Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol Cadeirydd
ar gyfer 2023/24. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd Gwilym Jones yn gadeirydd ar gyfer 2023/24. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Gwilym Jones yn
gadeirydd ar gyfer 2023/24. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2023/24. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd June Jones yn Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd June Jones yn
is-gadeirydd ar gyfer 2023/24. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad
o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw faterion brys. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2023, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7
Mawrth, 2023 fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR PDF 276 KB Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Nodi a derbyn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a
materion gweithredol yr harbwr. (1)
Adroddiad
yr Uwch Swyddog Harbwr yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr
harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref, 2023. Fel rhan o’r
adroddiad, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol grynodeb byr o gyllidebau’r
Harbwr 01/4/23 - 31/3/24 (Adolygiad Awst 2023), a gynhwyswyd fel atodiad i’r
adroddiad. Manylodd hefyd ar
ddangosyddion perfformiad y Gwasanaeth (oedd hefyd wedi’u cynnwys fel atodiadau
i’r adroddiad). Ar bwynt
cyffredinol, diolchwyd i’r Gwasanaeth Morwrol am eu gwaith yn ystod yr haf yn
cadw pawb yn ddiogel ar y traethau, ac am ddod â chyllideb gytbwys gerbron y
pwyllgor. (2)
Adroddiad
yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a
brofwyd yn y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref 2023, gynnwys materion cynnal a
chadw. Codwyd materion o
dan y penawdau isod:- Materion
Gweithredol Gan gyfeirio at y
ddau achos diweddar o lygredd yn yr harbwr (paragraffau 2.2 a 4.2 o’r
adroddiad), holwyd a fyddai’n bosib’ i faterion o’r fath gael eu dwyn i sylw’r
aelodau lleol ar y pryd, yn hytrach nag aros tan gyfarfod nesaf y pwyllgor, fel
bod modd i’r aelodau ymateb i ymholiadau gan eu hetholwyr. Mewn ymateb, nodwyd:- ·
Y
derbynnid y pwynt ac y ceisid diweddaru’r aelodau lleol pan mae yna
ddigwyddiadau eithaf difrifol yn yr harbyrau. ·
Y
gellid cadarnhau bod yr awdurdodau perthnasol wedi’u hysbysu o’r 2 ddigwyddiad
dan sylw a bod yr holl weithdrefnau angenrheidiol wedi’u dilyn. ·
Bod
syrfëwr morol wedi’i gomisiynu i wneud archwiliad o gyn-gwch bysgota’r ‘Beverley’
oedd wedi gorlifo yn ystod glaw trwm a suddo’n rhannol gan ryddhau swm bach o
danwydd diesel i ddŵr yr harbwr. Roedd
archwiliad wedi’i wneud o’r cwch tra yn y dŵr, a hefyd yn sgil ei
hail-leoli ger llithrfa’r harbwr.
Unwaith y derbynnid adroddiad y syrfëwr, bwriadai’r Gwasanaeth drafod
cynnwys yr archwiliad gyda pherchennog y cwch, a byddai’r aelodau yn cael eu
diweddaru unwaith y byddai rhagor o fanylion ar gael. ·
Bod
Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i’r hylif sy’n dod o’r bibell arllwys ger y
bont ffordd yn rhan Ogleddol yr harbwr yn ystod glaw trwm. Ni dderbyniwyd adroddiad ysgrifenedig
ffurfiol ganddynt hyd yma, ond byddai’r aelodau’n cael eu diweddaru unwaith y
byddai gwybodaeth ar gael ynglŷn â tharddiad y llygredd. Holwyd beth
fyddai’n digwydd i gwch y ‘Beverley’ yn y dyfodol. Mewn ymateb, nodwyd y byddai’n rhaid aros am
adroddiad y syrfëwr morol ar gyflwr y cwch a thrafod gyda’r perchennog cyn y
gellid gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â beth fyddai’n digwydd i’r cwch
yn y dyfodol. Nododd yr
Harbwrfeistr y dymunai ddiolch i gwmni Robert Owen Marine Porthmadog am roi
benthyg bad dŵr personol i’r Gwasanaeth ar gyfer patrolio sianel
Porthmadog. Cynnal a Chadw Ymhellach i gynnwys yr adroddiad, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol nad oedd y gost net o £12,293 am ddwy injan newydd i’r cwch patrôl Powercat wedi dod o gyllideb eleni, ond yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir
cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 27 Chwefror, 2024. Cofnod: Nodwyd y cynhelir
y cyfarfod nesaf ar 27 Chwefror, 2024. |