Rhaglen a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 148 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 9fed o Chwefror 2026 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 120 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgorau Pensiynau a gynhaliwyd ar y 26ain o Chwefror 2026 a’r 16eg o Fawrth 2026

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd ar y 26ain o Chwefror 2026 a’r 16eg o Fawrth 2026

 

6.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 84 KB

I ystyried yr adroddiad a nodi'r wybodaeth. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi mai adroddiad ydoedd er gwybodaeth yn nodi’r datblygiadau o fewn Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Er bod adborth o gyfarfodydd Ymgysylltu Cadeiryddion Bwrdd Pensiwn, sy’n cael eu cynnal bob 6 mis, yn cael ei rannu gyda’r Bwrdd, ystyriwyd gyda’r nifer datblygiadau diweddar mai addas a phwysig fyddai i’r Aelodau dderbyn diweddariad rheolaidd.

 

Atgoffwyd yr Aelodau, o ganlyniad i Ddeddfwriaeth San Steffan ‘Addas i’r Dyfodol’, bod PPC wedi gorfod mynd ati i ffurfio cwmni buddsoddi newydd sydd bellach yn cael ei adnabod fel ‘WPP Investment Management Company’ (WPP IMCo). Adroddwyd bod oediad  mewn cymeradwyo’r Ddeddfwriaeth ac o ganlyniad nid oedd y cwmni wedi ei lansio - ymddengys mai ar ôl yr etholiad bydd y lansiad bellach.

 

Cyfeiriwyd at drefniadau newydd y cwmni buddsoddi gan fynegi yn gryno y bydd yn gyfrifol am weithredu pob agwedd a chynghori ar Strategaeth Fuddsoddi’r wyth Awdurdod Cyfansoddol.  Yng nghyd-destun Llywodraethiant y Bartneriaeth, tynnwyd sylw at strwythur lywodraethu’r Bartneriaeth unwaith bydd y cwmni buddsoddi yn weithredol ynghyd a sut bydd y Pwyllgor Pensiynau, yr Awdurdodau Cyfansoddol unigol, a’r Bwrdd Pensiwn yn cyfrannu i’r strwythur. Cyfeiriwyd at a) strwythur y cyfranddalwyr (sef y swyddogion, a’r Aelodau Etholedig) gyda’r Bwrdd Cyfranddalwyr yn cael ei greu i warchod hawliau’r Awdurdodau Cyfansoddol - bydd y Bwrdd ynteu yn cynnwys Swyddog Adran 151 neu Uwch Swyddog CPLlL o bob un o’r Awdurdodau Cyfansoddol; a b) strwythur y cwmni newydd gyda Bwrdd WPP IMCo yn atebol i Bwrdd y Cyfranddalwyr.

 

Cyflwynwyd Cynllun Busnes Cychwynnol WPP IMCo oedd eisoes wedi  ei gymeradwyo gan y Cyd-Bwyllgor Llywodraethu, a Phwyllgor Pensiynau Cronfa Bensiwn Gwynedd. Nodwyd bod y Cynllun yn manylu ar sut mae’r cwmni yn mynd i gyflawni wyth amcan strategol ac yn gosod cynllun i gyflawni nodau penodol megis llywodraethu a goruchwylio, crynodeb ariannol, dull rheoli buddsoddiadau, gweithrediadau a staffio, rheoli risg a chydymffurfiaeth a buddsoddi cyfrifol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Bod costau staffio yn ymddangos yn aruthrol o uchel

·        Croesawu bod Bwrdd y Cyfranddalwyr gyda grym i herio perfformiad WPP IMCo

·        Bod angen sicrhau bod y Pwyllgor Pensiynau a’r Bwrdd Pensiwn yn craffu yn effeithiol ac yn adnabod problemau yn gynamserol - angen cryfhau rôl o fewn y strwythur i fod yn actif a gweithredol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn os oedd y swyddogaethau allweddol wedi ei llenwi, nodwyd bod nifer bellach wedi eu penodi a’r Uwch Swyddog Buddsoddi wedi dechrau yn ei rôl newydd ac eisoes yn adeiladu cysylltiadau wythnosol gyda swyddogion yr Awdurdodau Cyfansoddiadol. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn ag a fyddai costau’r strwythur yn cynnig gwerth am arian nodwyd bod y sefyllfa yn un unigryw - bod cwmni yn cael ei greu o’r newydd ac felly amser a ddengys beth fydd canlyniadau’r sefyllfa. Ategwyd nad oedd swyddogion y Gronfa Bensiwn wedi cael mewnbwn i’r strwythur newydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn, o ystyried bod oediad mewn sefydlu’r cwmni, a phwy felly fydd yn talu cyflogau’r staff, nodwyd mewn amgylchiadau o’r fath bod trefniant mewn lle i’r Cyngor Lletyol dalu dros y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD RHAGAMCANION MODELU LLIF ARIAN pdf eicon PDF 163 KB

I nodi’r cynnwys a derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi mewn ymateb i’r angen i ragamcanu llif arian disgwyliedig y Gronfa dros gyfnod hirdymor, fel bod modd deall sensitifrwydd sefyllfa llif arian net y Gronfa mewn nifer o senarios chwyddiant. Adroddwyd, er bod y prisiad teirblynyddol wedi dangos bod y Gronfa mewn sefyllfa iach o ran asedau, rhaid cadw golwg ar lif arian y Gronfa gan ystyried trosi rhai asedau i arian neu i asedau fyddai’n talu incwm rheolaidd (er mwyn talu’r pensiynwyr), ac a fyddai digon o arian yn dod i mewn i’r Gronfa o ddydd i ddydd i wneud hynny.

 

Tynnwyd sylw at y mathau o incwm a’r gwariant rheolaidd sydd yn digwydd o fewn y Gronfa, ynghyd a sefyllfa llif arian y blynyddoedd diweddar oedd yn amlygu bod y sefyllfa wedi bod yn bositif dros y tair mlynedd ddiwethaf. Eglurwyd ei bod yn arferol i Gronfa Bensiwn fynd i sefyllfa llif arian negyddol pan fydd taliadau buddion yn mynd yn uwch na’r incwm sydd yn dod i mewn, ac felly amlinellwyd pwysigrwydd yr angen i fonitro’r sefyllfa a defnyddio’r Strategaeth Fuddsoddi er mwyn gwerthu neu newid y math o asedau sydd fwyaf priodol yn hytrach na gwerthu asedau ar frys.

 

Cyfeiriwyd at adroddiad a ddarparwyd gan Hymans Robertson oedd yn asesu’r sefyllfa gan amlygu eu bod hefyd wedi cynnal scenario analysis ar y Gronfa i ganfod beth fydd effaith chwyddiant gwahanol lefelau. Ymddengys petai senario waelodlin, yna bydd potensial i’r Gronfa wynebu sefyllfa llif arian negyddol yn 2027 ac yn gynharach na hynny os bydd chwyddiant uchel. Ategwyd, yn y tymor byr, bod gan y Gronfa gronfeydd hylifol y gellid galw arnynt ar fyr rybudd; bydd monitro a gweithredu’r llif arian hefyd yn ystyriaeth i Cwmni Rheoli Buddsoddi WPP IM Co a bydd angen cydweithio gyda’r cwmni dros y cyfnod nesaf i sicrhau bod digon o hylifedd ar gael.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gwerthu asedau ac a’i mater o ddileu'r asedau sydd ddim yn perfformio fydd yn arwain at y penderfyniad, nodwyd na fydd asedau yn cael eu gwerthu ar frys, ond yn ystyried yr asedau hylifol sy’n adnodd ddefnyddiol ac ar gael o fewn dyddiau heb golled sylweddol mewn gwerth. Nodwyd bod asedau hylifol yn werthfawr ar gyfer argyfyngau e.e., petai’r llif arian yn amrywio o gymharu â’r rhagamcanion.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am chwyddiant cyflogau nodwyd bod 2.8% wedi cael ei bennu fel cyfradd gyson ar gyfer cyfrifiadau pensiwn, i gydbwyso senarios chwyddiant uchel (sy'n cynyddu rhwymedigaethau) â senarios twf is.

 

Derbyniwyd yr adroddiad a nodwyd y wybodaeth

 

8.

PERFFORMIAD BUDDSODDI CRONFA BENSIWN GWYNEDD HYD AT 31 RHAGFYR 2025 pdf eicon PDF 160 KB

I ystyried yr adroddiad a derbyn y wybodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar berfformiad y Gronfa dros y chwarter dan sylw. Nodwyd bod y Gronfa wedi dychwelyd 2.5% dros y chwarter, gan berfformio yn hafal i’r meincnod gyda chyfanswm yr asedau wedi cynyddu o £120miliwn i ddod a gwerth y gronfa i dros £3.56 biliwn am y tro cyntaf; bu i’r asedau ecwiti berfformio yn dda, yn enwedig yn Ewrop ac Asia.

 

Ategwyd, bod y Gronfa, dros y flwyddyn wedi dychwelyd 10.4%, a hynny ychydig tu ôl i’r meincnod, ond nad oedd amheuaeth bod y meincnod a osodwyd  yn un heriol, ond bod perfformiad Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi bod yn uwch na chyfartaledd cronfeydd Prydain yn hanesyddol.

 

Tynnwyd sylw at berfformiad y rheolwyr buddsoddi ecwiti gan egluro, bod tanberfformiad Cronfa Ecwiti Gweithredol Cynaliadwy (Sustainable Active Equity), yn amlwg a hynny oherwydd bod stociau o fewn y marchnadoedd ecwiti wedi gallu manteisio ar ddeallusrwydd artiffisial sef y Magnificent 7 e.e. Apple, Microsoft a Tesla, sydd wedi perfformio yn dda. Effaith hyn yw tan berfformiad o fewn stociau eraill e.e. stociau hirdymor o fewn y portffolio sy’n  edrych ar y trawsnewid ynni (energy transition). Ategwyd bod bwriad gan Russell Investments i edrych ar raniad y Gronfa a chyflwyno rheolwr buddsoddi newydd i’r portffolio er mwyn ceisio adfer y perfformiad.

 

Eglurwyd, er bod rheolwyr incwm sefydlog wedi bod drwy gyfnod anodd gydag effaith ymosodiad Rwsia ar Wcrain, ac effaith chwyddiant a chyfraddau llog bod yr amodau wedi sefydlogi, a'r perfformiad bellach yn agosach at y meincnod. Yn yr un modd, adroddwyd bod rheolwyr eiddo wedi gweld effaith covid ar ddefnydd swyddfeydd ac unedau’r stryd fawr, ond y farchnad eiddo hefyd wedi sefydlogi.

Yng nghyd-destun marchnadoedd preifat PPC a chronfeydd Partners, nodwyd mai anodd yw asesu eu perfformiad oherwydd bod y buddsoddiad yn un mwy hir dymor ac nid oedd pryderon wedi eu hamlygu  gan Hymans Robertson.

Adroddwyd bod y Pwyllgor Pensiynau wedi cymeradwyo dyraniad asedau strategol newydd mewn ymgynghoriad gyda Hymans Robertson ym mis Tachwedd, a bod gwaith ym mynd yn ei flaen i symud tuag at y dyraniad newydd ac i gydweithio gyda WPP IM Co i weithredu’r newidiadau.

Diolchwyd am yr adroddiad

Derbyniwyd yr adroddiad a nodwyd y wybodaeth

 

9.

DIWEDDARIAD HYFFORDDIANT 2025/26 A CHYNLLUN HYFFORDDI 2026/27 pdf eicon PDF 76 KB

Gofynnir i'r Bwrdd:

  • Nodi’r hyfforddiant a gynhaliwyd yn ystod 2025/26;
  • Nodi’r absenoldeb yr Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol 2025 a'r adolygiad arfaethedig o'r fframwaith;
  • Cymeradwyo Cynllun Hyfforddi 2026/27 fel y nodir yn Atodiad 2.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn diweddaru’r Aelodau ar gynllun hyfforddiant 2025/26 a gofyn iddynt gymeradwyo cynllun hyfforddiant arfaethedig 2026/27. Ystyriwyd bod cynllun 2025/26 wedi bod yn llwyddiannus a diolchwyd i’r Aelodau am fynychu amryw o sesiynau hyfforddiant oedd yn cynnig ystod eang o bynciau, yn ogystal â seminarau, cynadleddau a gweminarau allanol perthnasol oedd yn cael eu canmol fel rhai defnyddiol ac amserol.

 

Amlygwyd nad oedd Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol, sydd fel arfer yn cael ei gydlynu gan Hymans Robertson i feincnodi lefelau gwybodaeth yr Aelodau, wedi ei gynnal yn ystod 2025 oherwydd yr angen i adolygu’r fframwaith yn sgil diwygiadau llywodraethu Addas ar Gyfer y Dyfodol, cryfhau disgwyliadau o dan y Côd Cyffredinol a datblygiadau mewn pwlio buddsoddiadau, buddsoddi cyfrifol a safonau llywodraethu. Unwaith y bydd yr Asesiad diwygiedig wedi ei gyhoeddi bydd hyn yn galluogi’r Gronfa i feincnodi lefelau gwybodaeth yn genedlaethol, nodi anghenion hyfforddi sy'n dod i'r amlwg a llywio iteriadau y Cynllun Hyfforddi a'r Strategaeth Llywodraethu a Hyfforddiant i’r dyfodol.

 

Wrth gyflwyno Cynllun Hyfforddiant 2026/27, ac yng nghyd-destun hyfforddiant craidd, nodwyd bod y Cynllun yn adlewyrchu'r bwriad i Bartneriaeth Pensiwn Cymru barhau fel prif ddarparwr hyfforddiant i aelodau'r Pwyllgor a'r Bwrdd Pensiwn. Fodd bynnag, oherwydd y newidiadau parhaus o fewn y trefniadau pwlio, nid oedd unrhyw sesiynau hyfforddi wedi'u trefnu. Ategwyd, unwaith bydd y strwythur a'r trefniadau llywodraethu diwygiedig wedi'u cwblhau, rhagwelir bydd rhaglen o sesiynau yn cael eu trefnu. Y disgwyliad yw y bydd y sesiynau hyn yn cwmpasu'r meysydd allweddol.

 

Cyfeiriwyd at gynadleddau sydd wedi eu nodi ar gyfer 2026/27 gan ategu disgwyliad i’r Aelodau sydd yn mynychu, gwblhau ffurflen adborth strwythuredig i’w chynnwys ar raglen cyfarfod y Pwyllgor Pensiynau dilynol. Anogwyd Aelodau’r Bwrdd i fanteisio ar gyfleoedd dysgu ychwanegol megis modiwlau dysgu ar lein a dysgu hunangyfeiriedig.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

 

·        Yn canmol sesiynau hyfforddi’r PPC ac mai da fyddai eu hadfer mor fuan â phosib. Cais i’r Rheolwr Buddsoddi wneud ymholiadau gan anfon neges i’r Cyngor Lletyol (Cyngor Sir Gâr) i atgyfnerthu’r angen i’r sesiynau barhau.

·        Bod y Cynadleddau wedi bod yn fuddiol ac yn llawn gwybodaeth

·        Cais i rannu’r templed adborth

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sefyllfaoedd o anufudd-dod y dylid bod yn ymwybodol ohonynt, nododd y Rheolwr Pensiynau nad oedd unrhyw sefyllfa ar hyn o bryd yr oedd yn ymwybodol ohono.

 

Derbyniwyd y wybodaeth gan

·        Nodi’r hyfforddiant a gynhaliwyd yn ystod 2025/26

·        Nodi absenoldeb yr Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol 2025 a'r adolygiad arfaethedig o'r fframwaith

·        Cymeradwyo Cynllun Hyfforddi 2026/27

 

 

10.

ADRODDIAD PRISIAD Y GRONFA BENSIWN pdf eicon PDF 72 KB

I ystyried yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth, adroddiad prisiad gan y Rheolwr Pensiynau. Adroddwyd bod y swyddogion wedi bod yn cydweithio gyda’r actiwari Hymans Robertson dros y flwyddyn ddiwethaf ar brisiad tair blynedd Cronfa Bensiwn Gwynedd. Eglurwyd mai pwrpas y prisiad yw sicrhau bod gan y Gronfa strategaeth ariannu gadarn i fodloni rhwymedigaethau buddion hirdymor wrth osod cyfraddau cyfraniadau cyflogwyr ar y cyfnod rhwng 1af o Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2029.

 

Cyfeiriwyd at sefyllfa ariannol iach y Gronfa ac at gyfraddau cyfraniadau’r cyflogwr fydd yn gostwng i 16.2% o’r cyflog (o gymharu â 21.8% yn 2022). Tynnwyd sylw hefyd at ofyniad newydd ar gyfer Prisiad 2025 sef adrodd ar y Bwlch Pensiwn rhwng y Rhywiau. Nodwyd y bydd adolygiad i newidiadau yn y rheoliadau i geisio lleihau’r bwlch sydd ar hyn o bryd yn cael ei ddylanwadu fawr gan y bwlch cyflog rhwng y rhywiau sydd yn adlewyrchu gwahanol batrymau gwaith fel gwaith rhan-amser. Y gobaith yw bod canlyniadau’r adolygiad yn cael eu rhyddhau yn fuan.

 

Adolygwyd y rhagdybiaethau a ddefnyddiwyd yn y prisiad hwn ym mis Ionawr 2025 ac fe’i cymeradwywyd yn ffurfiol gan y Pwyllgor Pensiynau ym mis Mawrth 2025. Ategwyd, yn dilyn cyfnod o ymgynghori â chyflogwyr, bod y Datganiad Strategaeth Ariannu derfynol wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau ar y 16eg o Fawrth 2026, a bod y prisiad ffurfiol nesaf wedi ei drefnu ar gyfer 31 Mawrth 2028.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Nododd Osian Richards, bod Deddf Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 wedi cyflwyno fframwaith ar gyfer cynlluniau pensiwn gwasanaeth cyhoeddus newydd, gan ei newid yn bennaf o Gyflog Terfynol i drefn Enillion Cyfartalog Gyrfa wedi'u Hailbrisio (CARE) o fis Ebrill 2014. Fel rhan o’r newidiadau, cyflwynodd y Ddeddf Fesur Rheoli Costau i gynnal cydbwysedd teg o risg rhwng aelodau a threthdalwyr i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y cynlluniau. Mae'r mesur yn fecanwaith statudol (Adran 12, Deddf Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus 2013) sy'n dod yn weithredol os yw cost darparu buddion yn cynyddu neu'n gostwng yn fwy na’r cyfartaledd penodedig o 3%, o'i gymharu â chost darged. Nodwyd hefyd bod gan y CPLlL broses rheoli costau penodol ar gyfer y cynllun sydd yng Nghymru yn defnyddio cap costau cyflogwr o 14.6% a tharged o 19.5% ar gyfer gwasanaeth yn y dyfodol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r mesur ac os oedd bwriad adolygu’r ganran, nodwyd mai mater cenedlaethol ydoedd ac nid oedd newid wedi bod ers yr adolygiad diwethaf. Ategwyd, o fewn y cyfnod bod newid hefyd wedi bod mewn llywodraeth ac felly rheswm arall pam nad oedd arolwg cenedlaethol wedi ei weithredu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r gyfradd cyfraniad uwchradd a pham bod amrediad eang yn y canrannau (o -3% i -31.6%), nodwyd bod yr amrediad yn amrywio fesul cyflogwr a hynny oherwydd amrywiaeth swyddogaethau ac oedrannau eu staff. Ategwyd bod y ganran yn deillio o fformiwla gan yr actiwari.

 

Derbyniwyd yr adroddiad a nodwyd y wybodaeth

 

11.

RHAGLEN WAITH DDIWYGIEDIG pdf eicon PDF 87 KB

I ystyried y rhaglen waith ac awgrymu eitemau ychwanegol neu newidiadau.

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2026/27. Amlygwyd bod y rhaglen yn cynnwys materion a gynigwyd gan yr Aelodau ynghyd ag eitemau sefydlog i’w gosod ar raglen pob cyfarfod o hyn ymlaen. Ategwyd y gellid ychwanegu materion sy’n codi yn ystod y flwyddyn i’r rhaglen yn unol ar angen ynghyd ag unrhyw faterion / syniadau fydd yn codi gan aelodau wedi sesiynau hyfforddi a / neu ddigwyddiadau perthnasol. Nodwyd bod blwyddyn heriol yn wynebu’r Gronfa Bensiwn yn sgil dyfodiad WPP IMCo, ond y gobaith yw y bydd y rhaglen waith yn ymateb i’r heriau hynny.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a cydnabuwyd y gwaith da sydd yn cael ei wneud.

 

Derbyniwyd y rhaglen waith