Lleoliad: Zoom
Cyswllt: Ffion Bryn Jones E-bost: ffionbrynjones@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Kevin Morris
Jones, Mike Stevens, a Gethin Glyn Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw faterion
o frys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod
blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2022 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 13eg Ionawr 2022, fel rhai cywir. |
|
DIWEDDARIAD - ADOLYGIAD PARCIO PDF 100 KB YR AELOD CABINET – CYNGHORYDD
GARETH GRIFFITH Diweddaru’r Pwyllgor am y cynnydd
hyd yma yn nhermau rheolaeth cerbydau modur a phwerau ymdrin â modurwyr sydd yn
parcio’n anghyfreithlon. Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd diweddariad gan Pennaeth Adran
Amgylchedd ar y cynnydd hyd yma ar argymhellion y Grŵp Tasg. Atgoffwyd y
pwyllgor bod y Grŵp Tasg wedi ei sefydlu ym mis Gorffennaf 2019 i ymgymryd ag
adolygiad cynhwysfawr o’r strategaeth parcio weithredol ac ystyried ei
addasrwydd a pherthnasedd i anghenion presennol y Cyngor a’i chymunedau.
Eglurwyd bod adolygu'r
trefniadau parcio ar draws y Sir yn anorfod yn nhermau cynaliadwyedd ariannol o
ran cyllidebau'r awdurdod er sicrhau bod trefniadau rheoli ymarferol yn rhai
effeithiol ac effeithlon. Ategwyd bod adroddiad cynhwysfawr wedi ei gyflwyno
i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau ym mis Rhagfyr 2020 yn cynnig argymhellion
arloesol a phriodol ar gyfer datrys rhai o’r materion yn ymwneud a pharcio.
Cyflwynwyd adroddiad terfynol i’r Cabinet ym mis Chwefror 2021 ac fe
gymeradwywyd yr isod: ·
Mabwysiadu Strwythur Ffioedd Parcio Newydd oedd yn
sicrhau cysondeb ar draws y Sir ·
Adolygu cynnig parcio yn ystod cyfnod y Nadolig ·
Dim newidiadau i’r Cynllun Bathodyn Glas ·
Dim newidiadau i’r Cynllun Parcio i Breswylwyr ·
Cryfhau’r Tîm Gorfodaeth Parcio Cadarnhawyd bod yr argymhellion hyn wedi’u
gweithredu. O ganlyniad i gyfyngiadau’r pandemig, cydnabuwyd fod llawer o faterion wedi cael cryn
effaith ar gymunedau’r Sir yng nghyd-destun parcio. Rhoddwyd diweddariad
pellach ar waith oedd yn cael ei wneud i ymateb i ddau faes penodol, sef
rheolaeth cartrefi modur a phwerau ymdrin â modurwyr yn parcio’n
anghyfreithlon. Yng nghyd-destun cartrefi modur, eglurwyd,
mewn ymateb i nifer o gwynion am gartrefi modur yn parcio mewn lleoliadau
anaddas a bod diffyg rheolaeth arnynt o fewn y Sir, bod gwaith helaeth wedi ei
wneud ar y cyd gyda’r Adran Economi i geisio adnabod goblygiadau’r cynnydd mewn
defnydd cerbydau modur (oherwydd cyfyngiadau teithio dramor) a’r effaith o fewn
y Sir. Ymgysylltwyd gyda gweithredwyr safleoedd carafanau yng Ngwynedd, y
sector cartrefi modur yn ogystal â’r cyhoedd a chymunedau ar draws y Sir drwy
holiadur ac adroddwyd bod yr ymateb wedi bod yn un cadarnhaol iawn ac yn
amlygu’r angen am fesurau ar gyfer rheoli’r sector cartrefi modur yn y Sir yn
well. Yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet yn Nhachwedd 2021 mabwysiadwyd cynllun peilot i ddatblygu
lleoliadau parcio ym meysydd parcio’r Cyngor ar gyfer cartrefi modur fyddai’n
annog defnydd canol trefi a lleihau’r dwysedd o gartrefi modur sy’n defnyddio
lleoliadau anaddas. Ategwyd bod Bwrdd Prosiect wedi ei sefydlu i symud y gwaith
ymlaen ac y byddai angen cyflwyno ceisiadau cynllunio ar gyfer addasu’r meysydd
parcio dan sylw. Yng nghyd-destun mabwysiadu pwerau towio cerbydau i ffwrdd, eglurwyd bod y drefn wedi dod i
rym o ganlyniad i broblemau parcio ar draws y Sir, yn enwedig ardal Llyn Ogwen
a Phen y Pas. Ystyriwyd nad oedd diryw o £35 yn ataliad digonol, ac felly
cyflwynwyd cynllun o symud y car os nad oedd cydymffurfiaeth gyda’r gofynion
parcio. Er bod y cynllun wedi ei ddatblygu gyda chydweithrediad yr Heddlu,
adroddwyd bod y Cyngor bellach gyda hawliau gweithredu ac yn cydweithio gyda
chwmni Gwalia Garage, Caeathro. Nodwyd bod bwriad
cyflwyno diweddariad ar y drefn wrth i’r cynllun aeddfedu. Diolchwyd am yr ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR PDF 234 KB YR AELOD CABINET – CYNGHORYDD DYFRIG SIENCYN Diweddariad ar yr hyn mae’r Cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd i ymateb i’r heriau newid hinsawdd a natur a chamau eraill sydd yn ymarferol i’r Cyngor weithredu arnynt i’r dyfodol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a dderbyniwyd. Cofnod: Cyflwynwyd diweddariad gan
Arweinydd y Cyngor yn adrodd ar yr hyn roedd y Cyngor yn ei wneud i ymateb i’r
heriau newid hinsawdd a natur a chamau eraill sydd yn ymarferol i’r Cyngor
weithredu arnynt i’r dyfodol. Adroddwyd bod y Cabinet wedi
mabwysiadu Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur (a luniwyd gan dasglu a sefydlwyd
gan y Cabinet – Bwrdd Newid Hinsawdd) ar 8 Mawrth 2022. Nodwyd bod y Bwrdd
Newid Hinsawdd yn cynnwys Aelodau Cabinet a Phrif Swyddogion ac yn fwy diweddar
gwahoddwyd Pencampwr Bioamrywiaeth a chynrychiolydd o’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau yn aelodau sefydlog o’r Bwrdd. Eglurwyd bod y Cynllun Argyfwng
yn cael ei arwain gan Pennaeth yr Amgylchedd ond bod cyfrifoldeb ar bob adran
yn y Cyngor i weithredu’r cynllun ynghyd a chyfraniadau gan gymunedau’r Sir. Amlygwyd
bod sylw wedi ei wneud nad oedd cyfeiriad at fuddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn yn
y cynllun, a derbyniwyd ymateb gan y Pennaeth Cyllid yn nodi bod camau
sylweddol wedi eu gwneud yn y maes buddsoddi er nad oes rheolaeth uniongyrchol
gan y Gronfa ar y buddsoddi. Nodwyd mai’r her oedd cyrraedd
targed net sero erbyn 2030. Derbyniwyd bod camau heriol i’w cyflawni ond bod y
Cyngor yn benderfynol o gyrraedd y targed a osodwyd gan Llywodraeth Cymru.
Amlygodd Pennaeth yr Amgylchedd bod y cynllun yn ddogfen fydd yn cael ei
datblygu a’i haddasu’n rheolaidd gan nodi dau gam i’r cynllun: Cam 1 yw’r
cynllun presennol sydd yn cynnwys sefydlu trefn briodol a chamau mae’r Cyngor
yn bwriadu eu cymryd er mwyn newid y gwasanaethau maent yn eu darparu’n
uniongyrchol. Byddai cam 2 yn cael ei gyflwyno ar ôl proses ymgynghori ac yn
cynnwys rhagor o wybodaeth am fwriad y Cyngor i gynghori a chefnogi
gweithgareddau yn y gymuned ar faterion e.e., ynni mewn adeiladau, rheoli a
defnydd tiroedd, ailgylchu, parthau llifogydd. Diolchwyd am yr adroddiad a
diolchwyd i’r Bwrdd am ymestyn yr aelodaeth. Cynigiwyd y dylid ystyried gwahodd
cynrychiolwyr Arfon a Dwyfor-Meirionnydd yn Senedd Ieuenctid Cymru i fod yn
aelodau o’r Bwrdd Newid Hinsawdd.. Nododd yr Arweinydd y byddai’n cyflwyno’r cynnig
i’r Bwrdd. Yn ystod y drafodaeth,
cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- ·
Bod cyfle i Cyngor Gwynedd arwain y
ffordd drwy ddylanwadu a chyflwyno’r cynllun yn effeithiol ·
Bod angen annog y 3ydd sector a’r
sector breifat i ystyried addasiadau cyffelyb ·
Byddai’n fuddiol cael dadansoddiad
costau a budd er mwyn dangos faint o arian gellir ei arbed ynghyd â’r lleihad
mewn allyriadau carbon. Drwy nodi canran agos o ran effaith gellir annog y 3ydd
sector ac unigolion preifat. ·
Bod modd adnabod adeiladau y gellid
cyflwyno system gwresogi ddaearol ·
A roddir ystyriaeth i fuddsoddi mewn
systemau dŵr poeth solar ynghyd â buddsoddi mewn systemau PV (Photovoltaic) i leihau ôl-troed carbon? ·
Bod angen cynnal archwiliad yn
seiliedig ar garbon o adeiladau a cherbydau ·
Bod angen ystyried technoleg amgen
e.e., niwclear, hydrogen. Yr Almaen yn buddsoddi mewn prosiectau hydrogen
adnewyddadwy, a gynhyrchir drwy ddefnyddio dŵr. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â thrydan ac o ble daw’r cyflenwad trydan o ystyried ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |