Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru 01286 679 878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Craig ab Iago, Dilwyn Morgan, Mike Stevens a Glyn Thomas |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad
o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n
fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 19.5.2016 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 19 Mai 2016 fel cofnod cywir o’r cyfarfod yn ddarostyngedig i gywiro presenoldeb Aelodau yn y fersiwn Saesneg. |
|
DIWEDDARIAD BLYNYDDOL Y BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL PDF 359 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn Cyflwyno adroddiad ar ddatblygiad strategol
y bartneriaeth
gan
Reolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol
Gwynedd ac Ynys Môn Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: a)
Croesawyd y Cynghorydd
Dyfrig Siencyn (Aelod Cabinet Diogelwch
Cymunedol), Catherine Roberts (Rheolwr
Cyflawni Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn) a’r Prif Arolygydd Mark Armstrong (Heddlu Gogledd Cymru) i’r cyfarfod. b)
Amlygodd yr Aelod Cabinet bod maes gwaith y
bartneriaeth yn un eang a dyrys gyda’r prif nod o gadw ein Cymunedau’n ddiogel.
Tynnwyd sylw at yr adroddiad oedd yn olrhain cefndir y gwasanaethau a’r
adnoddau, ynghyd â gwaith y bartneriaeth. Nodwyd bod atebolrwydd yn heriol
oherwydd bod angen cydweithio gyda’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol a’r Partneriaethau
Rhanbarthol. Ategodd bod cydweithio da gyda Môn. c)
Eglurwyd bod gofyn i’r Bartneriaeth adrodd yn
ffurfiol i’r Pwyllgor yn flynyddol gan gyflwyno trosolwg o brif ddatblygiadau
strategol y Bartneriaeth dros y flwyddyn ynghyd a’r gwaith comisiynu sydd yn
gosod fframwaith i’r blaenoriaethau. Mae
hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hoblygiadau yn unol ag
adrannau Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006 ch) Mewn ymateb i gwestiynau
gan yr Aelodau a gyfeiriwyd at y Bartneriaeth yn dilyn cyfarfod paratoi, cafwyd
y sylwadau canlynol. ·
Ceir di-dreth. Cyfeiriwyd at wefan berthnasol lle y
gellid mewnbynnu manylion. Nodwyd mai'r Heddlu oedd yn ymdrin â cheir heb dreth
gyda chydweithrediad y DVLA. ·
Parcio ceir heb ddefnydd - dim yn ymddangos yn flaenoriaeth
i’r Heddlu, ond amlygodd y Prif Arolygydd nad oedd hyn yn gywir a bod yr Heddlu
yn cydweithio gyda Gwasanaethau Gorfodaeth y Cyngor a’r DVLA i ddatrys y
problemau hyn. Anogwyd yr Heddlu i gydweithio hefyd gyda’r Cymdeithasau Tai ·
Argaeledd Plismon Lleol - amlygwyd nad oedd rhifau
swyddfeydd yr Heddlu bellach yn cael eu rhannu – hyn yn cael ei weithredu yn
ganolog. Cytunwyd bod gwaith papur yn tra arglwyddiaethu'r gwaith plismona, ond
bod pob ymgais yn cael ei wneud i wella'r sefyllfa yn lleol. Un o’r gwelliannau
hynny yw presenoldeb y PSO’s ar ein strydoedd. ·
Cynllun OWL (Online Watch Link) - Nodwyd bod oddeutu
cost o £30k ar y cynllun a gafodd ei gyllido gan yr Heddlu. Adroddwyd bod y cynllun
wedi dod i ben gan nad oedd digon wedi cofrestru gyda’r cynllun a bod cyfryngau
cymdeithasol megis twitter
a facebook
yn gweithio yn well ·
Cynlluniau cefnogi’r blaenoriaethau. Adroddwyd bod
26 cynllun 2015/2016 yn wyrdd, 8 yn felyn ac 1 yn goch. Nodwyd bod nifer o’r
cynlluniau melyn wedi eu trosglwyddo i gynllun 2016/2017. ·
Galwadau Niwsans.
Adroddwyd bod yr Heddlu wedi bod yn cydweithio gyda Adran Safonau
Masnach i geisio gwarchod pobl hŷn, bregus.
Nodwyd bod teclyn ‘truecall’
wedi cael ei hyrwyddo ac wedi bod yn llwyddiannus. ·
Mabwysiadau Pwerau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol.
Adroddwyd bod Gwynedd, fel Môn, bellach wedi cwblhau’r broses o fabwysiadau’r
pwerau ers Gorffennaf 2016. ·
Trosglwyddo Tîm WISDOM (sydd yn cynnwys swyddogion
yr Heddlu a’r Gwasanaeth Prawf), i weithio o adeilad y Cyngor ym Mhenrallt. Mae’n wasanaeth ble mae’r ddwy asiantaeth yn
cydweithio yn agos i reoli'r troseddwyr mwyaf peryg yn ein cymunedau. O ran
amserlen, y gobaith yw symud y tîm i’r adeilad ym mis Tachwedd. · Amserlen cyflawni dadansoddiadau anghenion ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
ADRODDIAD TROSOLWG O BERFFORMIAD PDF 415 KB Aelodau Cabinet Tlodi, Amddifadedd,
Economi, Tai â’r Amgylchedd Y Cynghorydd Mandy Williams-Davies Economi a Chymuned Y Cynghorydd Ioan Thomas Tai
ac Amddifadedd Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn Iaith Y Cynghorydd John Wynn Jones Amgylchedd Y Cynghorydd Dafydd Meurig Cynllunio
a Rheoleiddio Ystyried adroddiad Arweinydd y Cyngor Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Yn unol â chyfundrefn rheoli perfformiad y
Cyngor, cyflwynwyd adroddiad trosolwg o berfformiad y Cyngor yn canolbwyntio ar
Tlodi, Amddifadedd, Economi, Tai, Y Gymraeg a’r Amgylchedd. Amlygwyd bod yr adroddiad
yn cyfarch cynlluniau trawsnewidiol y cynllun strategol yn ogystal â thynnu
sylw at y mesurau perfformiad sydd yn bwysig i bobl Gwynedd ac yn ganolog i
waith dyddiol y Cyngor i.
Maes yr
Economi a.
Swyddi gwerth uchel ac o ansawdd - amlygwyd bod
prosiect gyda Llywodraeth Cymru i werthu potensial Gwynedd i ddatblygwyr wedi
chwarae rhan flaenllaw mewn creu 35 o swyddi gwerth uchel yn y Sir (diffiniad o
swydd gwerth uchel yw cyflog £26,500+ ). b.
Tynnwyd sylw at 15 swydd yn NMI Gaming
Parc Menai: nifer o gyfleoedd yma a potensial i greu oddeutu dros 200 o swyddi
yn y Sir: angen ystyried sgiliau priodol, meddylfryd a bod yn greadigol i geisio'r budd
gorau o’r cyfleon hyn c.
Dyraniad proffil gwerth uchel – adroddwyd nad oedd
arian yn cael ei dalu tan ar ôl y digwyddiad.
Cyfle yma i werthuso faint o gyfleodd
mae cwmnïau lleol wedi ei gael i ddarparu bwyd a llety er enghraifft,
a’r cyfleoedd o rannu delweddau o’r Sir. Materion
yn codi o’r drafodaeth: -
Nid oes
arian i fuddsoddi ac felly angen bod yn greadigol
wrth ystyried dulliau gweithredu mewn ardaloedd fel Dwyfor a Meirionnydd. Awgrym y dylai'r Cyngor weithio fel galluogwr
- hyn yn her sylweddol. Grantiau ac adnoddau yn prinhau
ac anodd yw adfywio economi heb arian - rhaid
bod yn arloesol a defnyddio'r arfau ar adnoddau sydd
ar gael yn
well. -
Twristiaeth yw prif economi'r ardal - nid oes
cefnogaeth ddigonol gan y Cyngor i dynnu pobl i mewn -
Cyfarch buddsoddiadau Zip
World a Parc Menai, ond siomedig nad oedd cyfeiriad
at fuddsoddiad Plas Heli, Pwllheli -
Angen ymestyn y llwybrau cerdded / llwybrau beicio
ym Mhenllyn -
Yng nghyd-destun canran cwsmeriaid sydd yn fodlon
gyda’r gwasanaeth Amgueddfeydd a Chelfyddydau – awgrymwyd y dylai'r gwaelodlin
fod wedi ei osod cyn trafod y toriadau -
Amgueddfa Lloyd George - rhaid ceisio gweithio mewn
ffordd wahanol i arbed y gwasanaeth -
Awgrym i addasu geiriad yr adroddiad i adlewyrchu
toriadau ii.
Maes Tai a)
Prosiect Cydymdrechu yn erbyn tlodi yn cynnwys dwy
flaenoriaeth - tlodi gofodol a thlodi poblogaeth. Nodwyd bod gwaith ymchwil gan
y Cyngor wedi adnabod bod 6,500 o gartrefi yng Ngwynedd
yn cael eu heffeithio gan y Ddeddf Diwygio Lles. Amlygwyd bydd blaenoriaeth yn
cael ei roi i aelwydydd un rhiant. b)
Agenda Trechu Tlodi - nid yw yn treiddio trwy
adrannau'r Cyngor ac felly awgrymwyd gwahodd Penaethiaid, Swyddogion ac Aelodau
Cabinet at ei gilydd i sicrhau bod yr agenda yn cael ei cyfarch. Materion yn codi o’r drafodaeth: -
Tlodi plant - angen treiddio'r broblem i mewn i
wasanaethau Cyngor -
Cludiant ôl 16 yn enghraifft o ddiffyg ymroddiad i
sicrhau bod plant o aelwydydd tlotaf Gwynedd yn cael addysg uwch -
Calonogol gweld
lleihad yn yr amser disgwyl
ym maes digartrefedd |
|
ARGYMHELLION YMCHWILIAD CRAFFU GORFODAETH STRYD PDF 423 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wynn Jones Ystyried Adroddiad
Ymchwiliad Craffu Gorfodaeth Stryd Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad yr ymchwiliad craffu
Gorfodaeth Stryd i’r Aelod Cabinet John Wynn Jones. Atgoffwyd pawb beth oedd
cefndir y briff a rhoddwyd crynodeb o’r gwaith a wnaed gan y Cynghorydd Angela
Russell (gan fod y Cynghorydd Annwen Daniels, Cadeirydd yr ymchwiliad wedi
gorfod ymadael a’r cyfarfod yn gynnar) b)
Ategodd yr Aelod Cabinet ei ddiolch i’r aelodau am
eu hymchwiliad trylwyr, ac wedi ymgynghori gyda sawl un, cydnabuwyd bod yr
adroddiad yn adlewyrchiad teg o’r gwaith. c)
Yn ystod
y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod yr ymchwiliad yn cynnig ymateb creadigol e.e.,
defnyddio cwmni allanol i osod dirywion fel y gall yr uned fewnol ganolbwyntio
ar elfennau megis hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth ·
Awgrym y dylai
busnesau gyfrannu at gynnal a chadw cylchfannau drwy noddi ·
Ymgynghori gydag ysgolion yn allweddol - rhaid
addysgu pobl i warchod yr amgylchedd ·
Cyfleoedd yma i newid diwylliant ch) Mewn ymateb, derbyniodd yr
Aelod Cabinet yr angen i fod yn greadigol. Adroddwyd bod gwaith codi ymwybyddiaeth
da ac ymgyrchoedd llwyddiannus yn cael ei gwneud gan yr Uned Gorfodaeth. Os
bydd penderfyniad i ddefnyddio cwmni
allanol i osod dirywion, rhaid sicrhau bod pob Cynghorydd yn gefnogol i’r penderfyniad a bod cynllun ymgysylltu,
effeithiol mewn lle. PENDERFYNWYD derbyn
yr adroddiad, derbyn yr argymhellion
ynddo a cheisio adroddiad yn ôl
gan yr Aelod
Cabinet mewn tua 6 – 9 mis o’r hyn
sydd wedi ei gyflawni yn
dilyn yr argymhellion. |
|
ADOLYGIAD CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY PDF 232 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig Ystyried adroddiad yr Aelod
Cabinet Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn adrodd
ar y bwriad i adolygu a diweddaru’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a chael
mewnbwn dechreuol gan y Pwyllgor ar y broses. Eglurwyd bod Deddf Cefn Gwlad
Hawliau Tramwy 2000 yn gosod dyletswydd ar awdurdodau i baratoi a chyhoeddi
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy. Ategwyd bod
gofyn statudol i adolygu'r cynllun bob 10 mlynedd a bod Gwynedd angen cynnal
adolygiad cyn Tachwedd 2017. b)
Amlygwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi
canllawiau i Awdurdodau Lleol sydd yn egluro’r drefn a’r camau sydd i’w cymryd
ar gyfer cynnal adolygiad ynghyd â pharatoi cynllun newydd. Rhaid i’r Awdurdod
ystyried pwrpas a defnydd y Cynllun fel dogfen sydd yn cwmpasu dyletswyddau’r
Awdurdod ac yn gosod blaenoriaethau ym maes hawliau tramwy a mynediad ar droed,
beic a marchogaeth. c)
Ers cyhoeddi’r cynllun yn 2007, adroddwyd bod
newidiadau mawr wedi dylanwadu ar y maes, megis toriadau mewn cyllidebau at
waith cynnal y rhwydwaith o lwybrau, dyfodiad a dylanwad deddfwriaethau newydd
sydd yn gorgyffwrdd a’r maes mynediad, ynghyd a thwf cyffredinol yn y galw am
lwybrau a chyfleusterau mynediad o safon uchel a chydnabyddiaeth o’u
pwysigrwydd i’r diwydiant twristiaeth. ch) Gofynnwyd i’r Pwyllgor gytuno bod
angen a chyfiawnhad dros baratoi cynllun
newydd ar gyfer Gwynedd ynghyd a bod yn gefnogol i’r bwriad o adolygu’r
cynllun. d)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rhwydwaith y
Sir, nododd Uwch Reolwr Cynllunio ac
Amgylchedd bod y cynllun presennol yn blaenoriaethu'r llwybrau poblogaidd ac felly'r adnoddau yn cael eu rhoi yma. Ategwyd y byddai
adolygiad yn rhoi cyfle i Wynedd ail edrych ar y
blaenoriaethau o safbwynt cynnal y rhwydwaith yn hytrach na blaenoriaethu'r
rhai poblogaidd. Ychwanegodd mai tasg werthfawr fyddai adolygu'r cynllun. dd)
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â hawliau mynediad
cyfartal i bawb, adroddodd y byddai’r Ddeddf Hawliau Cyfartal yn cael
ystyriaeth fel rhan o’r adolygiad ac y bydd asesiadau cydraddoldeb angen eu
gweithredu. e)
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r
posibilrwydd o gydweithio gyda’r Parc Cenedlaethol er nad yw’n ofynnol i’r Parc
fod yn rhan o’r adolygiad, nodwyd bod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda’r
Parc ers tua 18 mis. Er nad yw yn
statudol i’r Parc gynhyrchu cynllun, yn ymarferol byddai yn gwneud synnwyr i
sefydlu cynllun a fydd yn cwrdd ag anghenion y Cyngor a’r Parc. Ychwanegwyd ond
bod y Parc yn cefnogi'r egwyddor o baratoi Cynllun ar y cyd. Cydnabuwyd yr
angen i drafod adnoddau a chyllid, ond gyda’r angen am wybodaeth arbenigol am rwydwaith y Parc, awgrymwyd, drwy
gydweithio, y byddai’r cynllun yn fwy cadarn ac ymarferol. f)
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sut bydd llwybrau
yn cael eu blaenoriaethu ac yr angen i ystyried adnoddau lleol i gadw llwybrau
yn agored, adroddwyd na fyddai'r cynllun newydd yn rhoi manylder ar lwybrau
penodol, ond yn edrych ar roi fframwaith yn ei le ar gyfer blaenoriaethu gwaith
gan geisio sicrhau trefniadau gweithredu effeithiol. ff)
Yn ystod
y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: · Beth yw maint y rhwydwaith? A oes modd canolbwyntio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
BRIFF YMCHWILIAD CRAFFU - Y DREFN CYNLLUNIO PDF 229 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig a)
Cyflwyno crynodeb sgopio ar gyfer ymchwiliad
craffu b)
Ystyried aelodau i wasanaethu ar yr
Ymchwiliad Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Cyflwynwyd brîff
ar gyfer cynnal ymchwiliad craffu ar y drefn
gynllunio i ystyried cyfundrefnau cynllunio’r Cyngor a’u haddasrwydd ar gyfer cyd-fynd
ag anghenion cymunedau’r
Sir yn economaidd, yn ogystal â ffactorau
eraill. PENDERFYNWYD derbyn y briff. Enwebwyd yr
Aelodau canlynol i wasanaethu
ar yr ymchwiliad: Y Cynghorwyr Eric M
Jones, Angela Russell, Gruffydd Williams a Tudor Owen. Awgrymwyd anfon neges i’r Aelodau oedd yn absennol er
mwyn rhoi cyfle iddynt enwebu
eu hunain. |
|
BLAENRAGLEN CRAFFU 2016-2017 PDF 73 KB Cyflwyno blaenraglen waith er gwybodaeth Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Cyflwynwyd blaen raglen waith y Pwyllgor am 2016 -
2017 Derbyniwyd y wybodaeth. |