Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Annwen
Davies, Louise Hughes, Linda Morgan, Robert J Wright.
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid arwyddo cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 21 Mai, 2015, fel rhai cywir Cofnod: Derbyniwyd
cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 21 Mai 2015 fel cofnod cywir o’r
cyfarfod. Adroddwyd bod trafodaethau am bresenoldeb un o gynrychiolwyr Plaid
Cymru ar yr Awdurdod Tân wedi eu cynnal. |
|
CARTREFI CYMUNEDOL GWYNEDD PDF 679 KB Ystyried Adroddiad Blynyddol, (2014 -15), Cartrefi Cymunedol Gwynedd. Cofnod: (a)
Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol
Cartrefi Cymunedol Gwynedd (CCG) 2014 - 2015. Cyfeiriwyd at y Cytundeb
Trosglwyddo a nodwyd bod yn ofynnol iddynt nodi sut maent wedi gwireddu’r addewidion a wnaed i
denantiaid yn y Ddogfen Gynnig a gweithredu goblygiadau dan y Cytundeb
Trosglwyddo. Tynnwyd sylw at rai materion penodol: · Bod 167 (98.8%)
o'r addewidion o fewn y Ddogfen Gynnig "Eich Cartref, Eich Dewis"
wedi eu cyflwyno'n llwyddiannus, ers diwedd mis Mawrth 2015. Nodwyd bod CCG yn
parhau i roi blaenoriaeth i swyddi lleol gan sicrhau bod y gwariant yn cael ei
gylchdroi. Ar ddiwedd Mawrth 2015 roedd 257 yn cael eu cyflogi ar raglen gwella Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) ar draws yr holl ddarparwyr gwasanaeth. Wrth
i lif gwaith a rhaglen gwella SATC dynnu tua'r terfyn, nodwyd bod lefelau
staffio Darparwyr Gwasanaeth yn gostwng ac o ganlyniad ffigyrau nifer
prentisiaid a hyfforddeion yn lleihau. · CCG wedi ennill gwobr
Partneriaeth a Mentergarwch Cymdeithas Penseiri Ymgynghorol (2013), a gwobr am Gyfraniad
Arbennig yn y Gwobrwyon Caffael Cenedlaethol (2014). Yn dilyn hynny, maent wedi
derbyn canmoliaeth am y modd y mae busnesau lleol a phobl leol wedi cael budd
o'r swyddi a'r prentisiaethau sydd wedi eu creu. Yn 2015, derbyniwyd gwobr gan
Caffael Cenedlaethol Cymru. · Ers bodolaeth CCG a hyd at Fawrth 2015, mae
180 o brosiectau cymunedol wedi derbyn budd o grantiau (cyfanswm £975,699) drwy
Gronfa Budd Cymunedol CCG gyda buddsoddiad ychwanegol o £5.6M wedi ei ddiogelu
drwy arian cydgyfeirio. · Bod pwyslais CCG
yn newid. Dros y pum mlynedd diwethaf y pwyslais oedd sicrhau bod stoc y
gymdeithas yn cydymffurfio a’r safon ac mae hyn yn parhau yn ymrwymiad clir.
Erbyn hyn, mae cyfeiriad y busnes yn newid a lluniwyd Cynllun Corfforaethol
2015/20 yn amlinellu strategaeth a dyheadau am y pum mlynedd nesaf. Bydd
mesurau lles yn gwasgu ar denantiaid a rhaid rhoi ystyriaeth ar y ddarpariaeth
fydd yn cael ei gynnig. · Y busnes yn parhau
i dyfu er mwyn sicrhau hyfywedd tymor hir - datblygiadau newydd ym Maesgeirchen
a Phwllheli ynghyd â chyrraedd targed i ddarparu tai
fforddiadwy ac ymchwilio i ffynonellau incwm newydd. Er bydd y gwariant yn
lleihau o’r flwyddyn yma ymlaen, bydd CCG yn parhau i fuddsoddi a chylchdroi
arian o fewn y Sir. · Elfennau
cydweithio gyda chwmnïoedd mawr a threfniadau is-gontractio yn codi rhai
pryderon, ond CCG yn parhau i weithio drwy hyn. · Parhau i ymgynghori gyda thenantiaid i gynnwys cwsmeriaid ym mhopeth
maent yn wneud. · O ganlyniad i’r newid pwyslais, y berthynas gyda’r Cyngor, o safbwynt
monitro yn newid. (b)
Yn ystod y drafodaeth
nodwyd y sylwadau canlynol:
i.
Llongyfarchwyd CCG ar eu
llwyddiant o dderbyn gwobr Caffael Cenedlaethol Cymru ac ar eu hadroddiad
positif. Diolchwyd iddynt am lwyddiant y gronfa gymunedol a’u parodrwydd i
wella stadau cymysg eu heiddo. ii. Cymeradwywyd datblygiadau o’r newydd, ond angen sicrhau mwy o unedau ar gyfer pobl hŷn ac unedau un llofft. Mewn ymateb nodwyd bod CCG yn ymwybodol o gynnydd yn nifer pobl hŷn ac o’r ystadegau clir sydd tystiolaethu’r pwyslais ar gadw pobl h ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
DEFNYDD O HAWLIAU GORFODAETH PDF 293 KB Aelod Cabinet:
Cynghorydd John Wyn Jones
a) Cyflwyno crynodeb sgopio ar gyfer Ymchwiliad Craffu b) Ystyried aelodau i wasanaethu ar yr Ymchwiliad Craffu Cofnod: a)
Cyflwynwyd briff cychwynnol ar gyfer Ymchwiliad
Craffu i’r defnydd o hawliau gorfodaeth stryd. Amlygwyd bod Gwasanaeth Stryd
Cyngor Gwynedd yn dîm cymharol fychan yn gweithio o fewn cyllideb net o £300k.
Mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am godi ymwybyddiaeth ac addysgu’r cyhoedd ar
sicrhau amgylchedd glan a diogel, gweithredu polisïau ar graffiti, nodwyddau a lanteri, monitro perfformiad glendid strydoedd a chynnal a
chynorthwyo mewn ystod o ymgyrchoedd perthnasol. Bydd yr ymchwiliad craffu yn
rhedeg am gyfnod o chwe mis gyda’r bwriad o lunio
argymhellion clir yn seiliedig ar dystiolaeth er ystyriaeth gan yr Aelod
Cabinet. b) Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod y broblem baw
ci yn un amlwg i’r dyn ar y stryd, ond rhaid cofio nad
ymchwiliad i faw cŵn yn unig sydd yma
- rhaid ystyried y briff yn ei gyfanrwydd. ·
Angen sicrhau bod pob
ardal yn y Sir yn cael sylw ac nid y mannau prysur yn unig ·
Nid yw’r ymchwiliad yn edrych i graffu gwaith yr
adran, ond i gefnogi gwaith yr adran ac i geisio
ehangu sgôp y gwaith y mae’r adran yn wneud. ·
Biniau amlbwrpas yn cael eu treialu yn Nhywyn -
llwyddiannus iawn ond angen codi ymwybyddiaeth ·
Angen hyfforddiant a
chyhoeddusrwydd pendant a phenodol ·
Angen cadarnhad o
drefniadau’r gwasanaeth – pwy sydd yn casglu? Pwy sydd yn gosod y biniau? ·
Angen ystyried gwm cnoi
– posib yma cydweithio gydag ysgolion. c) PENDERFYNWYD derbyn y briff ac enwebu’r
Aelodau canlynol i wasanaethu ar yr ymchwiliad. Y Cynghorwyr Dilwyn
Morgan, Mike Stevens, Tudor Owen, Annwen Hughes, Annwen Daniels ac Angela Russell
i wasanaethu ar yr ymchwiliad. |
|
CYNLLUNIO A'R IAITH GYMRAEG PDF 203 KB Aelod Cabinet:
Cynghorydd Dafydd Meurig Ystyried adroddiad Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni Cofnod: a) Cyflwynwyd
adroddiad gan Uwch Reolwr Democratiaeth a Chyflawni yn ymateb i ddau bryder
ymysg Cynghorwyr a’r cyhoedd o’r drefn Cynllunio a’r Iaith Gymraeg. Y pryder
cyntaf oedd trefniadau mewnol y Cyngor wrth ymdrin ag asesiadau ardrawiad
ieithyddol mewn pwyllgorau cynllunio. Roedd yr ail bryder yn un ehangach
ynglŷn â statws yr iaith Gymraeg yn y Gyfundrefn Cynllunio. Adroddwyd bod y
mater cyntaf, yn dilyn trafodaeth gyda swyddogion y Gwasanaeth Cynllunio a’r
Cynghorydd Elwyn Edwards, wedi ei
ddatrys gyda dolen ar y rhaglen yn cyfeirio ymlaen at y cynlluniau perthnasol
ar wybodaeth gefndirol. b) O ran statws yr
Iaith Gymraeg yn y Drefn Cynllunio (Lefel lleol a Chenedlaethol), amlygwyd bod
bwriad rhaglennu eitem bwrpasol ar gyfer y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor hwn ar y
17eg o Dachwedd i drafod yn llawn. Wrth ystyried meysydd ar gyfer y drafodaeth
cyflwynwyd sylwadau cychwynnol gyda chais i’r aelodau ychwanegu atynt.; ·
Gosod y cyd-destun
statudol o ran y Bil Cynllunio ac ati ·
Egluro’r Polisi
Cynllunio Cenedlaethol (TAN 20) ·
Egluro’r Polisi
Cynllunio Lleol Cyfredol (Y Cynllun Datblygu Unedol a’r Canllaw Cynllunio
Atodol: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg) ·
Egluro sut mae’r
Gwasanaeth yn gweithredu o fewn y cyd-destun polisi cyfredol ·
Rhoi gwybodaeth ynglŷn â’r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (Drafft) ·
Egluro sut, yng nghyd-destun gofynion TAN 20, y
bydd gofyn i ni ddelio gyda’r Iaith Gymraeg wrth benderfynu ceisiadau cynllunio
ar ôl i'r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd gael ei fabwysiadu a sut mae’r
Gwasanaeth yn ceisio ymateb i hyn. c) Mewn ymateb i’r sylwadau cychwynnol i gynnal y drafodaeth, amlygodd y
swyddogion Cynllunio; ·
yng nghyd-destun TAN 20,
bod canllawiau drafft newydd ar gyfer asesiadau ieithyddol a chymunedol, ond
nad oedd bwriad eu gweithredu tan yr etholiad nesaf - y pwyllgor Cynllunio
felly yn parhau gyda’r polisïau cyfredol ·
Bod arolygwyr apêl yn arbenigo mewn meysydd
cynllunio perthnasol ac nid yn y Gymraeg yn unig ·
Bod Cyngor Gwynedd yn mynd tu hwnt i’r angen yng
nghyd destun canllawiau. ch) Yn
ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Derbyn bod y ddolen yn
syniad da ac effeithiol ·
Angen diffiniad o’r term
‘Cyfarwyddyd Cynllunio’ ·
Rhaid sicrhau bod yr
asesiad iaith yn cael ei gyfarch gan swyddogion priodol – angen i’r arolygaeth
gael ei gwblhau gan swyddogion sydd yn deall y sefyllfaoedd cymunedol ac
ieithyddol ·
Carl Sargeant yn annog
ystyriaeth i’r iaith Gymraeg, pam felly na ellir rhoi ystyriaeth i’r Iaith
Gymraeg cyn yr etholiad PENDERFYNWYD
derbyn bod y trefniadau o ran papurau Pwyllgor Cynllunio wedi gwella’n ddigonol
a chytuno i geisio adroddiad i gyfarfod nesaf y
pwyllgor fel yr amlinellwyd, ond ychwanegu’r elfennau canlynol iddo; ·
Canllawiau asesiadau iaith a pwy sydd yn eu gweithredu ·
Cyfarch rôl arolygaeth cynllunio ·
Angen diffiniad o’r term ‘Cyfarwyddyd Cynllunio’ |
|
CYFLWYNO ARGYMHELLION YMCHWILIAD CRAFFU DIGARTREFEDD PDF 2 MB Aelod Cabinet: Cynghorydd Ioan Thomas Ystyried Adroddiad y Grŵp Ymchwiliad Craffu Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad craffu
Digartrefedd i’r Aelod Cabinet Ioan Thomas. Atgoffwyd pawb gan gadeirydd yr
ymchwiliad, y Cynghorydd Eric Jones, beth oedd
cefndir y briff a rhoddwyd crynodeb o’r gwaith a wnaed. Profwyd bod yr
ymchwiliad wedi bod yn hynod o werthfawr, yn agoriad llygad i faes heriol ac
anodd sydd yn ymdrin ag unigolion a theuluoedd ar draws y gymuned. Amlinellwyd
bod gwaith ardderchog yn cael ei weithredu, ond adnabuwyd argymhellion lle
ystyriwyd lle i wella. Nodwyd nad oedd hyn yn feirniadaeth o’r swyddogion sydd
yn y maes, ond yn fater y gall rhai addasiadau wella’r ddarpariaeth. Diolchwyd
i aelodau’r ymchwiliad am eu hymrwymiad, i ‘r Cynghorydd Stephen Churchman am fynychu pob ymweliad hostel er mwyn sicrhau
cysondeb barn ac i’r swyddogion am eu gwaith, yn arbennig i Susan Griffith (Rheolwr
Digartrefedd a Tai Cefnogol) a Catrin
Roberts (Swyddog Strategol Datblygu Tai). b)
Ategodd yr Aelod Cabinet ei ddiolch i’r aelodau am
eu hymroddiad i’r ymchwiliad oedd wedi cyflenwi rôl craffu werthfawr i faes
heriol. Amlinellwyd, yr her ariannol ac felly anodd derbyn pob argymhelliad,
ond y gobaith oedd gweithredu'r mwyafrif ohonynt. Ategodd, yr Uwch Reolwr Tai ei werthfawrogiad am y gwaith a’r
trosolwg gwerthfawr a roddwyd i’r maes. Amlygodd bod rhai argymhellion eisoes
wedi eu gwireddu neu wedi eu blaenoriaethu (gyda chyfyngiadau ariannol i
eraill). Anogwyd pob aelod i ymweld â Hostel. c)
Yn ystod y drafodaeth
nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Pwysig cydweithio i gael y gorau i’r Digartrefedd -
mae’r gwasanaeth sydd yn cael ei ddarparu yn hanfodol ·
Rhaid sicrhau ymyrraeth gynnar a chanolbwyntio ar
wasanaeth ataliol ·
Llongyfarchwyd yr adroddiad a gwnaed cais am
ddiweddariad ymhen 6 - 9 mis PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, mabwysiadu’r
argymhellion ynddo a cheisio adroddiad yn ôl gan yr Aelod Cabinet mewn tua 6 –
9 mis o’r hyn sydd wedi ei gyflawni yn dilyn yr argymhellion. Dechreuodd y cyfarfod am 10:00am a daeth i ben am 12:05pm |