Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Sioned Parry (Cynrychiolydd Cyflogwr) ac Osian Richards (Cynrychiolydd Aelodau)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 117 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 16 Hydref fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION Y PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 124 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 27 Tachwedd 2023

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 27 Tachwedd 2023

 

6.

RHAGLEN DASHFYRDDAU PENSIYNAU pdf eicon PDF 105 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau oedd yn manylu ar y gwaith sydd angen ei wneud mewn ymateb i lansiad Rhaglen Dashfyrddau Pensiynau sy’n cael ei arwain gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Bwriad y Rhaglen Dashfyrddau Pensiynau yw cynnig gwasanaeth digidol ar gyfer rhannu gwybodaeth a chynorthwyo aelodau i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad gan gael mynediad at wybodaeth ddiogel mewn un lle. Ategwyd y byddai darparwyr dashfwrdd lluosog yn y farchnad yn rhoi cyfle i unigolion ddewis dashfwrdd a chyflwyno cais i weld gwybodaeth am eu pensiwn. Bydd rhaid i gynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus gysylltu â dashfwrdd erbyn Medi 30 2025.

 

Adroddwyd bod angen i weinyddwyr Cronfa Bensiwn Gwynedd,

 

·         benodi Darparwr Gwasanaeth Integredig (ISP) i gysylltu ag ecosystem y dashfwrdd pensiynau. Nodwyd bod Heywood Pensions Technologies (darparwr meddalwedd) yn datblygu ISP fyddai hefyd yn gweithio gyda phrosesau a meddalwedd cyfredol y Cyngor.

·         ymateb i’r her o sicrhau bod y data sydd ar y system yn gywir. Er yn sgorio’n uchel yn sgoriau data cyffredin a chynllun penodol y Rheoleiddiwr Pensiynau, bydd rhaid cydymffurfio â safon newydd, sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd mewn perthynas â’r rhaglen dashfwrdd pensiynau.

·         Clirio gwaith sydd yn ymwneud ac ymadawyr sydd heb eu prosesu - rhaid cwblhau’r gwaith cyn cysylltu ag ecosystem y dashfyrddau. Adnoddau staff ychwanegol wedi eu dyrannu i’r gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau bod hyn yn cael ei gyfarch (nifer yr ymadawyr heb eu prosesu bellach wedi gostwng o oddeutu 6,000 i 3,500 erbyn Rhagfyr 2023.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Bod y gwaith yn mynd i’r cyfeiriad cywir

·         Croesawu bod adnoddau ychwanegol wedi cael eu hadnabod i gwblhau’r gwaith

 

Mewn ymateb i gwestiwn os oedd y gwaith yn wirfoddol neu’n fandadol, nodwyd bod y gwaith yn fandadol ac yn cael ei arwain gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Ategwyd mai’r bwriad yw cael y dashfyrddau wedi eu cwblhau ar draws y DU erbyn 2026 - y gwaith cysylltu yn cael ei fonitro ac os na fydd cydymffurfiaeth, bydd cosb.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â derbyn diweddariad o’r gwaith, nodwyd bod bwriad cyflwyno diweddariad i bob cyfarfod o’r Bwrdd gan gyflwyno data cyfredol o’r datblygiadau ar hyn sydd wedi ei gwblhau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

 

 

7.

DIWEDDARIAD ACHOS MCCLOUD pdf eicon PDF 106 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau oedd yn manylu ar y gwaith sydd angen ei wneud mewn ymateb i lansiad Rhaglen Dashfyrddau Pensiynau sy’n cael ei arwain gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Bwriad y Rhaglen Dashfyrddau Pensiynau yw cynnig gwasanaeth digidol ar gyfer rhannu gwybodaeth a chynorthwyo aelodau i gynllunio ar gyfer eu hymddeoliad gan gael mynediad at wybodaeth ddiogel mewn un lle. Ategwyd y byddai darparwyr dashfwrdd lluosog yn y farchnad yn rhoi cyfle i unigolion ddewis dashfwrdd a chyflwyno cais i weld gwybodaeth am eu pensiwn. Bydd rhaid i gynlluniau pensiwn gwasanaethau cyhoeddus gysylltu â dashfwrdd erbyn Medi 30 2025.

 

Adroddwyd bod angen i weinyddwyr Cronfa Bensiwn Gwynedd,

 

·         benodi Darparwr Gwasanaeth Integredig (ISP) i gysylltu ag ecosystem y dashfwrdd pensiynau. Nodwyd bod Heywood Pensions Technologies (darparwr meddalwedd) yn datblygu ISP fyddai hefyd yn gweithio gyda phrosesau a meddalwedd cyfredol y Cyngor.

·         ymateb i’r her o sicrhau bod y data sydd ar y system yn gywir. Er yn sgorio’n uchel yn sgoriau data cyffredin a chynllun penodol y Rheoleiddiwr Pensiynau, bydd rhaid cydymffurfio â safon newydd, sy’n cael ei datblygu ar hyn o bryd mewn perthynas â’r rhaglen dashfwrdd pensiynau.

·         Clirio gwaith sydd yn ymwneud ac ymadawyr sydd heb eu prosesu - rhaid cwblhau’r gwaith cyn cysylltu ag ecosystem y dashfyrddau. Adnoddau staff ychwanegol wedi eu dyrannu i’r gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau bod hyn yn cael ei gyfarch (nifer yr ymadawyr heb eu prosesu bellach wedi gostwng o oddeutu 6,000 i 3,500 erbyn Rhagfyr 2023.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

·         Bod y gwaith yn mynd i’r cyfeiriad cywir

·         Croesawu bod adnoddau ychwanegol wedi cael eu hadnabod i gwblhau’r gwaith

 

Mewn ymateb i gwestiwn os oedd y gwaith yn wirfoddol neu’n fandadol, nodwyd bod y gwaith yn fandadol ac yn cael ei arwain gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Ategwyd mai’r bwriad yw cael y dashfyrddau wedi eu cwblhau ar draws y DU erbyn 2026 - y gwaith cysylltu yn cael ei fonitro ac os na fydd cydymffurfiaeth, bydd cosb.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â derbyn diweddariad o’r gwaith, nodwyd bod bwriad cyflwyno diweddariad i bob cyfarfod o’r Bwrdd gan gyflwyno data cyfredol o’r datblygiadau ar hyn sydd wedi ei gwblhau.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

 

8.

GWEINYDDIAETH PENSIYNAU pdf eicon PDF 461 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi trosolwg cyffredinol o weinyddu pensiwn dros y flwyddyn ddiwethaf ynghyd â gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod a diweddariad ar amrywiol brosiectau.

 

Cyfeiriwyd at lwyddiant a phoblogrwydd y wefan ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ gan amlygu bod nifer o aelodau yn ymweld â’r safle yn ddyddiol ac oddeutu 20,000 wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth hyd yma. Nodwyd bod fersiwn newydd o’r wefan yn cael ei lasnio yn ystod Gwanwyn 2024 gyda nodweddion newydd i’r aelodau fydd yn cynnwys gwelliannau i’r broses cofrestru.

 

Adroddwyd bod trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal gyda’r Adran Technoleg Gwybodaeth i ail ddylunio safle we gyffredinol y Gronfa i gyd fynd gyda delwedd newydd y wefan ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’. Nodwyd bod angen diweddaru’r wefan a bod bwriad datblygu sawl fideo byr i egluro gwahanol agweddau o’r cynllun i’r aelodau.

Bu stondin y Gronfa Bensiwn ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan yn llwyddiannus iawn gyda nifer yn ymweld i holi am wybodaeth a chefnogaeth. Y bwriad yw cynnal digwyddiadau tebyg i aelodau yn ystod 2023/24.

 

Yng nghyd-destun Cynnydd Pensiwn 2024, nodwyd mai’r Mynegai Prisiau Defnyddwyr ar gyfer Medi 2023 oedd 6.7% ac mai’r ffigwr yma fydd yn cael ei ddefnyddio yn Ebrill 2024 i gynyddu buddion pensiwn (yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Llywodraeth) i bensiynwyr sydd wedi ymddeol ers 12 mis neu fwy.

 

Tynnwyd sylw at y gwaith a’r materion sy’n ofynnol adrodd arnynt yn 2024/25. Y bwriad yw cynnwys y wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol ynghyd â diweddariadau rheolaidd i’r Bwrdd Pensiwn olrhain y cynnydd a wneir.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod yr adroddiad yn un defnyddiol

·         Croesau diweddariadau rheolaidd o wybodaeth

·         Bydd angen gwaith paratoi sylweddol ar gyfer yr Adroddiad Blynyddol

 

Mewn ymateb i sylw nad oedd cofnod swyddogol o hyfforddiant a fynychwyd gan Aelodau a bod hi’n ofynnol i aelodau’r Bwrdd Pensiwn fynychu sesiynau hyfforddiant penodol ond nid y Pwyllgor, nodwyd bod y wybodaeth yn cael ei gofnodi ond bydd disgwyliad i’r wybodaeth gael ei gynnwys yn yr adroddiad blynyddol i’r dyfodol.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth.

 

9.

ARCHWILIAD PERTHNASOL CYFRIFON CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 95 KB

Cyflwyno –

·         Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru, a

·         Datganiad o Gyfrifon Ôl- Archwiliad

 

I ystyried a nodi’r wybodaeth

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Atgoffwyd yr Aelodau bod drafft o Ddatganiad o Gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd 2022/23 wedi ei gyflwyno yng nghyfarfod Gorffennaf 2023, lle adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid, yn ei rôl fel Swyddog Cyllidol Cyfrifol, wedi ardystio’r cyfrifon drafft a’u bod yn destun archwiliad.

 

Adroddwyd bod y cyfrifon bellach wedi cael eu harchwilio gan Archwilio Cymru a bod yr adroddiad ‘ISA260’ yn manylu ar ddarganfyddiadau'r archwiliad. Amlygwyd na chanfuwyd unrhyw gamddatganiadau perthnasol, ond cyfeiriwyd at Nodyn 13 lle canfuwyd gwall yn rhaniad yr incwm buddsoddi, ond bod y cyfanswm yn ymddangos yn gywir. Amlygwyd bod ambell i eitem ‘datguddiad’ (disclosure) hefyd wedi eu cywiro ond nad oedd unrhyw newid i’r cyfrifon craidd a gyflwynwyd i’r Bwrdd ym mis Gorffennaf 2022.

 

Cymeradwywyd y cyfrifon gan y Pwyllgor Pensiynau ar yr 27ain o Dachwedd 2023 ac fe’u cyflwynwyd yng Nghyfarfod Blynyddol y Gronfa. Cadarnhawyd bod y rheolwyr  wedi cyflwyno ymateb i argymhelliad Archwilio Cymru, oedd yn ymwneud â data aelodaeth yn cael ei  ddiweddaru’n barhaus.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a llongyfarchwyd y tîm am gyflwyno cyfrifon glan a hynny o fewn yr amserlen.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth a nodi sylwadau’r Archwilwyr.

 

10.

GWYDDONIAETH HINSAWDD A MODELU ECONOMAIDD pdf eicon PDF 129 KB

Nodi cynnwys yr adroddiad ac ystyried unrhyw risgiau cysylltiedig

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ymateb i sut mae Cronfa Pensiwn Gwynedd wedi ystyried yr hinsawdd wrth osod ei strategaeth ariannu a buddsoddi, a sut byddai hyn yn datblygu i’r dyfodol.

 

Adroddwyd bod nifer o erthyglau diweddar wedi'u cyhoeddi yn nodi nad yw'r cyngor y mae cronfeydd pensiwn yn ei dderbyn yn dilyn gwyddoniaeth hinsawdd ac felly'n peryglu'r buddsoddiadau (hyn, yn bennaf, yn seiliedig ar adroddiad gan Carbon Tracker (Gorff 2023). Nodwyd bod rhai o aelodau’r Bwrdd hefyd wedi tynnu sylw swyddogion at yr erthyglau gan rannu eu pryderon.  Prif neges Carbon Tracker, cwmni dielw sy’n archwilio risg hinsawdd, yw bod papurau economaidd yn anwybyddu ‘pwyntiau tyngedfennol’ hinsawdd sy’n golygu bod newidiadau yn yr effaith economaidd o gynhesu byd-eang yn “llawer mwy tebygol o fod yn amharhaol ac yn sydyn, yn hytrach nag yn barhaus ac yn gymharol raddol”.

 

Nodwyd bod y pryderon wedi eu rhannu gyda Hymans Robertson, ymgynghorwyr buddsoddi'r Gronfa oedd, yn cytuno bod yr adroddiad yn codi pwyntiau dilys, ond bod yr agweddau roeddynt yn cyfeirio atynt wedi eu hystyried wrth osod strategaeth buddsoddi'r Gronfa. Ystyriwyd y materion hyn drwy ddefnyddio ‘dadansoddiad senario’ gydag enghreifftiau o’r sefyllfaoedd hynny wedi eu rhannu gyda’r Aelodau. Cydnabuwyd bod angen esblygu’r agwedd wrth i ddealltwriaeth o risg hinsawdd ddatblygu, a bod angen i Hymans ymchwilio i senarios manylach a mwy eithafol. Ategwyd y bydd mesur amlygiad i beryglon hinsawdd a datblygu cynllun gweithredu pontio hinsawdd yn gamau nesaf allweddol i’r Gronfa fynd i’r afael a hwy ynghyd a gweithredu gofynion TCFD (sef datgelu trefniadau llywodraethu’r Gronfa yng nghyd-destun risgiau a chyfleoedd sy’n ymwneud â’r hinsawdd).

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Yn dilyn hyfforddiant diweddar gan Hymans bod rhywun yn teimlo’n fwy cyfforddus bod yr hyn mae Cronfa Gwynedd yn ei wneud yn cyfateb â’r safon gofynnol.

·         Bod angen sicrhau cydbwysedd - bod budd i ymgysylltu a cheisio dylanwadu

·         Os oes bwriad i fuddsoddi llai mewn ecwiti a mwy mewn isadeiledd i’r dyfodol, bydd hyn yn fwy carbon niwtral

 

·         Bod ffi yn cael ei dalu i Hymans i wneud y gwaith. A ddylid derbyn yr hyn mae Hymans yn ddweud - a yw’r ymateb yn dderbyniol? A ddylid trafod gydag Aelodau’r Gronfa i ganfod os ydynt yn hapus i beidio â buddsoddi gyda chwmnïau sydd yn niweidiol i’r hinsawdd? Pam na ellir dadfuddosddi erbyn 2030? Cronfeydd pensiwn eraill yn dadfuddsoddi - angen edrych i mewn i hyn.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Pennaeth Cyllid mai prif gyfrifoldeb y Pwyllgor Pensiynau yw sicrhau dychweliadau da i aelodau’r Gronfa drwy fuddsoddi yn gyfrifol a diogel. Eglurwyd, pan fydd cyngor yn cael ei dderbyn gan Hymans Robertson,  bydd swyddogion proffesiynol yn herio, holi, dehongli a dadansoddi’r wybodaeth cyn ei rannu / drafod gydag aelodau. Bydd hyn yn fodd o sicrhau llywodraethiant cyfrifol o’r Gronfa ac o osgoi peryglu sefydlogrwydd y Gronfa mewn unrhyw fodd. Ategwyd mai penderfyniad ffurfiol Cronfa Gwynedd yw ymgysylltu ac nid dadfuddsoddi a hynny oherwydd bod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

CYNADLEDDAU PENSIYNAU pdf eicon PDF 52 KB

I ystyried y dyddiadau a datgan diddordeb i fynychu’r digwyddiadau

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yn rhestru dyddiadau cynadleddau pensiynau ar gyfer 2024. Nodwyd bod y cynadleddau yn rhoi cyfle i’r Aelodau ehangu eu gwybodaeth a thrafod materion cyfoes. Trafodwyd y dyddiadau a bu i’r Aelodau ddatgan diddordeb yn y digwyddiadau hynny oedd yn gyfleus iddynt.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth a nodi’r dyddiadau

 

12.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff  Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny)

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol awdurdod cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn amhriodol o ran buddiannau cydnabyddedig trydydd bartïon ac yn gallu tanseilio hyder i ddod a gwybodaeth ymlaen gerbron y Cyngor a felly gallu’r Cyngor i wneud penderfyniadau ar ran y gronfa. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau gwerth am arian a’r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er budd y cyhoedd.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â phroses gaffael arfaethedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor a’i bartneriaid drwy danseilio cystadleuaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn mae’r materion yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

13.

ADOLYGIAD O DDYRANIAD ASEDAU STRATEGOL CRONFA BENSIWN GWYNEDD

I nodi dyraniad asedau strategol arfaethedig y gronfa

 

(copi i Aelodau’r Bwrdd yn unig)

Cofnod:

Amlygodd y Rheolwr Buddsoddi bod y Pwyllgor Pensiynau, yn eu cyfarfod fis Tachwedd 2023, wedi penderfynu cymeradwyo dyraniad asedau newydd, fydd yn cael eu gweithredu dros y misoedd nesaf.

 

Mynegwyd mai Dyrannu Asedau Strategol yw'r penderfyniad pwysicaf ar gyfer unrhyw Gronfa Bensiwn gan ategu nad oes unrhyw ffordd gywir nac anghywir o benderfynu ar y Dyraniad Asedau Strategol ac mai mater o ddod o hyd i'r ateb gorau i gyfyngiadau a chyfleoedd yw hyn. Bydd yr ateb hefyd yn cael ei ddylanwadu gan athroniaethau personol y buddsoddwyr.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Trafodwyd yr asedau arfaethedig newydd

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

·           Bod y Bwrdd yn derbyn cyfeiriad y Pwyllgor

·           Yn croesawu gwaith i sefydlogi’r Gronfa

·           Yn diolch i’r swyddogion am eu gwaith

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth a nodi’r dyraniad asedau strategol newydd ar gyfer y Gronfa