Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Natalie Lloyd Jones 01286 679780
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I
dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Y Cynghorwyr Linda Morgan, Kevin M
Jones, Aled
Wyn Jones ac Dyfrig Siencyn (Arweinydd y Cyngor). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I
dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol na gollyngiadau perthnasol. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni fu mater brys. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y
dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 23ain o Fedi, 2021 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar y 23 Medi 2021 fel rhai cywir. |
|
ADRODDIAD ADOLYGU CYNLLUN DATBLYGU LLEOL AR Y CYD PDF 377 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Gareth W Griffith Cyflwyno’r Adroddiad Adolygu a derbyn
sylwadau’r Pwyllgor ar y cynnwys. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan
nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
gan yr aelod cabinet dros Amgylchedd drwy nodi bod yr adroddiad yma gerbron y
Pwyllgor ar gyfer derbyn sylwadau’r aelodau.
Eglurodd y Rheolwr
Polisi Cynllunio ar y Cyd bod gofyniad ar y Cyngor i baratoi adroddiad adolygu
cryno a chynnwys rhai pethau penodol e.e.
wybodaeth fydd yn cael ei hystyried i lywio’r Cynllun datblygu lleol. Cyfeiriwyd at Atodiad 1 a nodwyd ei fod wedi rhannu i mewn i
6 rhan. Trafodwyd y rhannau i gyd yn drylwyr gan esbonio pwrpas bob un. Trafodwyd y camau nesaf sef bod ymgynghoriad cyhoeddus am 6 wythnos cyn
bydd adroddiad terfynol yn dod gerbron y Cyngor Llawn. Gofynnwyd I'r Pwyllgor
ystyried yr adroddiad adolygu drafft a chynnig sylwadau ar faterion fydd angen
eu hadolygu wrth baratoi’r cynllun diwygiedig. Yn ystod y drafodaeth cododd y sylwadau fel a ganlyn: -
Holwyd pam fod y Cyngor yn cynllunio ar y cyd efo
Môn gan nad oes yr un Sir arall yng Nghymru sy’n cydweithio yn yr un modd.
Nododd bod Gwynedd gyda’u hanghenion unigryw sy’n haeddu cynllun unigol. -
Cyfeiriwyd at dudalen 53 yn y rhaglen lle nodwyd
bod y ddarpariaeth tai wedi disgyn o dan darged. -
Codwyd cwestiynau ynghylch dymchwel ac
ail-adeiladu tai o fwy o faint a’r effaith amgylcheddol. Er yn fwy costus i’w
brynu gallai tŷ newydd mwy o faint fod yn fwy gost effeithol
gyda’r costau rhedeg yn is. -
Mynegwyd pryder ynghylch codi tai heb fod yr
angen yno a nodwyd nad oeddent yn fforddiadwy i fwyafrif o drigolion Gwynedd a
Môn. -
Croesawyd yr adolygiad a chytunwyd a sylwadau’r
aelodau eraill ynghylch angen y tai newydd gan fod poblogaeth Gwynedd a Môn yn
statig. -
Awgrymwyd bod angen tai fforddiadwy marchnad
leol ar draws y siroedd ac nid mewn rhai ardaloedd yn unig gan fod tystiolaeth
yn dangos bod tai allan o gyrhaeddiad mwyafrif y bobl leol. -
Holwyd ynghylch y cynllun peilot ‘Scottish Power’ gan fod tlodi tanwydd ym Mhenllyn ond nad yw’r cynllun yn ei gynnwys. -
Mynegwyd balchder bod ystyriaeth yn cael ei roi
i fioamrywiaeth, fodd bynnag tynnwyd sylw at y diffyg trafodaeth ar yr ardal
AHNE. -
Codwyd pwynt ynghylch defnyddio deunyddiau lleol
megis llechi lleol ar dai sy’n cael eu hadeiladu er mwyn sicrhau gwaith yn y
chwarel ac arian yn aros yn lleol. -
Mynegwyd siom nad oes modd i blant o deuluoedd
ffermio aros yn eu cartrefi gan nad oes modd iddynt adeiladu tai ar y tir.
Ategwyd bod hyn yn arwain at ffermydd yn cael eu gwerthu. Mewn ymateb nododd y Swyddogion y canlynol: -
Cytunwyd bod y sefyllfa yn wahanol erbyn hyn yn
dilyn newyddion nad oes datblygiad wylfa ar y gorwel a bod hyn yn cael ei
gynnwys wrth ddiwygio’r cynllun. - Nododd bod sicrhad y bydd tystiolaeth gadarn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYNLLUN GWEITHREDU HAWLIAU TRAMWY PDF 77 KB Aelod
Cabinet: y Cynghorydd Gareth W Griffith Derbyn adborth a sylwadau’r Pwyllgor Craffu ar ddrafft
terfynol o’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy a chymeradwyo’i defnydd ar gyfer ymgynghoriad
cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a) Derbyn y cynllun drafft terfynol gan nodi’r sylwadau a
dderbyniwyd i’w hymgorffori yn y ddogfen er ymgynghoriad cyhoeddus. b) Derbyn yr adroddiad yn dilyn y cyfnod ymgynghori gan nodi’r
sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Agorwyd y
drafodaeth gan yr Aelod Cabinet dros Amgylchedd drwy nodi pwrpas y drafft
terfynol yw derbyn sylwadau gan aelodau’r Pwyllgor. Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Reolwr Cefn Gwlad gan nodi bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn dilyn y sylwadau
ar y cynllun ddrafft terfynol. Cyfeiriwyd at ffactorau sydd wedi ei amlygu o
fewn yr adroddiad sef rhaglen diwygio mynediad, adnoddau ychwanegol a grantiau
i'r gwasanaeth. Nododd bod camau
gweithredu yn parhau fel yr oeddent a rhain fydd yn arwain y gwaith. Ategodd na
fydd angen paratoi rhaglenni gwaith manwl, serch hynny bydd rhaid gwneud fesul
blwyddyn neu dwy flynedd. Yn ystod y drafodaeth
cododd y sylwadau fel a ganlyn: -
Holwyd sut mae’r cynllun
yn gweithio ar hyn o bryd, oes unrhyw broblemau megis rhai tirfeddianwyr yn
gwrthod cydymffurfio. -
Diolchwyd am yr
adroddiad a gofynnwyd beth yw gofynion y Ddeddf Anableddau mewn perthynas â
mynediad at y rhwydwaith llwybrau. -
Awgrymwyd y dylai fod gan
y Cyngor gofnod ar eu gwefan sy’n nodi hygyrchedd y rhwydwaith ar gyfer pobl ag
anableddau. -
Gofynnwyd faint o
gynnydd sydd wedi ei wneud yn asesu llwybrau, gan gyfeirio at adroddiad o
2004/5 a nododd bod 25% o’r rhwydwaith wedi ei hasesu bryd hynny. -
Ategwyd y byddai man
addasiadau yn gwneud byd o wahaniaeth i'r anabl, gan gyfeirio at gŵyn
lleol yr aelod a gofynnwyd am ganllaw ar gychwyn llwybr yn y ward er mwyn
hwyluso hygyrchedd i berson dall. -
Diolchwyd am yr holl
waith gan nodi bod milltiroedd o lwybrau angen eu hasesu ac felly rhoddwyd
cydnabyddiaeth ei fod yn dasg heriol. Cyfeiriwyd at y mwynhad mae pobl wedi
cael yn cerdded y llwybrau yma dros y cyfnodau clo. -
Ategwyd at hyn gan nodi
y buasai modd o gofnodi nifer defnyddwyr y llwybrau yn ddefnyddiol. -
Holwyd am gyflwr y
llwybrau sydd heb fod ar agor ers tro oherwydd diffyg cynnal a chadw. -
Dylid cyflwyno adroddiad yn y dyfodol i’r Pwyllgor ar
gyflwr y rhwydwaith. Mewn ymateb, nododd y
Rheolwr Cefn Gwlad: -
Yn sgil y Ddeddf Cefn
Gwlad a Hawliau Tramwy (2000) sefydlwyd tir agored ar gyfer mynediad ar yr
ucheldir a hefyd cynlluniau a oedd yn targedu sector amaeth gyda grantiau yn
sgil hynny. Ategodd bod y maes yn cael ei asesu ar hyn o bryd yn sgil ‘Brexit’. -
Ar y materion mynediad a
hygyrchedd, bod y tirlun yn amrywio ag bod rhai sefyllfaoedd pan mae’r llwybrau
ar dir anwastad o safbwynt mynediad. Ategodd bod cyfle yn sgil rhaglen grant i
wella llwybrau a’r rhwydwaith, yn yr achos yma gobeithio hwyluso mynediad i
bawb. Cyfeiriodd at enghraifft sef tynnu camfeydd ar gyfer sicrhau hygyrchedd. -
Bod yr adran yn edrych
ar ffyrdd i wella gwybodaeth ar y rhwydwaith gan nad oes llawer o wybodaeth i'w
roi ar gyflwr y rhwydwaith ar hyn o bryd. Ategodd bod angen sefydlu pa rai sy’n
hawdd eu defnyddio ac yn agored i'w ddefnyddio. - Ychwanegodd y Pennaeth Amgylchedd bod y Parc wedi gwella llwybrau a bydd yr adran ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Aelod Cabinet: Y
Cynghorydd Dyfrig Siencyn Adolygu trefniadau
Llywodraethu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a diweddariad ar
waith yr is-grwpiau. Yn ogystal adroddiad ar gynnydd yr asesiadau llesiant. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: a) Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd b) Cytuno i graffu gwaith y Bwrdd ddwywaith y flwyddyn. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Reolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor. Trafodwyd fod yr is-grŵp
cartrefi o dan y bwrdd bellach wedi dod i ben gan ei fod wedi cyflawni ei bwrpas. Eglurwyd bod llawer o gynnydd
wedi bod yn blaenoriaethu yr iaith Gymraeg – mae prosiect am gael ei
gyd-ariannu i weld pam nad yw nifer o Gymry yn defnyddio’r Gymraeg wrth
gysylltu efo cyrff ehangach lleol. Eglurwyd bod cynllun peilot
ar waith efo’r prosiect Newid Hinsawdd yn ardal Porthmadog, aethpwyd ati i
egluro bod bwriad i ehangu’r ardaloedd ymhellach yn y dyfodol. Nododd bod gwaith yr Asesiad
Llesiant yn mynd yn ei flaen. Bu asesiad llesiant yn 2017 ymysg yr ardaloedd.
Gofynnir i'r gwaith asesu yma gael ei wneud fesul 5 mlynedd, sef pam fod yr
asesu wedi cychwyn arni eto. Eleni, mae’r gwaith asesu yma yn cyd-fynd efo’r
Fframwaith Adfywio, sef cynllun ymgysylltu sydd ar waith yng Ngwynedd.
Gobeithir fydd yr asesiad yma wedi gorffen erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Bydd cynllun pellach yn dilyn hynny. Mae'r Bwrdd yn cynnig i'r
adroddiadau gael eu cyflwyno fesul 6 mis yn hytrach na’r drefn bresennol o
gyflwyno adroddiad tair gwaith y flwyddyn. Yn ystod y drafodaeth,
ymatebodd y swyddog i sylwadau’r aelodau
fel a ganlyn: -
Nodwyd fod yr is-grŵp sydd yn dod
i ben o bosibl am gael ei ail bwrpasu at y dyfodol i gael mwy allan o’u
gwybodaeth nhw. -
Eglurwyd bod trafodaethau pellach efo’r
gymuned yn y prosiect ymgysylltu am nodi os oes angen rhoi blaenoriaeth ar
Economi’r gymuned, ac Hinsawdd yn yr un modd. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU DDIWYGIEDIG 2021-22 PDF 218 KB Cyflwyno
rhaglen waith craffu ddiwygiedig ar gyfer 2021/22. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr rhaglen waith
ddiwygiedig. Cofnod: Mewn ymateb i sylwadau gan aelodau yng
nghyswllt amseriad craffu’r eitem ‘Diweddariad – Biniau Halen’, nododd yr
Ymgynghorydd Craffu y byddai’n cysylltu gyda’r Adran i dderbyn cadarnhad o’r
trefniadau llenwi biniau halen, er sicrhau ei fod yn amserol i graffu’r mater
yng nghyfarfod mis Mawrth. |