Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2024 / 25 Penderfyniad: PENDERFYNIAD AIL ETHOL Y CYNGHORYDD
ELFED WILLIAMS YN GADEIRYDD AR GYFER 2024/25 Cofnod: PENDERFYNWYD AIL ETHOL Y CYNGHORYDD ELFED WILLIAMS
YN GADEIRYDD AR GYFER 2024/25 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd
ar gyfer 2024 / 25 Penderfyniad: Cofnod: PENDERFYNWYD AIL ETHOL Y CYNGHORYDD GWYNFOR OWEN YN
IS-GADEIRYDD AR GYFER 2024/25 |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Arwyn Herald Roberts,
yn eitem 7 ar y rhaglen fod ganddo fuddiant oherwydd cysylltiad agos â chwmnïau
tacsis lleol. Yn dilyn arweiniad gan y Rheolwr Trwyddedu nid oedd yn fuddiant a
oedd yn rhagfarnu gan mai diweddariad cyffredinol oedd yma am y polisi. Nid
oedd rhaid iddo adael y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd 4ydd
o Fawrth 2024 fel rhai cywir |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 154 KB Cyflwyno,
er gwybodaeth, gofnodion yr Is-bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd ar
y dyddiadau canlynol: a) Ebrill 9fed 2024 b) Mawrth 20fed 2024 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd a
derbyniwyd er gwybodaeth, gofnodion yr Is Bwyllgorau Trwyddedu Cyffredinol a
gynhaliwyd 20fed o Fawrth 2024 a’r 9fed o Ebrill 2024 |
|
DIWEDDARIAD AR Y POLISI AR GYFER HURIO PREIFAT A CHERBYDAU HACNI I dderbyn diweddariad ar lafar ar
y polisi ar gyfer hurio priefat
a cherbydau hacni Cofnod: Cyflwynodd y
Rheolwr Trwyddedu ddiweddariad ar lafar ar y polisi hurio preifat a cherbydau hacni. Amlygodd bod y polisi cyfredol yn dameidiog ac yn
cynnwys nifer o bolisïau ac felly’r bwriad yw creu un ddogfen. Ategodd nad oedd
cylch penodol ar gyfer adolygu’r polisi, ond bod rhai agweddau angen eu
diweddaru. Nododd bod oediad yn y gwaith oherwydd bod disgwyl i Lywodraeth
Cymru adolygu deddfwriaeth yn ymwneud a chysoni rheoliadau’r diwydiant tacsi.
Er hynny, derbyniwyd datganiad gan Lywodraeth Cymru yn nodi na fyddai’r
ddeddfwriaeth yn dod i rym yn fuan ac felly rhoddwyd cyfarwyddyd i'r Awdurdodau
Lleol gysoni eu polisïau eu hunain. O ran amserlen,
nodwyd, unwaith bydd y polisi wedi ei adolygu, bydd angen cynnal ymgynghoriad
gyda’r cyhoedd a chyflwyno’r polisi drafft i’r Pwyllgor i amlygu unrhyw
addasiadau. Amlygwyd er bod rhai agweddau megis ystyried oedran cerbyd tacsi,
hyfforddiant diogelu, cyflwyno DBS ffres bob tair blynedd a bod gyrwyr dros
65oed yn cael prawf meddygol bob blwyddyn eisoes mewn lle ac yn cael eu
gweithredu, bod angen eu cynnwys yn y polisi. O ganlyniad, ni fydd yr
ychwanegiadau i’r polisi yn newydd i’r diwydiant. Sylwadau yn codi
o’r drafodaeth ddilynol ·
bod angen ceisio annog cael gwell darpariaeth yng
nghefn gwald ·
bod y ddogfen ‘Meini Prawf Addasrwydd ar gyfer
Gyrwyr a Gweithredwyr’ wedi ei chyhoeddi yn 2014, ac felly wedi dyddio ac angen
ei haddasu Mewn ymateb i’r
sylwadau, nododd y Rheolwr Trwyddedu mai anodd yw dylanwadu ar y nifer i ddod i
mewn i'r diwydiant yn enwedig gyda rhai yn cael eu denu fwyaf at waith trefol
oherwydd nad oedd cysondeb gwaith yng nghefn gwald. Er hynny, yr Uned Trwyddedu
yn ceisio annog gwell darpariaeth yng nghefn gwlad. Derbyniwyd y sylw
bod y ddogfen meini prawf wedi dyddio ac yn cynnwys rhai agweddau hŷn fydd
yn cael eu hadolygu. Er hynny, nodwyd, er bod y ddogfen wedi ei chyhoeddi yn 2014, bod y cynnwys yn parhau i basio’r prawf.
Un elfen fydd angen ei gynnwys yn y
ddogfen fydd pwyntiau gyrru. Mewn ymateb i
gwestiwn os yw gyrwyr bysus yn gorfod cael eu hasesu drwy’r un meini prawf,
nodwyd bod ceisiadau gyrwyr bysus yn cael eu caniatáu drwy gyfundrefn wahanol
(Comisiynydd Traffig Cymru). Ategwyd bod y polisi trwyddedu yn benodol ar gyfer
cerbyd 8 neu lai o seddi. Diolchwyd am y
diweddariad. |