Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Arwyn Herald Roberts ac Angela Russell

 

Y Cynghorydd Anwen Davies wedi methu a ymuno oherwydd problemau technegol

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol.

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 55 KB

Cofnod:

         Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd 1af o Ragfyr 2025  fel rhai cywir

 

5.

COFNODION IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU pdf eicon PDF 137 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y dyddiau canlynol:

 

a)     18-11-2025

 

b)     01-12-2025

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd a derbyniwyd er gwybodaeth, gofnodion Is Bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd 18fed o Dachwedd 2025 a’r 1af o Ragfyr 2025

 

6.

DIWYGIAD Y LLYWODRAETH GANOLOG O'R SYSTEM DRWYDDEDU EIDDO - FFRAMWAITH POLISI TRWYDDEDU CENEDLAETHOL pdf eicon PDF 159 KB

I ystyried yr adroddiad

 

Bod y Pwyllgor Trwyddedu Canolog yn cytuno i ystyried cyfeiriad strategol cyffredinol y Fframwaith Polisi Trwyddedu Cenedlaethol mewn perthynas â phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan ei Is-bwyllgor, a

 

Cytuno i ymgorffori cyfeiriad strategol y Fframwaith i adolygiad nesaf y Datganiad o Bolisi Trwyddedu yn 2029.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

  • Cymeradwyo cyfeiriad strategol cyffredinol y Fframwaith Polisi Trwyddedu Cenedlaethol mewn perthynas â phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan ei Is-bwyllgor

 

  • Cymeradwyo ymgorffori cyfeiriad strategol y Fframwaith i adolygiad nesaf y Datganiad o Bolisi Trwyddedu yn 2029.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn rhoi crynodeb o’r newidiadau y bydd diwygiad y Llywodraeth Ganolog o’r system drwyddedu eiddo yn effeithio ar benderfyniadau Trwyddedu lleol a pholisi yng Ngwynedd.

 

Eglurwyd bod y Llywodraeth Ganolog, drwy'r Tasglu sy’n gyfrifol am edrych ar ddiwygio Trwyddedu, wedi dangos dros y blynyddoedd bod mwy o bwysau yn cael ei roi i ddiogelwch y cyhoedd ac atal trosedd, dan yr amcanion trwyddedu statudol, a llai o ffocws ar dwf a gwydnwch busnes.

 

Mewn ymateb i’r canfyddiad, nodwyd mai prif argymhellion cychwynnol y Tasglu oedd creu Fframwaith Polisi Trwyddedu Cenedlaethol (NLPF) i ddarparu arweiniad anstatudol strategol ar gyfer awdurdodau trwyddedu yng Nghymru a Lloegr gyda’r nod o foderneiddio arferion trwyddedu, cefnogi twf economaidd a chynnal gwarchodaeth gymunedol drwy reoliad cymesur, sy'n cael ei arwain gan dystiolaeth.

 

Gwnaed cais gan y Llywodraeth Ganolog am dystiolaeth a barn rhanddeiliaid yn ystod cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Hydref 2025 gyda phwyslais ar dystiolaeth oedd yn berthnasol o werthu alcohol (tafarndai, clybiau nos ac adloniant sydd yn dod o dan Ddeddf Trwyddedu 2003). Ymatebodd Cyngor Gwynedd i’r cais ynghyd a nifer fwyaf o awdurdodau eraill Cymru a Lloegr a sefydliadau megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Heddlu Gogledd Cymru ac Iechyd Cyhoeddus.

 

Adroddwyd bod yr arweiniad statudol ar gyfer Awdurdodau Lleol (cyhoeddwyd dan a182 Deddf Trwyddedu 2003) yn parhau mewn grym, ond wedi cael ei adolygu'n ddiweddar gan Ganllawiau Diwygiedig y Swyddfa Gartref. Ategwyd bod yr arweiniad strategol yn sicrhau bod rhaid i'r egwyddorion craidd a danlinellwyd gan y Fframwaith Polisi Trwyddedu Cenedlaethol gael eu hystyried yn lleol wrth hysbysu Datganiadau o Bolisi Trwyddedu a gwneud penderfyniadau ar geisiadau Trwyddedu. Ategwyd bod y diwygiadau arfaethedig yn cynnwys hwyluso gwell cydweithredu rhwng Awdurdodau Lleol a'r diwydiant lletygarwch; ynghyd â gwell aliniad rhwng amcanion trwyddedu, cynllunio ac adfywio.

 

Cyfeiriwyd at sut y byddai’r Fframwaith yn cymhwyso gyda’r Polisi Trwyddedu Cenedlaethol a phenderfyniadau trwyddedu lleol yng Ngwynedd, ac at yr angen i gydweithio’n effeithiol gyda’r Gwasanaeth Cynllunio. Tynnwyd sylw hefyd at gyfrifoldebau a dyletswyddau swyddogion ac Aelodau wrth wneud penderfyniadau mewn Is-bwyllgorau Trwyddedu Canolog.  Er yr angen i barhau i gynnal mesurau diogel angenrheidiol, nodwyd bod y Fframwaith Cenedlaethol yn pwysleisio bod rhaid cael dull deuol o amddiffyn cymunedau dan y pedwar amcan trwyddedu wrth ystyried cefnogi adfywio, buddsoddi a thwf yr economi.

 

Bydd gofyn i’r awdurdodau trwyddedu arddangos fod cyfeiriad strategol eu Datganiad o Bolisi Trwyddedu yn cyfarch ac ystyried y Fframwaith Polisi Trwyddedu Cenedlaethol . Fodd bynnag, y disgwyliad yw nad yw hyn yn angenrheidiol tan adolygiad nesaf y Datganiad i Bolisi Trwyddedu, yn 2029. 

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol

·        Bod diogelu plant yn flaenoriaeth

·        Dylai unrhyw gyfundrefn sicrhau mai diogelu a diogelu iechyd yw’r prif ystyriaethau mewn gwrandawiadau trwydded - pryder y bydd y diwygiadau hyn yn arwain i gyfeiriad fydd yn tanseilio hyn

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pha Lywodraeth oedd yn gyfrifol am y diwygiadau, cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu mai Tasglu Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd wedi arwain  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.