Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Beca Roberts (Cynrychiolwyr Cyflogwr)

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 229 KB

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 20 Gorffennaf 2023 fel rhai cywir.

 

5.

COFNODION Y PWYLLGOR PENSIYNAU pdf eicon PDF 227 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 18 Medi 2023

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd er gwybodaeth gofnodion y Pwyllgor Pensiynau a gynhaliwyd 18 Medi 2023

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CRONFA BENSIWN GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2023 pdf eicon PDF 104 KB

Cyflwyno a nodi yr Adroddiad Blynyddol Drafft

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad (drafft) gan y Rheolwr Buddsoddi yn manylu ar weithgareddau'r Gronfa Bensiwn yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2023. Roedd yr adroddiad, yn unol â chanllawiau CIPFA yn cynnwys manylder am aelodaeth, gweinyddiaeth, buddsoddiadau, perfformiad ariannol, adroddiad yr actiwari, cyfrifon, a’r 5 datganiad safonol sydd gan y Gronfa. Bydd yr adroddiad yn cael ei adolygu fel rhan o archwiliad y cyfrifon gan Archwilio Cymru ac yn cael ei gyflwyno i’r Cyfarfod Blynyddol ddiwedd mis Tachwedd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac i’r staff oedd yn gysylltiedig â pharatoi’r gwaith.

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol.

·         Bod teitlau coll yn y tabl dangosyddion staffio

·         Ai effaith covid sydd yn gyfrifol am leihad yn y rhagdybiaethau marwolaethau?

·         Cwestiynu bod Grŵp Swyddogion Pensiynau Amwythig wedi eu lleoli yn ardal y West Pennines ac nid y West Midlands

·         Angen ystyried agor trafodaethau gyda mudiadau / cwmnïau i osgoi materion cytundeb

·         Bod y sesiynau hyfforddiant wedi bod yn fuddiol

·         Sut mae’r Bwrdd yn adolygu a sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r côd rheoleiddwyr? Awgrym cynnwys hyn fel eitem i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â mesurau perfformiad ac os oedd mesurau cyffredinol ar gyfer pob cronfa, nodwyd nad oedd cysondeb na chymhariaethau ar hyn o bryd, ond bod gwaith yn cael ei wneud gyda chronfeydd Cymru i drafod y mater, gosod canllawiau ac anelu at osod mesuriadau ar gyfer pob cronfa erbyn 2024/25. Mewn ymateb, awgrymwyd y byddai’n fuddiol, wedi i’r mesuriadau gael eu mabwysiadu, bod mesurau perfformiad yn eitem sefydlog ar raglen y Bwrdd a’r Pwyllgor Pensiynau i’r dyfodol.

 

Mewn ymateb i sylw bod un categori heb gyrraedd y meincnod (cyfeiriadau aelodau gyda sgôr o 97.14%), a bod rhagdybiaeth y byddai banciau gyda manylion cyfeiriad yr aelod, nodwyd bod y wybodaeth yn cyfeirio yn bennaf at aelodau sydd wedi gohirio / rhewi eu pensiynau neu wedi gadael. Ategwyd, er mwyn gwella sgôr cyfeiriadau aelodau bod yr adran bensiynau yn gweithio gyda chwmni o’r enw ATMOS i olrhain cyfeiriadau a gofnodwyd fel rhai sydd wedi diflannu (oddeutu 2000).

 

PENDERFYNWYD derbyn y wybodaeth.

 

7.

DIWEDDARIAD PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU pdf eicon PDF 145 KB

I ystyried a nodi’r wybodaeth

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn diweddaru’r aelodau’n ffurfiol o waith Partneriaeth Pensiwn Cymru (PPC). Adroddwyd bod y Pennaeth Cyllid a’r Rheolwr Buddsoddi yn cynrychioli’r Gronfa yn holl gyfarfodydd y pwl, a bod y cydweithio yn parhau i fynd o nerth i nerth ar faterion megis ymateb ceisiadau rhyddid gwybodaeth, pleidleisio ac ymgysylltu ac yn gyffredinol rhannu ymarfer da ar draws y cronfeydd. Nodwyd bod 83% o Gronfa Gwynedd wedi ei bwlio gyda PPC erbyn hyn - Gwynedd ymysg yr uchaf yn y gronfa.

 

Tynnwyd sylw at y cronfeydd ecwiti gan gyfeirio at berfformiad Cronfa Twf Byd Eang sydd â thri phrif reolwr sy’n gweithredu arddull gwahanol iawn i’w gilydd - Baillie Gifford, Pzena a Veritas. Atgoffwyd yr Aelodau bod y gronfa yma, yn y blynyddoedd cynnar, yn perfformio yn dda iawn, a hynny yn bennaf oherwydd perfformiad Baillie Gifford. Bellach, amlygwyd bod Baillie Gifford yn tan berfformio a hynny yn bennaf oherwydd natur eu buddsoddiadau a’u perfformiad yn un ‘cylchol’ (weithiau yn dda, a thro arall ddim cystal). Ategwyd bod y perfformiad yn cael ei fonitro yn fanwl a bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r Bartneriaeth ac ymgynghorwyr y Bartneriaeth, Hymans Robertson.

 

Yng nghyd-destun Cronfa Cyfleoedd Byd-Eang adroddwyd bod y gronfa yn cynnwys wyth rheolwr sylfaenol ar er na fydd pob rheolwr yn perfformio yn dda ar yr un pryd, bod y dull amrywiol yn golygu sefyllfa sefydlog a’r gronfa yn perfformio yn uwch na’r meincnod dros y tymor hir, ond bod y 3 mis diwethaf wedi bod yn heriol.

 

Yng nghyd-destun Cronfeydd Incwm Sefydlog, cyfeiriwyd ar y Gronfa Gredyd Aml- ased sydd â phum rheolwr buddsoddi gwahanol. Adroddwyd bod y gronfa wedi tan - berfformio a hynny oherwydd ansefydlogrwydd yn y farchnad gyda rhyfel Wcráin, cyfyngiadau covid Tsiena, ac effaith codiadau llog cyflym. Ategwyd, er pryderon bod y gronfa wedi bod drwy gyfnod heriol, ymrwymiad buddsoddi tymor hir sydd yma ac felly parhau gyda’r buddsoddiadau yn y gobaith o brofi cynnydd ar ddiwedd yr ansefydlogrwydd yw’r nod.

 

Wrth drafod Cronfa Enillion Bond Absoliwt, sydd â phedwar rheolwr buddsoddi, amlygwyd bod yr amodau yn y maes yma hefyd wedi bod yn heriol gydag effaith chwyddiant a chyfraddau llog, ond eto, yr ymrwymiad yn un tymor hir ac felly parodrwydd i barhau gyda’r buddsoddiadau yn y gobaith y bydd yr amodau yn gwella.

 

Adroddwyd bod y Gronfa Marchnadoedd Datblygol, a lansiwyd Hydref 2021, gyda chwe rheolwr buddsoddi sylfaenol gan gynnwys Bin Yuan arbenigwr Tsiena. Nodwyd bod yr amodau eto yn heriol iawn ac mai Bin Yuan oedd wedi achosi’r elfen o dan berfformiad a hynny oherwydd polisi dim covid Tsiena. Ategwyd mai’r gobaith yw gweld gwellhad yn amodau’r farchnad a gwell dychweliadau.

 

Cyfeiriwyd at ddatblygiadau diweddar y PPC gan dynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud yn y maes marchnadoedd preifat gyda chwmnïau wedi eu hapwyntio i redeg y mandadau dyled preifat, isadeiledd ac ecwiti preifat. Ategwyd bod buddsoddiadau dyled preifat ac ecwiti preifat eisoes wedi dechrau a bod swyddogion yn y broses  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.