Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2026 / 2027 Penderfyniad: Cofnod: Cynigiwyd ac eiliwyd ail ethol y Cynghorydd Gwynfor Owen yn gadeirydd ar gyfer
2026/2027 PENDERFYNWYD AIL ETHOL Y CYNGHORYDD GWYNFOR
OWEN YN GADEIRYDD AR GYFER 2026/27 |
|
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is gadeirydd
ar gyfer 2026 / 2027 Penderfyniad: PENDERFYNIAD AIL ETHOL Y
CYNGHORYDD ARWYN HERALD ROBERTS YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2026/27 Cofnod: Cynigiwyd
ac eiliwyd ail ethol y Cynghorydd Arwyn Herald Roberts yn
is-gadeirydd ar gyfer 2026/2027 Cynigiwyd ethol y Cynghorydd
Gareth Williams yn is-gadeirydd
ar gyfer 2026/27. Ni chafwyd eilydd. PENDERFYNWYD AIL ETHOL Y
CYNGHORYDD ARWYN HERALD ROBERTS YN IS-GADEIRYDD AR GYFER 2026/27 |
|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Gareth Tudor Jones, Meryl Roberts,
a John Brynmor Hughes Y Cynghorydd Anwen Davies yn cael problemau gyda chyfarpar technoleg ac
felly ddim wedi gallu mynychu’r cyfarfod |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw
aelod oedd yn bresennol. |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
|
Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a
gynhaliwyd 9fed o Fawrth 2026 fel rhai
cywir |
|
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL Cofnod: Cyflwynwyd a derbyniwyd er gwybodaeth, gofnodion Is Bwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 10-02-2026 |
|
|
PRISIAU TEITHIAU CERBYDAU TACSI HACNI I ystyried yr adroddiad a chymeradwyo cynnig gan y diwydiant i godi’r uchafswm
prisiau Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD :
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan
Pennaeth yr Adran Amgylchedd yn
nodi bod cais wedi ei dderbyn gan
dri o berchnogion
cwmnïau tacsi yng Ngwynedd i’r Awdurdod Trwyddedu adolygu uchaf bris teithiau cerbydau tacsi hacni. Atgoffwyd
yr Aelodau ei bod yn
ofynnol i unrhyw gais am newid yn yr uchaf bris gael ei gyflwyno gan y
diwydiant. Adroddwyd bod cais i gynyddu’r uchaf bris wedi ei gymeradwyo yn 2019
ac yn ddiweddarach yn 2022, ond nad oedd newid wedi bod ers hynny. Gwelwyd
cynnydd yn yr uchaf bris am y ddwy
filltir gyntaf mewn taith, ond nid oedd cynnydd wedi bod yn y cyfraddau
sylfaenol. Cyfeiriwyd
at y ffactorau hynny sydd yn effeithio prisiau tacsi megis cynnydd mewn costau
yswiriant cenedlaethol a chynnydd yn yr isafswm cyflog cyfradd dros y
blynyddoedd diwethaf sydd wedi tanseilio gallu busnesau bach fel cwmnïau
tacsi i wneud elw. Yn ychwanegol mae
sefyllfa economaidd y wlad dros y misoedd diwethaf wedi gweld cynnydd sylweddol
mewn costau tanwydd, gyda rhagolygon na fydd costau tanwydd yn gostwng yn y
dyfodol agos, a chynnydd arall ar y gorwel mewn costau nwy a thrydan. Nodwyd
bod cyfradd chwyddiant yn parhau i fod yn uwch na tharged 2% y Llywodraeth ac
er bod cyfradd chwyddiant wedi gostwng yn ddiweddar, bod y cynnydd mewn costau
tanwydd a ffactorau geo-wleidyddol
yn y Dwyrain Canol yn golygu bod chwyddiant a chostau bwyd sylfaenol yn debygol
o godi dros y misoedd nesaf. Nodwyd bod costau yswiriant priodol ar gyfer
cerbydau trwyddedig yn uchel, a chostau blynyddol ynghlwm a thrwyddedu cerbyd
tacsi, a chostau bob tair blynedd ynghlwm a thrwyddedu gyrwyr. Cyfeiriwyd
at brisiau Cynghorau eraill ar draws y Gogledd gan amlygu amrywiaeth yng
nghyfradd yr uchaf bris o £3.50 i £4.00. Ategwyd bod amryw o gwmnïau oedd wedi
cyflwyno cynnig i godi uchaf bris yn cynnig cynyddu’r gyfradd am y filltir
gyntaf o £3.60 i £4.00. Er bod cais wedi ei wneud i godi'r gyfradd yn 2022,
gwrthodwyd y cynnig oherwydd pryder y byddai pobl oedrannus neu y rhai sy’n
fregus, ac sydd yn methu defnyddio ffyrdd eraill o deithio, yn cael eu
heffeithio gan y cynnydd ychwanegol yma ynghyd â chynnydd mewn costau byw.
Nodwyd hefyd, gyda chynnydd mewn costau cyflogau a chostau cynnal a chadw
cerbydau, bod y cwmnïau tacsi yn adrodd nad yw’r costau bellach yn cael eu
hadennill drwy godi £3.60 am y filltir gyntaf. Argymhelliad yr Awdurdod Trwyddedu oedd, o ystyried
yr holl ffactorau sydd yn bwysig i’r cyd-destun economaidd presennol -
cynigiwyd fod y prisiau yn cael eu cynyddu fel a ganlyn - ·
Cynyddu uchaf bris cyfradd taith un
filltir o £3.60 i £4.00 er mwyn bod yn gyson gydag amryw o gynghorau
eraill, ac i gyfarch y cynnydd mewn
costau rhedeg tacsi. ·
Cynyddu
oriau gweithredol tariff hwyr y nos i fod yn weithredol o 21:00 yr hwyr tan
07:00 y bore, yn hytrach na bod yn weithredol o 00:00 hanner nos. · Gostwng cyfradd cost teithiau tariff hwyr o 60% uwch na’r gyfradd sylfaenol yn ôl i 50% ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |