Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Edgar Wyn Owen ac Elfed Powell Roberts.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd Rhys Tudur ar gyfer Eitem 5 gan ei fod wedi bod yn aelod o Gomisiwn Cymunedau Cymraeg yn y gorffennol. Nid oedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 160 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Medi 2024 fel rhai cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Medi 2024, fel rhai cywir.

 

5.

CYNLLUNIO A CHYMUNEDAU CYMRAEG pdf eicon PDF 257 KB

I ddarparu sicrwydd bod y drefn cynllunio yn ystyried effaith datblygiadau ar gymunedau Cymraeg bregus.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.    Bod y Pwyllgor yn gofyn i Lywodraeth Cymru i adolygu ‘Polisi Cynllunio Cymru’ a  ‘Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20: Cynllunio a’r Gymraeg’ er mwyn sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ystyriaeth briodol.

3.    Gofyn i’r Cymdeithasau Tai ddarparu data i’r Cyngor er mwyn asesu gwybodaeth am yr iaith Gymraeg ym maes cynllunio.

4.    Cydnadbod nad oes cymhwyster penodol wedi ei ddatblygu ar gyfer asesu effaith ieithyddol datblygiadau cynllunio. Argymell i’r Adran Amgylchedd a’r Uned Iaith y dylid cysylltu gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Phrifysgol Bangor i’w hannog i ddatblygu hyfforddiant addas. .

5.    Dylid atgoffa Cynghorau Cymuned a Thref o’u rhyddid i gyflwyno sylwadau am effaith ieithyddol posib gall datblygiadau cynllunio lleol ei gael ar yr ardal.

6.    Dylid ystyried cynnal hyfforddiant cynllunio ieithyddol i Gynghorwyr er mwyn eu galluogi i gynorthwyo Cynghorau Cymuned a Thref i gyflwyno sylwadau ar effaith ieithyddol datblygiadau cynllunio.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Bennaeth a Phennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd ac Arweinydd y Tîm Polisi Cynllunio. Roedd yr Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu hefyd yn bresennol i roi arweiniad ar faterion yr iaith Gymraeg.

 

Cymerodd y Pennaeth Amgylchedd y cyfle i ddiolch i’r Cynghorydd Dafydd Meurig am ei gefnogaeth i’r Adran a’i angerdd am yr iaith Gymraeg a materion cynllunio drwy gydol ei gyfnod fel Aelod Cabinet Amgylchedd. Ategodd y Cadeirydd y diolchiadau i’r cyn Aelod Cabinet ar ran y Pwyllgor.

 

Adroddwyd bod gwarchod yr iaith Gymraeg yn bwysig iawn i’r Adran a'i fod wedi cydweithio gyda’r Uned Iaith er mwyn paratoi’r adroddiad hwn.

 

Cadarnhawyd bod Canllaw Cynllunio Atodol - Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy yn weithredol er mwyn sicrhau bod effaith datblygiadau ar yr iaith Gymraeg yn cael sylw teilwng o fewn y maes cynllunio. Manylwyd bod dau brif faen prawf i weld o fewn y Canllaw hwn er mwyn sicrhau bod datblygwyr yn deall pwysigrwydd cyflwyno datganiad / asesiad effaith  iaith wrth gyflwyno cais am ganiatâd cynllunio. Eglurwyd mai cyfrifoldeb y datblygwr yw darparu asesiad iaith ar gyfer unrhyw ddatblygiad gan nodi nad yw’r Cyngor yn eu cynorthwyo i wneud hyn y tu hwnt i’r arweiniad a geir o fewn y Canllaw Cynllunio Atodol.

 

Eglurwyd bod y Canllaw Cynllunio Atodol yn rhoi arweiniad manwl i ddatblygwyr a darpar ymgeiswyr ynglŷn ag ystyriaethau’r iaith Gymraeg. Ymhelaethwyd ei fod hefyd yn darparu methodoleg ar sut i ddatblygu datganiadau ac asesiadau effaith iaith Gymraeg. Cadarnhawyd bod yr Adran wedi cychwyn y broses o ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol newydd ar gyfer ardal awdurdod cynllunio Gwynedd (gan eithrio ardaloedd y Sir sydd o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol). Nodwyd bod y broses hon yn rhoi’r cyfle i ystyried a diwygio gweithdrefnau, pholisïau a’r Canllaw Cynllunio Atodol. Tynnwyd sylw y bydd cyfle i Aelodau Etholedig ac i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau yn benodol i roi mewnbwn fel rhan o’r broses o ddatblygu Cynllun newydd.

 

Nodwyd bod enghreifftiau wedi bod yn y gorffennol o geisiadau cynllunio sydd wedi cael eu gwrthod oherwydd nad oedd tystiolaeth ddigonol am yr iaith Gymraeg. Eglurwyd  bod rhai o’r achosion hyn wedi cael eu gwrthod ar apêl cynllunio i Lywodraeth Cymru hefyd.

 

Pwysleisiwyd bod y maes cynllunio yn gweithredu o fewn fframwaith statudol a fframwaith polisi cenedlaethol. Eglurwyd bod y rhain yn gosod y sail a chyd-destun i Bolisi Cynllunio Gwynedd ac effeithio a chyfyngu ar beth ellir ei gynnwys o fewn Cynllun Datblygu Lleol. Eglurwyd bod gwybodaeth bellach ar faterion polisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol wedi ei gynnwys o fewn yr Adroddiad.

 

Cyfeiriwyd at Bolisi PS 1 'Yr Iaith Gymraeg a’r Diwylliant Cymreig’ o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Eglurwyd bod y polisi yn gosod allan y gofynion o ran ystyriaeth o’r iaith Gymraeg. Tynnwyd sylw at y trothwyon a oedd wedi eu cynnwys yn Atodiad 1 o’r adroddiad.

 

Tynnwyd sylw bod y drefn cynllunio yn gallu hyrwyddo’r iaith Gymraeg drwy annog datblygwyr i ddefnyddio enwau Cymraeg neu ddwyieithog yn ogystal â defnyddio enwau Cymraeg mewn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU pdf eicon PDF 217 KB

Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

1.    Rhaglennu’r eitemau canlynol:

·       ‘Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur: Adroddiad Blynyddol 2023/24’ ar gyfer cyfarfod 23 Ionawr 2025.

·       ‘Toiledau Cyhoeddus’ ar gyfer cyfarfod 20 Mawrth 2025.

2.    Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2024/25.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu.

 

Atgoffwyd bod Blaenraglen ddiwygiedig ar gyfer 2024/25 wedi ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Medi 2024.

 

Eglurwyd bod yr eitem ‘Cynllun Datblygu Lleol Newydd – Dewisiadau Strategol, Gweledigaeth ag Amcanion’ wedi llithro o’r cyfarfod hwn i gyfarfod 23 Ionawr 2025. Nodwyd bod eitem ‘Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur: Adroddiad Blynyddol 2023/24’ hefyd wedi cael ei raglennu ar gyfer y cyfarfod hwn ond derbyniwyd cais i’w ail-raglennu ar gyfer cyfarfod Ionawr 2025.

 

Adroddwyd bod yr eitem ‘Toiledau Cyhoeddus’ wedi cael ei raglennu  ar gyfer y cyfarfod hwn, ond cyn cyhoeddi’r rhaglen derbyniwyd neges yn nodi ni fyddai’n bosib cyflwyno’r adroddiad i’r cyfarfod yma. Eglurwyd yr angen i graffu’r eitem cyn cyflwyno’r Strategaeth Toiledau Cyhoeddus i’r Cabinet. Cadarnhawyd yr argymhellir rhaglennu’r eitem hon ar gyfer cyfarfod 20 Mawrth 2025 er mwyn sicrhau bod cyfle i graffu ychwanegu gwerth cyn i’r Cabinet ystyried y Strategaeth.

 

PENDERFYNWYD

1.     Rhaglennu’r eitemau canlynol:

·       ‘Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur: Adroddiad Blynyddol 2023/24’ ar gyfer cyfarfod 23 Ionawr 2025.

·       ‘Toiledau Cyhoeddus’ ar gyfer cyfarfod 20 Mawrth 2025.

2.     Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2024/25.