Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Dilwyn Morgan, Linda Morgan, Angela Russell, Glyn Thomas a Dafydd Meurig Aelod Cabinet Cynllunio a Rheoleiddio (ar gyfer eitem 8 ) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod
oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid arwyddo cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor hwn, a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd, 2015, fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
cofnodion y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 17 Tachwedd 2015 fel cofnod cywir
o’r cyfarfod |
|
YMATEB Y CABINET I ARGYMHELLION Y PWYLLGOR CRAFFU PDF 247 KB Adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Craffu ar ymateb y Cabinet i argymhellion y Pwyllgor Craffu Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Cyflwynwyd adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau ac Uwch Reolwr Democratiaeth
a Chyflawni ynglŷn â threfn sydd wedi
ei sefydlu, i wella’r cyswllt a’r ddeialog rhwng
y pwyllgorau craffu unigol a’r Cabinet i adnabod dilyniant i waith craffu. Fel
rhan o arbrawf i gyflwyno trefn newydd, cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Cymunedau adroddiad yn nodi argymhellion
o gyfarfodydd diweddar y
Pwyllgor Craffu Cymunedau i’r Cabinet a nodwyd bod trafodaeth gyhoeddus, agored a gonest wedi ei chynnal. Cyflwynwyd tair eitem at sylw’r Cabinet - Yr Iaith Gymraeg
a’r drefn Cynllunio - yr Aelod Cabinet yn croesawu mewnbwn yr Aelodau i’r broses o greu’r Canllaw Polisi Cynllunio newydd o fewn y Cynllun Datblygu Lleol - Cytundebau Adran 106 - yr Aelod Cabinet eto yn croesawu'r
argymhelliad i
weithgor bychan drafod opsiynau posib i’r dyfodol. - Cludiant Addysg Ôl-16 - derbyniwyd ymateb positif gan yr
Aelod Cabinet a nodwyd y byddai’n ail ymddangos gerbron y Pwyllgor Craffu i gadarnhau pa argymhellion sydd wedi eu
gwireddu er mwyn eu gweithredu
o Fedi 2016. Nodwyd bod yr arbrawf wedi sicrhau
ymrwymiad cyhoeddus yr Aelodau Cabinet i weithredu, a’r cam nesaf fydd
bwydo'r camau gweithredu a’r amserlen i raglen waith y Pwyllgor Craffu er mwyn derbyn
sicrwydd bod gweithredu wedi digwydd. b) Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: - Yng nghyd-destun Cynllunio a’r Iaith
Gymraeg gwnaed awgrym i ystyried dechrau gweithredu ar Nodyn Cyngor
Technegol (TAN) 20 ac i’r Cyngor ddiweddaru eu polisïau. Awgrymwyd
amlygu’r pryderon am ganllawiau gwell yn lleol i’r
Adran Gynllunio - Yng nghyd-destun Cludiant Addysg Ôl -16, amlygwyd pryder bod yr ymateb
wedi llusgo a bod rhaid pwysleisio gweithrediad buan i’r argymhellion er mwyn sicrhau
bod y trefniadau newydd yn eu lle
erbyn Medi 2016. Cynigiwyd ysgrifennu at yr Aelod Cabinet i bwysleisio hyn gan dynnu sylw
bod yr argymhellion wedi eu cyflwyno 02.02.2014. PENDERFYNWYD a) Derbyn
yr adroddiad a chytuno i barhau gyda’r drefn o gyflwyno argymhellion y Pwyllgor Craffu Cymunedau i’r Cabinet er mwyn gwella’r cyswllt
a’r deialog. b) Ysgrifennu
at Aelod Cabinet Addysg i bwysleisio’r angen am weithrediad buan ar yr argymhellion i wella gwasanaeth cludiant addysg ôl -16. |
|
YMATEB CYNGOR GWYNEDD I ARGYFWNG Y FFOADURIAIAD O SYRIA PDF 368 KB Ystyried adroddiad sydd yn rho i amlinelliad i aelodau ynghlyn a pharatoadau Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Ar
gais aelodau’r Pwyllgor Craffu Cymunedau, cyflwynwyd adroddiad yr Aelod
Cabinet Tai, yn amlinellu trefniadau’r Cyngor i ymateb i argyfwng Ffoaduriaid o
Syria. Nodwyd yn gryno bod gofyn i Wynedd dderbyn hyd at 40 o bobl dros gyfnod o 4 mlynedd a hanner gyda’r bwriad o dderbyn 10 yn y lle cyntaf er
mwyn dysgu o’r broses. Amlygwyd bod Gwynedd wedi
cynnig cefnogaeth ers y dechrau ac erbyn hyn yn
rhan o Wedd2. Gyda niferoedd rhestrau aros am dai cymdeithasol
yn uchel, byddai’r ffoaduriaid yn derbyn eiddo
o fewn y sector breifat ac yn derbyn gwarchodaeth
ddyngarol llawn am 5 mlynedd gyda hawl i waith a budd daliadau. Derbyniwyd cadarnhad gan y Swyddfa Gartref
bod pecyn ariannol ar gael i estyn
cymorth ac i hwyluso integreiddio o fewn y gymuned a bod yr ymrwymiad ariannol yma (gan Lywodraeth
San Steffan)
am gyfnod o 5 mlynedd. O ran amserlen, adroddwyd bod chwe awdurdod yn ystyried
y posibilrwydd o gytuno ar un dyddiad ar gyfer derbyn ffoaduriaid
ac yn y broses o gyflwyno amlinelliad i’r Swyddfa Gartref o’r llety sydd
ar gael. Yn y cyfamser, bydd y Swyddfa Gartref yn prosesu’r
ceisiadau ac yn gwneud asesiadau trylwyr er mwyn
ymateb i’r hyn sydd ar
gael. Talwyd teyrnged
i drigolion a mudiadau gwirfoddol Gwynedd yn eu hymgyrchoedd arbennig i gefnogi ffoaduriaid a nodwyd bod bwriad cynnal trafodaethau
gyda mudiadau gwirfoddol er mwyn
cydweithio i sicrhau’r defnydd gorau o adnoddau ac arbenigedd. Bydd bwriad hefyd
cysylltu gyda 4 awdurdod arall o Gymru sydd eisoes
wedi derbyn ffoaduriaid er mwyn dysgu a deall
rhai agweddau ymarferol. b) Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r ‘cyfnod pum mlynedd’
o gefnogaeth, nodwyd mai integreiddio'r ffoaduriaid i gymdeithas yw'r brif nôd
a bod hawl gan yr unigolion i ddychwelyd neu aros ar ôl
y cyfnod. Bydd adnodd ariannol ar gael am bum mlynedd, ond y gobaith yw y bydd
yr unigolion erbyn hynny, wedi
gwneud cyfraniad llawn i gymdeithas. Nodwyd mai'r tebygolrwydd
yw mai teuluoedd
fydd y rhain yn bennaf. c) Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r math o adnodd oedd yn
cael ei gynnig
gan y Llywodraeth, nodwyd bod iechyd ac addysg plant yn cael ei gyfarch
a bod budd- daliadau uwchlaw hyn. Bydd
gofyn bod yn ofalus a gwyliadwrus o’r angen i weithio o fewn y pecyn ariannol
a’r flaenoriaeth ar hyn o bryd
yw llety addas. Ychwanegwyd bod trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal
gydag Iechyd. Nodwyd bod trafodaethau gyda cholegau a darpariaethau cyfathrebu wedi cymryd lle. d) Mewn ymateb pellach i gwestiwn ynglŷn ag ystyried rhannu'r ffoaduriaid ar draws Gwynedd yn hytrach na lleoli'r ffoaduriaid yng Ngogledd y Sir, nodwyd bod y 10 cyntaf yn debygol o gael eu gosod yn y gogledd, ond ni fydd rhannau eraill o’r sir yn cael eu diystyru. Nodwyd bod y profiad yn cael ei werthuso gydag ystyriaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
TREFNIADAU CASGLU GWASTRAFF AC AILGYLCHU PDF 411 KB Ystyried adroddiad ar y prif ganfyddiadau [hyd yn hyn]
o weithredu’r drefn yn Ardal Meirionnydd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd yn adrodd
ar brif ganfyddiadau
gweithredu trefn newydd o gasglu gwastraff gweddilliol yn Ardal Meirionnydd. Pwysleisiwyd mai cynyddu ailgylchu yw'r prif nôd
er mwyn osgoi
talu dirywion. Rhaid cyrraedd targed ailgylchu o 58% erbyn Mawrth 2016 ac felly angen cefnogi’r trefniadau. Eglurwyd y byddai’r targedau, sy’n cael eu
gosod gan Lywodraeth Canolog, yn parhau hyd
at 2025 lle bryd hynny bydd angen
ailgylchu 70%. Amlygwyd mai dyma’r sefyllfa
sydd yn wynebu
pob Cyngor. Cyflwynwyd y newidiadau
ym Meirionnydd ym Mehefin 2015 ac yn unol â threfniadau Ardal Dwyfor, sefydlwyd
dau dîm i fod yn gyfrifol
am gyflwyno’r newid - y Tîm Gweithredol a’r Tîm Ymgysylltu.
Ar y cyfan, nodwyd bod y trefniant wedi bod yn llwyddiannus a’r ffigyrau yn
ymddangos yn galonogol. Un elfen wahanol ym Meirionnydd oedd nifer y pwyntiau
cymunedol, ond bellach adroddwyd mai 30 o’r 140 o’r pwyntiau hynny
sydd yn parhau
i dderbyn casgliadau gweddilliol bob pythefnos. Diolchodd yr Aelod Cabinet i drigolion
Meirionnydd am eu gweithrediad
a hefyd i drigolion Dwyfor am gynnal eu perfformiad. Adroddwyd, ar ddiwedd
Tachwedd bod ffigyrau perfformiad Gwynedd, o ran y mesur
Cenedlaethol a Statudol ar gyfer ailgylchu,
yn 58.52% a bod y newidiadau
hyn ar darged
i gyflawni arbedion rhaglenedig blynyddol o £350K i’r Cyngor (hyn
yn ychwanegol i beidio talu dirywion). b) Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: • Diolchwyd am yr adroddiad a derbyniwyd bod y trefniadau yn symud
y gwasanaeth i’r cyfeiriad cywir. • Diolchwyd i’r gweithlu am eu gwasanaeth yn
ystod y tywydd garw • Amlygwyd pryderon am ardaloedd cymunedol • A oes cynnydd mewn tipio
slei bach? • Angen parhau i wella taclusrwydd ar ôl codi gwastraff • Rhaid atgoffa'r Cynulliad unwaith eto am yr angen i leihau
deunydd pacedu • Rhwystredig
bod rhai trigolion yn gwrthod cydweithio • Beth yw ymgyrch ‘wash and squash’? • Angen canolbwyntio ar ardaloedd lle mae
llawer o dai ynddynt • Angen ymateb i ardaloedd lle mae diffyg
lle storio biniau • Awgrym i’r Adran Cynllunio
ystyried ‘darpariaeth ddigonol’ ar gyfer storfa
biniau ar gyfer pob
cais perthnasol • Wrth ystyried ailgylchu biniau stryd – pwyslais ar negeseuon
syml a chlir • Rhaid addysgu pobl i ddeall bod ailgylchu yn cyfrannu at eu budd yn
y dyfodol • Pwyslais ar ymgysylltu
gyda chymunedau gyda chais i’r
grwpiau gweithredol a ddefnyddiwyd yn Nwyfor a Meirionnydd gydweithio gydag ardaloedd penodedig i wella sefyllfaoedd c) Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol ei fod yn ymfalchïo
yng ngwaith y gweithlu ar hyn
roeddynt wedi cyflawni o fewn amodau a thelerau anodd dros gyfnod
y tywydd garw a’r Nadolig. Yn ychwanegol, nodwyd bod cynnydd mewn tipio slei bach, ond bod hyn yn batrwm sydd i’w weld dros Brydain ac mai eitemau trwm megis oergelloedd a chynnyrch adeiladu sydd yn cael eu tipio ac nid ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Y GWASANAETH DIFA PLA PDF 332 KB Craffu opsiynau posib ar gyfer darpariaeth
y gwasanaeth difa pla i’r dyfodol Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: a) Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cynllunio a Rheoleiddio i’r Pwyllgor ystyried opsiynau posib ar gyfer darpariaeth
y gwasanaeth difa pla. Rhoddwyd esboniad
ar natur y gwasanaeth ac amlinellwyd bod y gwasanaeth o fewn rhaglen arbedion effeithlonrwydd yr Adran Rheoleiddio ar gyfer 2015-2018 - arbediad gwerth £67,000. Erbyn hyn, adroddwyd
bod un swyddog wedi ymadael a bellach mai'r ffigwr i gyrraedd yr arbediad
pe byddai’r uned yn cael
ei diddymu, yw £28,440. Ategwyd bod diffyg
incwm yn parhau o fewn y gwasanaeth, ond bod Pennaeth yr Adran
Rheoleiddio yn awyddus i ystyried opsiynau posib; • Diddymu gwasanaeth rheoli pla • Adolygu a chynyddu nifer cytundebau rheoli a difa pla drwy
wella marchnata • Codi ffioedd
difa pla i fod yn hunangynhaliol • Codi ffioedd
difa pla i gyfarfod yr arbediad
o ddiddymu’r gwasanaeth (Awgrymwyd y buasai codi ffioedd
yn ormod o chwyddiant ac felly, o bosib yn wasanaeth rhy
ddrud) Gwnaed cais i’r Pwyllgor roi cyfnod o 6 mis i’r adran adnabod
gwelliannau, strwythur ffioedd newydd a thargedau incwm realistig i geisio gwasanaeth hunan cynhaliol. Nododd yr Uwch Reolwr
Gwasanaeth bod cyfleoedd posib, megis cynyddu'r
niferoedd o gytundebau sefydlog ac edrych ar gynyddu nifer
cytundebau yn ardal Arfon. b) Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol: • Croesawu'r cyfle i gynnal gwasanaeth hunangynhaliol - y gwasanaeth yn un angenrheidiol i’r cyhoedd • Ffafriol i gost niwtral yn
hytrach na dileu • Buasai diddymu'r gwasanaeth yn debygol
o arwain at gynnydd mewn costau cwmnïau
preifat ac felly pwysig cadw'r gwasanaeth o fewn y Cyngor er mwyn gwarchod prisiau
i’r cyhoedd • Gwasanaeth pwysig er nad
yn statudol • Croesawu'r angen i farchnata ac edrych ar ffioedd cystadleuwyr
/cwmnïau preifat • Rhaid ystyried goblygiadau iechyd a diogelwch ac nid materion ariannol yn unig • Y swyddi o fewn y gwasanaeth yn rhai cyfrifol
ac arbenigol • Annog cydweithio gyda’r adran ailgylchu • Nifer o wasanaethau mewnol yn ddibynnol
ar y gwasanaeth - petai'r gwasanaeth yn cael ei
ddiddymu o ble a beth fydd cost gwasanaeth cwmni allanol / preifat? c) Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod nododd y Pennaeth Gwasanaeth ei fod
yn gwerthfawrogi cefnogaeth yr Aelodau a'i fod yn
hyderus bod modd cyfarch y diffyg. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â defnyddio cwmnïau allanol / preifat gan nad yw
gwasanaeth difa pla'r Cyngor yn
un statudol, nodwyd mai anodd yw
darganfod ffioedd cwmnïau preifat er mwyn nodi
cymhariaeth. Pwysleisiwyd yr angen am lefelau
ffioedd teg a chyson a gwerthfawrogwyd y cyfle i ymchwilio ymhellach i’r cyfleoedd
posib. Cadarnhawyd mai arbedion effeithlonrwydd oedd dan sylw
ac nid oedd y gwasanaeth ar restr
toriadau'r Cyngor. PENDERYNWYD derbyn yr adroddiad ac y dylid caniatáu cyfnod o 6 mis i gyflwyno strwythur ffioedd newydd a thargedau incwm realistig i’r gwasanaeth difa pla fod
yn hunangynhaliol. |