Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru 01286 678 878
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd am 2016/17 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Caerwyn Roberts yn Gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2016/17. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol Is Gadeirydd am 2016/17 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Dilwyn Morgan yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2016/17. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr, Stephen Churchman, Tudor Owen, Mike Stevens a Glyn Thomas |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant personol mewn perthynas â’r eitem a nodir isod: • Y Cynghorydd Angela Russell, yn eitem 9 ar y rhaglen oherwydd natur ei gwaith. • Y Cynghorydd Linda Morgan, yn eitem 12 ar y rhaglen oherwydd ei bod yn gweithio yng Ngholeg Meirion Dwyfor Ymneilltuwyd y ddwy o’r ystafell yn ystod y drafodaeth dan sylw |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y
cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi
cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 12.01.16 fel rhai cywir . Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2016 fel cofnod cywir o’r cyfarfod |
|
Aelod Cabinet: Cynghorydd John Wynn Jones Ystyried yr adroddiad, a gwneud argymhelliad ar Gynllun i geisio cadw
toiledau cyhoeddus, sydd dan fygythiad o gau oherwydd y toriadau, yn agored a
gweithredol i’r dyfodol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd
yn argymell cynllun i geisio cadw'r toiledau
cyhoeddus hynny sydd o dan fygythiad o gau, yn agored a gweithredol i’r
dyfodol. Cyfeiriwyd at ymarferiad Her Gwynedd lle bu i’r Cyngor, yn ei gyfarfod
ar y 3ydd o Fawrth 2016, argymell gwneud toriadau
oedd yn cynnwys ‘cau 50 allan o 73 o doiledau cyhoeddus y Sir’ gan dorri
£244,000 o’r gyllideb ar gyfer y gwasanaeth. Eglurwyd mai bwriad y cynllun
amgen yma oedd cwrdd â’r toriad drwy geisio cynnal y ddarpariaeth bresennol o doiledau cyhoeddus
yn y Sir. Gwnaed cais gan yr
Aelod Cabinet i’r Pwyllgor ystyried y cynllun
a chyfeirio eu hargymhelliad i’r Cabinet. Eglurwyd bod y Cynllun yn
ddibynnol ar ennyn diddordeb Cynghorau Cymuned a Thref i Bartneriaethau er mwyn
sicrhau parhad ar y ddarpariaeth, drwy gyfrannu yn ariannol at y cynllun.
Tynnwyd sylw at y ddau opsiwn: ·
Opsiwn 1 - lefel cyfraniad o £4000 i bob toiled yn
agored drwy’r flwyddyn a chyfraniad o £2000 i bob
toiled sydd yn agored yn dymhorol ·
Opsiwn 2 – cyfraniad
cyfwerth a thraean (33.3%)
cost blynyddol ar gyfartaledd o weithredu’r toiled Nodwyd bod y
cynllun yn fodd o gynnal y ddarpariaeth, ac os na fydd sêl bendith i’r cynllun,
byddai rhaid asesu'r angen yn lleol. b)
Yn ystod
y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol yn erbyn yr
argymhelliad: ·
Nad oedd
y cynllun wedi ei graffu yn
ddigonol ·
Papur Gwyn gan y Gwasanaeth Iechyd Genedlaethol
(GIG) yn nodi bod rhaid gwella profiad y claf drwy 'wrando a dysgu’ ac i
sefydliadau ddatblygu strategaethau clir i gyfarch hyn - cau toiledau cyhoeddus
yn groes i hyn. ·
Nad oedd digon o ystyriaeth wedi ei roi ar
drigolion bregus a thrigolion gyda chyflyrau iechyd. ·
Rhaid sicrhau bod digon o doiledau cyhoeddus ar
gael - Gwynedd yn ardal sydd yn ddibynnol ar dwristiaeth ac felly angen sicrhau
toiledau o ansawdd uchel. ·
Deiseb yn erbyn y penderfyniad o gau'r toiledau yn
casglu momentwm gyda dros 2000 o enwau - nid oes rheswm digonol i gau toiledau
cyhoeddus c)
Mewn ymateb i’r sylwadau, atgoffwyd yr Aelodau bod
toriad i’r gwasanaeth eisoes wedi ei gytuno yn y Cyngor Llawn ym mis Mawrth
2016, ac felly rhaid oedd ystyried ffordd o symud ymlaen. Derbyniodd yr Aelod
Cabinet y sylw bod y pwnc yn un oedd yn amlygu pryderon ymysg cymunedau. Nododd
hefyd fod ganddo gydymdeimlad llawn gyda thrigolion â chyflyrau iechyd ac y
byddai yn rhoi ystyriaeth lawn i hyn. Ategwyd y byddai'r toiledau yn parhau ar
agor hyd nes bydd ymgynghori gyda’r cymunedau perthnasol wedi cymryd lle. ch) Mewn ymateb, nodwyd y
sylwadau canlynol yn gefnogol i’r argymhelliad: ·
Derbyn yr adroddiad a llongyfarch yn adran am
ystyried cynllun amgen ar gyfer toiledau cyhoeddus mewn dull positif.
Cyfeiriwyd at enghreifftiau da drwy’r Sir o doiledau
sydd eisoes yn cael eu rheoli gan y Cynghorau Cymuned ·
Croesawu'r adroddiad. Cyfle da yma i sefydlu partneriaeth gymunedol - dyma'r ffordd ymlaen. Cyfle da i gydweithio. · I’r rhai hynny sydd yn fregus neu a chyflyrau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADOLYGIAD O DREFNIADAU CASGLU GWASTRAFF GWYRDD Y CYNGOR PDF 555 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd
John Wynn Jones Ystyried yr
adroddiad a gwneud argymhellion ar y drefn awgrymir ar gyfer codi
ffi ar drigolion
am gasglu gwastraff gardd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ymneilltuodd y Cynghorydd Angela Russell o’r
ystafell yn ystod y drafodaeth. a)
Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd
yn amlygu bwriad yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol i godi ffi am gasglu gwastraff gardd. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd
16.12.14 bu i’r Cabinet gymeradwyo gweithredu ystod o gynlluniau arbedion effeithlonrwydd a oedd yn cynnwys ‘Adolygu
Gwasanaeth Gwastraff Gardd’ i gyflawni arbedion o £750,000 yn y flwyddyn ariannol 2017/2018. O dan ‘Reoliadau
Gwastraff a Reoli’r 2012 gall awdurdodau godi ffi ar gasglu
gwastraff gardd gan drigolion (hyn ddim i gynnwys y
gost o’i waredu) ac mae Deddf Amddiffyn yr Amgylchedd 1990 yn rhoddi
hyblygrwydd ar godi ffi neu beidio ar hawl pe dymunir i godi ffi resymol am y
gwasanaeth. Mae Llywodraeth
Cymru yn ei ganllawiau ymarfer da ‘Glasbrint Casglu’ yn argymell y dylid codi
ffi ar drigolion am gasglu gwastraff gardd ar amlder pob pythefnos a hyn i bwrpas lleihau ar y
cyfaint o wastraff gardd a roddir allan gan drigolion
ac er mwyn arbed costau casglu a thirlenwi. Adroddwyd bod
gwastraff gardd yn cyfrannu at gyflawni targedau
ailgylchu ac ym Mawrth 2016 bu i’r Cyngor lwyddo i gyrraedd 58.75% (targed
statudol o 58%). Nodwyd, pe byddai’r ganran ailgylchu yn gostwng yn is na’r
targed yna byddai'r Cyngor yn derbyn dirwyon. Amlygwyd y bydd gostyngiad tebygol
yn y galw am y gwasanaeth yn y flwyddyn gyntaf, ond rhagwelir bydd cynnydd yn y
flwyddyn olynol. Gwnaed sylw nad
oedd codi ffi ar unrhyw wasanaeth yn fater poblogaidd, ond bod rhaid ymateb i’r
toriadau neu bydd rhaid ystyried toriadau pellach mewn gwasanaethau eraill. Yr opsiynau dan sylw; -
Opsiwn 1: Parhau i gasglu
gwastraff gardd
am 12 mis o’r flwyddyn gan osod lefel ffi o £33 y flwyddyn (Arbediad
blynyddol - £750,000) -
Opsiwn 2: Casglu gwastraff gardd
am 9 mis y flwyddyn gan osod lefel ffi o £30 mis y flwyddyn (arbediad blynyddol
- £756,410) b)
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phryder o dderbyn
dirwyon am fethu cyrraedd targedau ailgylchu cenedlaethol, dywedodd Pennaeth
Priffyrdd a Bwrdeistrefol bod yr adran yn rhannu'r pryderon hynny ac yn
pwysleisio yr angen i barhau i gyflawni
a chynnal y gwasanaeth i’r un safon gan fonitro'r sefyllfa yn ofalus. c)
Yn ystod
y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Nad oedd cyflwyno'r newidiadau yn amserol o
ystyried newidiadau diweddar i drefniadau ailgylchu - buasai hyn yn gam yn ôl ·
Bod chwe
swydd yn y fantol – nid oedd
hyn yn newyddion
da ·
Cais i’r Cyngor ystyried sachau hesian fel opsiwn ·
Dim yn gefnogol i’r taliad ·
Cynnydd tebygol
mewn tipio slei bach a cham
ddefnydd o’r bin gwastraff gweddilliol – sut fydd hyn
yn cael ei
blismona? ·
Angen ystyried
sut y bydd unigolion bregus yn ymdopi ·
Dylid annog
mwy o ddefnydd o’r bin brown ·
Cais i ystyried gostyngiad mewn ffi i fin llai ei
faint ·
Ymddengys bod pobl y Sir yn cael eu cosbi am
gompostio - angen i Lywodraeth Cymru addasu'r fformiwla ailgylchu Mewn ymateb i’r sylwadau, atgoffwyd yr Aelodau bod y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
STRATEGAETH "MWY NA LLYFRAU" : GWASANAETH LLYFRGELL CYNGOR GWYNEDD PDF 365 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Ioan Thomas Craffu’r broses sydd wedi ei dilyn ar gyfer llunio’r strategaeth. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch Reolwr Dysgu
Cymunedol yr Adran Economi yn gofyn i’r aelodau graffu'r broses sydd wedi ei
dilyn ar gyfer llunio'r Strategaeth ‘Mwy na Llyfrau’. Nododd yr Aelod Cabinet
bod darparu Gwasanaeth Llyfrgell ‘cynhwysfawr ac effeithlon i bawb sydd yn
dymuno ei ddefnyddio’ yn ofyniad statudol o dan Ddeddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus
ac Amgueddfeydd 1964. b)
Adroddwyd bod ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu barn syniadau trigolion, defnyddwyr a phartneriaid
ar y Strategaeth “Mwy na Llyfrau”wedi ei gynnal yn
ystod Mai - Gorffennaf 2015. Ategwyd bod ystod o argymhellion wedi eu
cyflwyno gan yr ymgynghorwyr oedd yn
casglu a dadansoddi'r adborth a gyflwynwyd gan y cyhoedd a’r partneriaid.
Nodwyd rhai o’r sylwadau a gyflwynwyd gan yr ymgynghorwr, •
Yr angen
i addasu’r weledigaeth a chryfhau rhai o’r
blaenoriaethau. •
nad yw
parhau gyda’r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy. •
amharodrwydd cyffredinol
ymysg y cyhoedd i weld unrhyw newid i’r
rhwydwaith o lyfrgelloedd, hyd yn oed
mewn cyd-destun ariannol heriol. Amlygwyd bod y
Strategaeth yn argymell bod y Gwasanaeth Llyfrgell yn canolbwyntio ar bedwar maes blaenoriaeth sef, cynnig
darllen, cynnig gwybodaeth, cynnig iechyd a lles a cynnig digidol. I gyflawni
Strategaeth o fewn y gyllideb argymhellwyd categoreiddio'r math o ddarpariaeth
sydd ei angen ar draws y Sir ac argymhellwyd symud i ddarpariaeth yn seiliedig
ar bedwar model •
Llyfrgelloedd Dalgylch
•
Llyfrgelloedd Cymunedol
o dan reolaeth y Cyngor •
Gwasanaethau Teithiol •
Dolen neu
Gyswllt Cymunedol c)
Yn ystod
y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: •
Pryder bod hyn yn ysgwyddo baich ychwanegol a’r
Gynghorau Cymuned. Nodwyd mai gwirfoddolwyr sydd yn gweithredu ar y Cynghorau a
bod y niferoedd aelodau yn lleihau oherwydd bod cyfrifoldebau ychwanegol yn
cael eu cynnig iddynt o bob cyfeiriad. Amlygwyd bod angen cynnal trafodaethau i
amlygu’r disgwyliadau ychwanegol hyn. Mewn ymateb i’r
sylw, nodwyd bod pryder ynglŷn â chapasiti
gwirfoddolwyr i gyflawni eisoes wedi cael ei ystyried ac yr argymhelliad yw i’r
Cyngor wneud ‘cynnig o’r hyn gall ei gyflawni’, gydag ymateb yn ddibynnol ar
‘yr hyn gall y cynghorau cymuned eu cyflawni’. Ategwyd nad datrysiadau oedd yn
cael eu rhannu ond datganiad o’r hyn y gall y Cyngor ei gynnig.. •
Mewn ymateb i leihad mewn cyllideb i brynu llyfrau,
cynigiwyd cynnal ‘Diwrnod Amnest’ •
Angen ystyried dod a gwasanaethau at ei gilydd -
llyfrgelloedd, canolfannau twristiaeth, toiledau cyhoeddus •
Pwysleisiwyd yr
angen i gynnal trafodaethau yn lleol er mwyn
ymateb yn bositif i'r her •
Y modelau i’w croesau ac yn rai oedd yn ymateb yn
greadigol i sicrhau bod y gwasanaeth llyfrgelloedd arbennig yma yn parhau yng Ngwynedd. •
Beth yw
gwerth ‘Lori Ni’? •
Angen buddsoddiad pellach mewn llyfrau print bras
Cymraeg ch) Mewn ymateb i’r sylwadau
nodwyd bod y Polisi Rhoddion yn un sydd wedi ei ystyried a bod llyfrgelloedd yn
y gorffennol wedi derbyn rhoddion gwerthfawr iawn. Er hynny, yn sgil prinder
staff, nodwyd bod hyn yn dasg ychwanegol i staff ddethol a dewis llyfrau addas
i’w benthyg. Yng nghyd-destun gwerth ‘Lori Ni’ ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
DIGARTREFEDD - YMCHWILIAD CRAFFU PDF 293 KB Aelod Cabinet : Cynghorydd Ioan
Thomas Derbyn adroddiad
gan yr Aelod
Cabinet ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad yn manylu ar gynllun
gweithredu'r Adran Tai a ddatblygwyd i ymateb i argymhellion yr Ymchwiliad
Digartrefedd a gwblhawyd 17.9.2016. Diolchwyd am fewnbwn yr Aelodau i’r
ymchwiliad a nododd yr Aelod Cabinet bod mwyafrif o’r argymhellion wedi eu
gweithredu. Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Tai bod yr ymchwiliad wedi bod yn
werthfawr ac yn ddefnyddiol i wella’r gwasanaeth. b)
Mewn ymateb, nododd y Cynghorydd Eric M Jones
(Cadeirydd yr Ymchwiliad) ei fod wedi bod yn falch o gael y cyfle i fod yn rhan
o’r ymchwiliad a gwneud cyfraniad positif i’r gwasanaeth digartrefedd -
diolchodd i staff yr Adran Tai am yr hyn sydd wedi ei gyflawni ac am yr
adroddiad cynnydd. c)
Wrth drafod yr argymhellion rhoddwyd diweddariad ar
y rhai oedd wedi eu cwblhau a hefyd y rhai hynny oedd ar y gweill. Nododd yr
Aelod Cabinet bod yr ymchwiliad craffu wedi bod yn rhan o broses sydd i’w
chroesawu. ch) Yn ystod
y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: •
Pryder bod pobl tu allan i’r Sir yn cyflwyno eu
hunain yn ddigartref ac felly yn cael blaenoriaeth dros drigolion lleol
oherwydd y system pwyntiau •
Diffyg tai cymdeithasol i bobl leol d)
Mewn ymateb i’r sylw nododd yr Uwch Reolwr Tai bod
ystyriaethau safonol a lleol yn cael eu gwneud ar gyfer pob cais. Nodwyd bod
pob ymgais wedi ei gwneud i uchafu yr
elfen ‘lleol’ mor uchel â phosib ar y rhestr blaenoriaethau. Cytunwyd
nad oedd yr adran yn cwrdd ar anghenion bob tro a bod hyn oherwydd sefyllfaoedd
anodd. Amlygwyd bod dros 80% o osodiadau i unigolion gyda chyswllt 'gyda’r
gymuned', dros 90% gyda chyswllt 'gyda chymuned gyfagos' a nifer fechan iawn
(2%) heb gyswllt. Ategwyd bod rhaid gweithredu o fewn Deddf Gwlad ac felly
rhoddir blaenoriaeth ar y ‘angen’. Yng nghyd destun, ‘uchafu
iaith’, nodwyd bod cyswllt eisoes wedi ei wneud gyda’r Cynulliad ac nad oedd
modd uchafu hyn yn bellach. Nodwyd bod gan Loegr
Ddeddf Lleol (Localism Act), ond nid yw yn bodoli yng
Nghymru - Cymru yn ddibynnol ar y Ddeddf
Tai. Cynigiwyd, yn sgil y newidiadau diweddar i Gabinet y Cynulliad y byddai
modd ail gyflwyno'r neges yma. Derbyniwyd yr adroddiad cynnydd a croesawyd y gwaith oedd wedi ei weithredu eisoes ar y mwyafrif o’r argymhellion er mwyn gwella’r gwasanaeth |
|
CYTUNDEBAU ADRAN 106 PDF 249 KB Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd
Meurig Ystyried canfyddiadau
yr is-grwp ar bwrpas ac ehangder
Cytundebau 106 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad i’r Pwyllgor Craffu yn adrodd
ar sylwadau ac argymhellion Grŵp Tasg a Gorffen (grŵp bychan o
gynghorwyr a swyddogion) oedd yn edrych ar opsiynau posib ar gyfer y defnydd o
Gytundebau 106 gan y Cyngor i’r dyfodol. Cafwyd mewnbwn arbenigwyr allanol i’r
trafodaethau hyn. Nodwyd bod gwaith
y grŵp wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac wedi ystyried y prif faterion sydd
yn ymwneud âr defnydd o gytundebau 106. Daethpwyd i’r amlwg bod angen gwneud
gwelliannau er mwyn cyfarch pryderon sydd wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf. b)
Amlygodd yr Aelod Cabinet bod y cyfarfodydd
Grŵp Tasg a Gorffen wedi bod yn werthfawr a bod yr argymhellion a nodwyd
yn yr adroddiad yn rai rhesymol ac amlwg. Gwahoddwyd y Pwyllgor i ystyried
casgliadau ac argymhellion yr is grŵp. c)
Mewn ymateb i’r adroddiad, cytunwyd gyda’r
feirniadaeth bod Cytundebau 106 yn addas ar gyfer datblygiadau mawr a bod
problemau yn codi gyda datblygiadau bach, unigol a datblygiadau hunan-adeiladu. d)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag hyfywdra
gosod cytundeb 106 ar eiddo, nodwyd bod rhaid ystyried pob cais yn unigol.
Ategwyd y byddai rhaid i’r gwasanaeth ystyried addasrwydd a hyblygrwydd cytundeb 106 gan deilwra i’r hyn sydd ei
angen. I sicrhau os ydyw yn hyfyw bydd y gwasanaeth yn defnyddio Prisiwr
Dosbarth er mwyn deall y sefyllfa yn well, bod y trefniadau cywir yn cael eu
dilyn a bod cadarnhad yn cael ei roi o ran hyfywdra. e)
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfraniadau
addysgol mewn sefyllfaoedd lle ceir datblygiadau tai newydd mewn cymunedau,
cadarnhawyd mai cost plentyn ysgol sydd yn cael ei ystyried ar nid gwerth y
tŷ. Cadarnhawyd bod sail ddeddfwriaethol i hyn gyda fformiwla benodol i’w
ddilyn - anodd iawn yw uchafu'r gost yma.
Mewn ymateb, nododd y Cynghorydd G Williams bod angen herio'r rheolau
hyn. PENDERFYNWYD
mabwysiadau'r argymhellion a nodwyd ym mharagraff 9 o’r adroddiad. |
|
CLUDIANT ADDYSG ÔL -16 - YMCHWILIAD CRAFFU PDF 443 KB Aelod Cabinet : Cynghoryddr Gareth Thomas Derbyn adroddiad
gan yr Aelod
Cabinet ar weithredu argymhellion yr Ymchwiliad Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ymneilltuodd y Cynghorydd Linda Morgan o’r ystafell yn ystod
y drafodaeth a)
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn rhoi
diweddariad ar y cynnydd pellach o ran gweithredu argymhellion Ymchwiliad
Craffu Cludiant Addysg Ol-16. Amlygwyd bod yr argymhellion wedi eu rhannu i dri
categori -
Gweithredu yn
syth -
Cydweithio yn y tymor canolig gyda gwasanaethau /
partneriaid eraill er mwyn ymchwilio i ymarferoldeb gweithredu’r argymhellion -
Peidio ystyried
yr argymhellion hyn am y tro Ategwyd bod nifer
o’r argymhellion wedi eu cynnwys yn y Polisi Cludiant newydd a bod yr
argymhellion sydd yn weddill yn ddibynnol ar drafodaethau. Cydnabuwyd bod rhai o’r trafodaethau wedi bod yn araf
a’r rhwystr mwyaf oedd cynnal trafodaethau gyda’r coleg, a datrys y broblem
‘teithio yn hyblyg’. Adroddwyd bod llawer o waith wedi ei wneud i geisio datrys yr uchod, ond heb ddwyn ffrwyth hyd yn hyn.
Derbyniodd bod arafwch gyda’r broses ac unrhyw gerydd am hyn. Derbyniodd yr Uwch
Reolwr Ysgolion bod yr ymateb ffurfiol
wedi bod yn araf, ond adroddodd ei fod bellach wedi derbyn llythyr (dyddiedig
16.5.16) gan y Coleg yn nodi eu dymuniad i fod yn asiant ac yn agored i drafod ymhellach.
Ychwanegwyd bod y trafodaethau hyn i ddechrau 21.6.16. Ategwyd bod y Coleg wedi
nodi yn y llythyr eu bod yn ystyried ‘trosglwyddo'r ddarpariaeth i gyd’ ac
felly angen trafod cynnwys y llythyr mewn manylder. Cyfeiriwyd hefyd mai at
Meirion Dwyfor yn unig roedd y llythyr ac felly hyn hefyd angen ystyriaeth
llawn. Adroddwyd bod
bwriad sefydlu Fforwm Defnyddiwr, ond angen sicrhau bod ‘cynnig ar y bwrdd’ i’r
defnyddwyr yng nghyd destun ymateb i’r angen o gynyddu'r hyblygrwydd heb
ychwanegu cost. Amlygwyd y byddai'r Fforwm Defnyddwyr yn cynnwys cynrychiolwyr
o’r Coleg, Swyddogion y Cyngor, Darparwyr Cludiant a Myfyrwyr. Y gobaith yw i’r
Fforwm aeddfedu fel y byddai yn rhoi pwyslais ar wleidyddion i weithredu. Nodwyd bod system
rhandaliadau misol wedi ei sefydlu, ond yng nghyd-destun myfyrwyr yn derbyn
lwfansau hwyr i dalu costau, nid oedd hyn
yn flaenoriaeth gan y Colegau. Ategwyd y bwriad o godi hyn yn y
trafodaethau gyda'r Coleg. Adroddwyd bod 37%
o lwybrau teithio gyda chyfyngiad amser; 40% o lwybrau heb gyfyngiad a 23% yn
fysiau coleg pur. Yr her fwyaf yw ceisio datrysiad i’r llwybrau teithio hynny
sydd yn gyfyngedig. b)
Mewn ymateb i’r adroddiad nododd y Cynghorydd G
Williams bod angen cymharu'r hyn sydd ar
gael yn Lloegr gyda’r hyn sydd ar gael yng Nghymru. Roedd yn parhau gyda
phryderon nad oedd Cyngor Gwynedd wedi cynorthwyo aelwydydd y Sir gyda chostau
a thegwch addysg eu plant. c)
Yn ystod
y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod y Coleg yn araf yn derbyn cyfrifoldeb dros y
myfyrwyr - nid yw teithio yn llesol i blant ac nid yw’r colegau yn rhoi digon o
ystyriaeth i hyn. Awgrymwyd y dylai’r Coleg arwain ar y mater a cheisio datrys
y broblem ·
Rhaid rhoi plant a phobl ifanc Gwynedd yn ganolog
i’r gwasanaeth. Rhaid sicrhau bod pob plentyn yn cael cyfleoedd cyfartal · Rhaid datrys y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |