Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
| Rhif | eitem | 
|---|---|
| YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr John Brynmor Hughes ac Arwyn Herald Roberts | |
| DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: | |
| MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi | |
| Cofnod:               Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd 25ain o Fedi 2023 fel rhai cywir | |
| COFNODION IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU CANOLOG  Cyflwyno,
er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd ar y
dyddiau canlynol: a)    27ain Hydref 2023 b)    25ain Medi  2023 c)    13eg Medi  2023 d)    30ain Awst 2023 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd a
derbyniwyd er gwybodaeth, gofnodion yr Is Bwyllgorau Trwyddedu Canolog a
gynhaliwyd 30ain o Awst 2023, 13eg Medi 2023, 25ain Medi 2023, 27ain o Hydref
2023 fel rhai cywir. | |
| CYNLLUN TRWYDDEDU GORFODOL NEWYDD - TRINIAETHAU ARBENNIG  I ystyried
yr adroddiad Penderfyniad: PENDERFYNIAD  Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gynllun trwyddedu newydd
ar gyfer 'Triniaethau Arbennig' fydd yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth Cymru
Mehefin 2024 dan Rhan 4 Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017. Eglurwyd bod y
Triniaethau Arbennig yn cynnwys tatŵio, lliwio'r
croen yn lled barhaol, tyllu addurnol, aciwbigo, nodwyddo
sych ac electrolysis. Cyfeiriwyd at brif ofynion y gyfundrefn ynghyd a
goblygiadau’r cynllun. Adroddwyd mai bwriad Llywodraeth Cymru, drwy gyflwyno'r cynllun,
yw lleihau'r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â'r triniaethau hyn. Bydd gofyn i
awdurdodau lleol fod yn gyfrifol am orfodi gofynion trwyddedu a chadw cofrestr
o drwyddedau triniaethau arbennig a gyflwynir ganddynt. Bydd Llywodraeth Cymru
yn disgwyl i’r rhan fwyaf o'r gwaith ychwanegol yma gael ei amsugno i raglenni
gwaith presennol o fewn Iechyd yr Amgylchedd a Thrwyddedu. Ategwyd y gall hyn
effeithio ar feysydd eraill o gyflwyno gwasanaeth. Yng nghyd-destun
goblygiadau ar gyfer y Pwyllgor Trwyddedu, nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi
datgan y bydd disgwyliad i’r gyfundrefn eistedd dan strwythurau’r pwyllgor
trwyddedu gyda dogfen ymgynghorol wedi ei llunio yn amlinellu eu disgwyliadau
yn nhermau llywodraethu. Ategwyd nad yw rôl y pwyllgor trwyddedu, o ran gwneud
penderfyniadau ar geisiadau Trwyddedu o dan y gyfundrefn newydd wedi’i
ymgorffori mewn Rheoliadau Gwrandawiadau penodol.  Yn dilyn
trafodaethau gyda’r Adran Gyfreithiol, nodwyd y byddai mecanwaith y
gwrandawiadau trwyddedu yn disgyn o dan ddarpariaethau’r Pwyllgor Trwyddedu
Canolog. Amlygwyd y byddai’r Aelodau yn derbyn gwybodaeth am unrhyw
ddatblygiadau / cyfarwyddiadau pellach ar y mater gan Lywodraeth Cymru a bod
sesiwn hyfforddi gyda Dr Sarah Jones (Uwch Ymgynghorydd Iechyd yr Amgylchedd,
sydd wedi arwain ar ddatblygiad y cynllun trwyddedu ar gyfer Llywodraeth Cymru)
eisoes wedi ei drefnu ar gyfer Aelodau, Swyddogion Amgylchedd, Cyfreithiol a
Democratiaeth y Cyngor. Wedi derbyn eglurder o rôl y Pwyllgor Trwyddedu
Canolog, bydd y Swyddog Monitro yn adolygu’r fecanwaith fydd angen ei
mabwysiadu i Gyfansoddiad y Cyngor, yn ogystal â phenderfynu ar y pwerau
dirprwyedig sydd eu hangen ar gyfer swyddogion. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau: ·        
Pryder y byddai cyfrifoldebau yn disgyn rhwng dau
faes o fewn yr Adran Amgylchedd (Gwarchod y Cyhoedd a Thrwyddedu) - byddai hyn
yn gwneud pethau yn anodd ei craffu ·        
Croesawu’r angen am reolaeth a threfn drwyddedu ar
gyfer y maes yma ·        
Pryder nad oes arian ychwanegol / buddsoddiad yn
cael ei gyflwyno gan Llywodraeth Cymru i ymgorffori’r trefniadau ychwanegol ·        
Pryder bydd y gwaith yn rhoi pwysau gwaith gormodol
ar wasanaeth sydd yn wynebu heriau cynnal gwasanaeth mewn byd sydd yn brysur
newid ·        
Bod unrhyw ddarpariaethau sydd yn gwarchod y
cyhoedd yn beth da Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyfrifoldebau adran Amgylchedd, amlygwyd mai Pennaeth yr Adran Amgylchedd sydd yn gyfrifol am holl elfennau gwaith Gwarchod y Cyhoedd a Thrwyddedu a bod staff y gwasanaethau yn ymwybodol ac yn eglur eu cyfrifoldebau ac atebolrwydd. Ategwyd bod y sgiliau a'r cymwysterau perthnasol gan y staff a bod cydweithio da rhwng y ddau wasanaeth. O ran rôl yr Aelodau, bydd y gwaith yn cael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |