Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn
cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 10fed
o Ragfyr 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar Ragfyr
y 10fed 2019 fel rhai cywir. Croesawyd Sioned Parry (Cyngor Bwrdeistrefol Conwy) i’r cyfarfod fel cynrychiolydd
cyflogwr newydd i’r Bwrdd. |
|
COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU Cyflwyno er gwybodaeth, cofnodion y Pwyllgor Pensiynau a
gynhaliwyd 16 o Ionawr 2020 ac ystyried unrhyw faterion yn codi Cofnod: Derbyniwyd, er gwybodaeth,
gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2020. Nid
oedd gan yr aelodau unrhyw sylwadau pellach i’w codi o’r cofnodion |
|
DIWEDDARIAD CYFFREDINOL AM WEINYDDIAETH PENSIYNAU I ystyried yr
adroddiad Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad cynhwysfawr gan y Rheolwr Pensiynau
yn rhoi trosolwg
cyffredinol o weinyddu pensiwn dros y 6 mis diwethaf ynghyd
a gwybodaeth am y gwaith a gyflawnwyd dros y cyfnod, diweddariad ar amrywiol brosiectau
a rhestr o’r heriau mae’r Uned
Weinyddu yn eu hwynebu o ddydd
i ddydd. Eglurwyd, gydag amryw o newidiadau
staffio diweddar byddai cyfnod byr
o ansefydlogrwydd o fewn yr adran gan
fod angen cynnal sesiynau anwytho a hyfforddiant i’r staff newydd Yng nghyd-destun i-connect, adroddwyd bod cynnydd sylweddol yn nefnydd
y system o gyflwyno data aelodau
yn fisol. Amlygwyd bod Cyngor Gwynedd bellach yn cyflwyno
manylion yn fisol a gwaith yn cael ei
wneud i drosglwyddo
Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Bwrdeistrefol Sirol Conwy i’r system cyn diwedd y flwyddyn
dreth 2019/20. Y bwriad yw trosglwyddo Cyngor Môn a Grŵp Llandrillo Menai yn y flwyddyn dreth
2020/21. Cyflwynwyd crynodeb o ganlyniadau ansawdd data a gomisiynwyd gan ddarparwr meddalwedd
(Aquila Heywod) ar gyfer y Gronfa. Amlygwyd bod canran gyffredinol y profion a basiwyd ar gyfer data cyffredin Gwynedd yn 99.4% oedd yn welliant
dros sgôr 2018 o 99.3%. Ategwyd bod canran gyffredinol y profion a basiwyd ar gyfer
data penodol y cynllun
yn 96.1%. Nodwyd bod cynllun gweithredu ar gyfer glanhau
data yn cael ei ddatblygu fel
ymateb i ganfyddiadau’r ymarfer fel bod modd gwella’r
data ar gyfer y flwyddyn nesaf. DERBYNIWYD y wybodaeth. |
|
DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU I ystyried yr
adroddiad Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r Aelodau ar ddatblygiadau
Partneriaeth Pensiwn Cymru. Adroddwyd bod perfformiad y bartneriaeth wedi bod yn safonol
iawn a’r cydweithio yn mynd
o nerth i nerth. Atgoffwyd yr Aelodau bod £606.2m o fuddsoddiadau ecwiti Cronfa Gwynedd wedi trosglwyddo
i Gronfa Partneriaeth Pensiwn Cymru yn Chwefror 2019 gyda’r swm wedi
ei rannu yn gyfartal i
ddwy gronfa. Ategwyd bod perfformiad y ddwy gronfa yn
uwch na’r meincnod a bod hyn yn newyddion calonogol
iawn. Y cam nesaf fydd trosglwyddo buddsoddiadau presennol gyda Fidelity (£161.6m - Ecwiti Byd Eang) ac Insight (£292.0m - Bondiau) i ddwy
gronfa Incwm Sefydlog. Nodwyd bod Russell
Investment yn monitro’r perfformiad ac yn cynnal trafodaethau a chyfarfodydd yn aml gyda’r Gronfa
fel bod modd cwblhau’r trosglwyddiad yn Ebrill 2020. Yn dilyn y trosglwyddiadau Incwm Sefydlog, adroddwyd mai’r bwriad yw penderfynu
ar strwythur rheolwyr buddsoddi delfrydol ar gyfer
cronfa Marchnadoedd Datblygol. Amlygwyd bod oddeutu £52m i’w drosglwyddo i’r gronfa yma o gwmni
Fidelity a thrafodaethau yn
cael eu cynnal
gyda Russell Investment i ystyried cronfeydd addas. Ategwyd bod Russell
Investments yn ystyried gofynion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol wrth fuddsoddi’n gyfrifol a'u bod yn edrych yn
fanwl ar ffyrdd o gwrdd â’r anghenion hyn,
ynghyd a buddsoddiadau
carbon isel, wrth ddatblygu ffurf a rheolaeth Cronfa Partneriaeth Pensiwn Cymru ond heb
golli dychweliadau. Cyfeiriwyd at drefniadau llywodraethu Cydbwyllgor y Bartneriaeth a nodwyd bod bwriad trafod os yw’r
trefniant yn dal yn briodol yn
eu cyfarfod nesaf ar y 12fed o Fawrth. Ategwyd bod awgrym i gynnwys
cynrychiolaeth o’r Byrddau Pensiwn (o fewn yr awdurdodau
cyfansoddol) ar y Cydbwyllgor. Diolchwyd am y wybodaeth. Yn ystod
y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod
Cronfa Gwynedd wedi cytuno a mabwysiadu
egwyddorion buddsoddi cyfrifol a bod angen cadw at rhain wrth
ystyred buddsoddiadau i’r dyfodol. Hwn
yn safiad cryf ac ni
ddylai unrhyw ddylanwad geisio newid y safbwynt. ·
Angen osgoi meddylfryd rhuthro i mewn a chael
ein dylanwadu gan eraill ·
Bod
cyfrifoldeb gan y Bwrdd i herio
penderfyniadau a sicrhau
bod canllawiau yn cael eu dilyn ·
Bod
angen sicrhau balans cywir fel
bod y disgwyliadau yn cael eu cwrdd ·
Bod yr
17 amcan cynaliadwy yn cael sylw
- awgrym i gynnal sesiwn hyfforddiant
ar yr amcanion
hyn ar y cyd gydag Aelodau’r
Pwyllgor Pensiynau ·
Trefniadau Llywodraethu
Partneriaeth Pensiynau Cymru - awgrym bod Cadeiryddion Byrddau Pensiwn yn cael
mynychu’r cydbwyllgor fel sylwebwyr - yn cael rhoi
mewnbwn ond heb bleidlais ·
Posib argymell
2 sylwebydd (un o’r De ac
un o’r Gogledd) ·
Ni
ddylai cynrychiolydd aelodau fod yn
gadeirydd annibynnol ·
Rhaid i’r ymarfer ychwanegu gwerth ·
Bod CIPFA yn argymell yr
ymarfer a Chronfeydd eraill yn ei
weithredu - angen i Bartneriaeth Cymru wneud yr
un fath ·
Rheolydd Pensiynau
yn pwyso ar y Byrddau i
edrych ar sut mae cronfeydd
yn gweithredu - hyn yn rheswm
da i gael cynrychiolwyr o’r Byrddau Pensiwn ar y Cydbwyllgor · Awgrym ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
CYFATHREBU GYDAG AELODAU NEWYDD AC IFANC I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Yn unol â gofynion y Bwrdd am fwy o wybodaeth ynglŷn â’u pryderon bod aelodau ifanc yn
optio allan
o’r Cynllun Pensiwn cyflwynwyd adroddiad manylach gan y Rheolwr Pensiynau
i’r hyn a gyflwynwyd i gyfarfod
10.12.19. Cyfeiriwyd at y pecyn
cychwynnol sy’n cael ei anfon
allan cyn
gynted â phosibl i aelodau newydd
ar ôl sefydlu
cofnod ar y system gyflogaeth, ynghyd a llyfryn y cynllun a ffurflen optio allan sydd yn
cynnwys llythyr yn rhestru holl
fuddion o barhau gyda’r cynllun. Adroddwyd bod Grŵp Cyfathrebu Cymru wedi ei
ailsefydlu i drafod materion cyfathrebu ag aelodau
a mynegwyd bod y cyfarfod nesaf yn ystyried
arferion gorau ac yn archwilio i
ddulliau y gall y cronfeydd
gydweithio arnynt i wella’r wybodaeth
a ddarperir i aelodau. Yn ystod
y drafodaeth, nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod y pecyn
yn un proffesiynol iawn ac yn cynnwys
digon o wybodaeth ·
Awgrym i’r pecyn gael ei
anfon allan gyda chytundeb newydd ·
Awgrym bod brawddeg yn cael ei
gynnwys yn y llythyr penodi yn cyfeirio’r unigolyn
at wefan y Gronfa ·
Angen sicrhau
bod cyngor da yn cael ei roi
o’r dechrau ·
Ystyried modd o ymhelaethu ar y buddion mewn dull cryno Derbyniwyd y wybodaeth |
|
CYNHADLEDD LAPFF, 4-6 RHAGFYR 2019- BOURNEMOUTH I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gydag atodiad a baratowyd
gan Hymans Robertson yn crynhoi’r prif faterion a
gyflwynwyd yn ystod y gynhadledd. Nodwyd mai thema gyffredinol y gynhadledd
oedd gwytnwch corfforaethol a’r heriau y mae hyn yn ei greu. Amlygwyd mai’r
pynciau a drafodwyd oedd rheoli gwastraff bwyd a phlastig, trosglwyddo ynni a
diogelwch ar y we. Yn ystod
y drafodaeth, nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Bod
angen eglurder o’r hyn mae cwmnïau yn ei ‘gyfrif’ ·
Bod
angen i Wynedd gytuno ar eu safonau ·
Bod
angen defnyddio’r wybodaeth i ddiweddaru’r gofrestr risg – cynnig bod y
gofrestr risg yn eitem sefydlog ar y rhaglen DERBYNIWYD y wybodaeth |
|
CYNHADLEDD LLYWODRAETHU'R CPLlL, 23-24 IONAWR 2020 - EFROG I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Sharon Warnes ynghyd ag atodiad a baratowyd gan Hymans Robertson
yn crynhoi’r materion a drafodwyd yn y gynhadledd. Tynnwyd sylw at y prif
negeseuon a mynegwyd bod pwyslais ar gronfeydd i sicrhau bod eu haelodau yn
addas. Derbyniwyd y wybodaeth Amlygwyd bod
Aelodau hefyd wedi mynychu seminar LGC ym mis Chwefror. Adroddwyd mai prif ffactorau'r
seminar oedd gofynion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethol wrth
fuddsoddi’n gyfrifol ac effaith y coronafirws. Cyfeiriwyd hefyd at ddiweddariad
achos McCloud a gwnaed awgrym i gynnwys y mater ar y gofrestr risg. Derbyniwyd y
wybodaeth ac argymhellwyd cynnwys achos McCloud ar y gofrestr risg. |
|
PECYN HYFFORDDIANT Y RHEOLEIDDIWR PENSIYNAU I ystyried yr
adroddiad Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yn mynegi fel
rhan o’r rhaglen hyfforddi bod hi’n ofynnol i
aelodau’r Bwrdd ymgymryd â phecyn hyfforddiant ar lein y Rheoleiddiwr Pensiynau. Amlygwyd bod yr hyfforddiant yma yn galluogi
Aelodau Bwrdd i gyrraedd y lefel
isaf o wybodaeth a dealltwriaeth a gyflwynwyd yn Neddf Pensiynau
2004. Yn ystod
y drafodaeth, nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Angen cadarnhad bod yr hyfforddiant yn hanfodol – aelodau
eisoes wedi derbyn hyfforddiant tri diwrnod ·
Awgrym i drefnu dyddiau hyfforddiant os yn hanfodol ·
A yw’r Rheoleiddiwr Pensiynau yn gweld y Byrddau
Pensiwn fel rheolwyr? Beth yw eu disgwyliadau? ·
A yw
Aelodau’r Pwyllgor Pensiynau i gwblhau’r
hyfforddiant? Cynigiwyd ac eiliwyd
i dderbyn adroddiad pellach yn y cyfarfod nesaf PENDERFYNWYD gwneud cais am adroddiad pellach yn y cyfarfod nesaf |