Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones 01286 679780
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD Ethol
Cadeiryd ar gyfer 2021/22. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Etholwyd Y Cynghorydd
Berwyn P Jones yn Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y cyfnod 2021/22. COFNODION: To elect Councillor
Berwyn P Jones as Chair of this committee for 2021/22. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD Ethol Is-Gadeirydd
ar gyfer 2021/22. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Etholwyd Y Cynghorydd Glyn
Daniels yn Is-Gadeirydd i’r pwyllgor hwn am y cyfnod 2021/22. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Simon Glyn a Dafydd Owen. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd datganiadau o fuddiant
personol gan Y Cynghorwyr Elwyn Jones ac Anwen Hughes, yn eitem 7 ar y rhaglen,
gan eu bod yn glercod i Gynghorau Cymuned. Nid oedd yr aelodau o’r farn ei
fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem. The members
weren’t of the opinion that it was a prejudicial interest and therefore
didn’t leave the meeting during the discussion on the Item. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd
fel y gellir eu hystyried Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Ni fu unrhyw faterion brys i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Ebrill, 2021
fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 22ain Ebrill 2021, fel rhai cywir. |
|
I adrodd ar y sefyllfa
gyfredol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd b) Bod adroddiad pellach yn dod gerbron y pwyllgor i’w diweddaru
ar y sefyllfa. COFNODION: Cafwyd rhagair gan y Cynghorydd
Catrin Wager yr Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Bwrdeistrefol yn atgoffa’r
Pwyllgor o’r toriadau sydd wedi bod dros y blynyddoedd ag arweiniodd at
Gynghorau cymuned yn cymryd cyfrifoldeb dros y biniau halen. Eglurwyd bod gwaith wedi ei
gomisiynu i edrych ar y ddarpariaeth gan fod ymdeimlad ei fod yn annheg ar
gynghorau cymuned fwy gwledig neu ar dirwedd wahanol sydd angen fwy o
ddarpariaeth. Ychwanegodd y Pennaeth Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol bod yr adroddiad yn amlygu trefniadau graeanu sydd
eisoes yn bodoli a threfniadau ynghylch ffyrdd prif flaenoriaeth ac ail
flaenoriaeth. Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y
sylwadau canlynol gan aelodau:- - Diolchwyd am yr adroddiad a
llongyfarchwyd y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd ar eu hetholiad. - Gofynnwyd a fydd modd
ystyried cydweithio gydag amaethwyr a chontractwyr lleol yn yr ardal fel bod
ganddynt gyflenwad i’w ddefnyddio ac o ganlyniad ni fydd angen biniau halen o
amgylch yr ardal. - Holwyd os oes gan gynghorau
cymuned a thref yswiriant ar gyfer damweiniau wrth i bobl nôl halen ynteu ydi
hyn yn gyfrifoldeb ar yr Awdurdod. - Nodwyd mewn rhai ardaloedd
bod rhai ffermwyr yn cydweithio efo’r Cyngor ers blynyddoedd a holwyd a fyddai
hyn yn parhau yn enwedig mewn ardaloedd sydd ag lonydd serth o gymharu â threfi
mwy gwastad. - Awgrymwyd y buasai’n tecach i’r
gost cael ei rhannu’n gyfartal rhwng cynghorau tref a chymuned fel bod llai o
bwysau ar bentrefi llai sydd angen ei ddefnyddio fwy. - Atgoffwyd un aelod nad oes
gaeaf caled wedi bod ers i’r ddyletswydd hwn ddisgyn ar gynghorau cymuned a
thref a gofynnwyd beth fyddai’r gost o’r holl ddamweiniau allai ddigwydd petai
ddim cyflenwad. Bod angen ail ystyried y trefniadau, dylid rhoi ystyriaeth i
ail-sefydlu’r gwasanaeth fel yr oedd gyda’r gwariant yn cael ei ariannu drwy
Dreth y Cyngor. - Cwestiynwyd y targed arbed
arian o £100,000 gan nad oedd wedi ei wireddu a holwyd os oes opsiynau gwell i
osgoi trafferth i gynghorau cymuned a thref. - Holodd aelod faint o
gynghorau cymuned a thref oedd wedi ymrwymo ac os yw’r Cyngor yn parhau i lenwi
biniau mewn cymunedau sydd heb ymrwymo. Mewn ymateb i’r sylwadau nododd
y Pennaeth Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol y canlynol:- - Cytunwyd, os fyddai’r Cyngor
yn edrych ar y ddarpariaeth, bod angen cyfle i gydweithio a chadw’r budd yn
lleol drwy roi cytundebau i gontractwyr neu ffermwyr lleol. - O ran yswiriant, nodwyd bod
biniau halen yna i’w ddefnyddio ar sail risg yr unigolyn ac felly does dim
oblygiad dilynol yn erbyn y cyngor cymuned neu dref. - Nodwyd os fydd perygl o risg,
bod cyfrifoldeb yn parhau ar yr Awdurdod Lleol i sicrhau bod y ffyrdd yn
ddiogel. - Cytunwyd bod angen cysoni’r
dull gyfathrebu er mwyn trefnu ail lenwi biniau â halen. - Nodwyd bod yr adran am edrych
ar ffyrdd blaenoriaeth/ ail flaenoriaeth er mwyn sicrhau diogelwch y
defnyddwyr. - Mewn perthynas â’r arbediad arian, eglurodd y Pennaeth ei fod yn awyddus i glywed barn y pwyllgor ar y ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
TRAFNIDIAETH - GWERTH CYMDEITHASOL PDF 194 KB I Ddiweddaru’r Pwyllgor
am y cynnydd hyd yma. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Bennaeth yr Adran Amgylchedd a chychwynnwyd drwy atgoffa’r Pwyllgor o brif
faterion ynghylch cludiant cyhoeddus sef y gost, gorddibyniaeth ar rhai cwmnïau
penodol, a gorddibyniaeth pobl ar fysiau. Pwysleisiwyd bod y rhwydwaith bysiau
wedi datblygu yn ddiweddar ac ategwyd bod anghenion trigolion wedi newid o
ganlyniad i newid arferion dros y cyfnod pandemig. Trafodwyd y prif faterion yr
ystyriwyd wrth greu’r adolygiad strategol dan sylw, gan gynnwys y canlynol: - Adnabod yr angen sydd ym mhob
cymuned gan fod rhai yn hollol ddibynnol ar deithiau penodol er mwyn cyfarch eu
hanghenion sylfaenol. - Y gwaith ymgysylltu sydd wedi
digwydd yn lleol er mwyn defnyddio’r ymatebion i adnabod yr angen. - Adnabod beth yw’r gwerth
cymdeithasol buddsoddi mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. - Atgoffwyd bod sefyllfa
Gwynedd fel ardal fwy gwledig yn creu fwy o heriau ynghylch anghenion
trafnidiaeth. - Trafodwyd yr her o ysgogi
defnyddwyr i deithio ar fysiau unwaith eto ar ôl cyfnod o ddefnydd isel. Yn ystod y drafodaeth, cafwyd y
sylwadau a ganlyn gan aelodau:- - Diolchwyd am y wybodaeth
ddefnyddiol o fewn yr adroddiad a nodwyd bod colli gwasanaeth mewn rhai
cymunedau wedi bod yn ergyd gan fod llawer o bobl eu hangen ar gyfer ymweld â’r
deintydd neu feddyg. - Cynigwyd bod angen edrych ar
amserlen y bysiau er enghraifft cynnig gwasanaeth cynharach er mwyn defnyddio
at ddibenion gwaith neu addysg. - Gofynnwyd am eglurder o ran y
wybodaeth ar dudalen 33 o’r rhaglen am Wasanaeth Rhif 14 yn adroddiad y
Brifysgol. - Holwyd a oes trafodaethau
ynghylch y bysiau wennol gan eu bod yn darfod yn gynnar, a byddai teithiau
hwyrach yn fantais i bentrefi a threfi elwa o ymwelwyr. - Ategwyd y byddai bysiau
hwyrach yn galluogi pobl parcio yng Nghaernarfon a theithio i Eryri yn hytrach
na pharcio ger y mynyddoedd. - Holwyd a ydi’r amserlen yn
adlewyrchu angen presennol y bobl leol gan fod bysiau yn pasio’n hanner gwag. - Ategwyd bod angen ysgogi hen
ddefnyddwyr i ddychwelyd yn ôl i ddefnyddio’r bysiau gan fod gwerth cymdeithasol
uchel i bobl fynd i siopa a theithiau tebyg. Mewn ymateb i sylwadau’r
aelodau, nododd y Pennaeth Adran Amgylchedd y canlynol:- - Bod yr adran yn ceisio pwyso
ar Lywodraeth Cymru i adolygu eu hamserlenni fodd bynnag maent yn awyddus bod
yna daith eithaf sydyn drwy Gymru. - Nododd bod awgrym i’r
Llywodraeth Cymru bod bob yn ail daith y gwasanaeth T2 yn mynd i mewn i
gymunedau a’r gweddill yn fwy uniongyrchol drwy Gymru. - Eglurodd bod adran newid
hinsawdd wedi ei sefydlu o fewn y Llywodraeth a’u bod yn canolbwyntio ar
gludiant cyhoeddus a threnau bysiau er mwyn lleihau ôl troed carbon. - Byddai’n cysylltu gyda’r
aelod o ran y wybodaeth am Wasanaeth Rhif 14. - Mewn perthynas â’r sefyllfa
parcio ar gyfer ymweld ag Eryri, nododd bod gwaith yn digwydd ar y cyd efo Parc
Cenedlaethol er mwyn edrych ar ddatrysiadau i leihau’r defnydd o drafnidiaeth
bersonol. - Cytunwyd bod angen diwygio’r amserlen fel bod teithiau hwyrach ... view the full COFNODION text for item 8. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS PDF 330 KB Darparu adroddiad ar gynnydd gwaith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwynedd ac Ynys Môn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn y rhaglen waith. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Arweinydd y Cyngor gan nodi bod gweithgareddau’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
wedi eu heffeithio’n fawr gan yr haint Covid, ond
wedi ail gydio erbyn hyn. Trosglwyddwyd i’r Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a thywyswyd y Pwyllgor drwy'r adroddiad gan
nodi’r canlynol; - Bod gan y Bwrdd 4
is-grŵp sy’n cyflawni eu gwaith ar rolau amrywiol, a cynigwyd diweddariad
ar rhain. - Mewn perthynas â’r
is-grŵp Newid Hinsawdd nodwyd bod gweithdai yn cael eu cynnal ynghyd ag
ymgysylltu o fewn y gymuned. - Nodwyd bod yr is-grŵp
Cartrefi ar gyfer pobl leol wedi dod i ben gan fod adrannau eraill wedi cymryd
yr awenau a bod gwaith y grŵp bellach wedi ei chyflawni. - Soniwyd am y ffrydiau gwaith
o dan yr is-grŵp Iechyd Meddwl Oedolion a Phlant a bod y Bwrdd yn
cydweithio efo’r arweinyddion. - Mewn perthynas â’r
is-grŵp sy’n ymwneud a’r Iaith Gymraeg, nodwyd bod arweinydd erbyn hyn i’r
grŵp yma ac felly bod gwaith wedi ail gychwyn. Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:- - Holwyd pam bod yr is
grŵp sy’n ymwneud a thai i bobl leol wedi dod i ben. - Cynigwyd bod angen ymgysylltu
gyda thrigolion ynghylch newid hinsawdd ag sut i ymdopi a heriau megis
llifogydd. - Ategwyd at gwestiwn ynghylch
tai i bobl leol a nodwyd bod pryder efo diffyg tai mewn ardaloedd mwy deheuol
yn y Sir, er enghraifft, Tywyn sy’n wynebu argyfwng tai ac sydd efo cymuned
sy’n tyfu. - Bod swyddi gan Llywodraeth
Cymru yn nodi’r angen am lefel cwrteisi o ran sgiliau Iaith Gymraeg. Angen i’r
defnydd o Gymraeg fod yn naturiol drwy Gymru. - Bod angen cwota o ran
ail-gartrefi gyda cholli stoc tai a diffyg mewn tai rhent. Holwyd a oedd
cynllun i blannu fwy o goed o fewn Gwynedd fel rhan o’r agenda newid hinsawdd. Mewn ymateb i’r sylwadau uchod,
nodwyd y canlynol:- - Bod angen osgoi dyblygu ar
bob cyfrif ac felly dyma pam y penderfynwyd bod y gwaith ar dai i bobl leol
wedi dod i ben. Ategodd arweinydd y Cyngor bod gwaith aruthrol wedi ei wneud o
safbwynt tai. - Nodwyd bod llawer i ddysgu gan
drigolion a bod bwriad i fynd allan i gynnal deialog o fewn cymunedau i weld
beth sy’n bwysig iddynt. O safbwynt newid hinsawdd, nodwyd bod hyn yn bwnc
trafod i’r dyfodol gyda thrigolion. - Bod gwaith Is-Grŵp yr
Iaith Gymraeg o ran sicrhau bod y cyhoedd yn derbyn gwasanaeth drwy’r Gymraeg
nid yn unig yn berthnasol i dderbynfeydd ond unrhyw gyswllt gyda’r cyhoedd. - Bod stoc tai annedd yn
gostwng, dros y pedair blynedd diwethaf roedd oddeutu 600 o dai wedi eu
hadeiladu ac oddeutu 800 wedi eu colli o’r stoc dai. Cynnydd anferthol yn y
nifer yn ddigartref gydag argyfwng o ran lletya, angen rhoi mwy o
gyhoeddusrwydd i’r sefyllfa. PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad gan nodi’r
sylwadau a dderbyniwyd. |
|
RHAGLEN WAITH DDRAFFT CRAFFU 2021/22 PDF 213 KB Cyflwyno
rhaglen waith ddrafft craffu 2021/22 i’w mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr rhaglen waith
ddrafft. COFNODION: Cyflwynwyd rhaglen waith ddrafft
craffu 2021/22 i’w mabwysiadu yn dilyn y gweithdy a gynhaliwyd ar 4 Mai 2021. Tynnwyd sylw bod un addasiad
i’r rhaglen waith ers y gweithdy. Eglurwyd oherwydd amgylchiadau tu hwnt i
reolaeth, bod yr eitem ‘Diweddariad Blynyddol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol’
wedi ei symud o gyfarfod 4 Tachwedd 2021 i gyfarfod 13 Ionawr 2022. PENDERFYNWYD Derbyn y rhaglen waith. |