Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorwyr Craig ab
Iago a Tudor Owen |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd yr
aelod canlynol fuddiant personol am y rhesymau a nodir: ·
Y Cynghorydd Linda Morgan yn eitem 7 ar y rhaglen,
oherwydd ei bod yn gweithio yng Ngholeg Meirion Dwyfor Roedd yr Aelod o’r farn ei
fod yn fuddiant
a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y cais a nodir. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
24.11.16 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 24 11 2016 fel cofnod cywir o’r cyfarfod. |
|
TORIADAU RHEOLAETH TRAETHAU PDF 249 KB Ystyried adroddiad Uwch Reolwr Economi a Chymuned Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad cychwynnol gan yr Aelod Cabinet, yn amlinellu effaith y toriadau a
gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn (Mawrth 2016) ar gyllidebau rheoli traethau
Baner Las a Baner Werdd. Amlygwyd yr oblygiadau a ragwelwyd ond, gan nad oedd y
toriadau wedi eu gweithredu yn llawn, roedd yn anodd rhoi adroddiad manwl ar yr
effaith hyd yma. Er efallai yn gynamserol i drafod yr effaith yn y cyfnod
trosiannol, derbyniwyd bod angen cynnal y drafodaeth a chadw llygad ar yr
effaith bosib. Mewn ymateb i’r
adroddiad, gwnaed cais i ystyried sefyllfa Morfa Nefyn a Nefyn gan nad ydynt
bellach yn cael gwarchodaeth. Nododd y Cynghorydd Lleol nad yw’r arbenigedd gan
y Cyngor Cymuned i dderbyn y cyfrifoldeb ac amlygwyd bod y Cyngor Cymuned yn
ystyried rhoi'r brydles yn ôl i’r Goron. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol ynglŷn â thraethau Morfa
Nefyn a Nefyn: ·
Os na fydd y Cyngor Cymuned a Chyngor Gwynedd yn
mynd i warchod y traethau yma, pwy fydd yn cymryd y cyfrifoldeb? ·
Rhaid dwyn perswâd ar Ystâd y Goron i dderbyn
cyfrifoldeb ·
Pa drefniadau sydd mewn lle cyn gollwng
cyfrifoldeb? ·
A oes modd cyflwyno cynlluniau amgen? Mewn ymateb i’r
sylwadau, derbyniwyd bod sefyllfa Morfa Nefyn a Nefyn yn anodd a bod angen
cynnal trafodaethau gyda’r perchnogion tir i sicrhau rheolaeth mynediad i’r
traeth. Nodwyd bod y Cyngor efallai wedi bod yn rhy awyddus yn y gorffennol i
dderbyn cyfrifoldeb dros reolaeth y traethau, ond bellach yng nghyd-destun
toriadau, amserol fyddai cynnal
trafodaethau gyda’r perchnogion tir ac amlygu iddynt y cyfrifoldeb a’r statws
cyfreithiol sydd arnynt. Petai Cyngor Tref
Nefyn yn ildio eu prydles byddai eu cyfrifoldeb fel endid yn lleihau, a’r
cyfrifoldeb yn disgyn ar Stad y Goron. Amlygodd yr Uwch
Reolwr y byddai yn cyfleu pryderon y Pwyllgor Craffu i Stad y Goron mewn
cyfarfod ym mis Chwefror. Amlygwyd y
sylwadau canlynol am gynnwys yr adroddiad yn gyffredinol: ·
Pryder am ddiogelwch y cyhoedd ·
Angen rheolaeth dros fynediad peiriannau / cychod
i’r traethau ·
Y traethau yn un o brif asedau'r Sir ac felly rhaid
eu gwarchod ·
Baich y cyfrifoldeb ar y Cynghorau Cymuned ·
Cyfrifoldeb moesol er nad yw yn statudol ·
Beth yw cyfrifoldebau'r wardeniaid traeth ·
A oes achubwyr bywyd yn cael eu cyflogi? ·
Pwysig cynnwys gwirfoddolwyr mewn trefniadau
gwarchod traethau ·
Angen caniatáu i bobl leol gymryd rhan ·
Beth yw dyfodol y Faner Las? Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod pwysleisiodd yr Uwch Reolwr nad oedd y cynigion yn rai yr oedd
yr Adran wedi dymuno eu gweithredu, ond
eu bod yn rhan o drefniadau Her Gwynedd. Eglurodd bod y sefyllfa yn un cymhleth
iawn a bod y toriadau wedi eu gweithredu
o fewn amserlen dynn iawn a bod y ffactorau yn wahanol iawn i bob ardal. Mewn
sefyllfaoedd lle nad oedd y trefniadau wedi eu cadarnhau, nodwyd bod rhai
sefydliadau lleol yn dangos diddordeb ac felly posib ystyried modelau addas. Mewn ymateb i sylw am ddyfodol y Faner Las, amlygwyd bod nifer o ffactorau allanol yn dylanwadu ar hyn megis ansawdd y dŵr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Ystyried adroddiad Uwch Reolwr Economi a Chymuned Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad llawn gan yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned yn ymateb i holl gwestiynau
Cyfarfod Paratoi’r Pwyllgor Craffu am ymateb y Gwasanaeth Cymunedau Iach i
adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ‘Cyflawni a llai - Gwasanaethau Hamdden
ynghyd a’r cynnydd y mae’r gwasanaeth yn ei wneud i gyflawni’r targed arbedion
effeithlonrwydd fel y gosodwyd gan y
Strategaeth Ariannol y Cyngor 2015 - 2018. Amlygodd yr Aelod
Cabinet bod y targed arbedion effeithlonrwydd yn un sylweddol a canmolwyd y
Gwasanaeth am weithredu a chyfarch y targed. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â chynnig gwasanaethau am ddim i deuluoedd difreintiedig,
nodwyd nad oedd y canolfannau hamdden yn cynnig gostyngiad ar sail incwm, ond
pecyn rhatach ar amseroedd tawel - ni fyddai’r gwasanaeth yn asesu lefelau
incwm ar sail defnydd. Awgrymwyd bod modd edrych i mewn i hyn. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â sesiynau Nofio am Ddim, adroddwyd mai penderfyniad y
Cyngor oedd peidio caniatáu i rieni fynd i mewn i’r pwll am ddim a bod y
Cynllun Nofio am Ddim yng Ngwynedd wedi derbyn lleihad sylweddol mewn grant. Mewn ymateb i sylw
nad oedd Gwynedd yn ymddangos yn rhoi cyfle cyfartal i blant chwarae, nodwyd
bod pob plentyn yng Ngwynedd yn derbyn aelodaeth am ddim yn y Canolfannau
Hamdden. Diolchwyd i’r
Gwasanaeth am yr adroddiad calonogol a
llongyfarchwyd y gwasanaeth am wyrdroi'r sefyllfa. Er hynny, petai angen codi
ffioedd yn uwch na chwyddiant , gwnaed sylw bod angen bod yn ofalus o beidio
‘anfon pobl i ffwrdd’. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â rhannu ymarfer da, amlygwyd bod hyn yn cael ei wneud
fwyaf drwy strwythur rheolaeth ardal (lle ceir un rheolwr yn gyfrifol am fwy
nag un canolfan) a staff yn rhan o dimau ar draws y Gwasanaeth. Er hynny,
pwysleisiwyd nad oedd y targed wedi ei gyrraedd ac felly cyfeiriwyd at yr angen
i ddarparu cynlluniau amgen er mwyn sicrhau darparu gwasanaeth cynaliadwy i’r
dyfodol. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol: ·
Rhaid ystyried
dewisiadau eraill i leddfu colledion - awgrym bod angen gwaith ymchwil
pellach cyn gweithredu ·
Angen gweld gwell defnydd o
adnoddau ·
Angen denu mwy o bobl drwy’r drysau ·
Efallai bod angen ystyried y canolfannau hamdden
fel busnes yn hytrach na gwasanaeth ·
Mae’r Canolfannau Hamdden yn hanfodol ar gyfer
Iechyd a Lles ·
Rhaid ystyried
gweithgareddau ychwanegol Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â phryd fydd y Gwasanaeth yn debygol o gyflwyno gwybodaeth
am y modelau newydd, awgrymwyd y byddai cyfle i’r Pwyllgor graffu'r cynigion yn
llawn ym mis Medi. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gan ddiolch i’r
Gwasanaeth am eu gwaith a nodi y byddai’r
aelodau yn croesawu derbyn gwybodaeth am fodelau amgen ym Medi 2017. |
|
CLUDIANT ADDYSG OL 16 PDF 414 KB Derbyn adroddiad gan yr Aelod Cabinet ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ymneilltuodd y Cynghorydd Linda Morgan o’r ystafell yn ystod y
drafodaeth Amlygodd y Cadeirydd bod y maes wedi ei graffu yn fanwl, ond mynegwyd
siom gyda’r gweithrediad hyd yma. Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet ar
y cynnydd pellach o ran gweithredu argymhellion Ymchwiliad Craffu Cludiant
Addysg Ol-16. Adroddwyd, bod y coleg yn wynebu anawsterau ariannol, a bellach
wedi gwrthod gweithredu fel asiant. Nid oedd unrhyw resymau penodol dros beidio
bod yn asiant wedi eu cyflwyno. Amlygwyd bod y Polisi Cludiant wedi ei adolygu a bod trafodaethau rhwng y Cyngor a
darparwyr cludiant wedi dwyn ffrwyth drwy ddyfalbarhad. Adroddwyd bod cytundeb
ar hyblygrwydd amser teithio ar bob un o’r llwybrau ac eithrio un. (Nodwyd bod
trafodaethau yn parhau gyda darparwr cludiant am y llwybr dan sylw). Er mwyn
codi ymwybyddiaeth i’r newidiadau, nodwyd yr angen i drefnu ymgyrch
gyhoeddusrwydd erbyn mis Mawrth. Mewn ymateb i’r argymhelliad o gasglu data i
ddarganfod os yw costau teithio yn arwain at fyfyrwyr yn disgyn allan o addysg
bellach, nodwyd bod dau holiadur, ar gyfer y flwyddyn addysgiadol 2016 - 2017
yn cynnwys cwestiwn penodol ynglŷn â chludiant. Eglurwyd y byddai dadansoddiad o’r holiadur ar gael ar
ddechrau tymor yr haf. Adroddwyd bod Fforwm Defnyddwyr wedi ei
sefydlu a bod yn llwyddiannus iawn fel modd o gynnal trafodaethau. Amlygwyd mai aelodau’r Fforwm yw
cynrychiolwyr o’r Coleg, Swyddogion y Cyngor, Darparwyr Cludiant a Myfyrwyr.
Awgrymwyd y gellid rhannu cofnodion y Fforwm i’r cyfarfod paratoi nesaf Mynegodd yr Aelod Cabinet ei fod yn derbyn
bod gweithredu'r argymhellion wedi cymryd amser, ond drwy ddyfalbarhau bod y
mwyafrif o’r argymhellion oedd yn ymwneud a’r Cyngor wedi eu gweithredu. Un o’r
prif lwyddiannau oedd sicrhau hyblygrwydd i’r tocyn teithio. Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod angen i’r Coleg dderbyn cyfrifoldeb dros y
myfyrwyr ·
Angen pwysleisio mai partneriaeth sydd yma rhwng y
Coleg a'r Cyngor a bod angen i’r coleg chwarae eu rhan ·
Angen parhau gyda holi'r Coleg i weithio fel asiant ·
Coleg gyda chyfrifoldeb dros gael myfyrwyr i
fynychu’r coleg ·
Croesawu hyblygrwydd y tocyn - sgôp i ehangu oriau
wedi 6pm? ·
A fyddai modd dosbarthu holiadur i rieni? ·
Awgrym i wahodd yr Aelod Cynulliad Mr Ken Skates
(Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’c Isadeiledd) a chynrychiolwyr Coleg
Menai i’r Pwyllgor nesaf er mwyn ceisio mynd at wraidd y broblem PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, er
bod yr argymhellion wedi cymryd amser
i’w gwireddu, ond gyda dyfalbarhad bod y sefyllfa wedi gwella. Cynigiwyd y
sylwadau canlynol: ·
Cofnodion y Fforwm Defnyddwyr i’w gyflwyno i’r
cyfarfod paratoi nesaf ·
Estyn gwahoddiad i Aelod Cynulliad Mr Ken Skates
(Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’c Isadeiledd a Chynrychiolwyr Coleg
Menai i gyfarfod o’r pwyllgor |