Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Huw Trainor (Cynrychiolydd Cyflogwr)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 235 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 12 Gorffennaf 2021 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 222 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth , gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 21 Hydref 2021 a 17 Tachwedd 2021

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth gofnodion o’r Pwyllgorau Pensiynau a gynhaliwyd 21 Hydref ac 17 Tachwedd 2021

 

Nodwyd bod dau gyfarfod wedi eu cynnal oherwydd bod yr archwiliad i gyfrifon terfynol y Gronfa Bensiwn heb ei ryddhau gan Archwilio Cymru tan ganol mis Tachwedd. O ganlyniad bu rhaid trefnu cyfarfod ychwanegol 17-11-21 i gymeradwyo’r cyfrifon terfynol ôl archwiliad

 

Cyfeiriwyd at gofnodion 21 Hydref 2021 - eitem 6: Amserlen Prisiad 2022 er sylw’r Bwrdd. Nodwyd bod y Pwyllgor wedi cymeradwyo’r amserlen a bod cynlluniau ar y gweill i geisio cynnwys y cyflogwr yn y broses. Ategwyd bod bwriad llunio holiadau’r ar gyfer y cyflogwr i gael awgrym o’r hyn y maent yn ceisio o’r prisiad.

 

Mewn ymateb i’r awgrym o lunio holiadur, nodwyd bod cynnwys y cyflogwr yn y broses yn syniad da ond bod rhaid amlygu’n glir goblygiadau'r prisiad.

 

6.

CYFRIFON TERFYNOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2021 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 196 KB

 

Cyflwyno –

·         Datganiad o’r Cyfrifon ôl-Archwiliad;

·         Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru;

·         Llythyr Cynrychiolaeth

 

I ystyried yr adroddiad

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad ynghyd a Datganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd 2020/21 (ôl archwiliad) gan y Pennaeth Cyllid yn manylu ar weithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben Mawrth 31ain 2021. Atgoffwyd yr Aelodau bod drafft o’r cyfrifon wedi ei gyflwyno i gyfarfod 12fed o Orffennaf 2021, ac mai mân addasiadau i’r naratif a gafwyd ac nid i’r ffigyrau. Nodwyd bod y Pwyllgor Pensiynau, sydd â chyfrifoldeb dros dderbyn y cyfrifon yn ffurfiol, wedi cymeradwyo’r cyfrifon ar y 17eg o Dachwedd 2021.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Llongyfarchwyd y swyddogion am eu gwaith ac am y cyflwyniad a gafwyd yn y Cyfarfod Blynyddol. O ystyried bod gwerth y Gronfa wedi cynyddu’n flynyddol dros yr 20 mlynedd diwethaf, bod hyn yn fesurydd da o lwyddiant a gwaith yr Adran Gyllid.

 

Diolchwyd i’r Pennaeth Cyllid, y Rheolwr Buddsoddi a’r tîm am gwblhau’r gwaith - gwerthfawrogwyd eu hymroddiad a chywirdeb y gwaith.

 

PENDERFYNWYD derbyn, er gwybodaeth

 

Y Datganiad o’r Cyfrifon 2020/21 (ôl archwiliad)

Yr adroddiad ‘ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd

Y Llythyr Cynrychiolaeth

 

 

 

7.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 141 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r Aelodau ar waith y Bartneriaeth, perfformiad y Gronfa ynghyd a datblygiadau ers sefydlu yn 2017. Adroddwyd bod cydweithio yn parhau i fynd o nerth i nerth ac erbyn Rhagfyr 2021 bod 83% o Gronfa Gwynedd wedi ei bwlio gyda PPC (56% drwy’r prif gronfeydd a 27% drwy fuddsoddiadau goddefol). O ystyried bod PPC yn chwarae rhan amlwg ym mherfformaid Cronfa Gwynedd, ystyriwyd pwysigrwydd diweddaru’r Bwrdd yn rheolaidd o waith y Bartneriaeth

 

Yng nghyd-destun Cronfeydd Ecwiti, a sefydlwyd yn 2019, nodwyd, er bod perfformiad y chwarter diwethaf wedi bod yn is na’r meincnod, bod y perfformiad yn gyffredinol wedi bod yn safonol iawn ac wedi cyfrannu’n dda i berfformiad y gronfa. Ategwyd bod y chwarter diwethaf wedi bod yn un heriol gyda phryderon ynglŷn ag adfywiad yr economi oedd yn ddisgwyliedig wedi cyfnod mor gryf.

 

Yng nghyd-destun Cronfeydd Incwm Sefydlog, a sefydlwyd 12 mis yn ôl, awgrymwyd bod y perfformiad cyffredinol yn ymddangos yn dda er eto, perfformiad y chwarter diwethaf yn is na’r meincnod oherwydd pryderon chwyddiant ac amrywiol ffactorau eraill.

 

Adroddwyd bod cyfran Marchnadoedd Datblygol y Gronfa wedi symud o gwmni Fidelity i Gronfa PPC ar yr 21ain o Hydref 2021 ac mai Rheolwyr y Gronfa newydd oedd Artisan, Bin Yuan, Barrow Hanley, Axiom, Numeric ac Oaktree. Ategwyd, yn unol â chyngor Russell Investments, bod Bin Yuan wedi eu dewis oherwydd eu lleoliad yn Tsieina ac felly’n arbenigwyr ar gymeriad y wlad a’i marchnadoedd.

 

Mynegwyd mai gwaith diweddaraf y Bartneriaeth oedd sefydlu Marchnadoedd Preifat gyda chynghorydd chwilio arbenigol BFinance yn cynorthwyo’r Bartneriaeth gyda’r broses o benodi Rheolwyr Buddsoddi ar gyfer Isadeiledd a Chredyd Preifat. Ategwyd mai’r bwriad yw lansio’r cronfeydd hyn yn 2022 gyda Chronfa Gwynedd yn buddsoddi unrhyw arian newydd marchnadoedd preifat ynddynt.

 

 

 

 

 

Yng nghyd-destun cynrychiolydd aelodau ar y Cyd bwyllgor Llywodraethu, nodwyd bod

Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo addasiadau i’r Cytundeb Rhyng-Awdurdod ar y 7fed o Hydref 2021. Bydd disgwyl i holl Awdurdodau’r PPC gymeradwyo’r addasiadau cyn symud ymlaen i’r cam nesaf o enwebu cynrychiolydd Aelodau. Yn unol â’r drefn sydd wedi ei chytuno, ym mis Ionawr 2022 bydd cyfnod o dair wythnos ar gael i bob Bwrdd Pensiwn enwebu un Cynrychiolydd Aelodau i ymgymryd â’r rôl yma. Yn mis Chwefror bydd rhestr fer yn cael ei llunio a chynrychiolydd aelodau i’w benodi yn ffurfiol yng nghyfarfod y Cyd Bwyllgor 23 Mawrth 2022.

 

Mynegodd y Pennaeth Cyllid y byddai yn cefnogi cais Osian Richards fel cynrychiolydd aelodau ar y Cydbwyllgor Llywodraethu (fel sylwedydd am gyfnod o 2 flynedd). Cadarnhawyd mai un unigolyn ar draws 8 Bwrdd Pensiwn Cymru fydd yn cael ei benodi.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Cynigiwyd ac eiliwyd enwebu Osian Richards fel cynrychiolydd aelodau ar y Cyd-bwyllgor Llywodraethu

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r canran a fuddsoddir yn y Marchnadoedd Datblygol, nodwyd nad oedd canrannau unigol ar gyfer yr is gronfeydd ar gael ond bod 5% o’r  Gronfa i’w fuddsoddi gyda Bin Yuan. Nodwyd nad oedd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

PERFFORMIAD BUDDSODDI'R GRONFA BENSIWN HYD AT 30 MEDI 2021 pdf eicon PDF 343 KB

I hysbysu aelodau’r bwrdd o berfformiad buddsoddiadau'r Gronfa Bensiwn

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi diweddariad ar berfformiad y gronfa. Eglurwyd bod y Gronfa wedi perfformio yn dda iawn gyda chynnydd graddol dros yr 20 mlynedd diwethaf. Erbyn 30ain Medi 2021 roedd y gronfa mewn sefyllfa iach iawn ac yn werth £2.7 biliwn.

 

Cyfeiriwyd at berfformiadau buddsoddi’r Gronfa gan amlygu, er bod y Gronfa wedi tanberfformio yn ystod y chwarter diwethaf oherwydd amodau heriol iawn, bod  y perfformiad dros y flwyddyn yn parhau uwchben y meincnod. Wrth ystyried perfformiad y Rheolwyr Buddsoddi Ecwiti, adroddwyd bod y perfformiad  yn un safonol iawn ac felly hefyd perfformiad buddsoddiadau Incwm Sefydlog sydd dros y flwyddyn yn uwch na’r meincnod.

 

Gyda pherfformiad y Rheolwyr Eiddo, amlygwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un heriol gydag ansicrwydd mewn rhai sectorau megis swyddfeydd a manwerthu. Ategwyd bod y  sector manwerthu yn dechrau sefydlogi ond parhau mae’r ansicrwydd ynglŷn â dyfodol swyddfeydd ar hyn o bryd. Adroddwyd bod twf wedi parhau yn y meysydd diwydiannol a logisteg gydag effaith e-fasnach ar y gadwyn gyflenwi. Tybiwyd mai diddorol fydd gweld sut bydd eiddo yn sefydlogi i’r dyfodol. Mynegwyd hefyd bod y Rheolwyr Eiddo gyda sgôr GRESB (Global Real Estate Sustainability Benchmark) da iawn sydd yn ffactor bwysig iawn y dyddiau hyn.

 

Cyflwynwyd fanylion am y Grŵp Partners gan egluro nad oedd modd gweld gwir elw a dychweliadau ar y buddsoddiadau hyn hyd nes bydd yr asedau unigol yn cael ei gwerthu. Ategwyd bod y sefyllfa yn cael ei fonitro’n barhaus gan Hymans Robertson ac nad oedd unrhyw bryderon i adrodd arnynt.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod y ffigyrau yn dda a chalonogol

·         Dim byd negyddol yn yr adroddiad er yr angen i gadw llygad ar fuddsoddiadau eiddo

·         Yn llongyfarch yr Adran ar eu gwaith – y Gronfa mewn dwylo da

 

Mewn ymateb i’r newyddion bod Mr Dafydd Edwards y Pennaeth Cyllid yn ymddeol yn hyblyg o fis Ionawr 2022 a beth oedd y cynllun olyniaeth, mynegwyd bod Mr Dewi Morgan wedi ei benodi fel Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd. O ganlyniad, bydd Mr Dafydd Edwards yn derbyn rôl Cyfarwyddwr Cronfa Bensiwn Gwynedd am gyfnod o 18 mis fyddai’n sicrhau cysondeb a throsglwyddiad llyfn i’r dyfodol. Ategwyd y bydd Mr Dewi Morgan yn cael ei wahodd i’r trafodaethau buddsoddi a’r Rheolwr Buddsoddi a’r Rheolwr Pensiynau yn esblygu i’w rolau. Mewn ymateb, nodwyd bod y cynllun olyniaeth yn rhoi cysur i’r Aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â Strategaeth Buddsoddi, nodwyd bod y Strategaeth yn cael ei diweddaru bob 3 mlynedd gyda’r Strategaeth nesaf i’w chyhoeddi Mawrth 2023 yn dilyn prisiad Hydref 2022.