Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
ar gyfer 2020 / 21 Penderfyniad: I AIL ETHOL Y CYNGHORYDD
ELFED WILLIAMS YN GADEIRYDD AR GYFER 2020/21 Cofnod: PENDERFYNWYD
AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ELFED WILLIAMS YN GADEIRYDD AR GYFER 2020/21 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is
gadeirydd ar gyfer 2020 / 21 Penderfyniad: I AIL ETHOL Y CYNGHORYDD
ANNWEN HUGHES YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2020/21 Cofnod: PENDERFYNWYD
AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ANNWEN HUGHES YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2020/21 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes a’r
Cynghorydd Dafydd Owen |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan
unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim
i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 2il o
Ragfyr 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Rhagfyr
2il 2019 fel rhai cywir |
|
COFNODION IS BWYLLGORAU TRWYDDEDU PDF 234 KB Cyflwyno, er
gwybodaeth, gofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd; 1. 26-01-21 2. 05-01-21 3. 26-11-20 4. 09-03-20 5. 18-12-19 6. 05-11-19 7. 20-09-19 Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Derbyniwyd, er gwybodaeth gofnodion yr Is bwyllgorau a gynhaliwyd 26-01-21, 05-01-21, 26-11-20,
09-03-20, 18-12-19, 05-11-19 a 20-09-19 |
|
EFFAITH YR ARGYFWNG COVID 19 AR WASANAETHAU TRWYDDEDU PDF 292 KB I ystyried yr
adroddiad Penderfyniad: DERBYN Y WYBODAETH DIOLCH I’R UNED TRWYDDEDU AM EI GWAITH CALED
YN YSTOD ARGYFWNG COVID 19 Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn amlinellu gwaith yr Uned
Drwyddedu gan fanylu ar y modd maent wedi ymateb i argyfwng covid
19 drwy addasu a blaenoriaethu eu cyfrifoldebau er mwyn cyfrannu at yr ymdrech
o reoli ymlediad yr haint ynghyd a pharhad gwasanaethau ‘arferol’. Tynnwyd sylw at effaith yr argyfwng ar
y gwasanaethau trwyddedu a hefyd at y cyfnod heriol sydd yn
wynebu’r gwasanaeth wrth ddod allan o gyfnod clo. Ategwyd y bydd angen adolygu
dogfennau polisi dros y flwyddyn nesaf gan ddechrau
gyda’r Datganiad o Bolisi Trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu
2003. Pan fydd newidiadau wedi ei gwneud i'r
Polisi (drafft) ar draws Gogledd Cymru, y bwriad yw cyflwyno’r Polisi
drafft newydd i’r Pwyllgor, cyn
cynnal ymgynghoriad cyhoeddus dros yr Haf. Mewn ymateb i gwestiwn
ynglyn a’r ‘newidiadau bychan’ (para 4.6) sydd angen eu
gwneud i’r Polisi drafft, mynegwyd mai ‘newidiadau
bach oeddynt fyddai’n adlewyrchu deddfau a ffigyrau cyfredol gyda’r gwaith sylweddol o addasu’r Polisi eisoes wedi ei
weithredu. Canmolwyd Swyddogion yr Uned
Trwyddedu am eu gwaith a’u cefnogaeth
dros gyfnod yr argyfwng. PENDERFYNWYD: Derbyn
y wybodaeth Diolch i’r Uned Trwyddedu
am eu gwaith caled yn ystod
argyfwng covid 19 |