Lleoliad: Rhithiol ar Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Llywelyn Rhys (Cyngor Tref Porthmadog) a
Sefydliad Bad Achub Cricieth. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. COFNODION: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried
unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd. COFNODION: Ni dderbyniwyd
unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar 11 Hydref, 2022 fel
rhai cywir. COFNODION: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11
Hydref, 2022 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLI'R HARBWR Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adroddiad. COFNODION: Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a
materion gweithredol yr harbwr. (1) Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbwr yn rhoi
diweddariad byr i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr am y flwyddyn a ddaw i ben
ar ddiwedd Mawrth 2023. Codwyd materion o
dan y penawdau isod:- Angorfeydd
Porthmadog a Chofrestru Cychod Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau
fod yr archwiliad tanddwr o’r angorfeydd yn yr harbwr eisoes wedi’i
gynnal. Canfuwyd bod angen newid 20
cadwyn (riser) a gobeithid y byddai’r gwaith yn
cychwyn yn fuan, yn amodol ar ymrwymiadau’r contractwr angorfeydd. Cod Diogelwch
Morol Porthladdoedd Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, nododd yr Uwch Swyddog Harbyrau
y byddai Gorchymyn Llongau Masnach (Badau Dŵr) 2023 yn dod yn weithredol
ar y 31ain o Fawrth, ac y byddai’n rhoi mwy o bwerau i’r asiantaethau
perthnasol i erlyn perchnogion a mordwywyr am gamddefnydd peryglus o fadau
dŵr. Roedd ganddo gyfarfod gyda’r
Heddlu ar 17 Mawrth i drafod y ffordd ymlaen, a byddai mewn sefyllfa i adrodd
mwy i’r aelodau yn dilyn y cyfarfod hwnnw. Nododd y Pennaeth
Cynorthwyol Economi a Chymuned fod diffyg rheolaeth / gorfodaeth dros fadau
dŵr personol wedi bod yn destun cryn bryder dros y blynyddoedd, a bod y
newid yn y ddeddfwriaeth yn gam i’r cyfeiriad cywir. Byddai’r trefniadau a’r rheoliadau yn
datblygu dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf, a gellid rhannu manylion pellach
gyda’r aelodau maes o law. Ychwanegodd y
Rheolwr Gwasanaeth Morwrol y byddai’r ddeddfwriaeth newydd yn arf ychwanegol
i’r Cyngor petai yna ddamwain neu ddigwyddiad yn y dyfodol. Pwysleisiodd hefyd fod gan y Cyngor system
gofrestru effeithiol mewn lle yn barod, felly petai rhywun yn cael ei weld yn
troseddu gyda bad pŵer, roedd yn bwysig nodi’r rhifau cofrestru er mwyn
sicrhau bod modd adnabod yr unigolyn. Materion Ariannol Rhoddodd y Rheolwr
Gwasanaeth Morworol esboniad llawn o gyllideb yr
Harbwr 01/4/22 - 31/3/23, a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad. Holwyd pam bod
incwm yr Harbwr bron £10,000 yn is na’r targed.
Mewn ymateb, nododd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol:- ·
Nad
oedd pob angorfa wedi ei llenwi, ac roedd yr incwm yn ddibynnol ar brysurdeb yn
ystod y tymor. ·
Nad
oedd tymor 2022 mor brysur â thymor 2021, pan roedd yna gyfyngiad ar deithio
dramor oherwydd Cofid. ·
Yn
gyffredinol, rhagwelid y byddai tua £6,000 o orwariant, ond roedd yna gostau
sylweddol eraill yn debygol o godi yn y mis nesaf, megis pwrcasu cadwyni
angorfeydd a chwblhau gwaith cynnal a chadw ar gwch yr harbwr, felly byddai’r
gorwariant yn debygol o gynyddu rhywfaint erbyn diwedd y mis. Ychwanegodd y
Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned:- ·
Ei
bod yn debyg bod y gyllideb yn seiliedig ar niferoedd hanesyddol, a gwelwyd
lleihad yn gyffredinol yn nifer y cychod ar draws harbyrau’r
sir. · Yn ogystal ag angorfeydd y Cyngor, bod yna adnoddau ychwanegol wedi’u datblygu yn Harbwr Porthmadog dros y blynyddoedd, ac yn benodol pontwns Clwb Hwylio Madog. Roedd rhai o gwsmeriaid hanesyddol y Cyngor wedi ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
ETHOL SYLWEDYDDION Ethol sylwedydd
i wasanaethu ar yr isod:- a) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Aberdyfi b) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abermaw c) Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Pwllheli Penderfyniad: Ethol y canlynol i wasanaethu fel sylwedyddion ar y
pwyllgorau isod:- a)
Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Aberdyfi – Y Cynghorydd Gwilym Jones b)
Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Abemaw
– Y Cynghorydd June Jones c)
Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Pwllheli – Y Cynghorydd Gwilym Jones COFNODION: Gwahoddwyd y
pwyllgor i ethol sylwedydd i dderbyn gwybodaeth, neu fynychu cyfarfodydd y 3
phwyllgor harbwr arall. PENDERFYNWYD ethol
y canlynol i wasanaethu fel sylwedyddion ar y
pwyllgorau isod:- a)
Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Aberdyfi – Y Cynghorydd Gwilym Jones b)
Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Abermaw - Y Cynghorydd June Jones c)
Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr
Pwllheli – Y Cynghorydd Gwilym Jones |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 3
Hydref, 2023 (yn ddarostyngedig i’w
gadarnhau gan y Cyngor Llawn.) COFNODION: Nodwyd y cynhelir
y cyfarfod nesaf ar 3 Hydref, 2023. Nododd y Pennaeth Cynorthwyol
Economi a Chymuned nad oedd angen i’r aelodau aros tan gyfarfod Hydref os oedd
ganddynt fater yn codi rhwng nawr a hynny, a bod croeso iddynt gysylltu â
Swyddfa’r Harbwr yn y cyfamser. Holwyd a oedd
bwriad i gynnal cyfarfod nesaf y pwyllgor ar Zoom,
neu wyneb yn wyneb yn y Ganolfan ym Mhorthmadog, gan y deellid nad oedd pawb
o’r aelodau yn gyffyrddus yn defnyddio’r dechnoleg. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Gwasanaethau
Democratiaeth mai polisi’r Cyngor ar hyn o bryd, yn unol â Rhan 3 Deddf Llywodraeth
Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, oedd i gynnal cyfarfodydd y Cyngor Llawn, y
Pwyllgor Cynllunio, y Cabinet a phwyllgorau craffu yn unig yn hybrid, gyda phob
pwyllgor arall yn parhau yn rhithiol. |