Lleoliad: Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2016/17. Cofnod: PENDERFYNWYD
ail-ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2016/17. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd
am 2016/17. Cofnod: PENDERFYNWYD
ail-ethol y Cynghorydd Selwyn Griffiths yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y
flwyddyn 2016/17. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies (Aelod Cabinet – Economi), David Eastwood (Cynrychiolydd Buddiannau Harbwr) a David McLean (Cynrychiolydd Buddiannau Perchnogion Tir). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Mawrth 2016, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2016, fel
rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 145 KB Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r
adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol: ·
Bod lleihad bychan yn y
nifer o gychod ar yr angorfeydd blynyddol gyda 129 o gychod o gymharu â 142
cwch yn 2015. Nodwyd bod tueddiad i gychod fod yn fwy o ran maint. Roedd 21
cwch wedi gadael yn 2016 gydag 17 cwch newydd wedi angori yn yr Harbwr yn 2016. ·
Nodwyd bod 37 cwch pwer
wedi cofrestru yn yr Harbwr yn 2016 sydd yn cymharu gyda 30 a gofrestrwyd yn
2015. Cadarnhawyd bod 31 cwch pŵer wedi ei gofrestru ym Morfa Bychan o
gymharu â 14 a gofrestrwyd yn 2015. ·
Ni dderbyniwyd sylwadau
o ran y Côd Diogelwch Morwrol yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf. ·
Bod yr Uwch Swyddog Harbyrau yn adolygu’r
côd diogelwch ac y gobeithir y bydd Uwch Arolygydd Gwylwyr y Glannau yn ymweld
â’r Cyngor yn fuan yn 2017 i’w archwilio a chyflwyno adborth ar y côd. ·
Fe edrychir ar Is-ddeddfau’r Harbwr yn
y Gwanwyn gyda’r bwriad i’w cyflwyno a rhoi mewn grym i gynorthwyo gyda delio
efo’r broblem o oryrru. Cyfeiriwyd at ymgyrch Neifion a lansiwyd yn yr haf er
mwyn ei gwneud yn haws i bobl gysylltu â’r awdurdodau os ydynt yn amau fod
rhywun yn aflonyddu ar fywyd gwyllt y môr a thorri’r Côd Diogelwch Morwrol. ·
Cynhaliwyd archwiliad gan Awdurdod
Goleudai Tŷ’r Drindod ar 26 Gorffennaf 2016. Roedd yr adroddiad yn
cadarnhau gwelliant yng nghyflwr a lleoliadau’r cymhorthion mordwyo o gymharu
ag adroddiadau blaenorol. ·
Gwnaed buddsoddiad
sylweddol yng Nghwch y Dwyfor a chadarnhawyd y byddai’n cael ei lleoli ym
Mhorthmadog i gynorthwyo gyda chynnal a chadw cymhorthyddion mordwyo yn yr
Harbwr. ·
Nid oedd unrhyw rybudd i forwyr mewn grym yn harbwr
Porthmadog. ·
Bod cyfnod cyflogaeth Cymhorthydd
Harbwr (tymhorol) Porthmadog wedi dod i ben 30 Medi 2016. Nodwyd er sicrhau
cefnogaeth a pharhad i’r gwasanaeth ar draws y Sir, roedd cyfnod cyflogaeth
Cymhorthion Harbwr Abermaw ac Aberdyfi wedi eu hymestyn hyd at ddiwedd mis
Rhagfyr 2016. Eglurwyd y byddai Cymhorthydd Harbwr Abermaw yn cael ei ail leoli
i Borthmadog am y cyfnod cychwynnol er sicrhau cymorth ychwanegol ym
Mhorthmadog dros fisoedd y gaeaf. ·
Bod cyfnod secondiad yr Harbwr Feistr
yn cael ei adolygu’n gyfnodol. ·
Y derbyniwyd ymholiad gan gwmni llongau
masnachol yng nghyswllt mewnforio cargo trwm ar gyfer gorsaf bŵer cyfagos
ar fwrdd llongau masnachol i Borthmadog. Nodwyd y tynnwyd sylw’r cwmni i’r
cymhlethdodau a chadarnhawyd pe byddai penderfyniad i fewnforio, y cwmni a
fyddai’n gyfrifol am unrhyw gostau yn gysylltiedig â’r bwriad. ·
Y sefyllfa gyllidebol hyd at ddiwedd
Medi 2016, gan nodi na ragwelir y cyrhaeddir y targed incwm ar gyfer y flwyddyn
ariannol. ·
Bod y system Teledu
Cylch Cyfyng a fuddsoddwyd ynddo er gwarchod eiddo a defnyddwyr yr Harbwr wedi
bod o gymorth i’r Heddlu wrth ymchwilio i 3 achos. · Fe argymhellir cynyddu ffioedd Harbwr Porthmadog ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18, 2% ar gyfartaledd er cwrdd â her cyllideb a tharged incwm y gwasanaeth. Nodwyd y credir bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF I nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 8 Mawrth 2017. Cofnod: Nodwyd y caiff y cyfarfod nesaf ei gynnal ar 8 Mawrth, 2017. |