Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
ar gyfer 2020/21. Penderfyniad: Ethol y
Cynghorydd Selwyn Griffiths yn Gadeirydd y pwyllgor hwn ar gyfer 2020/21. COFNODION: PENDERFYNWYD
ethol y Cynghorydd Selwyn Griffiths yn gadeirydd
y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
IS-GADEIRYDD Ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2020/21. Penderfyniad: Ail-ethol y Cynghorydd
Nia Jeffreys yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn ar gyfer 2020/21. COFNODION: PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn
is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2020/21. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, David Eastwood (Cynrychiolydd Buddiannau Harbwr) ac Ian Roberts (Cynrychiolydd
Buddiannau Diwydiannol). |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Ystyried unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd. COFNODION: Ni dderbyniwyd
unrhyw faterion brys. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11 Mawrth, 2020 fel rhai cywir. COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 11 Mawrth,
2020, fel rhai cywir. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLI'R HARBWR PDF 202 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodwyd cynnwys yr
adroddiad. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr
aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr harbwr. (1) Adroddiad yr Uwch Swyddog
Harbyrau yn diweddaru’r pwyllgor ar faterion yr Harbwr
am y flwyddyn yn diweddu Mawrth 2021. Gofynnwyd i’r aelodau anfon
unrhyw sylwadau ar y Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd i’r gwasanaeth. Nododd y Prif Swyddog Morwrol
fod amcangyfrif o gyllidebau’r harbwr o 1/4/20 hyd at 31/3/21 wedi’i anfon at yr aelodau
yn ddiweddar iawn, a manylodd
ar y sefyllfa gyfredol gan nodi:- ·
Yn
ystod y cyfnod clo cyntaf, roedd
gofyn bod y Cyngor yn ystyried lleihau ffioedd a chostau i dalwyr angorfeydd,
gan fod balans
i’w daro rhwng cadw cwsmeriaid
at y dyfodol, neu eu colli yn
gyfan gwbl i harbyrau eraill. ·
Y dymunai ddiolch i’r aelodau lleol am y
gefnogaeth a gafwyd i leihau costau i’r cwsmeriaid 30% yn ystod y cyfnod Mai –
Gorffennaf y llynedd. ·
Nad oedd yn opsiwn peidio codi unrhyw ffi o
gwbl ar gwsmeriaid yn ystod y cyfnod yma, gan fod costau cynnal yr harbwr yn
parhau. ·
Bod manylion y cyllidebau unigol fel a
ganlyn:-
·
Oherwydd y pandemig,
a’r lleihad yn nifer y cychod yn angori yn yr harbwr llynedd, bod incwm yr
harbwr tua £27,000 yn is na’r targed am y flwyddyn. ·
Mai’r targed ar ddiwedd y flwyddyn, gan gymryd
incwm a gwariant i ystyriaeth, oedd bod Harbwr Porthmadog yn costio £19,000 i’r
trethdalwyr, ond yn anffodus, oherwydd y diffyg incwm, roedd y gwahaniaeth yn
£37,000 gan y byddai’r harbwr yn gorwario tua £18,000 yn y flwyddyn ariannol
hon. ·
Mai dyma’r tro cyntaf ers blynyddoedd i’r
gwasanaeth adrodd ar sefyllfa ariannol mor ddifrifol yn yr harbwr, ac roedd 2021
yn debygol o fod yn flwyddyn anodd hefyd, o ystyried yr ansicrwydd mawr yn y
diwydiant morwrol. ·
Bod y pontwns yn
gallu cynorthwyo’r sefyllfa gan eu bod yna drwy gydol y flwyddyn. ·
Bod Ffioedd a Thaliadau’r Harbwr 2021/22
bellach wedi’u hawdurdodi gan y swyddogion ac arweinyddion y Cyngor ar gyfer eu
cyhoeddi. (2) Adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion
Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng
Hydref 2019 a Mawrth 2021, gan gynnwys materion
cynnal a chadw. Nododd yr Harbwrfeistr fod staff yr harbwr
yn dymuno anfon eu cofion
at y Cynghorydd Alwyn Gruffydd, yn
dilyn ei anhwylder diweddar. Cytunodd y Cadeirydd i anfon
neges at yr aelod, ar ran bawb, yn aelodau a swyddogion,
yn dymuno iddo wellhad llwyr
a buan. Nododd yr Harbwrfeistr ymhellach:- · Bod y Bwi Tramwyo wedi mynd allan ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, a bod Bwi rhif 2 wedi’i newid am Fwi rhif 1, ... view the full COFNODION text for item 7. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 5 Hydref, 2021, yn ddarostyngedig i’w gadarnhau gan y Cyngor Llawn. COFNODION: Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 5 Hydref, 2021. |