodi’r newidiadau yn cael ei gosod ar y Fewnrwyd
Aelodau ac yn mynd allan fel rhan o’r Bwletin wythnosol i Aelodau. Yn ystod y drafodaeth,
codwyd y materion a ganlyn:- ·
Nodwyd,
yn sgil y newidiadau gyda phenodi aelod lleyg yn Gadeirydd y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio, bod 1 o’r 18 uwch gyflog heb ei neilltuo, a chynigiwyd y dylid talu’r uwch-gyflog hwnnw i Gadeirydd y
Pwyllgor hwn ar sail y llwyth gwaith sy’n gysylltiedig â’r rôl, ac a fydd yn
debygol o ddwysau i’r dyfodol. Mewn
ymateb, nodwyd bod yr argymhelliad wedi’i lunio ar sail y cyfrifoldebau a
restrwyd yn yr atodiad i’r adroddiad, ac y byddai’n ofynnol sicrhau’r dystiolaeth
angenrheidiol i adnabod y 18fed cyflog.
Eglurwyd hefyd, er nad oedd uwch-gyflog yn cael ei neilltuo bellach i
Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, bod y Cyngor yn talu ffi aelod
lleyg i’r person am y gwaith. ·
Awgrymwyd
y dylid gohebu â chynghorau eraill i gael dealltwriaeth o’r sefyllfa fesul
awdurdod. ·
Nodwyd,
er ei bod yn bwysig gwybod beth mae awdurdodau eraill yn wneud, ei bod yn
bwysicach cael dealltwriaeth o’r hyn mae cadeiryddion eraill Gwynedd yn wneud,
ac y dylid talu’r lwfans i ba bynnag gadeiryddion sydd â’r llwyth gwaith mwyaf. ·
Fel
ffordd ymlaen, awgrymwyd bod y Pwyllgor yn gofyn am wybodaeth ychwanegol yng
nghyswllt cyfrifoldebau a llwyth gwaith Cadeirydd y Pwyllgor hwn, gan gynnwys
cymhariaeth gyda’r sefyllfa mewn siroedd eraill, ac yn argymell i’r Cyngor
llawn y dylid talu uwch-gyflog i Gadeirydd y Pwyllgor hwn, os yw’r wybodaeth
ychwanegol yn teilyngu hynny. PENDERFYNWYD 1.
Argymell i’r Cyngor llawn fabwysiadu’r rhestr
uwch-gyflogau ar gyfer 2023/24 ac i’r dyfodol (fel y’i gwelir ym mharagraff 14
o’r adroddiad i’r pwyllgor). 2.
Nodi bod y Pwyllgor wedi gofyn am wybodaeth
ychwanegol yng nghyswllt cyfrifoldebau a llwyth gwaith Cadeirydd y Pwyllgor
Gwasanaethau Democratiaeth, gan gynnwys cymhariaeth gyda’r sefyllfa mewn
siroedd eraill, ac yn dymuno argymell i’r Cyngor llawn y dylid talu uwch-gyflog
i Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth, os yw’r wybodaeth ychwanegol
yn teilyngu hynny. |