Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

Ethol Cadeirydd ar gyfer 2023/24.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Gwilym Jones yn gadeirydd ar gyfer 2023/24.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Gwilym Jones yn gadeirydd ar gyfer 2023/24.

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24.

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd June Jones yn Is-gadeirydd ar gyfer 2023/24.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd June Jones yn is-gadeirydd ar gyfer 2023/24.

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw faterion brys.

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 224 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2023, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 7 Mawrth, 2023 fel rhai cywir.

 

7.

DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETHOL YR HARBWR pdf eicon PDF 276 KB

Cyflwyno adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiadau isod a gwahoddwyd adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr harbwr.

 

(1)       Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbwr yn rhoi diweddariad bras i’r pwyllgor ar faterion yr harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref, 2023.

 

Fel rhan o’r adroddiad, rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol grynodeb byr o gyllidebau’r Harbwr 01/4/23 - 31/3/24 (Adolygiad Awst 2023), a gynhwyswyd fel atodiad i’r adroddiad.

 

Manylodd hefyd ar ddangosyddion perfformiad y Gwasanaeth (oedd hefyd wedi’u cynnwys fel atodiadau i’r adroddiad).

 

Ar bwynt cyffredinol, diolchwyd i’r Gwasanaeth Morwrol am eu gwaith yn ystod yr haf yn cadw pawb yn ddiogel ar y traethau, ac am ddod â chyllideb gytbwys gerbron y pwyllgor.

 

(2)       Adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng Mawrth a Hydref 2023, gynnwys materion cynnal a chadw.

 

Codwyd materion o dan y penawdau isod:-

 

Materion Gweithredol

 

Gan gyfeirio at y ddau achos diweddar o lygredd yn yr harbwr (paragraffau 2.2 a 4.2 o’r adroddiad), holwyd a fyddai’n bosib’ i faterion o’r fath gael eu dwyn i sylw’r aelodau lleol ar y pryd, yn hytrach nag aros tan gyfarfod nesaf y pwyllgor, fel bod modd i’r aelodau ymateb i ymholiadau gan eu hetholwyr.  Mewn ymateb, nodwyd:-

 

·         Y derbynnid y pwynt ac y ceisid diweddaru’r aelodau lleol pan mae yna ddigwyddiadau eithaf difrifol yn yr harbyrau.

·         Y gellid cadarnhau bod yr awdurdodau perthnasol wedi’u hysbysu o’r 2 ddigwyddiad dan sylw a bod yr holl weithdrefnau angenrheidiol wedi’u dilyn.

·         Bod syrfëwr morol wedi’i gomisiynu i wneud archwiliad o gyn-gwch bysgota’r ‘Beverley’ oedd wedi gorlifo yn ystod glaw trwm a suddo’n rhannol gan ryddhau swm bach o danwydd diesel i ddŵr yr harbwr.  Roedd archwiliad wedi’i wneud o’r cwch tra yn y dŵr, a hefyd yn sgil ei hail-leoli ger llithrfa’r harbwr.  Unwaith y derbynnid adroddiad y syrfëwr, bwriadai’r Gwasanaeth drafod cynnwys yr archwiliad gyda pherchennog y cwch, a byddai’r aelodau yn cael eu diweddaru unwaith y byddai rhagor o fanylion ar gael.

·         Bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymchwilio i’r hylif sy’n dod o’r bibell arllwys ger y bont ffordd yn rhan Ogleddol yr harbwr yn ystod glaw trwm.  Ni dderbyniwyd adroddiad ysgrifenedig ffurfiol ganddynt hyd yma, ond byddai’r aelodau’n cael eu diweddaru unwaith y byddai gwybodaeth ar gael ynglŷn â tharddiad y llygredd.

 

Holwyd beth fyddai’n digwydd i gwch y ‘Beverley’ yn y dyfodol.  Mewn ymateb, nodwyd y byddai’n rhaid aros am adroddiad y syrfëwr morol ar gyflwr y cwch a thrafod gyda’r perchennog cyn y gellid gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â beth fyddai’n digwydd i’r cwch yn y dyfodol.

 

Nododd yr Harbwrfeistr y dymunai ddiolch i gwmni Robert Owen Marine Porthmadog am roi benthyg bad dŵr personol i’r Gwasanaeth ar gyfer patrolio sianel Porthmadog.

 

Cynnal a Chadw

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol nad oedd y gost net o £12,293 am ddwy injan newydd i’r cwch patrôl Powercat wedi dod o gyllideb eleni, ond yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF

Nodi y cynhelir cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 27 Chwefror, 2024.

Cofnod:

Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 27 Chwefror, 2024.