Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023 /24 Penderfyniad: Cofnod: PENDERFYNWYD
ETHOL Y CYNGHORYDD ELFED WILLIAMS YN GADEIRYDD AR GYFER 2023/24 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd ar gyfer 2023 / 24 Penderfyniad: ETHOL Y CYNGHORYDD GWYNFOR
OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2023/24 Cofnod: PENDERFYNWYD
ETHOL Y CYNGHORYDD GWYNFOR OWEN YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2023/24 |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen Davies, Alan Jones Evans ac Angela
Russell |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd 5ed Rhagfyr 2022 fel rhai cywir |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 216 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar
y dyddiau canlynol: 1. 13 Mawrth 2023 2. 10 Chwefror 2023 3. 23 Ionawr 2023 4. 14 Rhagfyr 2022 5. 23 Tachwedd 2022 6. 14 Tachwedd 2022 7. 08 Tachwedd 2022 Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd a
derbyniwyd er gwybodaeth, gofnodion yr Is Bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a
gynhaliwyd 13 Mawrth 2023, 10 Chwefror 2023, 23 Ionawr 2023, 14 Rhagfyr 2022,
23 Tachwedd 2022, 14 Tachwedd 2022 a 08 Tachwedd 2022 fel rhai cywir. |
|
FFIOEDD ARFAETHEDIG TRWYDDEDAU TACSIS 2023/24 PDF 272 KB I ystyried cymeradwyo'r cynnig i godi’r ffioedd i’r lefel a argymhellir
; yn ddarostyngedig i yn ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad
drwy rybudd cyhoeddus. Penderfyniad: Cymeradwyo’r
cynnig i godi’r ffioedd i’r lefel a argymhellwyd: yn ddarostyngedig i
ymgynghoriad gyda’r diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Rheolwr Trwyddedu yn gofyn i’r Pwyllgor gymeradwyo ffioedd
arfaethedig trwyddedau tacsi 2023/24. Atgoffwyd yr Aelodau bod y Pwyllgor, yn
ôl yn 2013, wedi penderfynu y byddai
ffioedd tacsi yn cael eu hadolygu yn flynyddol a hynny i adennill costau llawn
o dderbyn, prosesu a gweinyddu trwyddedau yn unig. Amlygwyd nad oedd ffioedd
Gwynedd wedi newid ers 2019 ac er yr adolygwyd y sefyllfa yn 2020/21,
penderfyniad y Pwyllgor oedd peidio cynyddu ffioedd oherwydd sgil effeithiau
argyfwng covid. Adroddwyd
bod yr Awdurdod Trwyddedu yn cydnabod fod costau cynnal a chadw cerbydau,
costau yswiriant a chostau tanwydd wedi bod yn cynyddu dros yr 18 mis diwethaf,
a bod y sefyllfa wedi bod yn anodd i’r diwydiant tacsi wrth ddod allan o’r
cyfnod covid. Amlygwyd,
yng nghyd-destun costau’r Uned Trwyddedu, bod chwyddiant, ynghyd a ffactorau megis anghenion hyfforddiant
swyddogion, costau hysbysebu ac ymgynghori ar newidiadau i’r prisiau, a
chynnydd yn y lefel gwiriadau sydd angen eu gwneud i sicrhau addasrwydd gyrwyr,
cerbydau a gweithredwyr hefyd yn ystyriaethau ar gyfer cynyddu costau darparu’r
gwasanaeth trwyddedu tacsis. Ategwyd yr angen i gwblhau Adolygiad y Polisi
Tacsi Unedig, fydd yn mabwysiadu argymhellion Safonau Statudol Cerbydau Hacni a
Hurio Preifat Cenedlaethol yr Adran
Drafnidiaeth; yn ogystal ag ymgorffori'r newidiadau pellgyrhaeddol arfaethedig fydd yn debygol o
ddeillio o ymgynghoriad Papur Gwyn
Llywodraeth Cymru ar sut mae’r diwydiant tacsi yn cael ei reoleiddio. O ganlyniad,
ystyriwyd nad oedd fawr o ddewis ond cynyddu’r ffioedd os am gynnal y
gwasanaeth a ddisgwylir gan y cyhoedd a’r diwydiant. Adroddwyd
bod y diffyg incwm a geir am y gwahanol
drwyddedau tacsi yn amrywio; yn ddibynnol ar yr ymdrech ychwanegol sydd yn digwydd
wrth brosesu ceisiadau a gwirio cydymffurfiad ac felly argymhellwyd cynnydd ar
gyfartaledd o 12% mewn lefelau ffioedd yn ddarostyngedig i ymgynghoriad gyda’r
diwydiant tacsi ac ymgynghoriad drwy rybudd cyhoeddus. Diolchwyd am yr adroddiad. Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Er bod cynyddu unrhyw ffioedd yn groes i’r graen,
bod rhaid adennill costau ·
Pryder y bydd rhai cwmnïau yn dod i ben o ganlyniad
i’r cynnydd – angen sicrhau bod cymorth ar gael ·
Prinder gyrwyr mewn ardaloedd gwledig, pam felly
bod rhaid iddynt dalu'r un pris a gyrwyr ardaloedd trefol ·
Bod rhai cwmnïau yn anwybyddu’r tariff Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chynnydd arfaethedig sylweddol mewn trwydded 3 mlynedd,
derbyniwyd mai dyma’r cynnydd mwyaf sydd yn cael ei argymell oherwydd y gwaith
o sicrhau os yw gyrrwr yn addas a phriodol (fydd hefyd i’r dyfodol, yn unol â
gofynion statudol, yn cynnwys gwirio taliadau treth). Mewn ymateb i
gwestiwn pam na ellid gwneud cynnydd o 12% ar gyfer yr holl ffioedd yn hytrach
na chanran cyfartaledd, nodwyd mai adennill costau yn unig yw hawliau'r Uned
Trwyddedu a bod ffactorau penodol ynglŷn â’r broses. Amlygwyd bod
ymarferiad costau wedi ei wneud ar gyfer pob math o drwydded i amlygu tegwch ac
fe ystyriwyd na fuasai un canran yn adlewyrchiad teg o’r sefyllfa. Mewn ymateb i’r sylw bod rhai cwmnïau tacsi yn anwybyddu’r tariff, nodwyd bod Papur ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |