Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679256
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
unrhyw ymddiheuriad am absnoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr
Robert Glyn Daniels, Linda Morgan, Beca Roberts a Rob Triggs. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS I nodi
unrhyw faterion o frys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgoe
hwn a gynhaliwyd ar 19.01.2023
fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 19 Ionawr 2023, fel rhai cywir. |
|
I graffu’r
sail tystiolaeth, yr opsiynau ardaloedd a’r opsiwn a ffafrir ar gyfer cyflwyno
Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd a fyddai’n
galluogi rheoli’r trosglwyddiad mewn defnydd o dai preswyl i ddefnydd gwyliau
(ail-gartrefi a llety gwyliau). Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ·
Derbyn yr
adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. ·
Argymell i’r
Cabinet y dylid cymeradwyo yr opsiwn a ffafrir o ran cyflwyno Cyfarwyddyd
Erthygl 4, sef ‘Opsiwn 4: Gwynedd gyfan (Ardal yr Awdurdod Cynllunio Lleol
Gwynedd)’. ·
Gofyn i’r
swyddogion polisi cynllunio ail-edrych ar y trothwy y diffinir gorddarpariaeth
o lety gwyliau ac ail gartrefi mewn cymunedau, yn ystod y broses o lunio
Cynllun Datblygu Lleol newydd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet
Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd ac Arweinydd Tîm (Uned Polisi
Cynllunio ar y Cyd – Gwyned a Môn). Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau
canlynol: -
Atgoffwyd
yr aelodau bod tri dosbarth defnydd newydd bellach wedi dod i rym, sef: o C3 – Prif Gartref o C5 – Ail Gartref Eilaidd o C6 – Llety Gwyliau -
Cadarnhawyd
bod perchnogion tai yn gallu newid dosbarth defnydd eu tai heb gais cynllunio a
byddai cyfarwyddyd Erthygl 4 yn rheoli hyn, drwy ychwanegu’r orfodaeth i wneud
cais cynllunio cyn newid dosbarth defnydd eu tai. -
Pwysleisiwyd
bod cyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4 yn ddull o reoli stoc dai oddi fewn
ardaloedd, a thrwy hynny hwyluso gallu pobl leol gael tai o fewn eu cymunedau. -
Adroddwyd
bod y broses o gyflwyno’r cyfarwyddyd yn newydd a digynsail a chadarnhawyd bod
yr adran yn y broses o dderbyn cyngor cyfreithiol ar gyfer y gwahanol agweddau
o’r broses. -
Eglurwyd
ni fyddai cyfarwyddyd Erthygl 4 yn berthnasol i ardal awdurdod cynllunio Parc
Cenedlaethol Eryri. Er hyn, mae swyddogion yr adran yn cydweithio yn agos
gyda’r Parc i rannu buddion/profiadau. -
Adroddwyd
bod cynnydd wedi bod mewn niferoedd yn trosglwyddo o fod yn uned breswyl i
fusnes llety gwyliau gan dalu treth annomestig. -
Nodwyd
bod ystyriaeth wedi cael ei roi i gyfres o opsiynau ardaloedd cyn i’r
swyddogion dod i gasgliad ar y ffordd gorau o gyflwyno cyfarwyddyd Erthygl 4
sef: o Opsiwn 1: Dwyfor (ardal beilot y
Llywodraeth) o Opsiwn 2: Ardaloedd Cynghorau
Cymuned/Tref/Dinas ble fo’r ddarpariaeth bresennol o gartrefi gwyliau yn fwy na
15% o’r stoc dai o Opsiwn 3: Ardaloedd Bregus (ardaloedd sydd
dan fygythiad) o Opsiwn 4: Gwynedd gyfan (Ardal Awdurdod
Cynllunio Lleol Gwynedd). -
Cadarnhawyd
bod gwaith ymchwil y swyddogion yn awgrymu mai’r opsiwn a ffafrir i gyflwyno
cyfarwyddyd Erthygl 4 ydi Gwynedd gyfan (Opsiwn 4). Er hyn, nodwyd nad oes modd
bod yn sicr o oblygiadau ar yr ardal. Tybiwyd mai dyma’r opsiwn symlaf ymlaen
gan na fyddai amheuaeth o ba ardaloedd sy’n disgyn o dan reolaeth y cyfarwyddyd
– oni bai am ardaloedd o dan reolaeth cynllunio ardal Parc Cenedlaethol Eryri. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a
chynnig sylwadau. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: Nododd aelod ei fod yn falch bod
argymhelliad clir ond yn pryderu am yr effaith bosib ar ardaloedd o dan y
trothwy gormodedd o ail gartrefi a llety gwyliau o 15% o’r stoc dai. Eglurodd y Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd
na fyddai gweithredu cyfarwyddyd Erthygl 4 yn newid polisïau cynllunio ac mai
polisiau’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd,
fydd dal yn weithredol yn dilyn cyflwyno
cyfarwyddyd erthygl 4. Mewn ymateb i ymholiad am ddiffiniad o ‘ail gartrefi a llety gwyliau’, adroddodd Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd nad oes polisi penodol ar gyfer llety gwyliau ac ail gartrefi. Er hyn, eglurwyd bod cymal ym Mholisi TWR 2 yn sicrhau na fydd caniatâd cynllunio yn cael ei ganiatáu os yw’n amharu ar stoc dai Gwynedd. Sicrhawyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
I gyflwyno Gwybodaeth arm drefniadau
i sicrhau cymunedau glan a thaclus. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet
Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd,
Pennaeth Adran Priffyrdd Peirianneg ac Ymgynghoriaeth
Gwynedd a’r Pennaeth Cynorthwyol. Tynnwyd sylw yn fras at y prif bwyntiau
canlynol: -
Eglurwyd bod y gwasanaeth glanhau strydoedd yn weithredol ar bob safle
ffordd gyhoeddus a ffordd fabwysiedig gan y Cyngor. Mae’r rhain wedi cael eu
rhannu i barthau yn unol â’u defnydd: o Parthau dwysedd defnydd uchel – canol trefi yn bennaf o Parthau dwysedd defnydd canolig – ardaloedd preswyl yn bennaf o Parthau dwysedd defnydd canolig – ardaloedd llai dwys megis ffyrdd Sirol
gwledig. -
Cadarnhawyd bod y
gwasanaeth casglu ac ailgylchu gwastraff wedi trosglwyddo i’r Adran Amgylchedd
yn ddiweddar ac mae hyn wedi rhoi cyfle i swyddogion ail edrych ar sut mae’r
ddarpariaeth yn cael ei gyflwyno. Mae’r gwasanaeth tacluso yn parhau o dan
reolaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth
Gwynedd. -
Eglurwyd bod adolygiad o’r gwasanaeth wedi cael ei gynnal. Yn
gyffredinol, cydnabuwyd bod gwaith y gwasanaeth yn dda iawn ond mae materion
cyllidol ac iechyd a diogelwch i’w cyfarch.
Adroddwyd bod amserlen wedi ei osod ar gyfer cyfarch cylchdeithiau yn y
dull mwyaf effeithlon erbyn diwedd yr haf. -
Manylwyd bod ‘Cadw
Cymru'n Daclus’ yn cynnal arolwg annibynnol blynyddol ar lendid strydoedd. -
Esboniwyd bod yr adran
yn cynnal treialon biniau clyfar. Mae 5 bin o fewn y treial ac maent yn
defnyddio ynni solar a thechnoleg fodern i wneud cais i’w wagio yn awtomatig
i’r adran pan maent yn llawn. -
Trafodwyd bod addysgu
plant a phobl Gwynedd, yn ogystal ,â chodi ymwybyddiaeth o effeithiau ysbwriel,
yn rhan o broses newid ymddygiad er mwyn cyflawni buddion amgylcheddol yn y
tymor hir. -
Adroddwyd ar fwriad yr Adran i gyfuno gwasanaethau glanhau stryd,
elfennau gorfodaeth a'r timau tacluso i un gwasanaeth newydd o’r enw Edrychiad
Stryd. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: Mewn ymateb i ymholiadau gan aelodau,
cadarnhaodd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth
Gwynedd bod timau gorfodaeth yn wynebu trafferthion capasiti
ar hyn o bryd sy’n arwain at oediad mewn gosod biniau baw cŵn newydd ar ôl
i’r adran dderbyn ceisiadau. Er hyn, cadarnhawyd bod y Timau Tacluso yn anelu i
ddosbarthu biniau mor fuan â phosibl gan gadarnhau mai cyfanswm cyfyngedig o
finiau sydd yn cael eu cadw ym meddiant y Cyngor. Nododd aelod bod rhai unigolion yn taflu
sbwriel allan o’u ceir. Holodd a fyddai’n bosib bod yn fwy rhagweithiol yn y
llefydd roedd hyn yn broblem gyson e.e. cilfannau.
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Adran y gellir edrych ar y lleoliad a
grybwyllwyd gan yr aelod i dreialu trefniant o’r fath. Holodd aelod os oedd cymhariaeth o’r costau
ynghlwm â chlirio sbwriel a gwagio bin wedi ei wneud. Mewn ymateb, nododd y
Pennaeth Adran ei fod yn fater i’w gynnwys fel rhan o’r adolygiad. Mewn ymateb i ymholiad ar y sialensiau o atal llygredd, nododd Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd bod bwriad i benodi Swyddog ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |