Lleoliad: Ystafell Glaslyn, Y Ganolfan, Porthmadog
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau am
absenoldeb. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 9 Hydref, 2019, fel rhai cywir
(ynghlwm). Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9
Hydref, 2019, fel rhai cywir, yn amodol ar gywiro’r cyfeiriadau at ‘Porthmadog Sailing Club’ yn y fersiwn
Saesneg i ddarllen ‘Madoc Yacht
Club’. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 63 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a
materion gweithredol yr harbwr. ·
Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn
diweddaru’r pwyllgor ar faterion yr Harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Hydref
2019 a mis Mawrth 2020. ·
Adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion
Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Hydref 2019 a
mis Mawrth, 2020, gan gynnwys materion cynnal a chadw. Dosbarthwyd:- ·
Manylion ffioedd a thaliadau Harbwr Porthmadog
ar gyfer y cyfnod rhwng Ebrill 2020 ac Ebrill 2021, ynghyd â’r ffioedd lansio
ar gyfer cychod pŵer a chychod personol ar gyfer yr un cyfnod. ·
Llythyr Tŷ’r Drindod dyddiedig 10 Hydref
2019, yn sgil eu harchwiliad blynyddol o gymorthyddion mordwyo yn yr Harbwr a
dynesfa’r sianel rhwng 14 ac 16 Hydref, 2019.
Nododd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig fod y rhan fwyaf o’r gwaith
oedd angen sylw wedi’i gwblhau bellach, ond gofynnodd i’r aelodau roi gwybod pe
byddent yn sylwi bod bwiau wedi symud o’u lleoliad cywir. Cyfeiriodd y
Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig at y tywydd garw diweddar gan nodi y bu’n
anarferol iawn gweld cymaint o stormydd yn cyrraedd un ar ôl y llall mewn
cyfnod mor fyr. Yn ffodus iawn, roedd
cyfeiriad y gwynt wedi bod yn ffafriol y tro hwn, ac ni chafwyd unrhyw ddifrod
yn yr Harbwr, ac eithrio bod ychydig o flociau wedi’u codi a rhai bwiau wedi’u
symud. Roedd staff y gwasanaeth wedi bod
ar alwad, yn gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn, a diolchwyd iddynt am eu
hymrwymiad y tu hwnt i’w swyddi. Gofynnwyd pa mor
bryderus oedd y gwasanaeth ar adeg y stormydd diweddar. Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Morwrol a
Pharciau Gwledig fod y ffaith bod y gwynt cryfaf wedi taro ar benllanw uchel
wedi bod yn fater o bryder, ond y byddai’r sefyllfa wedi bod yn llawer gwaeth
petai cyfeiriad y gwynt wedi bod yn llai ffafriol i Borthmadog. Cadarnhawyd nad oedd yna unrhyw beth penodol
y gallai’r pwyllgor wneud am y sefyllfa, ac eithrio gadael i’r swyddogion wybod
os oeddent yn pryderu am unrhyw beth, a phwysleisiwyd bod y digwyddiadau tywydd
eithriadol hyn yn amlygu bod dyletswydd ar bawb i warchod yr amgylchedd. Adroddodd y
Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig ymhellach:- ·
Iddo gael trafodaeth gyda Chyngor Tref Cricieth
yn sgil eu cais i’r Cyngor ystyried dulliau amgen o gadw rheolaeth ar gychod
pŵer yn dilyn digwyddiad. Roedd
rhwystredigaeth y Cyngor Tref yn ddealladwy, ond roedd y Cyngor Tref hefyd yn
deall pa mor gyfyngedig oedd pwerau’r Cyngor.
Rhoddwyd addewid y byddai’r gwasanaeth yn cryfhau eu goruchwyliaeth ac
yn ceisio gwella’r cymorthyddion mordwyo yn y bae. Derbynnid hefyd bod yna fusnesau yn ddibynnol
ar y cychod ac roedd y swyddog yn falch o’r cyfle i drafod y mater gyda’r
Cyngor Tref. · Na dderbyniwyd unrhyw fater diogelu harbwr gan unrhyw aelod dros y 6 mis diwethaf. Gofynnwyd i’r aelodau gysylltu pe dymunent gopi o’r cod, gan hefyd roi gwybod pe byddai ganddynt fater ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 7 Hydref, 2020, yn ddarostyngedig i’w gadarnhau gan y Cyngor Llawn. Cofnod: Nodwyd y cynhelir
y cyfarfod nesaf ar 7 Hydref, 2020. |