Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Jasmine Jones  01286 679667

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025-2026.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Ethol y Cynghorydd Gwilym Jones yn gadeirydd ar gyfer 2025/26.

Cofnod:

Bu i’r Cyng. Gwilym Jones gael ei ethol yn Gadeirydd ar gyfer 2025/26. 

2.

IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025-2026.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Ethol y Cynghorydd June Jones yn Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26.

Cofnod:

Bu i’r Cyng. June Jones gael ei ethol yn is- gadeirydd ar gyfer 2025/26. 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau.

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Gynghorydd June Jones (Cyngor Gwynedd), Chris Fisher (Sefydliad y Bad Achub Criccieth), Desmond George, Robert Owen a Melfyn Edwards.

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

5.

MATERION BRYS

I nodi unrhyw fater brys yn ôl barn y Cadeirydd i’w ystyried.

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

COFNODION pdf eicon PDF 166 KB

Y Cadeirydd i gynnig bod cofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 04/03/25 yn cael eu llofnodi fel cofnod cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 04/03/25 fel rhai cywir.

 

Nodwyd bod angen cadarnhau’r penderfyniad i ethol y tri aelod newydd a nodwyd yng nghofnodion 04/03/25 gyda’r Cabinet. Mynegwyd y gobaith y bydd hyn yn cael ei gyflawni erbyn cyfnod 2026/27.

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 237 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Nodi a derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr Harbwr.

 

(1)    Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad bras i’r Pwyllgor ar faterion yr Harbwr am y cyfnod 2025/26.

 

Data Perfformiad

 

Nodwyd bod cytundebau angori ym Mhorthmadog bellach wedi cynyddu i 109. Nodwyd ymhellach bod y ffigurau ar gyfer cytundebau angori ar gyfer tymor 2025 yn cymharu’n ffafriol â blynyddoedd blaenorol. Er bod amrywiadau rhwng harbyrau unigol, roedd y ffigurau cyffredinol wedi aros yn gyson, sy’n gadarnhaol. Ymhelaethwyd bod cynnydd o 8% wedi bod yn nifer y cytundebau angori ym Mhorthmadog dros y tair blynedd ddiwethaf.

 

Nodwyd bod y Gwasanaeth yn gofyn yn garedig i holl gyflenwyr a deiliaid angorfeydd o fewn yr Harbwr ddarparu manylion yr holl gychod a’u cwsmeriaid i swyddfa’r Harbwr cyn gynted â phosibl.

 

Nodwyd bod cynnydd o 10% wedi bod yn nifer y cychod pŵer a gofrestrwyd gyda Chyngor Gwynedd y tymor hwn o gymharu â’r llynedd, gan godi o 2,141 i 2,362. Atgoffwyd bod cychod pŵer bellach yn cael eu cofrestru ar-lein ac felly nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y gyllideb gyffredinol, gyda’r ystadegau’n ymwneud â’r cwsmeriaid sy’n dod i’r swyddfa i dalu am ffioedd lansio dyddiol yn unig.

 

Adborth a dderbyniwyd am Harbwr Porthmadog

 

Nodwyd bod arwyddion gyda 'QR Codes' wedi'u lleoli o gwmpas yr harbwr i dderbyn sylwadau gan ddefnyddwyr  ynglŷn â’u profiad o’r harbwr. Nodwyd bod ffigyrau a dderbyniwyd am Harbwr Porthmadog yn dangos cynnydd mewn adborth 'positif' a dderbyniwyd, ynghyd â'r ymdrechion a wnaed gan yr adran i wella profiad cwsmeriaid ac ymwelwyr ymhellach. Esboniwyd bod yr adborth hwn wedi bod yn ddefnyddiol iawn er mwyn gwella'r gwasanaeth yn yr harbwr.

 

Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

Nodwyd bod y Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd (PMSC) yn amlinellu'r safon genedlaethol ar gyfer pob agwedd o ddiogelwch morol porthladdoedd. Cadarnhawyd penodiad diweddar Mr Owen Morgan, Rheolwr Harbwr ar gyfer Cyngor Ceredigion, fel ein ‘Person Dynodedig’ newydd. Ymhelaethwyd bod Mr Morgan yn cynnal yr archwiliad nesaf yn ystod misoedd y gaeaf ac yn rhoi arweiniad er mwyn sicrhau bod yr harbwr yn cwrdd â gofynion diweddaraf y PMSC. Nodwyd  fod Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Medwyn Hughes, wedi’i benodi fel  y ‘dalwr dyletswydd’ newydd.

 

Nodwyd bod cyfleodd hyfforddiant a datblygiad parhaus yn cael eu cynnig i’r staff morwrol. Cyhoeddwyd bod un aelod o staff yn ddiweddar wedi cwblhau'r 'Diploma Harbwrfeistr', tra bod aelod arall wedi dechrau'r cwrs ‘UKHMA Harbour Master Certificate’ diweddaraf. Dymunwyd pob llwyddiant iddynt gyda'u datblygiad proffesiynol.

 

Oherwydd natur eu gwaith, nodwyd bod swyddogion yr harbwr  ar adegau wedi  profi ymddygiad difrïol, bygythiol ac ymosodol. Er mwyn sicrhau diogelwch staff a’r cyhoedd, esboniwyd bod swyddogion nawr yn gorfod gwisgo camerâu cyrff i roi gwarchodaeth iddynt, ac i recordio unrhyw ddigwyddiadau. Nodwyd bod sawl achos o ymddygiad difrifol wedi codi yn ystod 2024, ond ers 2025 mae’r niferoedd wedi lleihau, sydd yn dangos gwerth y camerâu cyrff. Nodwyd ymhellach bod ceisiadau i dderbyn copïau recordiau teledu cylch cyfan o’r harbwr  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 03/03/26.

Cofnod:

Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 03/03/26.