Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9LU
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2017/18. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol Is-Gadeirydd am 2017/18. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2017/18. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Selwyn Griffiths (Cyngor Gwynedd), Jason Humphreys (Cynrychiolydd Cyngor Tref Porthmadog) a Peter L. Williams (Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: No declarations of personal interest were
received from any members present. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2017, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 8 Mawrth, 2017, fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 238 KB Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Tywysodd y
Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw
at y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod y Pwyllgor
Ymgynghorol yn statudol a bod yr aelodaeth yn unol â Rhan 6(2)(a-j)
Gorchymyn Diwygio Harbwr Porthmadog. Derbyniwyd cais gan Clwb Rhwyfo Porthmadog
i gael cynrychiolaeth ar y Pwyllgor Ymgynghorol.
Nododd yr eglurwyd iddynt bod Dr John Jones-Morris yn cynrychioli buddiannau
hamdden ar y Pwyllgor Ymgynghorol a gellir cyfeirio materion ato i dderbyn
ystyriaeth. ·
Bod 135 o gychod ar
angorfeydd blynyddol yn Harbwr Porthmadog yn 2017 o gymharu gyda 129 yn 2016.
Roedd yn galonogol bod cynnydd bychan yn y niferoedd eleni. ·
Bod Adran Trafnidiaeth y
Llywodraeth wedi cyhoeddi addasiadau i’r Cod Diogelwch Porthladdoedd ym mis
Tachwedd 2016. Roedd copïau o’r cod newydd wedi ei ddosbarthu i holl Aelodau’r
Pwyllgorau Ymgynghorol gyda chopi hefyd ar gael ar
wefan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau. ·
Cynhaliodd archwilwyr Asiantaeth
Gwylwyr y Glannau arolygiad trylwyr o drefniadau a systemau diogelwch presennol
harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd er sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Diogelwch
Porthladdoedd rhwng y 19eg a’r 21ain o Fedi 2017. Barn gychwynnol yr archwilwyr
oedd bod y Cyngor yn cyd-fynd gyda’r gofynion yn gyffredinol ond bod angen
addasu rhai elfennau yn gysylltiedig â chofnodi dyletswyddau a nodi Deiliwr
Dyletswydd. Fe fu i’r archwilwyr ymweld ag harbyrau
Aberdyfi, Porthmadog a Phwllheli yn ystod yr archwiliad. O ran Harbwr
Porthmadog, bod y sylwadau a dderbyniwyd yn wych ac nid oedd problemau wedi dod i’r amlwg. Diolchodd i’r Harbwr Feistr a’r Uwch Swyddog
Harbyrau am eu gwaith yn sicrhau bod y ddogfennaeth briodol mewn lle. ·
Derbyniwyd adroddiad
ysgrifenedig gan yr archwilwyr ar ddiwrnod y cyfarfod yn amlinellu’r materion a
fydd angen sylw gan y Cyngor. Eglurodd bod gan y Cyngor gyfnod penodol i addasu
trefniadau ac fe fyddai Asiantaeth Gwylwyr y Glannau
yn ail ymweld â’r gwasanaeth oddi fewn 12 mis o gyflwyno’r adroddiad ble bydd
disgwyl bod argymhellion a gyflwynwyd yn yr adroddiad wedi eu gweithredu.
Nododd y byddai’n cylchredeg copi o’r adroddiad i’r aelodau. ·
Yn dilyn trafodaeth
gyda’r archwilwyr cytunwyd mewn egwyddor byddai’n fuddiol bod dyddiad yr ail
ymweliad yn cyd-fynd a dyddiad Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr. Awgrymwyd i’r
archwilwyr byddai’n fuddiol bod yr archwilwyr yn mynychu cyfarfod o Bwyllgor
Ymgynghorol Harbwr Porthmadog gan wahodd cynrychiolwyr Pwyllgorau Ymgynghorol
Aberdyfi, Abermaw a Pwllheli i’r cyfarfod ym mis Hydref 2018. ·
Ni dderbyniwyd sylwadau
o ran y Côd Diogelwch Morwrol yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf. ·
Cafwyd archwiliad manwl
gan archwilwyr Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar yr 2il Awst 2017. Mewn
cymhariaeth ac adroddiadau blaenorol roedd adroddiad 2017 yn cadarnhau
gwelliant pellach yng nghyflwr a lleoliadau Cymhorthion Mordwyo Harbwr
Porthmadog. ‘Roedd siart yn arddangos lleoliadau cyfredol y cymhorthion mordwyo
wedi eu rhannu yn y cyfarfod. ·
Bod 1 Rhybudd i Forwyr
(Rh-15/2017) mewn grym yn Harbwr Porthmadog. Roedd y rhybudd wedi ei ryddhau
oherwydd nad oedd bwi rhif 8 ar ei safle priodol.
Eglurodd bod y bwi wedi symud at gyfeiriad Bwi rhif 6 ac fe
fyddai’n cael ei ail leoli ar y cyfle cyntaf. · Bod Bwiau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ETHOL SYLWEDYDDION I ethol sylwedyddion i wasanaethu ar y canlynol – a) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi b) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw c) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli Cofnod: Adroddwyd bod angen
ethol sylwedydd/ion i wasanaethu ar
Bwyllgorau Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi, Abermaw a Pwllheli. PENDERFYNWYD ethol Dr John Jones-Morris i wasanaethu fel sylwedydd ar Bwyllgorau Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi, Abermaw a Pwllheli. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Porthmadog ar 7 Mawrth 2018. Cofnod: Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 7 Mawrth, 2018. |