Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2025/26

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol Sioned Parry yn Gadeirydd y Bwrdd ar gyfer 2025/26

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2025/26

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol Osian Richards yn Is-gadeirydd y Bwrdd ar gyfer 2025/26

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Sioned Parry a’r Cyng. Elin Hywel (Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau).

 

Oherwydd problemau technegol, nid oedd modd i Ned Michael ymuno.

 

Croesawyd Roland Thomas i’w gyfarfod cyntaf o’r Bwrdd fel Cynrychiolydd Cyflogwr

 

Yn dilyn marwolaeth sydyn ac annisgwyl Mrs Sharon Warnes, cymerodd yr Is-gadeirydd y cyfle i gydymdeimlo a’i theulu. Nodwyd bod Sharon yn gyn Aelod a Chadeirydd y Bwrdd Pensiwn a diolchwyd am ei chyfraniad, ei gwasanaeth a’i chefnogaeth i’r Bwrdd; Roedd yn berson parchus a chydwybodol ac y bydd colled ar ei hol.

 

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

6.

COFNODION pdf eicon PDF 101 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 7fed Ebrill 2025 fel rhai cywir.

 

 

7.

COFNODION CYFARFOD PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 122 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau Mehefin 12fed 2025

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 12 Mehefin 2025.

 

8.

CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2025 pdf eicon PDF 51 KB

I dderbyn a nodi

·        Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2025.

 

Adroddwyd bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth sydd i’w gyflwyno yn y cyfrifon. Ategwyd bod y cyfrifon yn cael eu harchwilio gan Archwilio Cymru ym mis Medi ac eisoes wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor Pensiynau ar y 7fed o Orffennaf 2025. Nodwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un brysur i’r Gronfa wrth barhau I fuddsoddi yn ehangach gyda Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC).

 

Tynnwyd sylw at Gyfrif y Gronfa gan nodi bod ychydig o amrywiadau wrth i’r cyfraniadau a’r buddion gynyddu wedi i weithwyr dderbyn codiadau cyflog ac wrth i’r pensiwn gynyddu gyda CPI. Ategwyd bod cynnydd yn y costau rheoli wrth i werth yr asedau gynyddu a chyflwyniad mathau gwahanol o fuddsoddiadau i’r portffolio e.e. credyd preifat. Ategwyd bod cynnydd o oddeutu £160 miliwn yng ngwerth farchnad y gronfa sydd un unol a’r cynnydd graddol sydd i’w weld yn flynyddol.

 

Amlygwyd bod incwm buddsoddi'r gronfa wedi codi yn sylweddol a’r buddsoddiadau ecwiti wedi perfformio yn gryf ac felly wedi cynhyrchu incwm sylweddol. Nodwyd, fel rhan o’r dyraniad asedau strategol newydd, bod mwy o effaith buddsoddi i’w weld yn y cronfeydd incwm sefydlog ac isadeiledd.

 

Cyfeiriwyd hefyd at y nodiadau statudol oedd yn yr adroddiad oedd yn rhoi manylion tu ôl i’r ffigyrau ynghyd a manylion pellach am weithgareddau’r Gronfa a PPC.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

 

·        Cyfeiriad at ‘ardal Cyngor Sir Gwynedd’ - angen cynnwys Conwy a Sir Fôn?

·        Bod y gwaith wedi ei gwblhau yn amserol ac yn broffesiynol gyda chymhlethdodau buddsoddiadau newydd i’w hystyried a’u cynnwys

·        Bod cynnydd sylweddol mewn ffioedd isadeiledd (o 2,875 I 4,851) – angen cadw llygad ar hyn

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chynnydd sylweddol yng nghostau Gwasanaeth Monitro Perfformiad, nodwyd mai’r rheswm dros hyn oedd bod anfonebau hanesyddol yn ddyledus a cronfeydd mae’r Gronfa yn buddsoddi ynddynt yn fwy cymhleth. Nodwyd hefyd mewn ymateb i sylw ynglŷn â chynnydd mewn ffioedd rheolwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) (o 3,193 I 5,624), bod hyn o ganlyniad i symud o batrwm buddsoddi hanesyddol i waith buddsoddi mewn buddsoddiadau newydd a chronfeydd gwahanol, a’r ffioedd felly yn amrywio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynnydd mewn buddion heb eu hawlio (o 4,006 yn 2024 I 4,683 yn 2025), nodwyd bod hyn yn ymwneud ag ymadawyr sydd wedi gadael cyflogaeth ond heb benderfynu pa gamau y maent am eu cymryd o ran eu buddion, ond bod y buddion angen eu prosesu. Nodwyd bod ymdrech wedi ei wneud i leihau'r nifer wrth baratoi gwaith ar gyfer y dashfwrdd.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2024/25.

 

9.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU: ADDAS I'R DYFODOL pdf eicon PDF 107 KB

I nodi'r diweddariad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi diweddariad i’r Bwrdd o waith PPC. Fel sydd yn wybyddus i bawb, mae Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi  cydweithio gyda chronfeydd pensiwn eraill yng Nghymru ers 2017 a bellach gydag  oddeutu £25 biliwn o asedau o dan reolaeth y pŵl sydd wedi arwain at arbedion cost, gwella cyfleoedd buddsoddi, gwella perfformiad a chynyddu cyd-weithio a llywodraethu ar draws Cymru, bod y cydweithio wedi bod yn fanteisiol i Wynedd sydd gyda dros 85% o gronfa Bensiwn Gwynedd wedi ei bwlio erbyn hyn.

 

Atgoffwyd yr Aelodau, ers Hydref 2023, bod Llywodraeth y DU wedi bod yn adolygu trefniadau buddsoddi Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yng Nghymru a Lloegr, gydag ymgynghoriad cychwynnol wedi ei gynnal yn Hydref 2024, a’r Bil Pensiynau wedi ei gyhoeddi yn Mehefin 2025

 

Tynnwyd sylw at y tri maes sydd wedi derbyn sylw:

·        Diwygio model gweithredu’r pŵl – sydd yn elfen sydd wedi creu llawer o waith yn y tymor byr mewn ymateb i’r gofynion sef parhau i fod yn gyfrifol am osod strategaeth buddsoddi ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd, ond bydd angen dirprwyo gweithrediad y strategaeth i’r pwl. Ategwyd y bydd rhaid i’r awdurdodau gweinyddol dderbyn eu prif gyngor buddsoddi gan y pwl ac nid gan Hymans Robertson fel sydd yn cael ei wneud ar hyn o bryd, ac y angen trosglwyddo holl asedau gweddilliol y Gronfa i’r pwl (sydd ddim yn newid mawr gan fod canran uchel gan Wynedd eisoes yn y pwl). Bydd rhaid i'r pwl hefyd ddatblygu ffyrdd mewnol o gwblhau diwydrwydd dyladwy ar fuddsoddiadau lleol a rheoli’r buddsoddiadau hyn.

 

Yn ychwanegol, bydd angen creu cwmni buddsoddiadau sydd wedi ei rheoleiddio gan yr FCA (Financial Conduct Authority). Bydd hyn yn cynnig cyfle unigryw i sefydlu canolfan o arbenigedd mewn buddsoddiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Nodwyd bod y cais wedi ei gymeradwyo gan Cyngor Llawn Cyngor Gwynedd ar y 3ydd o Orffennaf, ac y bydd angen iddo dderbyn cymeradwyaeth gan yr wyth Cyngor yng Nghymru sydd yn rhan o’r pwl, cyn parhau gyda’r cam i greu’r cwmni newydd.

 

·        Hybu buddsoddiad CPLlL yn eu hardaloedd a'u rhanbarthau yn y DU

·        Cryfhau llywodraethu

 

(y ddwy elfen yma yn derbyn sylw o fewn y misoedd nesaf – angen ystyried sut y gellid eu gweithredu ar gyfer y pwl a Cronfa Bensiwn Gwynedd)

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac am y gwaith manwl a gwblhawyd o fewn amserlen dynn iawn gan Llywodraeth y DU. Ystyriwyd bod y sefyllfa yn un nad oedd dewis ond cydymffurfio â hi.

 

Mewn ymateb i sylw bod Cronfa Gwynedd wedi arbed ffioedd drwy bwlio gyda PPC, ond bellach PPC yn cael eu gorfodi, yn unol â rheolau Llywodraeth y DU, i wario oddeutu £5m i sefydlu cwmni newydd (IMCo), ac a fydd cyfleodd i arbed arian yn deillio o’r newid, nododd y Pennaeth Cyllid mai IMCo fydd yn gyfrifol am y strwythur llywodraethiant a’r cyfrifoldeb o gynghori a sicrhau gwerth am arian. Ategodd er bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

SYMPOSIWM PWLIO CPLlL pdf eicon PDF 12 KB

I nodi a derbyn y wybodaeth.

 

Cofnod:

An oral update was provided by Mr Anthony Deakin who attended the LGPS Pooling Symposium in May on behalf of the Board. The conference focused on how the pooling work within the LGPS continues to evolve, and what the future will look like.

 

It was noted that the conference was very technical providing an update on the pooling work by highlighting the success of the Wales Pension Partnership pool, especially given that the business plan of two larger partnerships had failed. WPP was considered a unique partnership, a national, strong, and separate fund.

 

Other issues discussed were:

·        Equity (impact of President Trump's tariffs),

·        Property (global shift in movement from investment in shops and offices to housing),

·        Renewable energy schemes and rewilding.

·        Net Zero and the impact of Trump's stance on corporate matters.

 

Although it was a conference with a good mix of issues to discuss, it was interesting to see how political some of the issues were discussed.

 

Gratitude was expressed for the information.

 

11.

CYNHADLEDD BUDDSODDI YNG NGHYMRU pdf eicon PDF 11 KB

I dderbyn a nodi’r wybodaeth

Cofnod:

Cafwyd diweddariad ar lafar gan y Pennaeth Cyllid oedd wedi mynychu’r gynhadledd ym mis Ebrill 2025 gyda dau o Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau, y Cynghorydd Elin Hywel a’r Cynghorydd Goronwy Edwards.

 

Pwrpas y gynhadledd oedd canolbwyntio ar yr heriau a’r cyfleoedd buddsoddi yng Nghymru gan ystyried y pwysau cymdeithasol, a gwleidyddol sydd yn unigryw i’r wlad. Er bod consensws nad oedd cyfleoedd mawr, cafwyd yr ymdeimlad bod angen adnabod busnesau bach / canolig ac annog cefnogaeth i’r busnesau hynny i ddatblygu.

 

Nodwyd, er bod llawer o siarad am fuddsoddi yn lleol yng Nghymru, ymddengys mai effaith gymdeithasol (social impact) oedd yn cael ei hyrwyddo yn hytrach na derbyn gwybodaeth lawn am gyfleoedd buddsoddi ariannol yng Nghymru. Er derbyn bod cyfleoedd adfywio canol trefi ac adeiladu a buddsoddi mewn tai a seilwaith cymdeithasol yn fodd o wella bywoliaeth a chymunedau ledled Cymru, rhaid sicrhau dychweliadau ariannol - yn amlwg bod dyhead o gefnogi cymunedau, ond rhaid sicrhau balans a chadw llygad a’r ddyletswydd y Gronfa Bensiwn i’w haelodau. 

 

Diolchwyd am yr adborth

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffiniad o’r gair ‘lleol’, nodwyd bod gan yr wyth Cyngor sydd yn rhan o PPC, ddiffiniad gwahanol i ystyr y gair.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ar Bartneriaeth yn wynebu risg o gael ei gorfodi i fuddsoddi canran o arian mewn mentrau lleol, nodwyd nad oedd hyn wedi ei benderfynu, ond bod trafodaeth ar y gorwel - cyfeiriwyd at wledydd Canada ac Awstralia fel enghreifftiau lle mae’r wlad wedi cyfrannu at fuddsoddiadau yn lleol.

 

Awgrymwyd bod angen adolygu’r proffil risg

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth

 

12.

ADRODDIAD DRAFFT CADEIRYDD Y BWRDD PENSIWN AR GYFER ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA pdf eicon PDF 134 KB

I ystyried cynnwys yr adroddiad drafft er mwyn trafod ei gynnwys a chynnig gwelliannau yn y cyfarfod. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi yn manylu ar weithgareddau'r Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025. Amlygwyd bod yr adroddiad wedi ei ysgrifennu yn unol â gosodiad adroddiad 2024 gan gymryd i ystyriaeth y pynciau a drafodwyd yn ystod y flwyddyn.

 

Y bwriad yw cyflwyno’r adroddiad terfynol i’r Rheolwr Buddsoddi erbyn 31/07/2025 i’w gynnwys fel rhan o adroddiad blynyddol y Gronfa ac fel rhan o gyfarfod blynyddol y Gronfa Tachwedd 2025.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r staff oedd yn gysylltiedig â pharatoi’r gwaith.

 

PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad drafft

 

13.

DATGANIAD POLISI LLYWODRAETHU WEDI'I DDIWEDDARU pdf eicon PDF 61 KB

Argymhellir bod y Bwrdd Pensiwn:

1.               Adolygu ac yn nodi cynnwys y Datganiad Polisi Llywodraethu wedi'i ddiweddaru.

2.               Yn cefnogi cyhoeddi a pharhau i ddefnyddio'r ddogfen ddiwygiedig fel rhan o Fframwaith cydymffurfio'r Gronfa.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn amlygu’r gofyn i’r Gronfa gyhoeddi Datganiad Llywodraethu a Chydymffurfio o dan Reoliad 55 Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 2013 (fel y’i diwygiwyd) gan adolygu’r datganiad hwnnw yn barhaus. Bwriad y datganiad yw nodi Strwythur Llywodraethu'r Gronfa, y cynllun dirprwyo, a'r cylch gorchwyl ar gyfer ei Chyrff Llywodraethol, y Pwyllgor Pensiynau a'r Bwrdd Pensiynau Lleol.

 

Yn dilyn ymddeoliad Mr Dafydd Edwards fel Cyfarwyddwr y Gronfa, amlygwyd yr angen i ddiweddaru’r Datganiad I sicrhau bod y wybodaeth yn cyfateb i bolisi â strwythur llywodraethu presennol y Gronfa ac yn adlewyrchu'r gywir gyfrifoldebau sydd bellach yn cael eu dal gan y Prif Swyddog Cyllid a'i dimau cefnogi.

 

Argymhellwyd bod y Bwrdd yn adolygu ac yn nodi cynnwys y Datganiad Polisi Llywodraethu wedi'i ddiweddaru ac yn cefnogi cyhoeddi a pharhau i ddefnyddio'r ddogfen ddiwygiedig fel rhan o Fframwaith cydymffurfio'r Gronfa.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a chytunwyd bod angen cydymffurfio gyda’r Rheoliadau ac adrodd ar y sefyllfa bresennol.

 

PENDERFYNWYD:

1.     Adolygu ac yn nodi cynnwys y Datganiad Polisi Llywodraethu wedi'i ddiweddaru.

2.     Cefnogi cyhoeddi a pharhau i ddefnyddio'r ddogfen ddiwygiedig fel rhan o Fframwaith cydymffurfio'r Gronfa.

 

14.

COFRESTR RISG pdf eicon PDF 57 KB

I graffu’r gofrestr risg a dod ac unrhyw sylwadau neu gynigion i’r cyfarfod.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd cofrestr risg gyfredol oedd yn amlygu risgiau perthnasol i’r Gronfa Bensiwn. Amlygwyd bod y gofrestr yn ddogfen weithredol, yn cael ei hadolygu’n rheolaidd a’i diweddaru mewn ymateb i unrhyw risgiau sylweddol sydd yn debygol o ddatblygu.

 

Cyfeiriwyd at ddiweddariadau ar gyfer 2025 oedd yn cynnwys;

·        Gofynion Cod Cyffredinol newydd yr Rheoleiddiwr Pensiynau (TPR)

·        Cyflwyniad y Dashfwrdd Pensiynau a goblygiadau’r newid hwnnw

·        Prosiect yr Wyddfa - Y newidiadau sy'n deillio o'r ymgynghoriad Addas i’r Dyfodol

 

Ategwyd y bydd angen diweddariad pellach yn dilyn y prisiad diweddaraf ac wrth weithredu newidiadau deddfwriaethol a ddaw yn sgil y Rheoliadau Addas I’r Dyfodol.

 

Diolchwyd am y wybodaeth

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Awgrym i uchafu risg diogelwch seibir o ystyried ymosodiadau seibir diweddar  ar siopau M&S a Co-op

·        Bod angen ychwanegu system Gyflogau Newydd i’r gofrestr o ystyried bod 13,500 yn cael eu talu drwy’r system

·        Awgrym i ystyried cynnwys elfencyflymder’ (velocity) i’r gofrestr - a fyddai yn ychwanegu gwerth?

·        Croesawu risg Rheoliadau Addas I’r Dyfodol - risg o gostau yn fwy na’r disgwyl. Bydd angen sicrhau bod strwythur y cwmni yn gweithio

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth

 

 

15.

POLISÏAU GWEINYDDOL Y GRONFA BENSIWN pdf eicon PDF 120 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig adborth am gynnwys y polisïau gweinyddol newydd

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynodd y Rheolwr Pensiynau adroddiad oedd yn cyflwyno tri pholisi gweinyddol allweddol i’r Bwrdd eu harchwilio. Nodwyd bod y polisïau yn hanfodol ar gyfer rheoli a gweinyddu’r gronfa bensiwn yn effeithiol ac yn gam sylweddol tuag at lywodraethu da. Ategwyd, yn dilyn adolygiad y Bwrdd, bydd y polisïau yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau yn Medi 2025.

 

Trafodwyd y Polisïau yn unigol gan roi cefndir a chyd-destun bob un i’r Aelodau

 

·        Taliadau ymlaen llaw o'r Gyflogres Pensiynwyr

·        Dosbarthiad Taliadau Grant Marwolaeth

·        Egwyl mewn Addysg ar gyfer Pensiwn Plentyn Dibynnol CPLlL

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac am y gwaith o ffurfioli’r polisïau. Nodwyd bod rhai o’r diweddariadau wedi bod yn rhai doeth.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Taliadau ymlaen llaw o'r Gyflogres Pensiynwyr Dosbarthiad Taliadau Grant Marwolaeth - ystyried ychwanegu crynodeb byr ar ddechrau’r polisi yn amlygu, er bod enwebiad i dderbyn grant marwolaeth, ni fydd hyn yn gyfreithiol rwymedig. Os na fydd enwebiad, bydd y penderfyniad yn cael ei wneud ar ddisgresiwn y Rheolwr Pensiynau

 

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth