Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a
gynhaliwyd 30 Mehefin 2025 fel rhai
cywir. |
|
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL Cofnod: Cyflwynwyd a derbyniwyd er gwybodaeth, gofnodion Is Bwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 8fed o Hydref 2025 fel rhai cywir. |
|
|
ADOLYGU POLISÏAU TACSI CYNGOR GWYNEDD ADOLYGU
POLISÏAU TACSI CYNGOR GWYNEDD - Polisi Collfarnau Perthnasol –
Meini Prawf Addasrwydd ar gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr Dogfen Canllawiau
Addasrwydd y Sefydliad Trwyddedu - Canllawiau ar benderfynu ar addasrwydd
ymgeiswyr a thrwyddedai yn y diwydiant Cerbydau Hacni
a Hurio Preifat ·
I ystyried y cynigion arfaethedig o ran adolygu y ‘Meini Prawf Addasrwydd ar gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr’ a’i
cymeradwyo ar gyfer eu gweithredu o’r 1af o Ionawr 2026 ·
Cymeradwyo mabwysiadu canllawiau diweddaraf y
Sefydliad Drwyddedu - Canllawiau Addasrwydd ymgeiswyr a thrwyddedai yn y
diwydiant cerbydau hacni a hurio preifat 2024, ac unrhyw ddiweddariadau
fydd yn dilyn fel canllawiau swyddogol ychwanegol
i’w ystyried ochr yn ochr a pholisi collfarnau Meini Prawf Addasrwydd y Cyngor.
·
Ystyried os oes angen cynnwys unrhyw ofyniad arall
yn y Meini prawf addasrwydd Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Polisi Collfarnau Perthnasol – Meini Prawf Addasrwydd ar
gyfer Gyrwyr a Gweithredwyr - Dogfen Canllawiau Addasrwydd y Sefydliad Trwyddedu - Canllawiau ar benderfynu ar addasrwydd
ymgeiswyr a thrwyddedai yn y diwydiant Cerbydau Hacni
a Hurio Preifat. Cyflwynwyd adroddiad oedd yn amlygu newidiadau arfaethedig i
bolisïau a meini prawf addasrwydd ar gyfer gyrwyr a gweithredwyr tacsi. Gwnaed
cais i’r Pwyllgor fabwysiadau’r newidiadau yn ddi-oed fel bod modd eu cynnwys
yn y Polisi Trwyddedu Tacsi Unedig newydd fydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus
yn dilyn adolygiadau o ganllawiau, gweithdrefnau a pholisïau. Eglurwyd bod y Meini Prawf Addasrwydd cyfredol wedi eu
datblygu yn 2014 ar y cyd gydag Awdurdodau Trwyddedu Cymru er mwyn ceisio
cysondeb rhwng Cynghorau wrth benderfynu ar addasrwydd ymgeiswyr a thrwyddedai.
Nodwyd nad oedd dehongliad pendant yn y Ddeddf o’r safon ddisgwyliedig i brofi
addasrwydd diogelwch unigolyn i ddal trwydded tacsi, ac o ganlyniad cyhoeddodd
y Sefydliad Trwyddedu ganllawiau yn 2018 i gynorthwyo Awdurdodau Trwyddedu
benderfynu ar addasrwydd unigolyn. Mabwysiadwyd y canllawiau hynny gan y
Pwyllgor Trwyddedu fel canllaw ychwanegol swyddogol i’w ystyried mewn
gwrandawiadau, law yn llaw gyda Polisi Collfarnau Cyngor Gwynedd. Adolygwyd y canllawiau yn 2024 a bellach cyhoeddwyd dogfen
ddiwygiedig oedd yn caniatáu i swyddogion ac Aelodau roi ystyriaeth i faterion
ehangach sy’n effeithio addasrwydd a diogelwch person i fod yn meddu ar
drwydded tacsi. Ategwyd bod y canllawiau yn cyfarch ystyriaethau fel pryderon
diogelu plant a phobl fregus mewn
manylder. Tynnwyd sylw at y Meini Prawf Addasrwydd gan nodi bod y prif
egwyddorion yn aros yr un fath ond bod y newidiadau arfaethedig yn canolbwyntio
ar alinio Polisi Meini Prawf y Cyngor gyda Chanllawiau Addasrwydd y Sefydliad
Trwyddedu, ynghyd a pholisïau a weithredir mewn Cynghorau eraill. Diolchwyd am yr adroddiad Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Yn croesawu canllawiau ychwanegol a
chyfarwyddiadau cadarn ·
Cytuno gyda’r penderfyniad i wrthod trwydded os
bydd gyrrwr yn cael yn euog ddwywaith am yrru o dan ddylanwad alcohol neu
gyffuriau – hyn yn ganllaw mwy pendant ·
Cynnydd mewn amser yn cael ei groesawu - hyn yn
cryfhau'r grym i sicrhau diogelwch ac i’r ymgeisydd ddysgu gwersi ·
Awgrymu diddymu ‘drwy yrru’ yn y frawddeg ‘lle
mae troseddau wedi arwain at farwolaeth drwy yrru’ Mewn ymateb i gwestiwn: ·
ynglŷn â phryd roedd y newidiadau yn dod i
rym, cadarnhawyd, pe byddai’r Pwyllgor yn eu cymeradwyo, byddai’r newidiadau yn
dod i rym ar y 1af o Ionawr 2026. Ategwyd y byddai’r Adran Trwyddedu yn
cyhoeddi’r dogfennau a’r dudalen ceisiadau gan roi gwybod i’r diwydiant tacsi
am y newidiadau gan egluro eu bod yn cyfateb yn well gyda gofynion y diwydiant
cenedlaethol. ·
os oedd y newid i gyfnod amser yn mynd i gael
effaith ar drwyddedau oedd eisoes wedi eu caniatáu, nodwyd mai ychydig o
droseddau fydd yn disgyn i’r categori
‘addasrwydd person’. · ynglŷn â rhannu gwybodaeth gyda Chynghorau eraill, nodwyd bod gan y Cynghorau fynediad at wiriadau o fas data cofnodion troseddau cenedlaethol a bod hawl gan swyddogion gofnodi gwybodaeth ar y bas data yma e.e., achlysur lle maent wedi diddymu trwydded. Ategwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |