Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Sharon Warnes (Cynrychiolydd Aelodau).

 

Croesawyd y Cynghorydd Beca Roberts i’w chyfarfod cyntaf fel Cynrychiolydd Cyflogwyr ar ran Cyngor Gwynedd

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Yn sgil yr holl ansefydlogrwydd yn y byd (Rhyfel Wcráin, Covid 19, Brexit a chynnydd  cyffredinol mewn prisiau a gostyngiad yng ngwerth prynu arian, caniatawyd y cwestiwn canlynol i’r ystyried fel mater brys.

 

A yw'r digwyddiadau diweddar gyda’r economi wedi cael effaith mawr ar y gronfa?

 

Mewn ymateb, nododd Cyfarwyddwr y Gronfa, yng nghyd-destun Asedau’r Gronfa bod y digwyddiadau diweddar heb fod yn niweidiol ar y cyfan, a bod rhai cynydd gyda agweddau’n ffafriol oherwydd bod asedau ecwiti y Gronfa yn seiliedig ar ddoler UDA ac felly cwymp y £ yn ffafriol; bod dim bondiau yn y portffolio a’n buddsoddiadu incwm sefydlog ni wedi’ eu gwarchod (currency-hedged) ac felly’n niwtral; ac eiddo i raddau yn codi gyda chwyddiant. Ategwyd, er bod ymrwymiadau’r Gronfa yn cynyddu rhagwelir gyda chwyddiant tal a chwyddiant pensiwn, bod modd rheoli’r sefyllfa drwy gymryd agwedd hir dymor.

 

Ategodd Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau, bod rheolwyr asedau, mewn cyfarfod diweddar, wedi ymateb i bryderon aelodau’r Pwyllgor am y digwyddiadau diweddar, ac wedi eu hargyhoeddi bod y sefyllfa yn galonogol a’u bod o ganlyniad yn hyderus nad oedd effaith niweidiol i berfformiad y gronfa. 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 225 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 18 Gorffennaf 2022 fel rhai cywir.

 

 

5.

DIWEDDARIAD LLAFAR AR Y PRISIAD ACTIWARAIDD

I dderbyn diweddariad ar lafar gan Cyfarwyddwr y Gronfa

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

                                                                                          

Cofnod:

Cymerodd Cyfarwyddwr y Gronfa'r cyfle i roi diweddariad byr ar y prisiad actiwaraidd a bod y gwaith yn cyd-fynd a’r amserlen a osodwyd. Atgoffwyd yr Aelodau bod y rhagdybiaethau wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor Pensiynau ac i’r Bwrdd Pensiwn ym mis Ionawr 2022; bod yr Uned Weinyddol wedi bod yn cywiro a thacluso data ac wedi ei gyflwyno ymlaen yn amserol i’r actiwari (Hymans Robertson); bod cyfres o drafodaethau wedi eu cynnal gyda Hymans a chydweithredu da gyda’r Uned Weinyddol.

 

Nodwyd y bydd Aelodau’r Bwrdd Pensiwn yn cael eu gwahodd i gyflwyniad gan yr actiwari Hydref 26ain 2022.

 

Nodwyd y bydd cynnydd y cyffredinol mewn chwyddiant yn golygu cynnydd mewn cost pensiynau, ac o ganlyniad byddai cynnydd yn y gyfradd sylfaenol (primary rate) i’r dyfodol, ond mynegwyd bu cynydd sylweddol yng ngwerth yr asedau dros y blynyddoedd diwethaf wedi perfformiad da ac o ganlyniad byddai modd gostwng i’r dyfodol.

 

Diolchwyd i’r staff am eu gwaith ac i’r Uned Weinyddol am gyflwyno’r wybodaeth yn amserol.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL(drafft) CRONFA BENSIWN GWYNEDD 2021/22 pdf eicon PDF 104 KB

I ystyried a nodi Adroddiad Blynyddol (drafft) Cronfa Bensiwn ar gyfer 2021/22.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi yn manylu ar weithgareddau'r Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2022. Roedd yr adroddiad yn cynnwys y cyfrifon, adroddiad gan y Bwrdd, gweinyddiaeth pensiynau, crynhoad o’r asedau a pholisïau perthnasol.

 

Ymddengys bod y Gronfa wedi cael blwyddyn lwyddiannus gyda gwerth y Gronfa wedi cynyddu gyda dychweliadau cryf. Cyfeiriwyd at rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn megis bod y gwaith pwlio yn parhau i fynd o nerth i nerth, bod polisi buddsoddi cyfrifol wedi ei fabwysiadu a bod y system i-connect, sy’n darparu ffordd hawdd, gost-effeithiol o gyfnewid dogfennau electronig ymhlith partneriaid, yn parhau i fod yn llwyddiannus.

 

Amlygwyd y byddai’r adroddiad yn cael ei adolygu fel rhan o Archwiliad y Cyfrifon Terfynol gan Archwilio Cymru cyn ei gyflwyno’n derfynol am gymeradwyaeth y Pwyllgor Pensiynau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw bod perfformiad y gwaith o ddarparu trosglwyddiadau o fuddion pensiwn i mewn ac allan o’r gronfa wedi gwaethygu, amlygwyd mai’r rhesymau am hyn oedd; bod staff wedi gadael; bod hyfforddi staff o bell yn y maes cymhleth hwn wedi bod yn heriol; bod staff profiadol wedi bod i ffwrdd ar gyfnod mamolaeth neu salwch hir dymor. Y gobaith yw gweld gwelliant yn 2022/23

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sut bydd modd rhagfynegi lleihad mewn risg yn y 10 mlynedd nesaf o ystyried ansefydlogrwydd yn y byd o ganlyniad i Covid 19, Brexit a Rhyfel Wcráin, nodwyd bod bwriad, wedi i’r adroddiad gael ei gymeradwyo, adolygu’r portffolio ac ystyried addasu lefelau risg dro ar ôl tro (re-risk) yn hytrach na lleihau risg (de-risk). Ategwyd bod modd trafod symud allan o fuddsoddibyd-eang’ ac ystyried i’r dyfodol y posibilrwydd o fuddsoddi mewn isadeiledd neu ecwiti preifat tu allan i’r Deyrnas Unedig. Nodwyd hefyd, gyda’r gronfa mewn sefyllfa fanteisiol bod modd bod yn anturus ac ystyried buddsoddi mewn gweithgareddau lleol i Gymru, i’r amgylchedd ac i’r gymuned - byddai modd targedu posibiliadau.

 

Derbyniwyd yr adroddiad

 

7.

TASGLU AR DDATGELIADAU ARIANNOL CYSYLLTIEDIG Â'R HINSAWDD ('TCFD') - YMGYNGHORIAD 'TCFD' pdf eicon PDF 186 KB

 

I nodi’r bwriad i baratoi ateb ar ran y Gronfa Bensiwn Gwynedd

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gronfa yn hysbysu’r Aelodau fod Llywodraeth San Steffan yn y broses o ymgynghori ar gynigion ar ofynion newydd ar awdurdodau gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL).

 

Yn ôl y disgwyl, bydd y cynigion yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau gweinyddol y CPLlL asesu, rheoli ac adrodd ar risgiau sy’n ymwneud â’r hinsawdd, yn unol ag argymhellion y Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol Cysylltiedig â’r Hinsawdd (‘TCFD’). Disgwylir i’r rheoliadau ddod i rym erbyn Ebrill 2023.

 

Lansiwyd yr ymgynghoriad ar y 1af o Fedi 2022 a bydd angen cyflwyno ymateb cyn y 24ain o Dachwedd 2022. Amlygwyd mai’r bwriad oedd paratoi ymateb drafft ar ran Cronfa Bensiwn Gwynedd i’w gymeradwyo ym Mhwyllgor Pensiynau 14 Tachwedd 2022.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Awgrymwyd rhannu’r ymateb drafft gydag Aelodau’r Bwrdd Pensiwn

 

Derbyniwyd yr adroddiad

 

8.

DIWEDDARIAD AR BARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 144 KB

I dderbyn diweddariad ar Bartneriaeth Pensiwn Cymru

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r aelodau’n ffurfiol o waith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Adroddwyd bod cydweithio yn parhau i fynd o nerth i nerth ar faterion megis ymateb ceisiadau rhyddid gwybodaeth, pleidleisio ac ymgysylltu ac yn gyffredinol rhannu ymarfer da ar draws y cronfeydd. Nodwyd bod 83% o Gronfa Gwynedd wedi ei bwlio gyda PPC erbyn hyn.

 

Tynnwyd sylw at y cronfeydd ecwiti gan gyfeirio at berfformiad Cronfa Twf Byd Eang sydd â thri phrif reolwr sydd gweithredu arddull gwahanol iawn i’w gilydd - Baillie Gifford, Pzena a Veritas. Atgoffwyd yr Aelodau bod y gronfa yma, yn y blynyddoedd cynnar, yn perfformio yn dda iawn, a hynny yn bennaf oherwydd perfformiad Baillie Gifford. Bellach, amlygwyd bod Baillie Gifford yn tan berfformio a hynny yn bennaf oherwydd natur eu buddsoddiadau a bod eu perfformiad yn un ‘cylchol’ (weithiau yn dda, a thro arall ddim cystal). Ategwyd bod trafodaethau diweddar wedi eu cynnal gyda Baillie Gifford ac er y cyfnod heriol, eu bod yn hyderus yn y cwmnïau maent yn buddsoddi ynddynt.

 

Yng nghyd-destun Cronfa Cyfleoedd Byd-Eang adroddwyd bod y gronfa yn cynnwys wyth rheolwr sylfaenol ar er na fydd pob rheolwr yn perfformio yn dda ar yr un pryd, bod y dull amrywiol yn golygu sefyllfa sefydlog a’r gronfa yn perfformio yn uwch na’r meincnod yn rheolaidd.

 

Yng nghyd-destun Cronfeydd Incwm Sefydlog, cyfeiriwyd ar y Gronfa Gredyd Aml- ased sydd â phum rheolwr buddsoddi gwahanol. Adroddwyd bod y gronfa wedi tan - berfformio a hynny oherwydd ansefydlogrwydd yn y farchnad gyda rhyfel Wcráin, cyfyngiadau covid Tsiena, ac effaith codiadau llog cyflym. Ategwyd, er pryderon bod y gronfa yn mynd drwy gyfnod heriol, ymrwymiad buddsoddi tymor hir oedd yma ac felly parhau gyda’r buddsoddiadau yn y gobaith o brofi cynnydd ar ddiwedd yr ansefydlogrwydd oedd y nod.

 

Wrth drafod Cronfa Enillion Bond Absoliwt, sydd â phedwar rheolwr buddsoddi, amlygwyd bod yr amodau yn y maes yma hefyd wedi bod yn heriol gydag effaith chwyddiant a chyfraddau llog, ond eto, yr ymrwymiad yn un tymor hir ac felly parodrwydd i barhau gyda’r buddsoddiadau yn y gobaith o brofi cynnydd.

 

Adroddwyd bod y Gronfa Marchnadoedd Datblygol, a lansiwyd Hydref 2021, gyda chwe rheolwr buddsoddi sylfaenol gan gynnwys Bin Yuan arbenigwr Tsiena. Nodwyd bod yr amodau eto yn heriol iawn ac mai Bin Yuan oedd wedi  achosi’r elfen o dan berfformiad a hynny oherwydd polisi dim covid Tsiena. Ategwyd mai’r gobaith yw gweld gwellhad yn amodau’r farchnad a dychweliadau da.

 

Cyfeiriwyd at y datblygiadau sydd gan PPC ar y gweill gan nodi’r gwaith sy’n cael ei wneud yn y maes marchnadoedd preifat gyda chwmnïau wedi eu hapwyntio i redeg y mandadau dyled preifat ac isadeiledd. Ategwyd bod gwaith cefndirol yn cael ei wneud i sefydlu’r cwmnïau yn y gobaith o fuddsoddi ynddynt yn 2023/ 24. Bwriad Cronfa Gwynedd yw gadael i’r buddsoddiadau isadeiledd ac ecwiti preifat aeddfedu yn naturiol ac yna buddsoddi yn raddol gyda’r pwl. Nodwyd bod trafodaethau cychwynnol hefyd wedi dechrau mewn perthynas â’r dosbarth asedau eiddo.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.