Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

COFNODION:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Linda Ann Jones, Eryl Jones-Williams ac Arwyn Herald Roberts.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

COFNODION:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

COFNODION:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 171 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 14eg o Dachwedd 2023, fel rhai cywir.

COFNODION:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 14 Tachwedd, 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CALENDR PWYLLGORAU 2024/25 pdf eicon PDF 92 KB

Argymell y Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2024/25 i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad ac argymell y Calendr Pwyllgorau 2024/25 i gyfarfod y Cyngor Llawn ar y 7fed o Fawrth, 2024 ar gyfer ei fabwysiadu.

 

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn gofyn am farn y Pwyllgor ar y Calendr Pwyllgorau 2024/25 cyn ei gyflwyno i gyfarfod y Cyngor wythnos nesaf. Adroddwyd bod ymgynghori wedi digwydd efo swyddogion mewnol y Cyngor ynghyd ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol er mwyn osgoi gwrthdaro â chyfarfodydd eraill. Yn ogystal nodwyd bod pob ymdrech wedi ei wneud i osgoi gwrthdaro gyda cyfarfodydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd. 

 

Amlygwyd bod dyddiad cyntaf y Cyngor wedi symud i’r 9fed o Fai, 2024 yn sgil Etholiad Comisiynydd yr Heddlu sydd yn cael ei gynnal ar yr 2il o Fai. Adroddwyd bod dyddiad wrth gefn ar gyfer Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor wedi ei nodi yn y calendr ar gyfer mis Medi 2024 er mwyn cynnal trafodaeth bosib ar y systemau Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol:

-        Arsylwyd nad oedd cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn wedi eu nodi ar y Calendr ynghyd a dyddiadau hyfforddiant. Cwestiynwyd os oedd posib cynnwys dyddiadau hyfforddiant i Gynghorwyr ar y Calendr.

-        Gofynnwyd a oedd modd ymgynghori efo’r Awdurdod Tân er mwyn osgoi gwrthdaro. Nodwyd bod 5 Cynghorydd yn aelodau o’r Awdurdod Tân a gwrthdaro wedi bod yn y gorffennol rhwng dyddiadau Pwyllgorau’r Cyngor a chyfarfodydd yr Awdurdod Tân.

-        Mynegwyd anfodlonrwydd bod diffyg Cynghorwyr i fynychu Pwyllgor oherwydd eu bod yn gwasanaethu’r Cyngor ar Bwyllgor arall oedd yn cael ei gynnal yr un amser yn cael ei gofnodi fel ‘Ymddiheuriad’ neu ‘Absennol’. Credwyd bod angen edrych fewn i’r drefn yma.

-        Holwyd pam bod amser cyfarfod y Cyngor Llawn wedi newid i 1:30 o’r gloch ac os oedd modd ei newid yn ôl i 1:00. Credwyd y byddai hyn o fudd i Gynghorwyd sydd yn byw yn bell o Gaernarfon ac angen teithio adref ar ôl y cyfarfod, yn ogystal â’n gwella presenoldeb drwy’r cyfarfod cyfan.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau:

-        Nodwyd nad yw cyfarfodydd y Bwrdd Pensiwn yn cael eu cynnwys yn arferol ar y Calendr Pwyllgorau am mai dim ond dau Gynghorydd sydd yn eu mynych. Serch hyn sicrhawyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud gan y tîm Democratiaeth i osgoi gwrthdaro. Adroddwyd bod y tîm yn edrych fewn i ddyddiadau hyfforddiant ar hyn o bryd â’r posibilrwydd o’u cynnwys ar y Calendr, gellir edrych fewn i hyn flwyddyn nesaf.

-        Sicrhawyd y bydd ymgynghori efo’r Awdurdod Tân yn digwydd wrth greu Calendr Pwyllgorau 2025/26 ac o hyn allan.

-        Nodwyd y bydd y tîm Democratiaeth yn edrych fewn i’r ffordd mae Ymddiheuriadau ac Absenoldebau yn cael eu cofnodi yn sgil gwrthdrawiadau oherwydd swyddogaethau Cynghorwyr.

-        Atgoffwyd bod amser cyfarfod y Cyngor Llawn wedi newid i 1:30 yn dilyn yr ymateb a dderbyniwyd i holiadur a anfonwyd at y Cynghorwyr yn 2022. Nodwyd mai un o’r prif resymau oedd i sicrhau bod amser digonol ar gael i gynnal y cyfarfodydd Grwpiau yn y bore. Ychwanegwyd bod y tîm Democratiaeth hefyd angen amser i baratoi cyfarpar y Siambr ar gyfer cyfarfod y Cyngor. Nodwyd nad  ...  view the full COFNODION text for item 5.

6.

CEFNOGAETH I GYNGHORWYR pdf eicon PDF 156 KB

Gofynnir i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth nodi’r sylwadau a derbyn yr adroddiad.

Penderfyniad:

Nodi’r sylwadau a derbyn yr adroddiad.

 

 

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn adrodd ar ganlyniadau’r holiadur a anfonwyd at yr holl Aelodau ym mis Ionawr, 2024 yn gofyn am eu barn ar y gwasanaeth sydd ar gael gan y tîm Democratiaeth.

 

Nodwyd bod 31 Cynghorydd wedi cwblhau’r holiadur. Adroddwyd bod 91% wedi nodi bod safon y gwasanaeth yn Dda neu yn Dda iawn gydag un Aelod wedi nodi Boddhaol a dau heb ymateb. Nodwyd bod yr Aelod oedd wedi nodi Boddhaol wedi rhoi sylwadau am Adran arall o’r Cyngor felly bydd yr Arweinydd tîm yn cysylltu â’r Aelod dan sylw er mwyn derbyn barn ar y gwasanaeth sy’n cael ei gynnig gan y tîm Democratiaeth.

 

Adroddwyd bod un Aelod wedi nodi anfodlonrwydd efo’r camau i fynd yn ddi-bapur. Nodwyd bod y tîm Democratiaeth yn cyd-weithio gyda’r Aelodau i geisio cynorthwyo’r newid hwn. Tynnwyd sylw at sylwadau eraill cafodd eu gwneud megis yr heriau sydd ynghlwm â rôl Cynghorydd a’r pwysigrwydd i drin Aelodau â pharch. Ategwyd pwysigrwydd i bob Aelod gwblhau’r holiadur er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth sydd ar gael i Gynghorwyr yn ddigonol ac yn ateb y gofynion ac anogwyd yr holl Aelodau i gwblhau’r holiadur yn y dyfodol.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol:

-        Mynegwyd barn bod rôl Cynghorydd yn fwy heriol yn bresennol nag yr oedd yn arfer bod oherwydd yr hinsawdd wleidyddol a’r heriau sydd ynghlwm a hynny megis costau byw a diffyg Tai.

-        Gwnaethpwyd sylw am gymal 7 o’r adroddiad gan nodi bod gwybodaeth anghyflawn ar safle we’r Cyngor am benodiadau Cynghorwyr i Gyrff Allanol. Credwyd bod angen diweddaru’r wybodaeth er mwyn sicrhau ei fod yn gyfredol.

-        Gofynnwyd a yw’r tîm Democratiaeth yn holi Aelodau am awgrymiadau ar sut i wella’r gwasanaeth sydd ar gael iddynt.

-        Holiwyd os yw gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael o ran gofal plant i Gynghorwyr yn cael ei rannu efo Cynghorwyr benywaidd. Pwysleisiwyd ei bod yn angenrheidiol denu merched i ymgymryd â rôl Cynghorydd. 

 

Mewn ymateb i’r sylwadau:

-        Cydnabuwyd bod angen diweddaru’r wybodaeth am Gyrff Allanol yn gyson gan adrodd bod trefniadau ar y gweill er mwyn ymgymryd â’r gwaith dros y misoedd nesaf.

-        Nodwyd bod yr holiadur yn cynnwys cwestiwn ar sut all y tîm Democratiaeth ddatblygu’r gwasanaeth sydd ar gael i Aelodau yn ogystal â chwestiwn am unrhyw sylwadau pellach. Credwyd bod yr holiadur yn rhoi cyfleoedd digonol i Aelodau nodi eu barn a’u hawgrymiadau.

-        Cadarnhawyd bod y wybodaeth am y cymorth sydd ar gael o ran gofal plant eisoes wedi ei rannu efo Cynghorwyr yn ystod y Dyddiau Croeso fel rhan o’r drefn anwytho a hefyd ar gael ar y Mewnrwyd Aelodau. Nodwyd efallai bod modd cylchredeg y wybodaeth drwy ei gynnwys yn y Bwletin Aelodau er mwyn ei amlygu ymhellach dros yr wythnosau nesaf.

 

7.

DARPARIAETH DYSGU A DATBLYGU I AELODAU pdf eicon PDF 335 KB

Rhoi diweddariad o’r ddarpariaeth Dysgu a Datblygu i Aelodau, gan amlygu rhwystrau presennol i gyflwyniad y rhaglen.

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd.

 

COFNODION:

Cyflwynwyd yr adroddiad ar y ddarpariaeth Dysgu a Datblygu a’r cyfleoedd hyfforddiant sydd ar gael i Aelodau. Nodwyd bod yr adroddiad ychydig yn wahanol y tro hwn er mwyn amlygu'r heriau sydd ynghlwm â chyflwyno’r rhaglen.

 

Soniwyd am y broses ymgynghori gyda Phenaethiaid a Swyddogion sydd eisoes ar waith ar gyfer creu rhaglen hyfforddiant 2024/25. Nodwyd bod hynny o’r rhaglen 2024/25 sydd wedi ei phoblogi yn barod i’w gweld yn yr adroddiad. Adroddwyd bod y gwasanaeth yn derbyn nifer o geisiadau am hyfforddiant newydd ac yn ceisio eu blaenoriaethu. Adlewyrchwyd ar sylwadau blaenorol gan rai Aelodau bod y rhaglen wedi datblygu i fod yn rhaglen drom o ran ei gynnwys.

 

Amlygwyd bod teitlau allweddol sydd wedi eu hadnabod fel meysydd craidd wedi eu rhestru yn yr adroddiad. Pwysleisiwyd ei bod yn hanfodol i Aelodau gwblhau’r rhain gan nodi bod amryw heb gwblhau’r teitlau. Tynnwyd sylw at y ffigyrau yn y tabl yn rhan 2.4 o’r adroddiad.

 

Ychwanegwyd bod rhai o’r teitlau craidd yn rhedeg ers peth amser a bod y niferoedd sy’n mynychu’r sesiynau yn broblemus. Nodwyd bod cynnal hyfforddiant sy’n hanner llawn o ran presenoldeb ddim yn rhoi’r gwerth gorau am arian ac yn arwain at orfod ail gynnal yr un hyfforddiant amryw o weithiau. Nodwyd bod hyn yn arafu gallu swyddogion i symud ymlaen â’r rhaglen hyfforddiant ehangach gan y bydd angen ail ymweld â’r teitlau craidd yn y flwyddyn 2024/25. Amlygwyd y consyrn nad yw’r Aelodau sydd heb fynychu’r hyfforddiant craidd efo’r cefndir na’r wybodaeth angenrheidiol i’w rôl.

 

Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau canlynol:

-        Canmolwyd ansawdd uchel yr hyfforddiant gan nodi eu bod yn ddefnyddiol, a diolchwyd am waith y gwasanaeth Dysgu a Datblygu.

-        Mynegwyd pryder a siomedigaeth bod nifer o Aelodau heb fynychu’r hyfforddiant craidd a gofynnwyd pa gamau sydd ar y gweill er mwyn sicrhau bod pawb yn mynychu’r teitlau mandadol.

-        Holiwyd ynghylch blaengynllun ac os oes modd ei gylchredeg. Credwyd y byddai derbyn blaengynllun o’r dyddiadau o fudd i Aelodau allu cynllunio a gadael amser rhydd ar gyfer y teitlau amrywiol.

-        Cydnabuwyd ei bod yn anodd mynychu hyfforddiant oherwydd prinder amser Aelodau gyda rhai efo calendrau llawn, yn ogystal ag amryw efo cyfrifoldebau eraill megis gyrfa neu blant. Diolchwyd am y camau sydd eisoes wedi eu cymryd i geisio gwella nifer mynychwyr. 

-        Holiwyd am y posibilrwydd o wylio sesiynau sydd wedi eu recordio ac os oes modd i Aelodau wneud hynny yn amser eu hunain. Gofynnwyd a fydd hyn yn cyfri fel eu bod wedi mynychu’r sesiwn.

-        Awgrymwyd cysylltu ag Arweinyddion Grwpiau Gwleidyddol er mwyn iddynt dynnu sylw at y mater yn ffurfiol o fewn y Grwpiau gan amlygu’r hyfforddiant fwyaf hanfodol. Ategwyd bod cyfrifoldeb bellach ar yr Arweinyddion Grŵp i sicrhau bod Aelodau yn mynychu hyfforddiant.

-        Cwestiynwyd yr angen i Aelodau ail wneud hyfforddiant os eisoes wedi ei gwblhau e.e. yn y Cyngor diwethaf (2017-22) neu drwy sefydliad arall.

-        Amlygwyd bod nifer o sesiynau yn cael eu canslo oherwydd diffyg niferoedd neu  ...  view the full COFNODION text for item 7.