Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Huw Trainor (Cynrychiolydd Cyflogwr)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

 

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Cofnod:

Amlygwyd yn sgil sefyllfa Wcráin bod nifer o ymholiadau wedi eu derbyn yn ceisio gwybodaeth am gysylltiadau’r Gronfa gyda Rwsia. Nodwyd bod y datganiad canlynol wedi ei ryddhau gan Partneriaeth Pensiwn Cymru ar ran yr 8 cronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol (CPLlL) yng Nghymru.  Ategwyd bod Cronfa Bensiwn Gwynedd wedi cyfrannu at y datganiad ac yn cefnogi safbwynt Partneriaeth Pensiwn Cymru, sy'n egluro ein sefyllfa:

 

Mae'r sefyllfa yn Wcráin yn peri tristwch mawr i ni ac rydym yn meddwl am bobl Wcráin.

 

Mae cyfanswm ein cysylltiad â Buddsoddiadau Rwsiaidd yn fach iawn ac yn llai nag 1%. Er hynny, yng ngoleuni'r digwyddiadau ofnadwy yr ydym wedi'u gweld a'r sancsiynau economaidd a osodwyd yn rhyngwladol, rydym wedi penderfynu'n gyfunol y dylid dadfuddsoddi o'r daliannau hyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl.

 

O ystyried yr amgylchiadau, nid ydym yn credu bod ymwneud â'r cwmnïau hyn yn opsiwn posibl.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 228 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 6ed Rhagfyr 2021 fel rhai cywir.

 

Llongyfarchwyd Osian Richards ar ei benodiad fel cynrychiolydd aelodau ar gydbwyllgor Llywodraethu, Partneriaeth Pensiwn Cymru. Nodwyd y byddai’r penodiad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol yng nghyfarfod nesaf y Cydbwyllgor.

 

 

 

5.

COFNODION PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 238 KB

Derbyn, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 17 Ionawr 2022

 

 


Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth gofnodion Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 17 Ionawr 2022

 

6.

STRATEGAETH GWEINYDDU PENSIYNAU pdf eicon PDF 619 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn ymateb i ofynion Adolygiad Llywodraethu Da i bob awdurdod gweinyddu gynhyrchu a chyhoeddi strategaeth weinyddol sydd yn hygyrch ac yn cyflawni gofynion y Rheoliadau CPLlL.

 

Eglurwyd, fel rhan o baratoi ar gyfer y prosiect llywodraethu da, rhannwyd copi drafft o'r strategaeth gyda Hymans Robertson er mwyn derbyn adborth.  Cadarnhawyd bod y Strategaeth Weinyddu yn cyffwrdd â’r meysydd priodol ac roeddynt o'r farn ei bod yn bodloni'r holl ofynion cyfredol a'r gofynion ychwanegol hynny sy'n deillio o'r adolygiad Llywodraethu Da.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Bod cynnwys y ddogfen yn daclus

·         Ffurf tablau swyddogaeth / tasg a targed perfformiad yn glir a manwl iawn

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ymgynghori gyda chyflogwyr, amlygwyd, yn dilyn barn y Bwrdd y byddai’r strategaeth yn cael ei rhannu gyda’r cyflogwyr am sylwadau cyn i’r Pwyllgor Pensiynau ei chymeradwyo. Nodwyd bod bwriad gweithredu’r strategaeth o’r 1af o Ebrill 2022 ac nid y 1af o Ionawr 2022 fel y nodwyd yn yr adroddiad.  Ategwyd y byddai’r strategaeth yn cael ei hadolygu a’i diweddaru yn ôl yr angen i adlewyrchu newidiadau yn rheoliadau’r cynllun ac yn arferion gwaith y Gronfa.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag amserlen monitro gweithrediad y strategaeth, ystyriwyd mai materion allweddol yn unig fyddai angen eu monitro gan awgrymu  gwneud hynny bob 6 mis (neu fel mater brys os bydd angen amlygu pryderon). Awgrymwyd cynnal adolygiad blynyddol o’r brif ddogfen a’i chyflwyno i’r Bwrdd am sylwadau.

 

Mewn ymateb i sylw bod rhai cronfeydd yn gosod dirwy i gyflogwyr am ddiffyg ymateb, nodwyd mai bwriad yr Uned Gweinyddu oedd cydweithio ac annog cydymffurfio a pheidio gosod dirywion.

 

Mewn ymateb i awgrym rhoi uchafswm o 10 diwrnod gwaith i ymateb i geisiadau gwybodaeth  / cwblhau tasgau fel dangosydd perfformiad allweddol i’r uned gweinyddu, nodwyd bod hyn yn dderbyniol.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

7.

CYMERADWYO CYLLIDEB 2022-23 pdf eicon PDF 213 KB

I ystyried yr adroddiad

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ceisio cymeradwyaeth y Pwyllgor i gyllideb ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022–23

 

Adroddwyd bod y gyllideb wedi ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau 17 Ionawr 2022. Eglurwyd bod cyllideb 2022/23 yn cynnwys addasiadau i strwythur staff yr Uned Gweinyddu Pensiynau mewn ymateb i gymhlethdod cynyddol y cynllun, yr her o  dderbyn data cywir ac amserol a phrosiect McCloud. Roedd y rhain yn cynnwys:

·         Creu 4 swydd newydd

Swyddog Pensiynau (i gefnogi gwaith AVCs) a 3 Cymhorthydd Pensiynau (cytundeb 2 flynedd ar gyfer prosiect McCloud gyda phosibilrwydd o estyniad os bydd y gwaith yn parhau heibio 2 flynedd)

·         Cynyddu cyflog 6 Cymhorthydd Pensiynau o GS3 i GS4

 

Nodwyd nad oedd y gyllideb yn cynnwys ffioedd Rheolwyr Buddsoddi nac Ymgynghorwyr, gan ei fod yn wariant newidiol. Er hynny, nodwyd y byddai’r gwariant yn cael ei adrodd yn llawn o fewn y cyfrifon terfynol ac Adroddiad Blynyddol y Gronfa.

 

Diolchwyd am y wybodaeth

 

Nododd Mr Eifion Jones, oedd yn bresennol ym mhwyllgor Pensiynau 17-01-22 fel sylwedydd, fod y Pwyllgor wedi ystyried costau ychwanegol i strwythur yr Uned Weinyddol yn fanwl a bod y penderfyniad o gymeradwyo’r gwariant wedi bod yn rhesymol a theg.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chynyddu cyflog y cymhorthyddion pensiynau, cadarnhawyd bod y swyddi wedi cael eu harfarnu yn unol a gofynion proses hunan arfarnu swyddi y Cyngor gan y Gwasanaeth Cefnogaeth Gorfforaethol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad

 

8.

ADOLYGU AMCANION I YMGYNGHORWYR BUDDSODDI pdf eicon PDF 113 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion cyfredol ynghyd a’r amcanion i’r dyfodol. Adroddwyd, yn dilyn adolygiad o’r marchnadoedd ymgynghori buddsoddi a rheoli ymddiriedol bu i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd nodi’r angen i Ymddiriedolwyr Cronfeydd Pensiwn osod amcanion i’w ymgynghorwyr buddsoddi gan nodi yn glir yr hyn ddisgwylir ganddynt.

Cyfeiriwyd at yr amcanion cyfredol ynghyd a’r cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcanion hynny yn ystod 2021. Tynnwyd sylw at amcan newydd a ychwanegwyd ar gyfer 2022 mewn ymateb i gynnydd mewn diddordeb byd-eang yn y maes - Datblygu dealltwriaeth y Pwyllgor am risg hinsawdd a Meini Prawf Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethiant (ESG - Environmental, Social, and Governance (ESG) Criteria). Nod yr amcan yw sicrhau bod yr ymgynghorwyr buddsoddi yn adeiladu dealltwriaeth y Pwyllgor ar ystyriaethau ESG a risg hinsawdd, gan gefnogi gweithredu gofynion llywodraethu’r Tasglu ar Ddatgeliadau Ariannol sy'n Gysylltiedig â'r Hinsawdd (Task Force on Climate-related Financial Disclosures - TCFD) a helpu’r Pwyllgor i ddeall a rheoli risgiau yn gysylltiedig â’r hinsawdd o fewn y strategaeth.

Nodwyd bod y datganiad cydymffurfio wedi ei arwyddo gan Gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau erbyn y dyddiad cau gofynnol o 7fed o Ionawr 2022.

Adroddwyd bod Hymans yn cyflawni gwaith da, yn darparu adroddiadau chwarterol, adroddiadau cynhwysfawr ar gyfer y paneli buddsoddi, yn cynnig cyngor ymarferol, ymatebion a gohebiaeth amserol ac yn perfformio yn unol â’r amcanion. Nodwyd bod y drefn yn sicrhau bod y bartneriaeth rhwng Hymans a’r Gronfa yn un dryloyw.

Diolchwyd am yr adroddiad.

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â sut mae cronfeydd ESG yn perfformio o gymharu ag eraill (o ystyried bod swm sylweddol o arian yn cael ei fuddsoddi yma ac efallai yn arwain at sefyllfa o orbrisio), nodwyd y byddai modd gwneud cais i Hymans am gyngor ar hyn.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

9.

POLISI SGILIAU A GWYBODAETH A CHYNLLUN HYFFORDDIANT 2022/23 pdf eicon PDF 185 KB

I ystyried y polisi a’r cynllun hyfforddiant

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn ymateb i argymhellion Adolygiad Llywodraethu Da i awdurdodau sicrhau bod gan swyddogion y Gronfa, yn ogystal ag aelodau Pwyllgor Pensiynau lefel digonol o wybodaeth i allu cyflawni eu rolau priodol yn effeithiol. Nodwyd, fel rhan o baratoi’r polisi newydd, rhannwyd copi drafft o'r polisi gyda Hymans Robertson er mwyn derbyn adborth a dymunwyd sylwadau’r Bwrdd cyn ei gyflwyno am gymeradwyaeth i’r Pwyllgor Pensiynau 17 Mawrth 2022.

 

Cyfeiriwyd hefyd at y Cynllun Hyfforddiant sydd wedi ei lunio ar gyfer 2022/23 ac at bwysigrwydd cael proses anwytho yn ei le ar gyfer newidiadau posib i aelodaeth Pwyllgor a Bwrdd Pensiwn o ganlyniad i etholiad Mai 2022. Tynnwyd sylw at y cofnod hyfforddiant gan ofyn i'r Aelodau sicrhau eu bod yn cofnodi presenoldeb i sesiynau hyfforddiant rhithiol yr oeddynt yn mynychu, gyda’r Rheolwr Buddsoddi.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Ymddengys bod pwysau sylweddol ar hyfforddiant technegol ond beth am ystyried  meysydd / agweddau eraill e.e,  moesoldeb a diogelu data - a ddylid cyfeirio at hyn yn y ddogfen?

·         Angen amlinellu'r sgiliau sylfaenol sydd angen eu cwblhau gan amlygu pryd? a sut?

·         Ystyried creu matrics hyfforddiant

·         Pwysleisio’r angen i bawb gymryd mantais o’r hyfforddiant sydd yn cael ei gynnig gan Partneriaeth Pensiwn Cymru

·         Cais i dderbyn dyddiadau hyfforddiant ddigon ymlaen llaw

 

Mewn ymateb i sylw am y sgiliau sylfaenol, amlygwyd bod cyfeiriad at y cwrs Hanfodion CPLlL o dan y pennawd Proses Anwytho yn y polisi, ond bod modd amlygu fod angen cwblhau y cwrs cyn bydd aelodau yn pleidleisio.

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth

 

10.

POLISI BUDDSODDI CYFRIFOL pdf eicon PDF 201 KB

I ystyried yr adroddiad  gan drafod a nodi unrhyw newidiadau i’r polisi drafft Buddsoddi Cyfrifol cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Pensiynau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd Polisi (drafft) Buddsoddi Cyfrifol i’r Bwrdd Pensiwn ei drafod a chynnig sylwadau cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Pensiynau ei gymeradwyo’n ffurfiol ar y 17 o Fawrth 2022. Nodwyd, fel rhan o baratoi’r polisi bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda Hymans Robertson.

 

Adroddwyd bod y Gronfa yn cydnabod y gall materion amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu corfforaethol fod yn risg ariannol i’r rhanddeiliaid a gall ddylanwadu ar enillion ac enw da hirdymor y Gronfa. Yn ogystal, nodwyd bod y Gronfa wedi rhyddhau dau ddatganiad buddsoddi cyfrifol yn Ebrill a Gorffennaf 2021 ac erbyn hyn wedi ffurfioli’r credoau o fewn y polisi.

 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod y Gronfa yn bwriadu ymrwymo i osod amcan i fod yn net sero erbyn 2050, wedi’i gefnogi gan ymrwymiad i asesu dichonolrwydd y Gronfa i gyrraedd net sero 5,10 neu 15 mlynedd ynghynt gyda fframwaith wedi’i ddatblygu i gefnogi uchelgeisiau y Gronfa, gan gwmpasu cyfleoedd, ymgysylltu, a monitro a metrigau. Amlygwyd bod y targed sero net yn cyd-fynd a tharged y Llywodraeth a Russell Investments, ac er mai anodd yw gosod targed heb ystyriaeth sut i gyrraedd ato, ystyriwyd bod modd cydweithio i gyrraedd y targed yn realisitig.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

·         Derbyn bod hi’n anodd gosod targed – cynnig gosod camau / cerrig milltir tuag at 2050 fel bod modd monitro / adrodd ar y camau hynny

·         Awgrym y gellid defnyddio camau monitro buddsoddiadau

·         Awgrym i ystyried llunio ‘banc carbon’ fel y gwelir yn y Sector Adeiladu gan osod amcanion i ffocysu’r meddwl - dim ymrwymiad ond amlygu disgwyliadau.

·         Doeth fyddai peidio ystyried targed a pheidio ymrwymo i bwysau gan y wasg

·         O dderbyn arweiniad a metrigau gan y TCFD haws fydd cymryd camau ymlaen

·         Derbyn cydnabyddiaeth am faterion amgylcheddol, ond angen hefyd ystyried llywodraethiant cymdeithasol a chorfforaethol – hawliau dynol, rhyfel, llwgrwobrwyaeth a llygredigaeth – awgrym ymhelaethu ar hyn

 

Mewn ymateb i sylw am osod cerrig milltir, nodwyd er yn derbyn y byddai cerrig milltir yn cael eu gosod mewn unrhyw gynllun arferol, anodd fyddai gwneud yn y cyd-destun yma oherwydd dibyniaeth ar  gyrff eraill.  Ategwyd, o ran defnyddio camau buddsoddi, nad oedd ymwybyddiaeth o unrhyw gwmnïau rheoli asedau oedd yn gosod cerrig milltir.

 

Mewn ymateb i sylw am ystyried agweddau tu hwnt i faterion amgylcheddol, nodwyd bod y ddogfen wedi ei chreu cyn Rhyfel Wcráin a Rwsia ac felly derbyniwyd yr angen i ychwanegu cymal am ‘fiduciary duty’, yn dilyn ymchwil i agweddau cyfreithiol.

 

Nododd Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda Phartneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) a bod y datganiad ynglŷn â safbwynt y gronfa a buddsoddiadau cysylltiedig â Rwsia wedi ei lunio yn sydyn iawn. Ategwyd bod grŵp o fewn PPC yn ystyried agweddau cymdeithasol a llywodraethiant a thrafodaethau yn treiddio i mewn i ystyriaethau buddsoddi.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chwmnïau megis Shell, BP a Coca Cola sydd â chysylltiadau gyda Rwsia a bod yr elfen llywodraethiant  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

PRISIAD 2022: RHAGDYBIAETHAU ACTIWARAIDD pdf eicon PDF 273 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gyfarwyddwr y Gronfa yn amlygu’r rhagdybiaethau actiwaraidd a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Pensiynau 17-01-22, fel rhai i’w defnyddio ym mhrisiad 2022. Eglurwyd bod y rhagdybiaethau actiwaraidd sylfaenol yn elfen allweddol o’r strategaeth ariannu ac y dylent geisio adlewyrchu disgwyliadau‘r Gronfa i’r dyfodol ynghyd a lefel dymuniad risg. Gyda gwybodaeth gyfredol ac amgylchedd y Gronfa yn esblygu a’r cydbwysedd rhwng darbodusrwydd a fforddiadwyedd yn amrywio oherwydd dylanwad ffactorau allanol, mae adolygu’r rhagdybiaethau actiwaraidd a fabwysiadwyd gan y Gronfa fel rhan o bob prisiad teirblynyddol yn angenrheidiol ac yn ymarfer da.

 

Adroddwyd mai pwrpas y prisiad yw adolygu'r strategaeth ariannu gyfredol yng ngoleuni newidiadau i'r amgylchedd economaidd, rheoliadol a chymdeithasol ynghyd a gosod cyfradd cyfrannu ar gyfer pob cyflogwr a delir (yn yr achos hwn) rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2026, pryd bydd cyfraddau'n cael eu hail-asesu ar brisiad 2025; a gwirio'r sefyllfa ariannu gyfredol.

 

Cyfeiriwyd at y rhagdybiaethau ariannol a’r rhai demograffig gan egluro rhesymeg dros yr hyn a gynigiwyd ar gyfer 2022 ynghyd a’r rhesymau dros unrhyw newid. Ategwyd bod y cyfarfod a gynhaliwyd 17 o Ionawr 2022 gydag Aelodau y Pwyllgor Pensiynau, H Eifion Jones (Cynrychiolydd o’r Bwrdd), y swyddogion a’r actiwari yn manylu ar y rhagdybiaethau, wedi bod yn fuddiol iawn.

 

Eglurwyd y byddai’r rhagdybiaethau yn cael eu ffurfioli mewn fersiwn wedi'i diweddaru o'r Datganiad Strategaeth Ariannu ym mis Ionawr 2023 (drafft) ac ym mis Mawrth 2023 (fersiwn derfynol), fel rhan o broses brisio 2022.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

·           Bod cadw balans yn ddoeth – dim eisiau gormod o risg

·           Derbyn bod defnyddio ffin darbodusrwydd o 75% yn synhwyrol

 

Mewn ymateb i gwestiwn am lefelau risg ac a fyddai modd ystyried gosod %  isafswm ac uchafswm (o ystyried bod prisiad actiwaraidd teirblynyddol 2019, wedi’i ariannu i lefel o 108%), nodwyd mai anodd fyddai rhagweld beth yw’r sefyllfa, oherwydd bod y lefel ariannu yn ddibynnol ar sawl ffactor ac yn anodd i’w ddarogan. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn â’r gyfradd ddisgownt, nodwyd bod hyn hefyd yn anodd ei ragweld, ac felly penderfynwyd mabwysiadu trefn sydd yn seiliedig ar risg.

 

Derbyn y wybodaeth