Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/21

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol Osian Richards (Cynrychiolydd Aelodau) yn Gadeirydd y Bwrdd am y cyfnod 2020/21

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is gadeirydd ar gyfer 2020 / 21

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail ethol y Cyng Aled Evans (Cynrychiolydd Cyflogwr) yn Is-gadeirydd am y cyfnod 2020/21

 

3.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Aled Evans

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 223 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20 Gorffennaf 2020 fel rhai cywir  

 

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 20 Gorffennaf 2020 fel rhai cywir.

 

7.

COFNODION Y PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 234 KB

Derbyn, er gwybodaeth gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 14 Hydref 2020

 

 

Cofnod:

Derbyniwyd, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2020.

 

Nid oedd gan yr aelodau unrhyw sylwadau pellach i’w codi o’r cofnodion

 

8.

CYFRIFON TERFYNOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2020 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 199 KB

 

 

Cyflwyno –

·         Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad;

·         Adroddiad ‘ISA260’ Deloitte;

·         Llythyr Cynrychiolaeth

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad ynghyd a Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd 2019/20 (ôl archwiliad), gan y Pennaeth Cyllid yn darparu manylion gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2020. Atgoffwyd yr Aelodau bod drafft o’r cyfrifon wedi eu cyflwyno i gyfarfod 20fed o Orffennaf 2020, ac er nad oedd y ffigyrau wedi newid, tynnwyd sylw at rai addasiadau i’r naratif yn dilyn archwiliad. Nodwyd bod y Pwyllgor Archwilio, sydd â chyfrifoldeb dros dderbyn y cyfrifon yn ffurfiol, wedi cymeradwyo’r cyfrifon ar y 15fed o Hydref 2020.

 

Cyfeiriwyd at ychwanegiadau’r Archwilwyr lle nodi’r gwybodaeth am brisiadau’r gronfa eiddo. Yn dilyn atal masnachu ar gronfeydd eiddo fis Mawrth, dadleuwyd bod ansicrwydd prisio sylweddol yn gysylltiedig ar y cronfeydd hyn ac o ganlyniad gall prisiadau’r gronfa eiddo ar 31 Mawrth fod yn destun lefel uwch o ansicrwydd. Yn ychwanegol, adroddwyd er nad oedd yr Archwilwyr wedi amlygu un mater penodol i Gronfa Bensiwn Gwynedd, eu bod wedi nodi tri mater arwyddocaol, sy’n gyffredin ar draws yr holl gronfeydd pensiwn, fyddai’n debygol o gael effaith ar y Gronfa.

 

-       Cydraddoli GMP

-       Achos McCloud

-       Achos Goodwin

 

Gwerthfawrogwyd ymroddiad a chywirdeb y gwaith a diolchwyd i’r Rheolwr Buddsoddi a’r tîm am gwblhau’r gwaith mewn cyfnod heriol ac anodd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â defnydd i-connect, nodwyd bod 99.9% o gyflogwyr y Gronfa bellach yn cyflwyno data drwy’r broses i-connect. Adroddwyd bod Cyngor Sir Ynys Môn a Heddlu Gogledd Cymru bellach wedi trosglwyddo ac ategwyd bod cydweithio da wedi digwydd gyda’r holl gyflogwyr i sicrhau defnydd i-connect sydd, erbyn hyn, yn darparu buddion sylweddol a llwyddiant i’r Gronfa.

 

          PENDERFYNWYD derbyn, er gwybodaeth

·         Y Datganiad o’r Cyfrifon 2019/20 (ôl archwiliad)

·         Yr adroddiad ‘ISA260’ gan Deloitte ar gyfer  Cronfa Bensiwn Gwynedd

·         Y Llythyr Cynrychiolaeth

 

 

9.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 319 KB

I ystyried adroddiad y Rheolwr Buddsoddi

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn nodi ers sefydlu’r Bartneriaeth yn 2017, bod y Bartneriaeth yn mynd o nerth i nerth gyda swyddogion yn cyfarfod yn aml. Yn ystod cyfnod pandemig covid 19, nodwyd bod holl ddigwyddiadau’r Bartneriaeth wedi bod yn rhithiol gyda’r gwaith o lansio cronfeydd newydd a chynnal nifer o ddigwyddiadau wedi cymryd lle.

 

Tynnwyd sylw at berfformiad y Gronfa Twf Byd Eang hyd at 30 Medi 2020. Adroddwyd cyn y pandemig bod perfformiad y gronfa yma wedi bod yn uwch na'r meincnod gyda pherfformiad cryf gan Baillie Gifford a Veritas. Amlygwyd bod gan y  portffolio yma fuddsoddiadaugwerth dwfn’, ac oherwydd effaith y pandemig, nodwyd bod y perfformiad yn ddiweddar wedi disgyn y tu ôl i’r meincnod. Ymddengys bod y sectorau traddodiadol megis olew ac arian wedi perfformio'n wael gyda’r sectorau megis technoleg wedi perfformio'n gymharol dda. Eglurwyd bod Russell Investments yn monitro dyraniad y gronfa yma yn barhaus

 

Cyfeiriwyd at y trosglwyddiad incwm sefydlog a drosglwyddwyd yng Ngorffennaf a Hydref 2020. I’r Gronfa Multi Assest Credit trosglwyddwyd buddsoddiad gyda Fidelity Global Equity o £166,119,549.08 ac i’r gronfa Absolute Return Bond trosglwyddwyd  buddsoddiad gyda Insight o £291,238,172.22.

 

Tynnwyd sylw at Cynrychiolaeth o’r Byrddau Pensiwn ar Gyd- bwyllgor y Bartneriaeth gan nodi bod hyn wedi bod yn destun trafod ers peth amser bellach. Adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid wedi mynychu cyfarfod diweddar ynglŷn â'r mater. Canlyniad y drafodaeth oedd bod y Cydbwyllgor yn cynnwys 8 aelod y Gronfa (gyda phleidlais yr un) a chynrychiolydd o’r Byrddau Pensiwn (o fewn yr awdurdodau cyfansoddol - heb bleidlais). Adroddwyd bod mwyafrif o’r cronfeydd yn cytuno bod angen rhoi statws i gynrychiolaeth y Bwrdd, ond bod angen penderfyniad unfrydol cyn symud ymlaen. Nodwyd y byddai unrhyw newid yn golygu cyflwyno’r argymhelliad i bob Cyngor unigol i’w dderbyn mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn. Ategwyd bod un cyfarfod pellach wedi ei drefnu i ail-drafod cyn cyflwyno cynnig i’r Cyd -bwyllgor.

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Derbyn bod y ffioedd ynghlwm a’r buddsoddiadau, ond nad yw’n adlewyrchu costau sefydlog o sefydlu’r Bartneriaeth.

·         Derbyn y trosglwyddiadau ond a yw buddsoddiadau gyda Fidelity yn dod i ben yn benderfyniad da o ystyried bod perfformiad Fidelity wedi bod yn dda?

·         Bod angen trefniant mwy ffurfiol sydd yn cyfeirio sylwadau / adlewyrchu argymhellion y Bwrdd  a’r modd y maent yn cael eu cyfeirio at y Pwyllgor ac efallai ymlaen i’r Cydbwyllgor - awgrymwyd cyflwyno adroddiad gan y Bwrdd i’r Pwyllgor ynteu fod aelod o’r Bwrdd yn cyflwyno eitem ar lafar

 

Mewn ymateb i gyhoeddi ffioedd sefydlog nodwyd bod sgôp cyflawni hyn yn 2020/21 gan greu tablau fyddai’n adlewyrchu’r cymhariaethau a’r gwir gostau.

 

Mewn ymateb i fuddsoddiadau gyda Fidelity yn dod i ben ac os yw hynny yn benderfyniad da o ystyried eu perfformiad, cytunwyd bod perfformaid Fidelity wedi bod yn wych, ond yn dilyn pwysau o fuddsoddi cyfun ( lle ceir llai o risg  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

DIWEDDARIAD AM BERFFORMIAD BUDDSODDI'R GRONFA BENSIWN 2019/20 pdf eicon PDF 338 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn hysbysu’r Aelodau o fonitro a pherfformiad buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn. Adroddwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd mewn sefyllfa gymharol iach gyda gwerth y gronfa wedi cynyddu yn raddol ers 2010, ond gyda chwymp wedi digwydd ar 31 Mawrth 2020 oherwydd effaith pandemig COVID.

 

Cafwyd chwarter 1af cryf gyda’r marchnadoedd yn bownsio nol wedi’r cwymp a welwyd yn chwarter olaf 2019/20 gyda gwerthoedd ecwiti byd eang yn parhau i gynyddu, yn enwedig yn yr wythnosau diwethaf wedi’r newydd am y posibilrwydd o frechlyn. Ategwyd bod dychweliadau eiddo’r gronfa wedi perfformio yn dda yn gyffredinol hefyd o gymharu gyda’r meincnod. Ni fu unrhyw fasnachu am gyfnod o fis Mawrth, ond ers mis Medi, bu’r farchnad yn agored. Nodwyd bod asedau preswyl ac archfarchnadoedd wedi perfformio yn dda, ond nad oedd y stryd fawr wedi perfformio cystal, ynghyd ac ansicrwydd ynglyn a dyfodol swyddfeydd. Cyfeiriwyd at Ymddiriedolaeth Eiddo Lothbury oedd wedi perfformio yn is na’r meincnod oherwydd bod ganddynt amlygiad uchel i’r sector manwerthu, tra bod y Rheolwyr eraill gyda amlygiad i sectorau megis safleodd diwydiannol a chanolfannau iechyd ac felly wedi perfformio’n dda.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag effaith Brexit ar y farchnad eiddo adroddwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn dal rhyw 6% o stoc yn y Deyrnas Unedig ac felly dim yn rhagweld effaith fawr, niweidiol. Ategwyd bod meincnod eiddo wedi ei osod ar  10% a gyda symud arian a thanfuddsoddi diweddar y farchnad wedi bod yn drawsnewidiol iawn dros amser. Cytunwyd cynnwys manylion y canrannau meincnod mewn adroddiadau i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

 

11.

POLISI CYFATHREBU 2020 pdf eicon PDF 367 KB

I ystyried yr adroddiad ac i dderbyn adborth gan y Bwrdd ar y Datganiad Polisi Cyfathrebu newydd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn amlygu dymuniad i dderbyn adborth gan y Bwrdd am Ddatganiad Polisi Cyfathrebu newydd. Eglurwyd bod rhaid  i'r Gronfa ddarparu, cynnal a chyhoeddi Datganiad Polisi Cyfathrebu yn unol â Rheoliad 67 o Reoliadau Gweinyddu Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL). Ategwyd bod rhaid i'r polisi cyfathrebu gael ei adolygu a'i ailgyhoeddi yn dilyn unrhyw newid mewn polisi. Yn dilyn amryw o newidiadau i ddulliau cyfathrebu diweddar rhaid diwygio’r datganiad i gynnwys dulliau cyfathrebu cyfredol gan ychwanegu defnydd Microsoft Teams, I-Connect a’r adnodd Hunanwasanaeth. Nodwyd nad oedd polisi Gwynedd wedi cael ei ddiweddaru ers 2010 ac felly gwerthfawrogwyd adborth ar y polisi gan y Bwrdd cyn  ei gyflwyno am gymeradwyaeth y Pwyllgor Pensiynau.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Bod y Datganiad Polisi diwygiedig yn glir, teg a chynhwysfawr

·         Bod angen sicrhau, wrth ddiwygio, na fydd gwybodaeth yn cael ei golli

·         Bod hi’n bwysig gwrando ac ymateb i ddymuniadau defnyddwyr e.e, os ydynt yn hoffi derbyn gwybodaeth ar bapur yna bod yn barod i ymateb i’w dymunaid

·         Bod angen cyfeirio at Bartneriaeth Pensiwn Cymru - pwysig bod y drefn o gyfathrebu rhwng y Gronfa a’r Bartneriaeth yn cael ei gynnwys

·         Cyfarfodydd Rhithiol v Cyfarfodydd ar saflegweithgor wedi ei sefydlu i ganfod manteision ac i ystyried dulliau o ddarparu’r ddau opsiwn mewn un cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

Tynnwyd sylw nad oedd yr Arolwg Rheolwydd wedi ei gynnal yn ol yr arferiad ac awgrymwyd cynnal cyfarfod arbennig i drafod a rhannu barn. Ategwyd bod hefyd angen diweddaru rhaglen waith y Bwrdd ( i gynnwys holiadur hyfforddi Hymans).

 

Penderfynwyd gofyn i’r swyddogion ddiweddaru’r rhaglen waith a’i rhannu’r gyda’r Aelodau am sylwadau / ychwanegiadau