Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2023 / 2024 Cofnod: PENDERFYNWYD ail-ethol y Cynghorydd Hywel
Eifion Jones yn Gadeirydd y Bwrdd ar gyfer 2023-24 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2023 - 2024 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol Mrs Sioned Parry yn
Is-gadeirydd y Bwrdd ar gyfer 2023-24 |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Osian Richards
(Cynrychiolydd Aelodau) a’r Cyng. Stephen Churchman (Cadeirydd Pwyllgor
Pensiynau) Croesawyd Ned
Michael a Tony Deakin i’r
cyfarfod fel aelodau newydd. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Cofnod: Llofnododd
y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd Mawrth 6ed
2023 fel rhai cywir. |
|
CYFRIFON DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023 PDF 104 KB I dderbyn Datganiad Cyfrifon y Gronfa Bensiwn (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2022/23 Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd,
er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn darparu manylion
gweithgareddau ariannol y Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben
Mawrth 31ain 2023. Adroddwyd
bod y cyfrifon yn dilyn ffurf statudol CIPFA gyda’r canllawiau yn dehongli beth
sydd i’w gyflwyno yn y cyfrifon. Nodwyd bod y flwyddyn wedi bod yn un brysur
i’r gronfa gyda’r prisiad, gosod dyraniad asedau strategol newydd, a
datblygiadau Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC) Tynnwyd
sylw at Gyfrif y Gronfa gan nodi bod ychydig o amrywiadau wrthi i’r cyfraniadau
a’r buddion gynyddu wedi i weithwyr dderbyn codiadau cyflog a hefyd wrth i’r
pensiwn gynyddu gyda CPI. Ategwyd bod lleihad yn y costau rheoli o'r flwyddyn
flaenorol yn bennaf oherwydd costau Partners, sy’n
gallu amrywio o flwyddyn i flwyddyn yn ddibynnol ar berfformiad Amlygwyd
bod lleihad yng ngwerth farchnad y gronfa o £13.6 miliwn a hynny wedi blwyddyn
heriol gydag effaith rhyfel Wcráin a chwyddiant uchel yn ffactorau amlwg.
Ymddengys ar ddiwedd y flwyddyn ariannol a dechrau’r flwyddyn ariannol newydd
fod gwerth y gronfa wedi dechrau codi unwaith eto. Nodwyd,
yn dilyn cwblhau’r archwiliad bydd y fersiwn derfynol yn cael ei gyflwyno am
gymeradwyaeth i’r Pwyllgor Pensiynau Diolchwyd
am yr adroddiad. Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn ag Incwm Buddsoddi a’r ffaith bod ffigyrau
2021/22 yn nodi £280,000 mewn Isadeiledd tra bod ffigyrau 2022/23 yn nodi £0,
nodwyd mai’r rheswm dros hyn oedd bod buddsoddiadau/gweithgareddau Rheolwyr
Buddsoddi yn dod i ben ar gyfnodau gwahanol. PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth. |
|
PERFFORMIAD BUDDSODDI'R GRONFA BENSIWN 2022/23 PDF 354 KB I ysytired yr adroddiad a nodi’r wybodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi i ddiweddaru’r Bwrdd o’r
gwaith monitro chwarterol (a blynyddol) sydd yn cael ei wneud gan y Panel
Buddsoddi ar berfformiad buddsoddiadau’r Gronfa Bensiwn. Adroddwyd y gwelwyd
gwerth y farchnad wedi lleihau rhywfaint a’r Gronfa wedi sefydlogi ar £2.7
biliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Nodwyd bod
perfformiad y Gronfa dros y flwyddyn yn -1.5% a hynny o fewn blwyddyn heriol
gydag effeithiau rhyfel Wcráin a chwyddiant uchel, ond amlygwyd bod perfformiad
3 mis wedi dechrau gwella, a hynny yn parhau yn chwarter cyntaf y flwyddyn
ariannol newydd. Ategwyd, bod sefyllfa fel hyn yn gyffredin i gronfeydd
cynlluniau pensiwn llywodraeth leol, a bod perfformiad Cronfa Bensiwn Gwynedd
yn parhau i fod o fewn chwartel uchaf cronfeydd Prydain. Cyfeiriwyd at
berfformiad y Rheolwyr Buddsoddi Ecwiti gan nodi er bod perfformiad 3 mis wedi
bod yn bositif bod tystiolaeth o berfformiadau negyddol dros y flwyddyn a hynny
yn amlwg oherwydd perfformiad y Marchnadoedd Datblygol oherwydd bod
marchnadoedd Tsiena yn arafach na’r disgwyl yn ail agor yn dilyn cyfyngiadau
covid-19. Yng nghyd-destun perfformiad
Rheolwyr Incwm Sefydlog nodwyd eu bod hwythau hefyd wedi cael cyfnod anodd
hefyd gydag ansefydlogrwydd cyfraddau llog a chwyddiant ledled y byd. Wrth drafod
Rheolwyr Eiddo, amlygwyd bod y sector wedi wynebu cyfnod heriol gydag
ansicrwydd defnydd hirdymor adeiladau swyddfa a siopau stryd fawr. Mewn ymateb,
adroddwyd bod y cronfeydd mae’r Gronfa yn buddsoddi â hwy, yn tueddu o arall
gyfeirio at adeiladau fel warws Amazon a siopau tu allan i drefi, mewn ymgais i reoli'r newid er budd y gronfa. Yng
nghyd-destun Grwp Partners (sydd yn gyfrifol am reoli
buddsoddiadau ecwiti preifat ac isadeiledd y Gronfa, nodwyd ei bod yn anodd
mesur eu perfformiad mewn cyfnod penodol oherwydd oediad amser (time lag) ac felly nid yw’r gwir
berfformiad yn cael ei fesur hyd nes y bydd y gronfa wedi cau yn derfynol. Er
hynny ategwyd bod Partners yn perfformio yn dda ac
nad oedd Hymans wedi codi pryderon ynglŷn â’u
ffigyrau. Nodwyd bod
perfformiad y Gronfa yn cael ei asesu’n rheolaidd er mai buddsoddi tymor hir
yw’r amcan. Amlygwyd bod perfformiad tair blynedd wedi bod yn un safonol iawn
a’r Gronfa yn y 3ydd safle allan o holl gronfeydd Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Lleol, mewn sefyllfa gref. O ganlyniad, ac yn dilyn y prisiad teirblynyddol lle, ar 31 o Fawrth 2022 roedd y gronfa wedi
ei gyllido i 120%, cafwyd cyngor gan Hymans i leihau
risg y gronfa. Golygai hyn y bydd lleihad o 10% mewn ecwiti'r gronfa gyda’r
arian yn cael ei fuddsoddi mewn cronfeydd dyled preifat, isadeiledd a chredyd
byd-eang drwy PPC. Y bwriad yw gweithredu’r newid yma dros y 12 mis nesaf, er
yn ddiweddar derbyniwyd gwybodaeth bod lefel cyllido’r Gronfa wedi cynyddu
ymhellach i 160% ac felly bydd angen cynnal trafodaethau gyda Hymans i adolygu lefelau’r ecwiti ymhellach. Diolchwyd am yr
adroddiad a llongyfarchwyd y swyddogion ar ganlyniad perfformiad tair blynedd
gyda’r gronfa yn y 3ydd safle (allan o 100) - hyn yn newyddion calonogol iawn. |
|
ADRODDIAD DRAFFT CADEIRYDD Y BWRDD PENSIWN AR GYFER ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA PDF 407 KB I ystyried cynnwys yr adroddiad drafft Cofnod: A (draft) report was submitted by the Investment Manager
detailing the activities of
the Pension Fund during the year ending on 31 March 2023. The report included details about the Board's constitution, the Board's function and work, Cyflwynwyd adroddiad (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi
yn manylu ar weithgareddau'r Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben
31 Mawrth 2023. Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion am gyfansoddiad y Bwrdd,
swyddogaeth a gwaith y Bwrdd, y cynllun gwaith ynghyd a hyfforddiant y bu i’r
Aelodau fynychu dros y flwyddyn. Amlygwyd y byddai’r adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i’r Rheolwr
Buddsoddi erbyn 31-07-23 Diolchwyd am yr adroddiad. Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Bod yr adroddiad yn
cynnwys gwybodaeth drylwyr o waith y Bwrdd. ·
Angen gwirio presenoldeb Sioned Parry ·
Bod y cynllun gwaith yn fanwl - adroddiadau a
gyflwynwyd i’r Bwrdd ar benawdau'r cynllun gwaith i’w gweld ar wefan y Cyngor PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth |
|
GWEINYDDIAETH PENSIYNAU PDF 719 KB I ystyried a derbyn yr adroddiad Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad cynhwysfawr gan y Rheolwr Pensiynau yn rhoi trosolwg cyffredinol o
weinyddu pensiwn dros y flwyddyn ddiwethaf ynghyd a gwybodaeth am y gwaith a
gyflawnwyd dros y cyfnod, diweddariad ar amrywiol brosiectau ynghyd a rhestr
o’r heriau yr oedd yr Uned Weinyddu yn eu hwynebu o ddydd i ddydd. Roedd yr adroddiad
hefyd yn cynnwys dyluniadau ar gyfer logo newydd ynghyd a syniadau ar gyfer
deunydd marchnata y gallai’r Gronfa Bensiwn ei ddefnyddio i hyrwyddo’r cynllun. Cyfeiriwyd at
lwyddiant a phoblogrwydd ‘Fy Mhensiwn Ar-lein’ gan amlygu bod nifer o aelodau
yn ymweld â’r safle yn ddyddiol gydag oddeutu 20,000 wedi cofrestru ar gyfer y
gwasanaeth hyd yma. Nodwyd yn ddiweddar y cyflwynwyd opsiwn i bensiynwyr y
Gronfa bensiwn weld eu slipiau pensiwn misol ar-lein gyda hyn yn arwain at y
bwriad o beidio gorfod anfon slipiau papur i bensiynwyr newydd i’r dyfodol.
Bydd fersiwn newydd o’r system yn cael ei gyflwyno yn ystod 2023/24 a bydd
opsiynau pellach yn cael eu datblygu i’r aelodau. Trafodwyd
canlyniadau'r rheoleiddiwr pensiynau (mesur data) lle
adroddwyd cynnydd o 4% o’r flwyddyn flaenorol, ar ganlyniadau data penodol y
cynllun sydd yn galonogol iawn o ystyried bod nifer aelodau a heriau gwaith o
ddydd i ddydd wedi cynyddu. Gwahoddwyd yr
Aelodau i ymweld â stondin y Gronfa Bensiwn ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol
ym Moduan. Bydd hwn yn gyfle gwych i rannu gwybodaeth
am y cynllun. Diolchwyd am yr
adroddiad. Yn ystod y
drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Llongyfarch y tîm ar ganlyniadau gofal cwsmer
arbennig ·
Eu bod yn hoff o’r logo newydd ·
Croesawu defnydd o gomisiynu cynllunydd graffeg o’r
Adran TG Mewn ymateb i
sylw, oherwydd effeithiau’r cyfnod clo a chyflogi staff newydd, os mai’r rheswm
am gynnydd mewn perfformiad yw sefydlogrwydd o fewn yr adran, nodwyd mai
cyfuniad o’r ffactorau hyn oedd gwelliant mewn perfformaid
er yn adrodd bod gwneud defnydd llawn o system gyfrifiadurol a staff ychwanegol
hefyd wedi cyflymu’r gwaith. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â bwriad gan CIPFA i osod meincnod safonol i bob Cronfa i
fesur eu perfformaid, derbyniwyd bod anghysondeb
ymysg Cronfeydd mewn cofnodi perfformaid ac mai
delfrydol fyddai gosod yr un meincnod i bawb - byddai’r gymhariaeth yn
ddefnyddiol i’r holl gronfeydd. Derbyniwyd y sylw
y gall awtomeiddio data wrth i fwy o aelodau arwyddo ar lein fod yn arf i
wella’r perfformiad ymhellach. Ategwyd y byddai cyflwyniad o’r Dashfwrdd
Pensiynau yn 2026 hefyd yn fodd o ddarparu data cenedlaethol fydd yn sicrhau
cywirdeb pellach. PENDERFYNWYD
derbyn yr adroddiad |
|
Y RHAGLEN WAITH DIWYGIEDIG PDF 289 KB I ystyried y rhaglen waith gan awgrymu eitemau ychwanegol neu
newidiadau. Cofnod: Cyflwynwyd rhaglen
waith diwygiedig ar gyfer 2023/24. Nodwyd bod y rhaglen yn cynnwys materion a
nodwyd yn dilyn ystyriaeth gan y Bwrdd mewn cyfarfodydd blaenorol a materion yn
codi. Amlygwyd y gellid ychwanegu materion sy’n codi yn ystod y flwyddyn i’r
rhaglen yn unol ar angen ynghyd ag unrhyw faterion / syniadau fydd yn codi gan
aelodau wedi sesiynau hyfforddi a / neu ddigwyddiadau perthnasol. Awgrymwyd y pwnc canlynol i’w gynnwys ar y rhaglen waith: ·
Diweddariad / cynnal sgyrsiau ar ddatgarboneiddio -
a yw amserlen y gronfa yn cyd-fynd ag amserlen y Cyngor o fod yn sero net erbyn
2030? Angen gweld Gwynedd yn arwain y ffordd gyda’r materion hyn. Mewn ymateb i’r
awgrym, nodwyd nad oedd y Gronfa Bensiwn o dan reolaeth Cyngor Gwynedd ac felly
nid oedd yn rhannu'r un amodau. Cyfeiriwyd at Polisi Buddsoddi Cyfrifol y
Gronfa Bensiwn fydd yn cael ei adolygu yn flynyddol gyda chyflwyniad i’r Bwrdd
cyn ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau - pwysleisiwyd mai’r Pwyllgor fydd
yn rhoi sêl bendith ar y polisi ac nid y Bwrdd. Adroddwyd bod y PPC wedi
cyhoeddi Polisi Risg Hinsawdd yn ddiweddar ac y byddai’r polisi hwnnw yn cael
ei gyflwyno i'r Pwyllgor Pensiynau yn yr Hydref ynghyd a diweddariad ar waith
Partneriaeth Pensiwn Cymru. Ategwyd pe byddai
diddordeb mewn maes penodol byddai modd cynnwys hyn yn yr adroddiad. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth |