Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan Clive Moore (Cynrychiolydd Sefydliad y Bad Achub Cricieth),
Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet Datblygu’r Economi) ac Arthur Francis
Jones (Uwch Swyddog Harbyrau). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd. Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2021 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 5 Hydref, 2021, fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLI'R HARBWR PDF 199 KB Cyflwyno adroddiad
yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a
materion gweithredol yr harbwr. (1) Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion
yr harbwr am y flwyddyn oedd yn dod i ben ar ddiwedd mis Mawrth 2022. Nododd y Rheolwr
Morwrol:- ·
Y
bu o fudd cynnal cyfarfodydd rhithiol o’r pwyllgor dros y cyfnod diwethaf, ond
bod colled o beidio cael presenoldeb pobl o amgylch y bwrdd a’r trafodaethau
sy’n digwydd yn naturiol o flaen ac ar ôl y cyfarfodydd. Nid oedd yn hysbys eto beth fyddai’r
trefniadau i’r dyfodol, ond nodwyd bod y trefniadau rhithiol wedi gweithio’n wych,
a diolchwyd i bawb am hwyluso hynny. ·
Yr
hoffai ddymuno’n dda i David Eastwood (Cynrychiolydd
Buddiannau Harbwr) oedd wedi ymddiswyddo o’r pwyllgor yn ddiweddar. Nododd y bu’n aelod ffyddlon iawn o’r
pwyllgor, ac yn gefnogol i’r staff ar hyd y blynyddoedd, a byddai colled ar ei
ôl. Ychwanegodd y Rheolwr Morwrol y
byddai’n cysylltu â’r sawl sydd â buddiannau masnachol yn yr harbwr i dynnu
sylw bod sedd ar gael ar y pwyllgor. ·
Y
dymunai hefyd ddiolch ar ran y Gwasanaeth Morwrol i’r Cynghorydd Selwyn
Griffiths am ei arweiniad a’i gefnogaeth fel Cadeirydd y pwyllgor hwn, ac hefyd
fel yr aelod lleol dros Orllewin Porthmadog.
Nododd y Cadeirydd ei fod yntau’n ddiolchgar
iawn i staff yr harbwr am eu gwaith. ·
Bod
nifer o elfennau yn yr adroddiad ar goll ar hyn o bryd oherwydd absenoldeb
salwch, ond y bwriedid cylchredeg y wybodaeth honno, sef y ffioedd a’r
cyllidebau, i’r aelodau yn dilyn y cyfarfod hwn. ·
Yn
sgil cysylltu â phob cwsmer yn yr harbwr, y derbyniwyd nifer o geisiadau am
angorfeydd. Bwriedid cynnal archwiliad
tanddwr o’r angorfeydd yn yr harbwr cyn cyfnod y Pasg, a phwysleisiwyd
pwysigrwydd cyflawni’r gwaith hwnnw oherwydd y gallai angorfeydd gwan neu
ddiffygiol achosi difrod sylweddol.
Ychwanegodd, er i stormydd Chwefror daro ar benllanw, nad oedd yr un
cwch wedi torri i ffwrdd, a bod hynny’n amlygu cryfder yr angorfeydd i gymryd
yr holl bwysau. ·
Yn
sgil llwyddiant y system gofrestru Cychod Pŵer a Badau Dŵr Personol
ar-lein llynedd, y bwriedid parhau â’r un drefn ar gyfer y flwyddyn i ddod, a
byddai’r system yma’n ail-agor ar 31 Mawrth ar gyfer y tymor i ddod. ·
Bod
y gwasanaeth yn monitro ac yn ail-asesu’r Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd yn
rheolaidd, gan ychwanegu ac addasu asesiadau risg yn ôl yr angen. Nodwyd hefyd bod yr Asiantaeth Forol a
Gwylwyr y Glannau (MCA) wedi cyhoeddi rhestr gyflawn yn y pythefnos diwethaf o harbyrau sy’n cydymffurfio â’r Cod, a bod Harbwr Porthmadog
wedi’i gynnwys ar y rhestr honno. Y
Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Datblygu’r Economi, oedd y Deilydd Cyfrifoldeb ar gyfer hyn, ac roedd yntau’n ymwybodol bod yr MCA wedi cymeradwyo’r Cod
Diogelwch. · Bod marcio’r sianel mordwyo a chynnal y cymorthyddion mordwyo yn heriol gan fod y sianel yn newid yn barhaus. Roedd y sianel wedi bod yn newid tuag at Gricieth, ond yn y pythefnos diwethaf roedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y
cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 11 Hydref,
2022 yn ddarostyngedig i’w gadarnhau gan y Cyngor Llawn. Cofnod: Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 11
Hydref, 2022. |