Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Brynmor Hughes a Peter Read Croesawyd y Cynghorydd W Roy Owen fel aelod newydd i’r
Pwyllgor Trwyddedu Canolog |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan
unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 3 Mehefin 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Mehefin
3ydd 2019 fel rhai cywir. |
|
COFNODION IS-BWYLLGOR TRWYDDEDU CYFFREDINOL PDF 69 KB Cyflwyno, er
gwybodaeth, cofnodion yr Is Bwyllgor Trwyddedu Cyffredinnol a gynhaliwyd ar y
dyddiau canlynol: a) 03.06.19 b) 20.06.19 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd, er
gwybodaeth, gofnodion cyfarfod o’r Is-bwyllgor Trwyddedu Cyffredinol a gynhaliwyd 03.06.19
a 20.06.19 |
|
UCHAFSWM PRISIAU TEITHIAU CERBYDAU TACSI HACNI PDF 46 KB I ystyried
adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth yr Adran Amgylchedd yn gofyn i’r Pwyllgor
gymeradwyo cynnig gan y diwydiant tacsi i adolygu’r
uchaf bris y gall ei godi am deithiau mewn cerbyd hacni
yn y Sir. Amlygwyd ei bod yn ofynnol
i unrhyw gais am newid i’r
uchaf bris gael
ei gyflwyno gan y diwydiant a chadarnhawyd bod cais diweddar i adolygu’r
prisiau, wedi ei gyflwyno gan
Mr J Pritchard, perchennog cwmni
tacsi lleol. Ategwyd nad
oedd cais i adolygu’r uchaf
bris wedi ei dderbyn ers 2011 a phwysleisiwyd nad oedd yr uchaf
bris yn berthnasol i deithiau mewn
cerbydau hurio preifat. Cyfeiriwyd at dabl yn yr adroddiad oedd yn cymharu prisiau
cyfatebol am daith 2 filltir. Nodwyd bod y cynnydd arfaethedig wedi ei gyfrifo
drwy ychwanegu chwyddiant ar gyfartaledd o 2.6% y flwyddyn at bris taith y
filltir a bennwyd yn 2011. Awgrymwyd, o fewn y diwydiant mai prisiau’r teithiau
sydd yn gyrru’r gystadleuaeth a mynegwyd mai annhebygol fyddai i bob cwmni godi
eu prisiau. Mewn cyfarfod o’r Pwyllgor
Trwyddedu Cyffredinol 11eg
o Ebrill 2019, fe
benderfynwyd derbyn y cynnig arfaethedig i godi uchaf
bris a ellid ei godi am daith mewn
cerbyd hacni yn unol â’r
argymhelliad, yn ddarostyngedig i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus statudol. Adroddwyd bod ymgynghoriad cyhoeddus wedi ei gynnal ac fe dderbyniwyd 4 ymateb gan unigolion
o’r diwydiant tacsi ac un aelod
o’r cyhoedd. Ategwyd na
ddaeth yr uchaf bris arfaethedig i rym yn
dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus oherwydd bod ymatebion wedi eu derbyn
i’r ymgynghoriad. Cyfeiriwyd at yr ymatebion oedd wedi eu cynnwys
yn yr adroddiad
er mwyn i’r
Pwyllgor eu hystyried cyn dod i benderfyniad
terfynol ar yr uchaf bris. Diolchwyd am yr adroddiad a croesawyd y cynnig i osod uchaf
bris Nododd un aelod
ei fod yn
cytuno gyda’r cynnig mewn ymateb
i osod y filltir gyntaf yn £3.60 ac yna 30c am bob un rhan o 10 milltir ar ôl hynny
oherwydd cymhleth fyddai gosod y cloc tacsi fel
arall. Mewn ymateb i un
o’r ymatebion ynglŷn â bod ffi baeddu tacsi yn
rhy isel (£45) ac y dylid ystyried ei gynyddu i
o leiaf £70, dadleuwyd bod modd talu am lanhau
car yn lleol am o leiaf £40 ac felly ystyriwyd y cynnydd i £70 yn
ormod. Nododd y Rheolwr Trwyddedu, petai’r Pwyllgor yn cymeradwyo’r cynnig i godi’r
uchaf bris, byddai’r ffi glanhau yn
aros yn £45. Mewn ymateb i sylw bod angen sicrhau tegwch i gwmnïau yng nghefn gwlad yn
ogystal a chwmnïau mewn trefi / dinasoedd, derbyniwyd mai anodd yw cael
mynediad at wasanaethau yng nghefn gwlad, ond nad oes rheidrwydd i gwmnïau godi
eu prisiau – uchaf bris sydd yn cael ei osod. Nodwyd y byddai modd i gwmnïau
ymateb yn well i gystadleuaeth gyda’r rhyddid yma. Gwnaed sylw pellach bod uchaf bris arfaethedig Gwynedd yn parhau yn
gystadleuol ymysg uchaf brisiau Siroedd eraill y Gogledd a bod hyn i’w
groesawu. PENDERFYNWYD, WEDI YSTYRIED YR YMATEBION A DDERBYNIWYD YN YSTOD ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |