Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2015/16 Cofnod: PENDERFYNWYD
ail-ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2015/16. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd am 2015/16. Cofnod: PENDERFYNWYD
ail-ethol y Cynghorydd
Selwyn Griffiths yn is-gadeirydd y pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: David
McLean (Buddiannau Perchnogion
Tir). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o'r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2015, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 4 Mawrth, 2015, fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD Y GWASANAETH MORWROL PDF 209 KB Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Tywysodd
y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r
adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol: ·
Y bwriedir ehangu/datblygu’r wefan i gynnwys
mwy o wybodaeth forwrol; ·
Bod 140 o angorfeydd
blynyddol o gymharu â 157 yn 2014, oedd yn
adlewyrchu’r economi ehangach; ·
Yr edrychir ar y sustemau cofrestru
ynghyd â ffioedd yn ystod y Gaeaf; ·
O ran y Cod Diogelwch Morwrol, y byddai’r Uwch Swyddog
Harbyrau yn ei adolygu cyn
i’r awdurdod annibynnol a benodwyd, sef Harbwr Caernarfon ei archwilio. Nodwyd
bod y Cod yn rhoi arweiniad ac yn rhoi sicrwydd i’r
cyhoedd bod diogelwch defnyddwyr yn bwysig
i’r Cyngor; ·
Y gwerthfawrogir sylwadau ar gynnwys y Cod gan yr aelodau; ·
Bod y gwasanaeth yn awyddus i
ddatblygu Mesuryddion Perfformiad mewn perthynas â rheolaeth yr harbyrau ac y gwahoddir syniadau neu awgrymiadau cychwynnol gan yr aelodau; ·
Bod gwaith wedi ei wneud
i ymateb i 1 Rhybudd i
Forwyr a oedd
mewn grym, sef gosod bwlb
newydd yn llusern y Bwi Tramwyo.
Gydag un rhybudd arall mewn grym
oherwydd bod golau ar bontŵn Madog Yacht Club wedi
diffodd a byddai’r Cyngor yn fodlon
cynorthwyo gyda’r gwaith; ·
Bod cyfnod secondiad yr Harbwr
Feistr wedi ei ymestyn tan ddiwedd Hydref 2015 pryd adolygir y swydd; ·
Nodwyd
bod cyfnod cyflogaeth Cymhorthion Harbwr (tymhorol) wedi eu hymestyn hyd
at 31 Rhagfyr er sicrhau ei fod
yn bosibl ymateb i ddigwyddiadau
a chwblhau rhaglen waith cynnal a chadw harbyrau Porthmadog ac Abermaw; ·
Y gwaredwyd llongddrylliad a oedd yn achosi
perygl ac asesir 2 gwch arall cyn
penderfynu os byddai angen gosod
rhybudd ar y cychod; ·
Yr achoswyd difrod i wifren drydan
wrth dynnu cwch hwylio o’r
llithrfa, adroddwyd i’r HSE ar y digwyddiad
ond nid oedd
angen iddynt gynnal archwiliad. Nodwyd y pwysleisiwyd i staff yr angen
i wneud asesiadau
risg cyn ymgymryd â gwaith o’r math yma; ·
Bod sefyllfa incwm yr Harbwr yn
niwedd blwyddyn ariannol 2014-15 yn galonogol a bod tanwariant o
£29,276. ·
Y rhagwelir y byddai gorwariant o oddeutu £1,400 erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol; ·
Y buddsoddwyd mewn sustem teledu cylch
gyfyng newydd i’r harbwr; ·
Archwiliwyd yr angorfeydd a rhagwelir bod costau o oddeutu £3,000 i wneud gwaith arnynt
ac y gobeithir cwblhau’r gwaith cyn y Nadolig; ·
Y bwriedir cyfnewid tanc disel
coch Harbwr Aberdyfi gyda thanc
disel yr Harbwr er mwyn
cynyddu capasiti storio; ·
Bod nifer o weithgareddau wedi eu cynnal
dros yr Haf.
Bwriedir cynnwys rhestr digwyddiadau ar gyfer Haf
2016 yn yr adroddiad a gyflwynir i’r cyfarfod nesaf
a gofynnodd i aelodau ei hysbysu
o unrhyw weithgareddau er mwyn gallu
eu cynnwys yn yr adroddiad. Manylodd yr Uwch Swyddog Harbyrau
ar y rhaglen waith cynnal a chadw a gofynnwyd i aelodau hysbysu’r
gwasanaeth o unrhyw waith arall sydd
angen ei wneud.
Yn
ystod y cyfarfod ymatebwyd i sylwadau
gan yr aelodau
gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig fel a ganlyn: · Bod Cwch y Dwyfor yn cael ei ddefnyddio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 9 Mawrth 2016. Cofnod: Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar
9 Mawrth, 2016. |