Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr
Anwen Davies, Huw Rowlands, a John Brynmor Hughes |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a
gynhaliwyd 22ain o Fehefin 2026 fel rhai
cywir |
|
|
PRISIAU TEITHIAU CERBYDAU TACSI HACNI I ystyried a chymeradwyo'r cynnig i godi’r uchaf bris yn weithredol o’r 1af o Hydref 2026 yn unol â’r argymhellion; ac yn unol a’r darpariaethau cyfreithiol; gan nad oes gwrthwynebiad na cynigion wedi eu derbyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD Yn weithredol o’r 1af o Hydref 2026 yn unol â’r
argymhellion a’r darpariaethau cyfreithiol, gan nad oedd gwrthwynebiad na
chynigion wedi eu derbyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, bod y Pwyllgor yn
cymeradwyo'r cynnig i:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan Pennaeth yr Adran Amgylchedd
yn nodi bod cais wedi ei dderbyn
gan dri o berchnogion cwmnïau tacsi yng Ngwynedd i’r Awdurdod
Trwyddedu adolygu
uchaf bris teithiau cerbydau tacsi hacni. Atgoffwyd yr Aelodau ei bod yn ofynnol i unrhyw
gais am newid yn yr uchaf bris gael ei gyflwyno gan y diwydiant. Adroddwyd bod
cais i gynyddu’r uchaf bris wedi ei gymeradwyo yn 2019 ac yn ddiweddarach yn
2022, ond nad oedd newid wedi bod ers hynny. Gwelwyd cynnydd yn yr uchaf bris am y ddwy filltir gyntaf mewn
taith, ond nid oedd cynnydd wedi bod yn y cyfraddau sylfaenol. Yng nghyfarfod y Pwyllgor 22ain o
Fehefin 2026, penderfynwyd cymeradwyo'r cynigion i gynyddu rhai uchaf brisiau a
rhoddwyd cyfarwyddyd i’r Gwasanaeth Trwyddedu gynnal ymgynghoriad gyda’r
diwydiant, ac yn dilyn hynny, ymgynghoriad statudol wedi ei hysbysebu mewn
papur lleol am 14 diwrnod. Yn ystod yr ymgynghoriad gyda’r
diwydiant, rhannwyd gohebiaeth gyda’r diwydiant tacsis am bedair wythnos ac fe
dderbyniwyd dau e-bost yn cefnogi’r egwyddor o godi uchaf brisiau. Cynhaliwyd y
cyfnod ymgynghori statudol rhwng 19 o Awst a’r 3ydd o Fedi 2026 ac ni
dderbyniwyd unrhyw ymatebion. Cyfeiriwyd at ymateb a
dderbyniwyd tu allan i’r cyfnod ymgynghori statudol, ond nodwyd mai priodol
fyddai i’r Pwyllgor ystyried yr ymateb gan y diwydiant – roedd yr ymateb yn
amlygu pryder ynghylch symud yr amser y daw’r tariff hwyr y nos (sy’n codi’r
pris o 50%) i rym yn gynharach na 22:00, gan y gall hynny arwain at golli
cwsmeriaid sy’n defnyddio tacsis rhwng 22:00 a hanner nos; ystyriwyd y byddai
codiad o 50% o 22:00 ymlaen yn sylweddol, yn enwedig i bobl sy’n dibynnu’n
rheolaidd ar dacsis oherwydd gwaith yn hytrach na’u defnyddio ar gyfer
nosweithiau cymdeithasol. Roedd y Gwasanaeth Trwyddedu yn
argymell i’r Pwyllgor gymeradwyo’r cynnig i godi’r uchaf bris yn weithredol o’r
1af o Hydref 2026. Diolchwyd am yr adroddiad Mynegodd y Cyng. Arwyn Herald ei
fod wedi derbyn pryderon gan drigolion yn
ei ward oedd yn poeni am godi
taliadau tacsi o 22:00 ymlaen a hwythau yn gweithio shifftiau
mewn archfarchnad a / neu gartref gofal. Eu dadl oedd nad
oedd bysiau cyhoeddus yn gweithredu
yn hwyr yn
yr ardal, ac felly bod rhaid
defnyddio tacsis lleol. Os bydd
y costau yn codi, ni fydd
gwerth iddynt fynd i’r gwaith. Mewn ymateb i’r sylw, nododd Arweinydd Tîm Trwyddedu a Rheolaeth
Llygredd, mai cynnig gwreiddiol y diwydiant oedd gweithredu tariff hwyr y nos i fod
yn weithredol o 20:00, bod
y Gwasanaeth Trwyddedu wedi argymell
21:00, ond bod y Pwyllgor
Trwyddedu wedi penderfynu
22:00 gan fod unrhyw amser cyn
hyn yn ymddangos
yn rhy gynnar
a bod 22:00 yn gyfaddawd
teg rhwng 20:00 a 00:00. Ategwyd
nad oedd y tariff hwyr y nos yn
cael effaith ar deithiau oedd
wedi eu trefnu
/ bwcio ymlaen llaw, a bod gan y diwydiant yr hawl i osod lefelau
eu hunain. Cynigiwyd ac eiliwyd
derbyn yr argymhelliad PENDERFYNWYD Yn weithredol o’r 1af ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |