Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Arwyn Herald
Roberts ac Angela Russell Y Cynghorydd Anwen Davies wedi methu a ymuno
oherwydd problemau technegol |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd 1af o Ragfyr 2025 fel rhai cywir |
|
|
COFNODION IS-BWYLLGORAU TRWYDDEDU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd a derbyniwyd er gwybodaeth, gofnodion Is Bwyllgor
Trwyddedu Canolog a gynhaliwyd 18fed o Dachwedd 2025 a’r 1af o Ragfyr 2025 |
|
|
I ystyried yr adroddiad Bod y Pwyllgor Trwyddedu Canolog yn cytuno i ystyried cyfeiriad strategol cyffredinol y Fframwaith Polisi Trwyddedu Cenedlaethol mewn perthynas â phenderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan ei Is-bwyllgor, a Cytuno i ymgorffori cyfeiriad strategol y Fframwaith i
adolygiad nesaf y Datganiad o Bolisi Trwyddedu yn 2029. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan y Rheolwr Trwyddedu yn rhoi crynodeb
o’r newidiadau y bydd diwygiad y Llywodraeth Ganolog o’r system drwyddedu eiddo yn effeithio
ar benderfyniadau Trwyddedu
lleol a pholisi yng Ngwynedd. Eglurwyd bod y Llywodraeth Ganolog, drwy'r Tasglu
sy’n gyfrifol am edrych ar ddiwygio Trwyddedu, wedi dangos dros y blynyddoedd
bod mwy o bwysau yn cael ei roi i ddiogelwch y cyhoedd ac atal trosedd, dan yr
amcanion trwyddedu statudol, a llai o ffocws ar dwf a gwydnwch busnes. Mewn ymateb i’r
canfyddiad, nodwyd mai prif argymhellion
cychwynnol y Tasglu oedd creu Fframwaith Polisi Trwyddedu Cenedlaethol (NLPF) i
ddarparu arweiniad anstatudol strategol ar gyfer awdurdodau trwyddedu yng
Nghymru a Lloegr gyda’r nod o foderneiddio arferion trwyddedu, cefnogi twf
economaidd a chynnal gwarchodaeth gymunedol drwy reoliad cymesur, sy'n cael ei
arwain gan dystiolaeth. Gwnaed cais gan y Llywodraeth Ganolog am dystiolaeth a barn
rhanddeiliaid yn ystod cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Hydref 2025 gyda
phwyslais ar dystiolaeth oedd yn berthnasol o werthu alcohol (tafarndai,
clybiau nos ac adloniant sydd yn dod o dan Ddeddf Trwyddedu 2003). Ymatebodd
Cyngor Gwynedd i’r cais ynghyd a nifer fwyaf o awdurdodau eraill Cymru a Lloegr
a sefydliadau megis Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Heddlu Gogledd Cymru ac
Iechyd Cyhoeddus. Adroddwyd bod yr
arweiniad statudol ar gyfer Awdurdodau Lleol (cyhoeddwyd dan a182 Deddf
Trwyddedu 2003) yn parhau mewn grym, ond wedi cael ei adolygu'n ddiweddar gan
Ganllawiau Diwygiedig y Swyddfa Gartref. Ategwyd bod yr arweiniad strategol yn
sicrhau bod rhaid i'r egwyddorion craidd a danlinellwyd gan y Fframwaith Polisi
Trwyddedu Cenedlaethol gael eu hystyried yn lleol wrth hysbysu Datganiadau o
Bolisi Trwyddedu a gwneud penderfyniadau ar geisiadau Trwyddedu. Ategwyd bod y
diwygiadau arfaethedig yn cynnwys hwyluso gwell cydweithredu rhwng Awdurdodau
Lleol a'r diwydiant lletygarwch; ynghyd â gwell aliniad rhwng amcanion
trwyddedu, cynllunio ac adfywio. Cyfeiriwyd at sut y byddai’r Fframwaith yn cymhwyso gyda’r Polisi
Trwyddedu Cenedlaethol a phenderfyniadau trwyddedu lleol yng Ngwynedd, ac at yr
angen i gydweithio’n effeithiol gyda’r Gwasanaeth Cynllunio. Tynnwyd sylw hefyd
at gyfrifoldebau a dyletswyddau swyddogion ac Aelodau wrth wneud penderfyniadau
mewn Is-bwyllgorau Trwyddedu Canolog. Er
yr angen i barhau i gynnal mesurau diogel angenrheidiol, nodwyd bod y
Fframwaith Cenedlaethol yn pwysleisio bod rhaid cael dull deuol o amddiffyn
cymunedau dan y pedwar amcan trwyddedu wrth ystyried cefnogi adfywio, buddsoddi
a thwf yr economi. Bydd gofyn i’r
awdurdodau trwyddedu arddangos fod cyfeiriad strategol eu Datganiad o Bolisi
Trwyddedu yn cyfarch ac ystyried y Fframwaith Polisi Trwyddedu Cenedlaethol .
Fodd bynnag, y disgwyliad yw nad yw hyn yn angenrheidiol tan adolygiad nesaf y
Datganiad i Bolisi Trwyddedu, yn 2029. Diolchwyd am yr
adroddiad Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth ddilynol ·
Bod diogelu plant yn
flaenoriaeth ·
Dylai unrhyw gyfundrefn
sicrhau mai diogelu a diogelu iechyd yw’r prif ystyriaethau mewn gwrandawiadau
trwydded - pryder y bydd y diwygiadau hyn yn arwain i gyfeiriad fydd yn
tanseilio hyn Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â pha Lywodraeth oedd yn gyfrifol am y diwygiadau, cadarnhaodd y Rheolwr Trwyddedu mai Tasglu Llywodraeth y Deyrnas Unedig oedd wedi arwain ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |