Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones E-bost: NatalieLloydJones@Gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Kevin Morris Jones, Linda Morgan, Aled Wyn
Jones a Gethin Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Bu i’r Cynghorwyr
Berwyn Parry Jones ac Owain Williams ddatgan buddiant ar Eitem 6, gan nodi eu
bod yn aelodau o’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd. Roedd yr aelodau
o’r farn eu bod yn fuddiannau a oedd yn rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 10fed Rhagfyr, 2020 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y
10fed o Ragfyr 2020, fel rhai cywir. |
|
RHAGLEN WAITH CYNLLUN GWIETHREDU HAWLIAU TRAMWY PDF 255 KB AELOD CABINET: Cynghorydd Gareth W Griffith I ystyried
yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Rheolwr Cefn Gwlad ac amlinellwyd y gwaith sydd wedi bod ar y
gweill. Ategodd mai nod y cynllun yw sicrhau bod mynediad hygyrch a diogel i
bobl ddefnyddio llwybrau yn y cefn gwlad, mannau gwyrdd ac yr arfordir.
Gofynnwyd am farn y pwyllgor craffu ar gynnwys yr adolygiad diweddaraf. Rhoddwyd trosolwg
o’r tri phrif bennawd sydd wedi ei hymgorffori yn y cynllun; 1) Cynnal a rheoli rhwydwaith -
nodwyd bod angen cyfarch mathau gwahanol o ddefnyddwyr, fodd bynnag rhoddir
blaenoriaeth i lwybrau sydd mewn categorïau 1 a 2. 2) Y map a datganiad swyddogol -
Eglurwyd y gellir cyfeirio yn ôl at hyn os bydd achos neu anghydfod ynghylch
statws neu fodolaeth llwybr. 3) Asesu a chwrdd ag anghenion defnyddwyr
- Nodwyd bod mwy o alw am lwybrau aml-ddefnydd wedi bod yn ystod y cyfnod clo
gyda mwy yn aros yn lleol. Eglurwyd bod y lonydd las yn caniatáu'r math yma o
ddefnydd i raddau. Eglurwyd bod
gwahaniaeth o gymharu â’r cynllun blaenorol yn nodedig yw’r absenoldeb o
raglenni gwaith manwl. Yn eu lle, nodwyd bod rhaglenni gwaith blynyddol neu bob
dwy flynedd yn cael eu paratoi. Nodwyd bod y cynllun yn cydblethu efo
polisïau’r Cyngor, Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyn agor y
drafodaeth allan i’r pwyllgor, gofynnwyd i’r aelodau ystyried a yw’r adroddiad
yn cyfleu beth yw, yn eu barn hwy, dyheadau a gofynion pobl Gwynedd, o ystyried
mynediad hygyrch i’r cefn gwlad. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:- - Diolchwyd am yr adroddiad
ddrafft a chychwynnwyd y drafodaeth drwy holi pa ddulliau sydd wedi eu
defnyddio er mwyn asesu hygyrchedd i bobl anabl gan fod gymaint o amrywiaeth
mewn anghenion. Yn ychwanegol, gofynnwyd oes oedd ymgynghoriad gyda mudiadau
anabledd wedi digwydd fel rhan o’r cynllun. - Rhoddwyd sylw ar y
posibilrwydd o raddio hygyrchedd y gwanhaol llwybrau er mwyn i drigolion
gynllunio eu bod yn defnyddio llwybrau priodol sy’n cyfarch eu hanghenion. - Trafodwyd os oedd pryder o
golli llwybrau mewn categorïau is sydd ddim yn derbyn arian rheolaidd fel
categorïau 1 neu 2. - Nodwyd bod rhai tirfeddianwyr
yn gwrthod derbyn bod llwybr cyhoeddus ar eu tir. Ategwyd hyn a nodwyd bod
rhwystrau megis ffensiau yn amharu ar rhai llwybrau oherwydd hyn. - Trafodwyd y posibilrwydd o
arwyddion clir er mwyn dangos y ffordd gywir i gerddwyr neu ddefnyddwyr, gan
fod rhai llwybrau yn amwys. - Tynnwyd sylw’r pwyllgor at
gyflwr y llwybr ger yr Eglwys ym Mhistyll. - Cyfeiriwyd at bwysigrwydd yr
adroddiad canlynol, gan bwysleisio bod pawb yn cael budd o’r llwybrau. - Eglurwyd bod gan rhai trefi
neu gymunedau sawl llwybr i gynnal a chadw a gofynnwyd pwy sy’n cyllido'r
rhain. Mewn ymateb i’r
sylwadau, nododd y Rheolwr Cefn Gwlad y pwyntiau isod:- - Sicrhawyd y pwyllgor bod ymgynghoriad
eisoes wedi digwydd ynghylch hygyrchedd i bobl ag anableddau. Ategwyd at hyn
gan nodi bod Swyddog Anabledd y Cyngor wedi cydweithio gyda’r adran. - Cydnabuwyd ei bod yn anodd cwrdd ag anghenion bawb ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL: CYFLEUSTERAU A LLETY I DWRISTIAID PDF 354 KB AELOD CABINET: Cynghorydd
Gareth W Griffith I ystyried yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan yr Arweinydd Tîm Polisi Cynllunio ar y Cyd gyda’r nod o godi
ymwybyddiaeth am y canllaw cynllunio atodol. Gofynnwyd i’r pwyllgor roi adborth
cyn i’r adroddiad fynd gerbron y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd er mwyn roi
penderfyniad i’w fabwysiadu neu beidio. Adroddwyd ar y
cynnwys ac yna tynnwyd sylw at Atodiad 2 sef fersiwn drafft cyflawn o’r Canllaw
Cynllunio Atodol sydd eisoes wedi ei gyflwyno i Bwyllgor Sgriwtini a
Phartneriaeth, Cyngor Sir Ynys Môn. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- - Cwestiynwyd a yw’r polisi
newydd yn caniatáu safleoedd ar gyfer carafanau sefydlog yn ogystal ag rhai
teithiol - Mynegwyd pryder ynghylch
Gor-dwristiaeth fel y gwelwyd llynedd wedi ymlacio cyfyngiadau. - Ategwyd bod nifer uchel iawn
o safleoedd garafanau yng Ngwynedd fel y mae hi. Mewn ymateb i
sylwadau’r aelodau, nodwyd:- - Bod y polisi dan sylw yn
caniatáu ar gyfer carfanau teithiol newydd ynghyd a rhai sefydlog newydd cyn
belled bod y safleoedd sefydlog heb eu lleoli o fewn Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol neu’r Ardal o Dirwedd Arbennig. Nodwyd y bydd y polisïau mewn
perthynas a safleoedd carafanau yn destun y broses o adolygu’r Cynllun Datblygu
Lleol ar y Cyd. - Ar y pryder o
gor-dwristiaeth, sicrhawyd y byddai hyn yn cael ei ail-ymweld - Ceir sawl esiampl lle mae
ceisiadau wedi cael eu gwrthod os ydynt yn groes i gynlluniau perthnasol, a bod
sgôp i wrthod datblygiadau nad ydynt yn cydymffurfio a pholisïau perthnasol. - Bod newidiadau mawr ar y
gweill ar lefel genedlaethol ynghylch cynllunio a byddai hyn yn cael ei
hystyried wrth adolygu’r cynllun. PENDERFYNWYD Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. |
|
GWASANAETH GWARCHOD Y CYHOEDD - GWAITH YN YSTOD Y PANDEMIG PDF 348 KB AELOD CABINET: Cynghorydd
Gareth W Griffith. I ystyried yr adroddiad. Penderfyniad: Derbyn cynnwys yr adroddiad
gan nodi’r sylwadau. Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan y Pennaeth Adran Amgylchedd gan bwysleisio'r gwahanol agweddau
mae’r gwasanaeth gwarchod y cyhoedd wedi bod yn ymdrin â dros y cyfnod
diwethaf. Ategwyd bod proffil y gwasanaeth wedi ei
amlygu gan iddynt weithio ar y rheng flaen yn ddiweddar wrth olrhain
cysylltiadau a gyda chydymffurfiaeth rheoliadau COVID-19. Eglurwyd
un pryder ar gyfer y gwasanaeth wrth symud ymlaen sef darparu gwasanaeth
arferol h.y. archwiliadau hylendid bwyd wrth i lefydd ail agor, yn ogystal â’r
gofynion presennol ynghylch y pandemig. Ychwanegwyd
bod tri swyddog ychwanegol wedi eu penodi ar gyfer rhannu baich gwaith wrth i
ofynion y gwasanaeth ehangu. Ategwyd y byddai’r swyddogion newydd yn cael eu
datblygu a’u hyfforddi at y diben o’u cadw ymlaen fel swyddogion Iechyd a
Diogelwch y dyfodol i gryfhau’r gwasanaeth. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:- - Diolchwyd am yr adroddiad ac
i’r holl adran am eu gwaith pwysig iawn dros y cyfnod COVID-19. - Ategwyd bod achosion o
COVID-19 wedi cynyddu yn ardal Bala er enghraifft, a bod swyddogion olrhain
wedi gweithio’n ddiddiwedd er mwyn cysylltu â phawb. - Gofynnwyd sut mae’r adran yn
ymdrin â thrigolion sydd wedi cychwyn busnesau bwyd o’u tai dros y pandmeig. - Croesawyd y newyddion bod tri
aelod newydd wedi eu penodi i’r adran a nodwyd bod hyn yn symudiad da ar gyfer
y dyfodol. - Diolchwyd am yr holl
ddiweddariadau sydd wedi bod drwy e-bost ar y sefyllfa gwarchod y cyhoedd ac
ategwyd bod yr adroddiad hwn yn amlinellu’r gwaith ychwanegol sydd ar waith. - Gofynnwyd a yw’r gwasanaeth
yn ffyddiog y byddant yn ymdopi’n ddigonol a’u llwyth gwaith wrth i
ddyletswyddau arferol ddychwelyd. Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nodwyd y canlynol:- - Eglurwyd bod yr adran yn
gefnogol o’r trigolion sydd wedi mynd ati i sefydlu busnesau bwyd o’u cartrefi
yn ystod y cyfnod clo. Fodd bynnag, nid pob un sy’n cysylltu â’r adran er mwyn
cofrestru a nodwyd bod hyn yn hanfodol er mwyn i’r adran sicrhau safonau iechyd
a diogelwch. - Atgyfnerthwyd mai pwrpas yr
adran yw cefnogi ac ymgysylltu dim i gosbi a gorfodi. - Nodwyd y byddai straen ar y
gwasanaeth petai archwiliadau yn ailgychwyn ar raddfa arferol, ar ben
dyletswyddau COVID-19. - Cydnabuwyd bod swyddogion yr
adran yn gweithio oriau hir a bod hon yn sefyllfa hirdymor hyd hyn, dim yn un
dros dro fel y rhagwelwyd yn gychwynnol. - Nodwyd bod cefnogaeth gan y
Cyngor a Llywodraeth Cymru er mwyn penodi staff ychwanegol i’w groesawu gan ei
bod yn lleihau pwysau ar y swyddogion. - Parthed y sefyllfa COVID-19,
nodwyd bod y niferoedd yn ystyfnig o fewn y Sir , a bod clystyrau wedi
ymddangos yn ddiweddar. Yn ychwanegol at yr ymatebion, nododd y Pennaeth yr Adran Amgylchedd bod risgiau wedi eu hamlygu dros y deuddeg mis diwethaf gan i faterion ag elfennau risg uchel wedi parhau i ddigwydd. Ategodd bod swyddogion wedi gorfod parhau i ddelio gyda materion difrifol iechyd a lles, er enghraifft materion sy’n ymwneud ag lles anifeiliaid. Ar ben hyn, ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |