Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y
Cynghorwyr John Brynmor Hughes a Rheinallt Puw |
||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn
bresennol. |
||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried Cofnod: Dim i’w
nodi |
||||||||||||||||||||||
Cofnod: |
||||||||||||||||||||||
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 217 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor
Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd
ar y dyddiad canlynol: a) 4ydd Hydref
2022 Cofnod: |
||||||||||||||||||||||
Cymeradwyo cynnig i
godi uchafswm prisiau teithiau tacsis gan ystyried sylwadau yn dilyn
ymgynghoriad cyhoeddus i godi’r uchafswm prisiau Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn
argymell codi uchaf brisiau teithiau cerbydau hacni yn y Sir. Atgoffwyd yr Aelodau, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol
(Darpariaethau Amrywiol) 1976 sydd yn gosod dyletswyddau rheoleiddio ar yr
Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas â gweithredu
uchaf bris a all gael ei godi ar y cyhoedd wrth deithio mewn cerbydau hacni oddi fewn i’r Sir, mae’n ofynnol fod unrhyw gais am
newid yn cael ei gyflwyno gan y diwydiant. Cadarnhawyd bod 5 cais diweddar wedi
eu derbyn gan berchnogion cwmnïau tacsi i adolygu’r prisiau a bod y prisiau hyn
ar gyfer cerbydau hacni yn unig ac nid cerbydau
preifat. Mewn cyfarfod ar y 24ain o Hydref, cyflwynwyd argymhellion gan yr
Awdurdod Trwyddedu i gynyddu rhai prisiau. Penderfynodd y Pwyllgor gymeradwyo’r
argymhellion hynny ynghyd a chynnal ymgynghoriad cyhoeddus am 14 diwrnod.
Adroddwyd bod gohebiaeth wedi ei gyflwyno i’r diwydiant tacsi cyn i’r
ymgynghoriad ddechrau yn swyddogol gan roi cyfle i’r diwydiant ystyried y
cynigion. Derbyniwyd pum gwrthwynebiad gyda sylwadau gan gynrychiolaeth o’r
diwydiant - ni dderbyniwyd sylwadau gan y cyhoedd. Eglurwyd, oherwydd bod
gwrthwynebiadau i’r cynigion wedi ei derbyn bod rhaid ail gyflwyno argymhellion
fel y gall y Pwyllgor roi ystyriaeth ofalus i’r mater cyn dod i benderfyniad
terfynol. Cyfeiriwyd at y ffactorau hynny sydd wedi effeithio
busnesau tacsi yn ddiweddar (cyfnod clo dros gyfnod covid
19, cynnydd sylweddol yng nghostau tanwydd
ynghyd a chynnydd sylweddol mewn chwyddiant) gan nodi bod rhain yn
ffactorau sydd yn effeithio pawb. Nodwyd pwysigrwydd cloriannu effaith y
sefyllfa bresennol gan sicrhau tegwch i’r diwydiant ac i ddefnyddwyr tacsi.
Ategwyd bod rhaid cynlluniau cymunedol, gyda chefnogaeth grantiau, drwy
gyd-weithio gyda hwb cymdeithasol yn cynnig gwasanaeth cludiant i ddefnyddwyr
bregus am ddim gan fod prisiau tacsi yn rhy ddrud. Gwelid hyn yn ardal
Penygroes a Bethesda Er yn derbyn sylwadau’r diwydiant, roedd yr Uned
Trwyddedu yn argymell parhau gyda’r argymhellion gwreiddiol ond yn derbyn y
sylw i ddileu’r cynnig o greu tariff ychwanegol ar gyfer teithiau mewn bws mini
lle mae rhwng 5 ac 8 o deithwyr. Ystyriwyd bod y cynnig yma, yn unol â sylwadau
unfrydol y diwydiant yn agored i’w gamddefnyddio ac nad oedd gwerth iddo. b)
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau: ·
Bod yr adroddiad yn glir a chytbwys ·
Bod rhaid gwarchod y diwydiant ond ar y llaw arall
ystyried effaith ar y defnyddwyr ·
Croesawu’r ymgynghoriad a pharodrwydd y Pwyllgor i
drafod y sylwadau ·
Anodd cael gwasanaeth yn Nwyfor
– gwasanaeth bysus yn lleihau a chostau tacsis y cynyddu c)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â bod y sylwadau
a dderbyniwyd yn adlewyrchu materion trefol a gwledig, nodwyd bod cymysgedd o
sylwadau wedi eu derbyn. Mewn ymateb i gwestiwn atodol ynglŷn ag ymatebion
dienw, nodwyd bod enwau a chyfeiriadau personol e-byst yr ymatebwyr wedi eu
dileu fel modd o warchod eu preifatrwydd. Mewn ymateb i sylw bod rhai cwmnïau yn osgoi siwrneiau byr, cadarnhawyd bod costau’r daith yn dechrau o’r amser y bydd y defnyddiwr yn cael ei godi ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |